Neidio i'r prif gynnwy

"Diogelwch, atebolrwydd, a lleisiau preswylwyr."

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dyma dair prif egwyddor Bil diogelwch adeiladau nodedig a osodwyd gerbron y Senedd heddiw, yn ôl Ysgrifennydd y Cabinet dros Dai a Llywodraeth Leol, Jayne Bryant.

Mae'r Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yn rhan o raglen ehangach o ddiwygiadau gyda'r nod o wella diogelwch mewn adeiladau, ac mae'n rhan o ymateb ehangach Llywodraeth Cymru i drychineb Tŵr Grenfell sy'n ceisio atal trychineb o'r fath rhag digwydd eto. Mae'n cynnwys: 

  • Rhaglen waith gyda'r nod o fynd i'r afael â materion diogelwch tân mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth o 11m ac uwch;
  • Diwygiadau sylweddol i'r system rheolaeth adeiladu;
  • Cyflwyno rheoliadau newydd ar gyfer adeiladau risg uchel;
  • Cyfrifoldebau cliriach i ddeiliaid dyletswyddau;
  • Cofrestru a rheoleiddio gorfodol gweithwyr proffesiynol rheolaeth adeiladu. 

Bydd y Bil yn ei gwneud yn ofynnol i asesu risgiau diogelwch adeiladau a'u rheoli tra bod adeiladau'n cael eu meddiannu, er budd preswylwyr ac eraill, gyda chyfundrefn orfodi gadarn i gefnogi hynny. Bydd dyletswyddau diogelwch tân hefyd yn gymwys i rai Tai Amlfeddiannaeth.

Bydd y ddeddfwriaeth hefyd yn creu llinellau atebolrwydd clir i ddeiliaid dyletswydd. Bydd gan y deiliaid dyletswydd hyn gyfrifoldeb cyfreithiol am asesu a rheoli diogelwch adeiladau, gan roi terfyn ar ddryswch ynghylch pwy sy'n gyfrifol am ddiogelwch preswylwyr ac eraill.

Yn ogystal, bydd y Bil yn gweld preswylwyr ym mhob adeilad rheoledig yn cael mwy o sicrwydd i godi cwynion diogelwch adeiladau ynghylch diogelwch eu cartrefi a llwybrau clir iddynt geisio iawn. Bydd hefyd yn gosod cyfrifoldebau ar breswylwyr i chwarae eu rhan i gadw eu hadeilad yn ddiogel.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Jayne Bryant:

Bydd y Bil pwysig hwn yn trawsnewid diogelwch mewn adeiladau preswyl amlfeddiannaeth ledled Cymru yn sylfaenol.

Ei egwyddorion allweddol yw diogelwch, atebolrwydd a lleisiau preswylwyr, ac mae'n mynd yn ehangach ac ymhellach na deddfwriaeth sy'n bodoli mewn rhannau eraill o'r DU.

Mae'n creu cyfrifoldebau cyfreithiol clir i berchnogion ac eraill, yn rhoi hawliau a llwybrau newydd i breswylwyr godi cwynion, yn galluogi safonau ar gyfer asesiadau proffesiynol, ac yn darparu pwerau gorfodi cadarn pan nad yw gofynion diogelwch yn cael eu bodloni.

Rhaid mai diogelwch a llesiant pobl yn eu cartrefi yw ein blaenoriaeth ni o hyd.

Mae'r Bil hwn yn rhan o raglen ehangach i sicrhau bod adeiladau yng Nghymru yn fwy diogel, a bod pobl yn cael eu gwarchod yn eu cartrefi.

Rhaid i waddol Tŵr Grenfell olygu newid ystyrlon. Er mwyn y rhai a gollodd eu bywydau, eu teuluoedd, a'r goroeswyr, rhaid i ni sicrhau na all trychineb o'r fath byth ddigwydd yng Nghymru.