Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Andrew Goodall (Cadeirydd)
  • Carys Williams
  • Aled Edwards
  • Mike Usher
  • Mutale Merrill
  • Sioned Evans
  • Tracey Burke
  • Andrew Slade
  • Dom Houlihan
  • Nia James
  • Dean Medcraft
  • Emma Williams
  • Cyd-gadeirydd Arweiniol y Bwrdd Cysgodol
  • Cynrychiolydd Ochr yr Undebau Llafur

Yn mynychu

  • Sinead Gallagher
  • Piers Bisson
  • Will Whiteley

Ymddiheuriadau

  • Judith Paget
  • David Richards
  • Hyrwyddwr Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Ysgrifenyddiaeth

  • Swyddfa’r Ysgrifennydd Parhaol

1. Croeso a materion cyfredol

1.1 Fe wnaeth Carys Williams a Mike Usher roi adborth ar eu trafodaeth ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol a'r Log Problemau gyda Phennaeth y Ganolfan Ragoriaeth ar gyfer Llywodraethiant Corfforaethol. 

1.2 Llongyfarchodd y Cadeirydd Emma Williams ar ei phenodiad yn Gyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro Addysg, Diwylliant a'r Gymraeg, gan ei chroesawu i'r Bwrdd. 

1.3 Nododd y Cadeirydd waith ardderchog y timau ar draws Llywodraeth Cymru a oedd yn rhan o gynllunio a chyflwyno'r seremoni yn Eglwys Gadeiriol Llandaf i goffáu 80 mlynedd ers Buddugoliaeth yn Ewrop, gan ddweud y byddai'n ysgrifennu at y staff perthnasol i ddiolch iddynt. 

1.4 Nododd y Cadeirydd ddyfarniad diweddar y Goruchaf Lys ar y diffiniad cyfreithiol o fenyw, gan ddweud bod cydweithwyr AD yn adolygu polisïau Llywodraeth Cymru yng ngoleuni'r dyfarniad. Mynegodd Aled Edwards werthfawrogiad am y gofal a gymerwyd tuag at staff gan Lywodraeth Cymru. 

1.5 Nododd y Cadeirydd fod staff ar draws y sefydliad yn gosod eu hamcanion gwaith ar gyfer y flwyddyn i ddod, gan bwysleisio pwysigrwydd cynnal trafodaethau rheoli perfformiad yn rheolaidd. Fe wnaeth Sioned Evans roi adborth ar y pryderon a godwyd gan y Grŵp Ymwybyddiaeth a Chymorth Anabledd (DAS) ar gyfer staff ar y tensiynau canfyddedig rhwng yr alwad i gynnal trafodaethau rheoli perfformiad wyneb yn wyneb yn rheolaidd a staff yn gweithio o bell. Adleisiodd cynrychiolydd Ochr yr Undebau Llafur y sylwadau hyn. Nododd Mike Usher y dull gweithredu sy'n seiliedig ar egwyddorion a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru ar gyfer gweithio o bell, o'i gymharu â'r dull gweithredu sy'n seiliedig ar reolau a ddefnyddir gan rai o adrannau Llywodraeth y DU. Cydnabu Dom Houlihan y pryderon a godwyd gan y rhwydwaith DAS, gan nodi y byddai set o Safonau Rheoli Llinell yn cael ei lansio maes o law.

2. Diwygio'r Senedd

2.1 Cafodd Piers Bisson a Will Whiteley eu croesawu i'r cyfarfod gan y Cadeirydd, a'u gwahodd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Bwrdd ar y paratoadau ar gyfer Diwygio'r Senedd. 

2.2 Gofynnodd Mutale Merrill gwestiynau am y paratoadau ar gyfer y seithfed Senedd, yn ymwneud yn benodol â materion ynghylch capasiti a gallu. Dywedodd Piers fod trafodaethau gyda Phwyllgor Senedd y Dyfodol, y Cwnsler Cyffredinol a'r Llywydd yn mynd rhagddynt. Wrth droi at baratoi'r gwasanaeth sifil, dywedodd Dom Houlihan fod trafodaethau ar gynllunio'r gweithlu a chreu gweithlu ystwyth yn mynd rhagddynt, gan nodi'r pwysau ar adnoddau staffio ar adeg pan fydd y pwysau ar y gwasanaeth sifil yn cynyddu. 

2.3 Nododd Carys Williams y cyfleoedd y mae Diwygio'r Senedd yn eu cynnig ond roedd yn cydnabod yr heriau sydd o'n blaenau, gan dynnu sylw at bryderon ynghylch cadw staff. Holodd Carys sut y gellid gwella ffyrdd o weithio gyda gweinidogion ac awgrymodd y gallai'r cyfarwyddwyr anweithredol helpu i dreialu'r rhaglen gynefino ar gyfer aelodau newydd y Senedd. Adleisiodd Mutale Merrill bryderon ynglŷn â chadw staff, gan ofyn sut y gallai'r gwasanaeth sifil ddechrau cynllunio ymlaen llaw ar gyfer Rhaglen Lywodraethu debygol y seithfed Senedd. 

2.4 Mynegodd Cyd-gadeirydd y Bwrdd Cysgodol bryderon ynghylch cadw staff hefyd, gan dynnu sylw at bryderon rhai staff yn wyneb y rhethreg wleidyddol ynghylch cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Adleisiodd Dom Houlihan y sylwadau hyn, gan nodi nifer yr uwch-arweinwyr sydd wedi cyrraedd oed ymddeol neu sy'n nesáu ato. Nododd Dom fod gwaith ar y gweill gydag undebau llafur i gefnogi staff mewn rolau sy'n wynebu'r cyhoedd yn y cyfnod cyn yr etholiad. 

2.5 Ymatebodd Piers Bisson i'r pwyntiau a godwyd, gan nodi bod gwella ffyrdd o weithio a defnyddio technolegau newydd yn un elfen o'r gwaith paratoi. Wrth baratoi ar gyfer y Rhaglen Lywodraethu newydd, dywedodd Piers y gofynnir i'r Prif Weinidog gymeradwyo trafodaethau mynediad gyda'r gwrthbleidiau yn nes at yr etholiad, er mwyn rhoi cyfle i'r gwasanaeth sifil drafod y rhaglen waith bosibl ar gyfer y dyfodol. Croesawodd Piers y cynnig i dreialu rhaglen gynefino ar gyfer aelodau newydd o'r Senedd gyda'r cyfarwyddwyr anweithredol. 

2.6 Gofynnodd Aled Edwards sut y gallai'r Bwrdd helpu i sicrhau bod dyheadau Diwygio'r Senedd yn cael eu gwireddu ac yn cefnogi’r Llywydd. Atebodd y Cadeirydd fod rhai o'r tasgau hyn yn dasgau ar gyfer Comisiwn y Senedd, gan ychwanegu fod Kirsty Williams wedi cynnig yn garedig i rannu ei phrofiad o fod yn Weinidog newydd yn y Llywodraeth. 

2.7 Nododd Dean Medcraft fod Diwygio'r Senedd yn gyfle i ailosod ffyrdd o weithio, a phwysleisiodd yr angen i fuddsoddi mewn trawsnewid gwasanaethau corfforaethol. 

2.8 Nododd Mike Usher yr heriau a'r cyfleoedd y mae Diwygio'r Senedd yn eu cynnig, gan ddweud y byddai Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg Llywodraeth Cymru yn archwilio'r pwnc yn drwyadl dros gyfnod yr haf. 

2.9 Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu sylwadau, a nodwyd y cyfleoedd a’r heriau a drafodwyd. Dywedodd y Cadeirydd y byddai'r Bwrdd yn ystyried Diwygio'r Senedd eto mewn cyfarfodydd yn y dyfodol yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad ym mis Mai 2026.

3. Cofrestr Risgiau Corfforaethol - Risg 1.2 (Gweithlu, Capasiti a Gallu) a Risg 1.3 (Gwydnwch, Llesiant a Morâl)

3.1 Rhoddodd Dom Houlihan ddiweddariad ar Risg 1.2 a Risg 1.3, gan nodi cynnydd o ran y camau a gymerwyd i liniaru'r risgiau. Gofynnodd y Cadeirydd am sylwadau gan aelodau'r Bwrdd. 

3.2 Tynnodd Carys Williams sylw at bwysigrwydd cael diwylliant o nawdd a mentora ar draws y sefydliad, gan nodi'r angen am ddata cywir ac amserol i lywio'r gwaith o fynd i'r afael â'r risg sy'n ymwneud â gwydnwch a llesiant staff. 

3.3 Nododd Nia James y data ar recriwtio, gan awgrymu y dylid ymchwilio ymhellach i'r rhesymau pam fod nifer o swyddi wedi methu â denu ymgeiswyr addas. Tynnodd Nia sylw hefyd at yr angen am system ganolog i gofnodi oriau gwaith. 

3.4 Pwysleisiodd Mutale Merrill bwysigrwydd bod rheolwyr llinell yn sensitif i rwystrau real a chanfyddedig sy'n atal staff rhag camu ymlaen yn eu gyrfa. 

3.5 Awgrymodd Mike Usher fod mynd i'r afael â rhai elfennau o Risgiau 1.2 a 1.3 yn gofyn am ymateb gan y sefydliad cyfan, tra bod eraill yn gofyn am ymateb mwy penodol neu leol. 

3.6 Awgrymodd Cyd-gadeirydd y Bwrdd Cysgodol y dylid hyrwyddo cyfleoedd i gysgodi swyddi er mwyn cynnig cyfle i staff gael gwell dealltwriaeth o'r gwahanol rolau sydd ar gael ar draws y sefydliad. Cytunodd y Cyd-gadeirydd â sylwadau cynharach ar bwysigrwydd tracio oriau gwaith. 

3.7 Adleisiodd cynrychiolydd Ochr yr Undebau Llafur sylwadau ar fanteision mentora ac ar bwysigrwydd gweithredu systemau effeithiol i gofnodi oriau gwaith. 

3.8 Gwahoddodd y Cadeirydd Dom Houlihan i ymateb i'r pwyntiau a godwyd gan roi barn o ran a ddylai Risgiau 1.2 a 1.3 barhau ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol. Fe wnaeth Dom adleisio a chymeradwyo sylwadau ar bwysigrwydd annog nawdd a mentora, a manteision datblygu system ganolog i gofnodi oriau gwaith. Hefyd, amlinellodd Dom y gwaith sydd ar y gweill i wella data'r gweithlu. Dywedodd Dom y byddai'n syniad da cadw'r ddau risg ar y Gofrestr Risgiau Corfforaethol, gyda'r nod o barhau i gymryd camau i liniaru'r risgiau yn ystod y chwech i ddeuddeg mis nesaf.

4. Diweddariad ar y Rhaglen Lywodraethu

4.1 Croesawodd y Cadeirydd Sinead Gallagher i'r Bwrdd, gan ei gwahodd i roi'r diweddaraf ynghylch y cynnydd a wnaed yn erbyn ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu ers cyfarfod diwethaf y Bwrdd. 

4.2 Croesawodd Aled Edwards y diweddariad, gan nodi'r cynnydd a wnaed a rhybuddio rhag diffinio'r sefydliad drwy'r hyn nad yw wedi'i gyflawni.

5. Blaenraglen Waith

5.1 Nododd y Bwrdd y flaenraglen waith, gan awgrymu y dylid ychwanegu eitemau ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'r Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol, ynghyd â'r diweddariadau pellach ynghylch Diwygio'r Senedd.

6. Unrhyw Fater Arall

6.1 Ni chodwyd unrhyw faterion eraill. Bydd y Bwrdd yn cyfarfod nesaf ar 20 Mehefin.