Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Yn unol â'r cytundeb ar gysylltiadau rhyngsefydliadol, gallaf adrodd i'r Aelodau y mynychais gyfarfod diweddaraf y Grŵp Rhyngweinidogol ar gyfer yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig ar 23 Mehefin 2025.
Cadeiriwyd y cyfarfod gan Jim Fairlie MSP, Gweinidog Amaethyddiaeth a Chysylltedd Llywodraeth yr Alban, a oedd yng nghwmni Mairi Gougeon MSP, Ysgrifennydd y Cabinet dros Faterion Gwledig, Diwygio Tir ac Ynysoedd a Gillian Martin MSP, Ysgrifennydd y Cabinet dros Weithredu yn yr Hinsawdd ac Ynni hefyd ar gyfer Llywodraeth yr Alban.
Roedd Andrew Muir MLA, Gweinidog Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig a Caoimhe Archibald MLA, Gweinidog yr Economi yn bresennol ar gyfer Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Cynrychiolwyd Llywodraeth y DU gan Steve Reed AS, Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, Mary Creagh AS, Is-Ysgrifennydd Gwladol Seneddol dros Natur, y Farwnes Sue Hayman, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yn Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, a Daniel Zeichner AS, y Gweinidog Gwladol dros Ddiogelwch Bwyd a Materion Gwledig.
Cytunodd y Grŵp ar bwysigrwydd cyfarfodydd rheolaidd a'r ymrwymiad ar y cyd i ymgysylltu rhwng llywodraethau.
Fe wnaethom gynnal ail ddeifio dwfn ein cynllun gwaith cytunedig, gan ganolbwyntio ar yr economi gylchol. Trafododd a chytunodd y Grŵp yr angen i warchod ein hadnoddau gwerthfawr, lleihau allyriadau carbon, a thyfu ein heconomïau. Roedd hefyd yn gyfle i nodi blaenoriaethau allweddol ar gyfer pob un o'r pedair llywodraeth fel rhannu tystiolaeth, cydweithrediadau ehangach a nodi cynhyrchion i fynd i'r afael â materion amgylcheddol a gwneud cadwyni cyflenwi yn fwy gwydn.
Ystyriodd y Grŵp barodrwydd ac ymateb i fygythiadau bioddiogelwch cyfredol ac adroddiad y Swyddfa Archwilio Genedlaethol ar 'Resilience to Animal Diseases in England'. Er bod yr adroddiad a'i argymhellion yn Lloegr yn unig, nid yw clefydau yn parchu ffiniau ac felly fe wnaethom gytuno i weithio gyda'n gilydd i ystyried unrhyw gamau sy'n deillio o'r adroddiad.
Fe wnaethom drafod uwchgynhadledd ddiweddar y DU-UE, a gyhoeddodd gytundeb cyd-ddealltwriaeth gyffredin ar draws sawl maes, a'r camau nesaf ar ymgysylltu, trafodaethau a gweithredu. Amlinellais bwysigrwydd parhaus ymgysylltu a gweithio gyda llywodraethau datganoledig, gan fod cymaint o ystyriaethau polisi o fewn y cytundeb yn faterion datganoledig. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ymgysylltu â llywodraethau datganoledig ar y mater hwn. Croesawodd pob parti ddileu rhwystrau i fasnach a thrafododd bwysigrwydd sicrhau bod mesurau bioddiogelwch yn cael eu cynnal i lefelau digonol yn ystod y pontio. Yn y cyfarfod fe wnaethom drafod y Gronfa Pysgodfeydd a Thwf Arfordirol a gyhoeddwyd yn ddiweddar, ac fe wnes i dynnu sylw at fy disgwyliad y dylai'r Gronfa gael ei datganoli a'i gweinyddu gan lywodraethau datganoledig.
Fe wnaethom ystyried cynnydd ar gwblhau Fframweithiau Cyffredin EFRA. Ailbwysleisiais bwysigrwydd yr IMG, gan ei fod yn eistedd ar frig llywodraethu'r Fframweithiau Cyffredin. Buom yn trafod y cysylltiad rhwng cwblhau'r Fframweithiau Cyffredin a'r adolygiad parhaus o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU.
Bydd hysbysiad am y cyfarfod hwn yn cael ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth y DU: https://www.gov.uk/government/publications/communique-from-the-inter-ministerial-group-for-environment-food-and-rural-affairs. (Saesneg yn Unig).
