Dewch o hyd i gofnodion tryloywder algorithmig sy'n esbonio sut rydyn ni'n defnyddio offer AI i gefnogi penderfyniadau.
Cynnwys
Mapio coetir hynafol – y model segmentu delweddau
Defnyddio golwg cyfrifiadurol, technoleg AI sy'n gweithio gyda delweddau, i ddod o hyd i leiniau o goetir hanesyddol ar hen fapiau. Drwy gymharu'r mapiau hyn â data cyfredol, gallwn ddod o hyd i lefydd lle mae coedwigoedd wedi cael eu cwympo yn ystod y 150 mlynedd diwethaf. Mae'r ardaloedd hyn yn ddelfrydol ar gyfer ailblannu oherwydd bod y pridd yn cefnogi twf coed am fod cronfa hadau ac ecosystem sefydledig. Bydd y data hefyd yn cael ei gyhoeddi ar FapDataCymru.
Darllenwch y cofnod llawn ar gyfer y model segmentu delweddau ar gyfer mapio coetir hynafol ar GOV.UK.
Dylun: cynorthwyydd dylunio cynnwys
Defnyddio AI cynhyrchiol i wneud cynnwys LLYW.CYMRU yn symlach ac yn gliriach. Cyn cyhoeddi, mae'r cynnwys yn cael ei wirio gan:
- yr awdur gwreiddiol ar gyfer cywirdeb
- dylunydd cynnwys ar gyfer safonau LLYW.CYMRU
Darllenwch y cofnod llawn ar gyfer Dylun: cynorthwyydd dylunio cynnwys ar GOV.UK.
Cwestiynau neu sylwadau
Os oes gennych gwestiynau neu sylwadau, cysylltwch cymorth@llyw.cymru.
