Gwerthusiad o'r Grant Ymgysylltu â Democratiaeth: crynodeb
Ymchwil i brosesau ac effeithiau canfyddedig y Grant Ymgysylltu â Democratiaeth. Nod y grant oedd ariannu dulliau arloesol i ymgysylltu â grwpiau penodol mewn democratiaeth.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cefndir
Lansiwyd y Grant Ymgysylltu â Democratiaeth (GYD) ym mis Ionawr 2023. Y sail resymegol dros gynnal y GYD yw mynd i'r afael â heriau o ran cyfranogiad anghyfartal ymhlith gwahanol ddemograffeg mewn etholiadau ac ymgysylltu â democratiaeth yng Nghymru. Mae'r GYD yn adeiladu ar gynlluniau blaenorol Llywodraeth Cymru ar gyfer ymgysylltu â democratiaeth. Eistedda'r GYD hefyd yng nghyd-destun ehangach diwygiadau etholiadol yng Nghymru.
Mae'r grant ar gyfer sefydliadau nid-er-elw yn y trydydd sector, ac awdurdodau lleol i ariannu dulliau arloesol o ymgysylltu â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol, grwpiau sydd newydd gael eu hetholfreinio (gan gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed a gwladolion tramor cymwys), a phobl anabl mewn democratiaeth. £900,000 oedd cyfanswm y cyllid a oedd ar gael ar gyfer blynyddoedd ariannol 2022/23 i 2024/25 (mis Ionawr 2023 i fis Mawrth 2025).
Amcanion yr arian grant yw:
- galluogi nifer o sefydliadau i annog a chefnogi pobl yn eu cymunedau rhanddeiliaid i gymryd rhan mewn democratiaeth
- helpu sefydliadau a ariennir i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cael eu cynnwys, eu cymell a'u grymuso i gymryd rhan mewn democratiaeth, gan roi'r offer iddynt sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ac yn effeithio'n gadarnhaol ar y Gymru o'u cwmpas
- cefnogi prosiectau i ymgysylltu â'r boblogaeth dros gyfnod parhaus
Yn ogystal â chyflawni gweithgareddau grant, roedd disgwyl i sefydliadau a ariennir gan y GYD gymryd rhan ym Mhartneriaeth Ymgysylltu â Democratiaeth (PYD) Cymru. Daw'r PYD â derbynyddion grant a sefydliadau sydd â diddordeb yn y broses ddemocrataidd ynghyd. Y nod yw caniatáu i gyfleoedd cydweithredol gael eu harchwilio a galluogi prosiectau i elwa ar ystod eang o fewnwelediad ac arbenigedd.
Nodau ymchwil
Comisiynodd y tîm polisi Etholiadau (Llywodraeth Cymru) y Rhaglen Ymchwil Fewnol (Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru) i gynnal adolygiad o'r GYD. Datblygwyd tri nod ymchwil, gyda chwestiynau ymchwil penodol ar gyfer pob nod. Y nodau yw:
- nod 1: adolygu dyluniad a chyflawniad y cynllun cyllid grant cyfredol, gan gynnwys elfen y Bartneriaeth Ymgysylltu â Democratiaeth (PYD)
- nod 2: deall effaith ganfyddedig y cynllun cyllid grant, gan gynnwys elfen y Bartneriaeth Ymgysylltu â Democratiaeth (PYD) a'r cyd-destun ehangach
- nod 3: deall sut y gellir gwella prosesau monitro a gwerthuso
Roedd cylch gorchwyl y gwerthusiad hefyd yn cynnwys cynhyrchu model rhesymeg ôl-weithredol ar gyfer y GYD.
Mae'r gwerthusiad yn canolbwyntio'n bennaf ar flwyddyn ariannol lawn gyntaf y cynllun (mis Ebrill 2023 i fis Mawrth 2024), pan oedd 16 o sefydliadau yn cyflawni prosiectau. Roedd gan bedwar o'r prosiectau hyn ddyfarniad grant aml-flwyddyn, gan olygu bod gweithgarwch yn parhau i mewn i flwyddyn ariannol 2024/25 (mis Ebrill 2024 i fis Mawrth 2025). Ar gyfer y prosiectau aml-flwyddyn, mae'r gwerthusiad yn cwmpasu elfen dylunio a chyflawni'r dyfarniad aml-flwyddyn, a'r effeithiau canfyddedig ar adeg gwaith maes yr ymchwil.
Methodoleg
Mae'r dulliau ymchwil yn cynnwys ymchwil desg a dadansoddiad eilaidd o ddogfennaeth bolisi, datblygu model rhesymeg (gan gynnwys gweithdy), a chyfweliadau. Cynhaliwyd 17 o gyfweliadau gyda derbynyddion grant (10), awdurdodau lleol (3) a rhanddeiliaid allanol ehangach yn y sector democratiaeth (4).
Dyma rai o gyfyngiadau'r fethodoleg:
- roedd un o'r prosiectau a gwblhawyd heb gyflwyno ei adroddiad diwedd grant felly ni ellid asesu hyn fel rhan o'r ymchwil desg
- roedd y gweithdy model rhesymeg yn cynnwys cyfranogwyr mewnol i Lywodraeth Cymru yn unig
- maint sampl bach sydd ar gyfer y cyfweliadau awdurdod lleol a rhanddeiliaid allanol ehangach
- ni ellir dweud bod yr awdurdodau lleol a’r rhanddeiliaid allanol ehangach a gafodd eu cyfweld yn gynrychioliadol o awdurdodau lleol eraill nac eraill o fewn sector ehangach ymgysylltu â democratiaeth oherwydd y dull samplu
- ni chyfwelwyd â phob derbynnydd grant ac felly ni ellir dweud bod y safbwyntiau a fynegwyd yn cynrychioli barn pawb a gafodd gyllid grant
- gan fod yr ymchwil hon yn ymwneud â democratiaeth, efallai bod Etholiad Cyffredinol 2024 y DU a gynhaliwyd ychydig cyn cyfnod gwaith maes y cyfweliadau wedi effeithio ar farn cyfranogwyr y cyfweliadau
Canfyddiadau a chasgliadau
Dylunio a cyflenwi
Cyrhaeddiad y grant
Bwriadwyd i’r GYD gyrraedd sefydliadau newydd ac awgryma'r canfyddiadau fod hyn wedi'i gyflawni i raddau. Mae'r meysydd i'w hystyried yn y dyfodol yn cynnwys ehangu hyrwyddo grantiau ymhellach er mwyn parhau i gyrraedd ystod o sefydliadau, mwy o eglurder ynghylch argaeledd dyfarniadau aml-flwyddyn i bob sefydliad, ac annog cyfranogiad ar draws y 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Roedd ceisiadau'r derbynyddion yn cynnwys cymysgedd o gyraeddiadau lleol, rhanbarthol a chenedlaethol wedi'u cynllunio, gan gydredeg felly â'r bwriad i'r GYD gyrraedd ledled Cymru. Fodd bynnag, roedd yr hyn a oedd yn gyfystyr â chyrhaeddiad 'rhanbarthol' yn amrywio. Mae canfyddiadau sy'n ymwneud â cheisiadau a chyflawni yn awgrymu bod gweithgarwch â ffocws ar lefel ranbarthol yng Ngogledd Cymru yn fwlch posibl.
Roedd yr holl grwpiau yr oedd y grant yn ceisio ymgysylltu â nhw wedi'u cwmpasu o fewn y grwpiau targed a nodwyd gan yr 16 derbynnydd wrth ymgeisio. Wedi dweud hynny, gellid rhoi rhywfaint o ystyriaeth i ddefnyddioldeb y term 'heb gynrychiolaeth ddigonol' a beth mae hyn yn ei olygu yng nghyd-destun ymgysylltu â democratiaeth. Ar ben hynny, nododd 10 o'r 16 cais fod pobl ifanc yn grŵp targed felly gallai fod yn ddefnyddiol ystyried sut i gefnogi mwy o brosiectau sy'n canolbwyntio ar y grwpiau targed eraill. Yn gyffredinol, mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod y grwpiau arfaethedig wedi'u cyrraedd yn ystod y cyflenwi, ond bod hyn yn amrywio oherwydd ffactorau gan gynnwys cyrraedd llai o bobl na'r bwriad neu fethu â chyrraedd trawstoriad ehangach o'r grŵp.
Awgryma'r canfyddiadau y gellid gwella eglurder, cyflawnrwydd a chysondeb o ran derbynyddion grant yn rhoi gwybod am gyrhaeddiad daearyddol a gwella cyrhaeddiad i'r grwpiau targed.
Cyflawni prosiectau
Ar gyfer y 12 prosiect a gwblhawyd ar adeg ysgrifennu, mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod y prosiectau yn cyflawni'r hyn yr oeddent yn bwriadu ei wneud gyda'r cyllid grant. Roedd gan rai fylchau wrth gyflenwi o’i gymharu â'u cynllun, tra bod eraill wedi cyflawni allbynnau ychwanegol.
Dengys y canfyddiadau fod amrywiol rwystrau a galluogwyr i gyflawni prosiectau. Roedd y prif alluogwyr yn cynnwys gwybodaeth bresennol neu brofiad o weithio gyda'r grŵp targed a manteisio ar rwydweithiau a pherthnasoedd presennol â sefydliadau eraill neu'r grŵp targed. Roedd y prif rwystrau yn cynnwys presenoldeb isel gan y grŵp targed, yn ogystal â meithrin cysylltiadau â sefydliadau eraill lle nad oedd y rhain yn bodoli, a diffyg capasiti neu ymgysylltiad gan gynrychiolwyr sefydliadau eraill.
Mae'r meysydd cyflawni penodol lle byddai mwy o gymorth neu arweiniad yn fuddiol yn cynnwys gwybodaeth ymarferol brosiect-benodol am ofynion y Gymraeg ac adnoddau democratiaeth wedi eu safoni i dderbynyddion eu defnyddio mewn prosiectau.
Cyflawni prosesau lefel cronfa
Yn gyffredinol, roedd canfyddiadau'r cyfweliadau ynglŷn â'r prosesau ymgeisio a gweinyddu grant yn gadarnhaol. Mewn egwyddor, gallai'r prosesau hyn aros yn debyg ar gyfer unrhyw grant yn y dyfodol.
Fodd bynnag, mae'r canfyddiadau'n awgrymu y gellid rhoi mwy o eglurder yn y cam ymgeisio ynghylch cwmpas y grant, yn ogystal â chanllawiau ychwanegol i helpu ymgeiswyr i fanylu ar yr hyn sydd fwyaf perthnasol. Mae disgwyliadau ynghylch amser cwblhau ar gyfer asesu ceisiadau a hysbysu ymgeiswyr aflwyddiannus yn faes arall i'w ystyried. Awgryma’r canfyddiadau hefyd y dylid ystyried y cyfathrebu ynghylch adroddiadau diwedd grant, hawliadau grant terfynol, a dyddiadau cau adroddiadau.
Roedd cyfranogwyr y cyfweliadau (derbynyddion grant a rhanddeiliaid allanol ehangach) yn gadarnhaol ynglŷn â'r gofyniad i ymuno â'r PYD fel rhan o gael cyllid y GYD, ac mewn egwyddor dylid cadw'r PYD ar gyfer unrhyw grant yn y dyfodol. Dengys y canfyddiadau fod rhai newidiadau i fformat neu gynnwys y PYD y gellid eu hystyried i gwrdd ag anghenion sefydliadau. Un maes penodol i'w ystyried oedd cydweithio, gan gynnwys awgrymiadau ar gyfer gweithio gyda rhwydweithiau ehangach a gweithio gyda derbynyddion eraill. Gallai disgwyliadau ôl-grant ynghylch presenoldeb PYD hefyd fod yn gliriach.
Effeithiau canfyddedig
Cylch gwaith y gwerthusiad hwn yw adrodd ar effeithiau canfyddedig yn unig. Nid yw gwerthusiad systematig o'r effaith yn bosibl gan fod dyluniad y grant yn golygu bod prosiectau a ariennir yn unigryw, ac oherwydd y ffordd y cafodd tystiolaeth o bob prosiect ei chasglu a’i hadrodd.
Buddiolwyr
Adlewyrchwyd un o nodau’r GYD sy'n ymwneud â buddiolwyr fel effaith arfaethedig yn y model rhesymeg: ‘Mae pobl (yn enwedig yn y grwpiau targed) yn cael eu cynnwys, eu cymell a'u grymuso i gymryd rhan mewn democratiaeth, gyda'r offer i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ac effeithio'n gadarnhaol ar y Gymru o'u cwmpas’. Mae'r graddau y gellir asesu hyn yn gyfyngedig gan nad oedd y cysyniadau wedi'u diffinio na'u mesur yn benodol. Hefyd, ni ellir canfod y rhagdybiaeth sylfaenol bod canlyniadau'n cael eu cynnal ar ôl cyfranogiad. Yn ogystal, mabwysiadodd y derbynyddion ddulliau amrywiol o werthuso canlyniadau buddiolwyr ac nid oedd y rhain bob amser wedi'u cynnwys yn y targedau a'r dystiolaeth ofynnol (a drafodwyd yn 'Gwerthuso').
Yr hyn y mae'r canfyddiadau'n ei ddangos yw bod canlyniadau cyffredin ar gyfer buddiolwyr terfynol (a grybwyllwyd gan dderbynyddion grant) yn amrywio ar draws datblygu gwybodaeth, cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau sy'n gysylltiedig â'r prosiect a ariennir gan y GYD a’r tu hwnt i gwmpas cychwynnol gweithgaredd a ariennir gan y GYD, teimlo bod llais rhywun yn cael ei glywed, teimlo'n fwy hyderus, a datblygu sgiliau ehangach fel sgiliau digidol neu sgiliau cyflwyno. Pan nodwyd heriau i gyflawni canlyniadau, roedd hyn yn cynnwys dibyniaeth ar lefel yr wybodaeth flaenorol, a pharhad rhwystrau rhag cymryd rhan mewn democratiaeth yng Nghymru.
Derbynyddion grant
Awgryma'r canfyddiadau fod canlyniadau cadarnhaol i dderbynyddion grant fel rhan o gael cyllid y GYD yn gyffredinol ac o fynychu'r PYD.
Ar gyfer y PYD, roedd y canlyniadau'n cynnwys dysgu gan sefydliadau eraill a rhannu gwybodaeth ac adnoddau ddwyffordd, yn ogystal â gwneud cysylltiadau a chydweithio â sefydliadau eraill. Fodd bynnag, nid oedd y cydweithio bob amser yn cael ei briodoli i'r PYD.
Ar gyfer y grant yn fwy cyffredinol, roedd y canlyniadau'n cynnwys adeiladu rhwydweithiau a pherthnasoedd â sefydliadau eraill a buddiolwyr. Hefyd, adeiladu profiad a gwybodaeth o weithio gyda buddiolwyr.
Crybwyllodd y derbynyddion grant hefyd naill ai'r potensial neu'r bwriad gwirioneddol i gymhwyso’r hyn a ddysgwyd o'u prosiect a ariannwyd gan y GYD. Roedd hyn yn cynnwys elfennau prosiect gweithredol yn ogystal â materion ymgysylltu â democratiaeth a nodwyd trwy gydweithio â buddiolwyr. Fodd bynnag, roedd heriau i gymhwyso’r hyn a ddysgwyd yn cynnwys adnoddau (amser, staff, cyllideb).
Y sector ehangach
Un maes a ddaeth i'r amlwg o’r cyfweliadau fel effaith ehangach ar y sector oedd ehangu capasiti’r sector ymgysylltu â democratiaeth yng Nghymru. Roedd hyn yn cynnwys dod â sefydliadau newydd i'r maes, galluogi sefydliadau i ymgymryd â phrosiectau, a hwyluso gwaith rhwng cylchoedd etholiadol. Un maes arall a ddaeth i'r amlwg oedd dylanwadu ar waith yn y sector yng Nghymru yn y dyfodol, gan gynnwys derbynyddion yn ymgymryd â phrosiect pellach yng Nghymru, neu sefydliadau eraill sy'n edrych at brosiectau'r derbynyddion fel syniad i'w ddatblygu. Mewn rhai achosion, crybwyllwyd hefyd ddylanwadu ar waith y tu allan i Gymru yn y dyfodol, megis derbynyddion yn addasu eu dulliau ymgysylltu yng ngwledydd eraill y DU neu ddiddordeb i dderbynyddion ddatblygu eu prosiect mewn mannau eraill. Roedd hyn hefyd yn cynnwys cynllun grant tebyg i'r GYD yn cael ei gynnig ym Mil Etholiadau'r Alban (Cynrychiolaeth a Diwygio).
O fewn y model rhesymeg, mae dau effaith yn ymwneud â'r sector ehangach. Y cyntaf yw 'Gwell cydweithredu ar draws y rhai sy'n gweithredu yn y sector: mae ymagwedd fwy cydgysylltiedig at ymgysylltu â democratiaeth'. Yn y cyfweliadau â derbynyddion grant a rhanddeiliaid allanol ehangach, crybwyllodd cyfranogwyr y farn bod y GYD wedi hwyluso cydweithio a meithrin perthynas ar draws y sector yng Nghymru. Fodd bynnag, mewn rhai achosion, dywedwyd nad oedd hyn i’w briodoli’n llwyr i'r grant, megis lle roedd gan sefydliadau berthnasoedd eisoes, gan olygu y byddent yn cydweithio heb ystyried y GYD.
Yr ail effaith model rhesymeg sy'n gysylltiedig â'r sector ehangach yw 'O fewn y sector, mae gwersi a ddysgwyd am y grwpiau targed ac ymyriadau yn cael eu cymhwyso i lywio a gwella gwaith ymgysylltu â democratiaeth yn y dyfodol'. Fel y nodwyd yn 'Effeithiau canfyddedig: Derbynyddion grant’, dywedodd derbynyddion y grant eu bod yn gallu cymhwyso eu dysgu eu hunain o'u prosiect a ariannwyd gan y GYD. Dywedodd derbynyddion y grant hefyd mai un effaith ehangach oedd gwella dealltwriaeth y sector o'u grwpiau targed, megis y rhwystrau a wynebir a dulliau llwyddiannus o gael grwpiau targed i gymryd rhan. Fodd bynnag, gall effaith y model rhesymeg sy'n cael ei wireddu ar lefel sector cyfan fod yn gyfyngedig ac, ar hyn o bryd, gall hyn fod yn fwy felly ar lefel sefydliad unigol, neu o fewn rhwydwaith y PYD. Mae hyn oherwydd y canfyddiad a grybwyllwyd gan yr holl grwpiau cyfweliad fod angen mwy o ffocws ar rannu'r canlyniadau a'r gwersi a ddysgwyd o'r prosiectau a ariannwyd gan y GYD, yn ogystal â sut mae'r wybodaeth hon yn cyrraedd y sector ehangach.
Dull y GYD o ystyried y cyd-destun ehangach
Cynaliadwyedd
Adlewyrchwyd un o nodau'r GYD, 'Cefnogi prosiectau i ymgysylltu â'r boblogaeth dros gyfnod parhaol', hefyd ymhlith yr effeithiau o fewn y model rhesymeg: 'Mae sefydliadau'n gallu mabwysiadu dull hirdymor o annog a chefnogi pobl i gymryd rhan mewn democratiaeth'.
Mae canfyddiadau'r ymchwil ynghylch y nod a'r effaith yn gymysg. Awgryma'r canfyddiadau fod y rhai sydd â phrosiectau aml-flwyddyn yn gadarnhaol ynglŷn â hyd eu cyllid ac yn cael eu cefnogi i ymgysylltu dros gyfnod parhaus, gan gynnwys mwy o sicrwydd a llai o bwysau. Ar y llaw arall, i rai gyda chyllid un flwyddyn neu dymor byr, roedd y canfyddiadau’n amlygu natur gyfyngedig amser y cyllid a bod pwysau cysylltiedig ar adnoddau yn effeithio ar gynaliadwyedd, gan gynnwys colli momentwm pan ddaeth y cyllid i ben. Mewn rhai achosion, soniodd cyfranogwyr o brosiectau un flwyddyn ac aml-flwyddyn fod angen cyllid yn y pen draw i gyflawni, felly mae'r gweithgaredd yn dod i ben gyda chyfnod y grant neu wedi'i gyfyngu iddo.
A ydy cyllid y GYD yn llenwi unrhyw fylchau
Un o ragdybiaethau’r model rhesymeg yw 'Bod awydd am y math hwn o gyllid gan y sector ac mae'n diwallu anghenion y sector'. Ar y cyfan, mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod angen cynllun cyllido ymgysylltu â democratiaeth yn y sector yng Nghymru. Awgryma'r canfyddiadau fod diffyg cyllid a chyllidwyr yn y sector, a lle mae cyllid neu lle bu cyllid, bu heriau amrywiol gyda'r cynlluniau hyn. Yn ogystal, adroddwyd hefyd bod peidio â chael cyllid yn creu dibyniaeth anghynaliadwy ar sefydliadau i wneud gwaith ymgysylltu, neu na fydd sefydliadau'n gallu cyflawni prosiectau ymgysylltu gan fod cyllid yn greiddiol i'w gallu i weithredu (sy'n gysylltiedig â'r heriau a drafodwyd yn 'Cynaliadwyedd').
Awgryma’r canfyddiadau hefyd fod adnodd staff yn her gysylltiedig. Dywedodd y cyfranogwyr fod prosiectau ymgysylltu, hyd yn oed gyda chyllid cyflawni, yn creu baich gwaith ychwanegol y mae angen adnoddau arno ac felly efallai na fydd yn bosibl. Roedd hyn yn arbennig o amlwg i awdurdodau lleol ond fe'i codwyd hefyd gan y rhai yn y sector ehangach. Adroddwyd hefyd fod cyllidebau isel a chapasiti staff yn y sector cyhoeddus yn rhwystrau i arferion ymgysylltu arloesol.
Mae'r canfyddiadau'n awgrymu bod y GYD wedi bodloni anghenion cyllido i raddau, ond bod rhai anghenion nad yw wedi'u bodloni sy'n elfennau i'w hystyried ar gyfer cyfeiriad unrhyw gynllun grant yn y dyfodol.
Ymhlith y pethau cadarnhaol roedd y GYD yn creu mwy o gyllid a chyllid canolog yn y sector, gyda ffocws penodol ar Gymru. Mewn rhai achosion, dywedodd y cyfranogwyr ei bod yn bwysig neu'n ddefnyddiol parhau â'r GYD, a pharhau i roi cyfle i sefydliadau wneud gwaith sy'n canolbwyntio ar ymgysylltu ehangach â democratiaeth a rhwng etholiadau. Yn ogystal, rhoi cyfle i roi cynnig ar ddulliau newydd o ymgysylltu â democratiaeth.
Yn llai cadarnhaol, dywedodd rhai nad oes parhad na hirhoedledd yn perthyn i’r GYD. Roedd hyn yn cynnwys tueddiad i ariannu pocedi o weithgarwch ar raddfa fechan neu dymor byr. Dywedwyd bod hyn yn cyfyngu ar y gallu i fynd i'r afael â materion ymgysylltu â democratiaeth, yn enwedig lle mae'r effaith yn gyfyngedig y tu hwnt i gyfnod penodol oherwydd y materion a drafodwyd o ran dal ati gyda gweithgarwch a cholli momentwm pan ddaw'r cyllid i ben (gweler 'Cynaliadwyedd'). Felly, mae canfyddiadau'n awgrymu bod angen mwy o gyllid aml-flwyddyn a pharhaus gan unrhyw gynllun grant yn y dyfodol. Hefyd, daeth i’r amlwg bod angen i unrhyw gynllun grant yn y dyfodol gefnogi prosiectau ymgysylltu â democratiaeth ar raddfa fwy neu fwy cydgysylltiedig, gan gymryd dull mwy strategol o fynd i'r afael â materion ymgysylltu â democratiaeth. Fodd bynnag, dengys y canfyddiadau hefyd fod angen cadw'r gallu i wneud grantiau bach ochr yn ochr â'r dulliau hyn.
Mae'r canfyddiadau'n dangos y gallai fod yn fuddiol petai mwy o eglurder ar yr amgylchiadau lle mae’n gymwys i ddefnyddio cyllid ar gyfer adnoddau staff. Mae adroddiadau gan awdurdodau lleol yn awgrymu na chredwyd bod y GYD yn mynd i'r afael â'r her ynghylch adnoddau staff i gyflawni prosiectau. Fodd bynnag, roedd achosion lle roedd sefydliadau derbynyddion yn cyflogi staff prosiect fel rhan o'u cyllid GYD i gefnogi’r cyflawni.
Un rhagdybiaeth model rhesymeg sydd wedi creu heriau yn ôl y canfyddiadau yw bod ‘yn rhaid i sefydliadau sy'n cael y grant allu gwneud cais am y prosiect a'i gyflawni yn unol ag amseru blwyddyn ariannol Llywodraeth Cymru'. Yn enwedig ar gyfer prosiectau un flwyddyn, roedd adroddiadau’n amlygu nad yw blynyddoedd ariannol yn cydredeg â chyfnodau eraill. Byddai'r gallu i ddyfarnu'r grant yn unol â rhychwant amser cynllunio gweithgareddau prosiect a thros y cyfnod perthnasol yn faes y gellid ystyried ei wella. Nodwyd hyn hefyd yng nghyd-destun unrhyw grant a ddyfernir yn y dyfodol wrth nesáu at, ac yn ystod cyfnod etholiadau 2026 y Senedd ac etholiadau llywodraeth leol 2027 yng Nghymru.
Monitro a gwerthuso
Awgryma canfyddiadau’r gwerthusiad hwn fod y broses fonitro a gwerthuso yn agwedd benodol ar ddylunio a chyflawni'r GYD lle dylid ystyried gwelliannau ar gyfer unrhyw gynllun cyllido grant yn y dyfodol.
Roedd canllawiau ymgeisio’r GYD ar gyfer adrodd diwedd grant yn nodi bod yn rhaid i grantiau bach (£1,000 a llai) roi 'adborth sy'n cwmpasu'r cynllun peilot gan gynnwys sut mae llwyddiant wedi'i fesur'. Roedd yn rhaid i grantiau mawr (£1,000 a mwy) ddarparu 'gwerthusiad o weithgareddau, llwyddiannau a rhwystrau a wynebwyd'. Yn ogystal, roedd y llythyr dyfarnu grant yn nodi manylion targedau unigryw a thystiolaeth a ddisgwylir gan bob derbynnydd.
Monitro
Wrth fonitro cynnydd, dengys y canfyddiadau fod ffurflenni diweddaru cynnydd yn amrywio o ran manylder ac eglurder ar draws derbynyddion y grant, waeth beth oedd maint y grant a gawsant. Roedd rhai diweddariadau hefyd yn ailadrodd y diweddariad blaenorol. Gellir priodoli hyn, yn rhannol, i'r dulliau amrywiol o fonitro cynnydd a grybwyllwyd gan gyfranogwyr y cyfweliadau derbynyddion, a oedd yn amrywio o ffurfiol i anffurfiol. Golyga'r ddau ffactor hyn nad oes llwybr archwilio clir bob tro y gall Llywodraeth Cymru ei ddefnyddio i olrhain cynnydd prosiect. Un newid i'w ystyried yw darparu canllawiau sy'n amlinellu disgwyliadau ar gyfer adrodd ar gynnydd, yn gymesur â swm y cyllid grant.
Gwerthuso
Mae'r ffurflen gais grant yn gofyn am ganlyniadau disgwyliedig a sut y byddai llwyddiant yn cael ei fesur yn erbyn y rhain. Dehonglwyd 'canlyniad' yn anghyson gan dderbynyddion y grant, gan gynnwys beth mae prosiectau'n ei gyflawni, newidiadau disgwyliedig i fuddiolwyr prosiectau, a gwersi a ddysgir gan y sefydliad sy'n cael y grant. Mewn rhai achosion, roedd yna hefyd broblemau gyda mesurau arfaethedig, megis mesurau amwys, mesurau nad oeddent yn cyfateb i ganlyniad, neu beidio â darparu mesurau.
Gwnaeth Llywodraeth Cymru drosglwyddo’n anghyson ganlyniadau a mesurau a ddarparwyd gan dderbynyddion grant yn y ffurflen gais i'r targedau a'r gofynion tystiolaeth a nodwyd yn y llythyrau dyfarnu grant. Roedd y dull hwn yn golygu bod gan rai grantiau 'mawr' ofynion targed a thystiolaeth llai manwl o'u cymharu â rhai grantiau 'bach'.
Yn rhannol fel penllanw'r heriau hyn a drafodwyd, nid oedd y gofynion targed a thystiolaeth a nodwyd yn y llythyr dyfarnu yn cynnwys y canlyniadau ymgysylltu â democratiaeth a ragwelwyd i fuddiolwyr terfynol bob tro. Yn gyffredinol, roedd gwerthusiadau llawer o dderbynyddion grant (ni waeth a ystyriwyd bod y grant yn 'fach' neu'n 'fawr') yn tueddu i ganolbwyntio ar gyflawni, yn hytrach na newidiadau i ymgysylltiad y buddiolwyr terfynol â democratiaeth. Hefyd, soniodd rhanddeiliaid allanol ehangach fod adrodd yn y sector yn canolbwyntio ar gyflawni fel arfer. Gall profiad gwerthuso fod yn isel a gall gwerthuso newid fod yn anodd, yn enwedig ar gyfer cysyniadau megis gwybodaeth a dealltwriaeth.
Yn gyffredinol, roedd cyfranogwyr cyfweliadau derbynyddion y grant yn teimlo ei bod yn gymesur neu'n synhwyrol darparu adroddiad gwerthuso diwedd grant. Fodd bynnag, aseswyd nad oedd tua hanner yr adroddiadau diwedd grant oedd ar gael yn bodloni'r gofynion targed a thystiolaeth a nodwyd yn eu llythyrau dyfarnu grant priodol. Mae'r canfyddiadau yn nodi nifer o faterion adrodd cyffredin, gan gynnwys strwythur adroddiad aneglur a diffyg adrodd am y dulliau a'r metrigau disgwyliedig. Lle nodwyd canlyniadau ar gyfer buddiolwyr, roedd y rhain yn tueddu i gael eu hadrodd yn unswydd.
Dengys y canfyddiadau nad oedd templed na strwythur adroddiad gwerthuso penodol i dderbynyddion eu dilyn, na chanllawiau cyson gan Lywodraeth Cymru. Er bod rhai derbynyddion grant yn hapus i beidio â chael strwythur, roedd eraill yn teimlo y gellid rhoi mwy o arweiniad. Am mai dim ond ychydig o adborth, neu ddim o gwbl, a gafwyd gan Lywodraeth Cymru wrth dderbyn yr adroddiadau, dengys y canfyddiadau fod derbynyddion grant yn ansicr a oedd yr adroddiadau wedi bodloni'r disgwyliadau.
Yn gyffredinol, awgryma’r canfyddiadau bod derbynyddion angen mwy o gymorth gwerthuso trwy gydol eu cyfnod grant.
Mae gan Lywodraeth Cymru rôl i sicrhau bod canlyniadau o ran ymgysylltu â democratiaeth yn cael eu cynnwys yn y ffurflen gais a'r llythyr dyfarnu, gyda mesurau neu fetrigau priodol sy'n gymesur â swm dyfarniad y grant. Byddai canllawiau ynghylch canlyniadau a mesurau yn fuddiol. Yn ehangach, awgrymodd cyfranogwyr fframwaith canlyniadau y cytunwyd arno gan y sector ar gyfer ymgysylltu â democratiaeth mewn rhai achosion.
Mae cymesuredd a hyblygrwydd mewn adroddiadau gwerthuso yn bwysig, ond byddai mwy o strwythur, canllawiau ac adborth gan Lywodraeth Cymru yn fuddiol i sicrhau bod yr holl elfennau perthnasol a meysydd eang yn cael eu cynnwys mewn adroddiadau. Gellid diwygio'r canllawiau ymgeisio ar y disgwyliadau adrodd ar gyfer grantiau 'bach' a 'mawr' hefyd, gan roi mwy o fanylion, yn dibynnu ar unrhyw newidiadau yn y strwythur adrodd. Er cysondeb gellid ailddiffinio'r gwahaniaeth rhwng grantiau 'bach' a 'mawr' lle mae'n ofynnol i'r ddau gwmpasu'r un elfennau eang mewn adroddiadau diwedd grant, ond dyfnder y dystiolaeth a'r dulliau a ddisgwylir fyddai'r ffactor amrywiol.
Argymhellion
Mae'r argymhellion yn cwmpasu cyflawni, cyrhaeddiad, monitro a gwerthuso, a chylch gorchwyl y cynllun cyllido grant, yn ogystal â chyd-destun ehangach ymgysylltu â democratiaeth. Mae'r canlynol yn darparu crynodeb o'r argymhellion, gyda'r argymhellion llawn ar gael yn y prif adroddiad.
Cyflawni
Argymhelliad 1
Dylai'r tîm polisi Etholiadau adolygu ac ehangu elfennau penodedig y ffurflen gais am grant a'r nodiadau canllawiau grant cysylltiedig.
Argymhelliad 2
Dylai'r tîm polisi Etholiadau ystyried at ba adnoddau democratiaeth wedi eu safoni y gellid cyfeirio derbynyddion i'w defnyddio wrth gyflawni.
Argymhelliad 3
Dylai'r tîm polisi Etholiadau ystyried gwella'r canllawiau a ddarperir ar ddechrau'r prosiect a’r cymorth yn ystod prosiectau er mwyn cynorthwyo sefydliadau i fodloni gofynion y Gymraeg.
Argymhelliad 4
Dylai'r tîm polisi Etholiadau ystyried y gwersi a ddysgwyd yn yr adroddiad, gan gadw cofnod gwaith ar gyfer prosiectau a ariennir gan y GYD nawr ac yn y dyfodol. Mae meysydd dysgu yn cynnwys ymgysylltu â democratiaeth yn y grwpiau targed a rhwystrau a galluogwyr lefel prosiect.
Argymhelliad 5
Byddai'r cyfathrebiadau a bennir yn elwa ar fwy o eglurder. Mae'r rhain yn cynnwys amserlenni ar gyfer canlyniadau ymgeisio, prosesau o gwmpas diwedd y flwyddyn ariannol, disgwyliadau presenoldeb yn y PYD ar ôl y grant, ac ymateb ar ôl cael adroddiadau diwedd grant.
Argymhelliad 6
Dylai'r tîm polisi Etholiadau ystyried sut i weithredu'r awgrymiadau yn yr adroddiad hwn ynghylch fformat y PYD ac ar gyfer gwella’r cydweithio rhwng derbynyddion a rhwydweithiau eraill.
Argymhelliad 7
Dylai'r tîm polisi Etholiadau ystyried a gweithredu dulliau o gefnogi rhannu canlyniadau a gwersi a ddysgwyd rhwng derbynyddion, yn ogystal â’u rhannu gyda'r sector ehangach, gan gynnwys coladu gwersi a ddysgwyd ar draws y prosiectau a ariennir gan grant.
Cyrhaeddiad
Argymhelliad 8
Dylai'r tîm polisi Etholiadau ystyried sut i ehangu hyrwyddo unrhyw gyllid grant yn y dyfodol ymhellach, gan ganolbwyntio'n enwedig ar gyrhaeddiad i awdurdodau lleol, prosiectau sy'n cyrraedd Gogledd Cymru a phrosiectau sy'n ceisio ymgysylltu â grwpiau targed heblaw pobl ifanc.
Monitro a gwerthuso
Wrth ddarllen argymhellion 9 i 18, dylid ystyried y dylai unrhyw newidiadau i'r gofynion monitro a gwerthuso ar gyfer y GYD barhau i fod yn gymesur ac yn ymarferol mewn perthynas â swm y cyllid grant a chapasiti'r sefydliad.
Argymhelliad 9
Ar y ffurflen gais, diwygio’r cwestiwn 'Beth yw eich canlyniadau disgwyliedig a sut fyddech chi'n mesur llwyddiant yn erbyn y rhain? (Dim mwy na 100 gair)’, gan gynnwys darparu diffiniadau a chanllawiau i gefnogi ymgeiswyr i nodi canlyniadau a mesurau.
Argymhelliad 10
Gofyn i ymgeiswyr amlinellu sut y byddai'r cyrhaeddiad daearyddol arfaethedig (yn enwedig lle bo’n rhanbarthol neu genedlaethol) a chyrhaeddiad i grwpiau targed yn cael eu mesur a'u hadrodd.
Argymhelliad 11
Yn gysylltiedig ag argymhelliad 9, dylai unrhyw newidiadau i'r broses werthuso ystyried sut y gallai’r nod GYD canlynol gael ei fesur gan dderbynyddion yn y dyfodol: ‘Mae pobl yn cael eu cynnwys, eu cymell a'u grymuso i gymryd rhan mewn democratiaeth, gyda'r offer i sicrhau bod eu llais yn cael ei glywed ac effeithio'n gadarnhaol ar y Gymru o'u cwmpas’.
Argymhelliad 12
Dylai darparu cymorth i nodi canlyniadau a mesurau priodol ar y dechrau (argymhelliad 9) roi’r sail i Lywodraeth Cymru gymhwyso canlyniadau a mesurau yn gyson ac yn gymesur i'r targedau a'r gofynion tystiolaeth o fewn llythyrau dyfarnu grant, ochr yn ochr â sicrhau bod y llythyrau dyfarnu yn cynnwys canlyniadau buddiolwyr bob tro.
Argymhelliad 13
Darparu strwythur ar gyfer y diweddariad cynnydd yn y ffurflenni hawlio chwarterol. Mae awgrymiadau penodol ar gyfer y strwythur hwn yn y prif adroddiad.
Argymhelliad 14
Darparu strwythur ar gyfer adroddiadau gwerthuso diwedd grant. Mae awgrymiadau penodol ar gyfer y strwythur hwn yn y prif adroddiad.
Argymhelliad 15
Dylai'r canllawiau grant gynnwys mwy o fanylion ar ddisgwyliadau adrodd diwedd grant, gan gynnwys adolygu'r gwahaniaeth presennol rhwng gofynion adrodd ar gyfer grantiau 'bach' a 'mawr'.
Argymhelliad 16
Dylid darparu canllawiau ychwanegol ar gyfer derbynyddion grant, lle bo angen, ynghylch monitro cynnydd.
Argymhelliad 17
Ar gyfer prosiectau nad ydynt yn weithgaredd tymor byr, gallai'r tîm polisi Etholiadau ystyried cyfarfod prosiect hanner ffordd (un flwyddyn) neu flynyddol (aml-flwyddyn). Gallai’r drafodaeth gynnwys cynnydd tuag at ganlyniadau a sut mae'r rhain wedi'u mesur, er mwyn nodi a yw'r derbynnydd ar y trywydd iawn neu a oes angen mwy o gymorth gwerthuso.
Argymhelliad 18
Gyda chymorth dadansoddol, gallai'r tîm polisi Etholiadau archwilio dulliau er mwyn crisialu effeithiau tymor hwy. Mae hyn yn cynnwys ystyried y ffactorau a ddylai fod yn eu lle ar y dechrau, megis cyllid ac argaeledd data a gofynion.
Cylch gwaith y cynllun cyllid grant
Argymhelliad 19
Wrth ddatblygu dull ar gyfer unrhyw gynllun cyllid grant yn y dyfodol, dylai'r tîm polisi Etholiadau ystyried cyfeiriad y cynllun hwn yn seiliedig ar anghenion y sector yn yr adroddiad. Mae'r rhain yn cynnwys cefnogi prosiectau mwy hirdymor neu aml-flwyddyn ac annog sefydliadau i ddefnyddio dull cydgysylltiedig, strategol o ymdrin â materion ymgysylltu â democratiaeth a chyrraedd trawstoriad eang o grwpiau targed.
Argymhelliad 20
Os yw prosiectau tymor hwy a strategol yn cael eu hariannu yn unol ag argymhelliad 19, dylid ystyried gwerth cyffredinol y cyllid sydd ar gael er mwyn iddo ddarparu cydbwysedd priodol rhwng y prosiectau mwy hyn a phrosiectau tymor byr neu 'fach'.
Argymhelliad 21
Dylai'r tîm polisi Etholiadau ystyried a yw'n ymarferol dyfarnu grantiau dros gyfnod sy'n cyd-fynd ag allbynnau arfaethedig derbynyddion y grant, yn hytrach nag amserlen sy'n gysylltiedig â'r flwyddyn ariannol.
Cyd-destun ehangach ymgysylltu â democratiaeth
Argymhelliad 22
Yn gysylltiedig ag argymhellion 9 ac 11, gallai'r tîm polisi Etholiadau ystyried yr awgrym o weithio gyda sefydliadau arweiniol eraill yn y sector i greu fframwaith canlyniadau ymgysylltu â democratiaeth y cytunwyd arno.
Argymhelliad 23
Awgrymodd cyfranogwyr y cyfweliad y dylai'r tîm polisi Etholiadau roi gwybod i dimau polisi perthnasol Llywodraeth Cymru am yr angen i'r GYD eistedd ochr yn ochr â mentrau ar gyfer mwy o addysg ddemocrataidd mewn ysgolion a chynnwys y cyhoedd wrth wneud penderfyniadau ar bob lefel yng Nghymru.
Argymhelliad 24
Dylai'r tîm polisi Etholiadau ystyried yr heriau a grybwyllwyd i awdurdodau lleol o ran cyflawni dyletswyddau ymgysylltu a materion adnoddau cysylltiedig. Gallai fod yn fuddiol i'r tîm ymgysylltu ag awdurdodau lleol rannu arferion gorau ynghylch defnyddio cyllid y GYD yng nghyd-destun yr heriau hyn.
Manylion cyswllt
Awdur yr adroddiad: Gareth Curless, Sophie Findlay, a Benjamin Lewis
Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:
Rhaglen Ymchwil Fewnol
Adran Ymchwil a Gwybodaeth Gymdeithasol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: RhYF.IRP@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 69/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-094-2

