Diweddariadau fframwaith.
Mae'r fframweithiau cynhyrchion a gwasanaethau TG (ITPS) (II) (NPS-ICT-0094-19) a datrysiadau dogfennau a dyfeisiau amlswyddogaethol (MFD) (II) (NPS-ICT-104-20), a oedd i fod i ddod i ben ym mis Gorffennaf 2025, wedi'u hymestyn tan 31 Mawrth 2026.
Gwnaed yr estyniad hwn er mwyn sicrhau parhad y cyflenwad tra byddwn yn gorffen yr ymarfer tendro ar gyfer cytundeb fframwaith cynhyrchion a gwasanaethau TG newydd ar gyfer Cyflawni Caffael Llywodraeth Cymru. Pan aiff y fframwaith ITPS (III) newydd yn fyw, bydd yn cyfuno anghenion y fframweithiau ITPS ac MFD presennol.
I gael rhagor o wybodaeth ac i ddarllen dogfennau canllawiau i gwsmeriaid, ewch i wefan GwerthwchiGymru (bydd angen i chi fewngofnodi).
