Neidio i'r prif gynnwy

Y cefndir

Mae Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru yn cynnwys nifer o ymrwymiadau allweddol yn ymwneud â gweledigaeth newydd ar gyfer sut yr ydym yn trawsnewid gofal cymdeithasol plant.

Yn greiddiol i hyn, mae Llywodraeth Cymru eisiau cynorthwyo mwy o blant i aros gyda’u teuluoedd a lleihau nifer y plant a phobl ifanc sy’n ymuno â’r system ofal. O ran y plant sydd mewn gofal, rydym am iddynt aros yn agos i’w cartref er mwyn iddynt allu parhau i fod yn rhan o’u cymuned ac i’w harhosiad yn y system ofal fod mor fyr â phosibl, yn unol â diwallu eu hanghenion lles a datblygu.

Mae ymrwymiad clir i ‘ddileu elw preifat o ofal plant sy’n derbyn gofal’ fel elfen allweddol o’r agenda radical hon. 

Mae dileu elw o ofal yn ymwneud â darpariaeth sy’n seiliedig ar werthoedd ac anghenion. Rydym eisiau newid yn sylfaenol y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau i blant a’u teuluoedd fel rhan o rwydwaith o wasanaethau lleol, cymunedol sy’n rhoi blaenoriaeth lawn i les y person ifanc.

Er bod yr ymrwymiad yn ymwneud â throsglwyddo i fodel gofal nid-er-elw yng Nghymru, nid yw hyn yn ymwneud â disodli un darparwr gan ddarparwr arall. Mae angen i natur a graddfa’r ddarpariaeth esblygu, gan gynnwys modelau gofal, cefnogaeth gofleidiol a modelau perchnogaeth. 

Bwriad y polisi yw sicrhau nad yw arian cyhoeddus a fuddsoddir mewn llety ar gyfer plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cael ei dynnu allan fel elw, ond yn hytrach bod unrhyw warged yn cael ei hail-fuddsoddi yn ôl i’r system er mwyn cefnogi canlyniadau, gwasanaethau a datblygiad proffesiynol gwell. Mae ein gwasanaethau plant yn bodoli er mwyn amddiffyn a gofalu am bobl ifanc yn ein cymunedau, gan ddarparu gwasanaeth hanfodol i’r rhai sydd mewn sefyllfaoedd anodd. Un o ystyriaethau allweddol y gwaith hwn yw canolbwyntio’n gadarn ar ddychwelyd plant sydd mewn lleoliadau i ffwrdd o’u cartrefi a’u cymunedau, lle bo hynny’n cyd-fynd â’u lles.

Ar 24 Mawrth 2025, Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2025 (‘deddf 2025’) yn gyfraith yng Nghymru. Mae Deddf 2025 yn cynnwys darpariaethau y bwriedir iddynt gyfyngu ar allu darparwyr i wneud elw o wasanaethau cartrefi plant, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau maethu. Gelwir y rhain gyda’i gilydd yn ‘wasanaethau plant o dan gyfyngiad’.

Mae deddf 2025 yn amlinellu cyfres o drefniadau, y bwriedir i rai ohonynt ddod i rym o 1 Ebrill 2026 ymlaen, a fydd yn y pen draw yn cyfyngu ar ddarpariaeth y gwasanaethau hyn (ac eithrio darpariaeth awdurdodau lleol) i endidau ‘nid-er-elw’ sydd wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). I fod yn endid ‘nid-er-elw’ cydnabyddedig, rhaid i ddarparwr:

  • fod ag amcanion neu ddibenion sy’n ymwneud yn bennaf â lles plant (neu unrhyw fudd cyhoeddus arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru)
  • gweithredu o dan un o 4 math o ymgymeriad:
    • cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau
    • sefydliad corfforedig elusennol
    • cymdeithas gofrestredig elusennol
    • gwmni buddiant cymunedol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau

Mae’r holl fodelau nid-er-elw hyn sy’n cael eu nodi yn neddf 2025 yn bodloni’r egwyddor na ddylid talu difidendau i gyfranddalwyr neu aelodau ac y dylid ail-fuddsoddi unrhyw wargedion masnachu yn y gwasanaeth (gan gynnwys adeiladu cronfeydd priodol wrth gefn a gwariant cyfalaf). 

Er mwyn sicrhau nad yw’r polisi yn cael ei danseilio gan arferion sy’n groes i’w ysbryd a’i fwriad, mae Deddf 2025 hefyd yn darparu y gall unrhyw daliadau afresymol neu anghymesur a wneir gan ddarparwr nid-er-elw gwasanaethau plant o dan gyfyngiad gael eu cymryd i ystyriaeth gan Weinidogion Cymru wrth benderfynu a yw darparwr yn berson addas a phriodol i gael ei gofrestru.

Amseru trefniadau

Y bwriad yw sicrhau bod darpariaethau perthnasol o ddeddf 2025 yn dod i rym trwy is-ddeddfwriaeth ar yr adeg briodol er mwyn sicrhau’r canlynol:

  • O 1 Ebrill 2026: ni fydd unrhyw ddarparwyr newydd er elw sy’n darparu gwasanaethau plant o dan gyfyngiad (gwasanaethau cartrefi gofal i bant, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau maethu) yn gallu cofrestru yng Nghymru.
  • O 1 Ebrill 2027: ni fydd darparwyr er elw presennol sy’n darparu gwasanaethau cartrefi plant, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau maethu yn gallu ychwanegu unrhyw welyau na gofalwyr maeth ychwanegol.
  • Heb fod yn hwyrach nag Ebrill 2030: ni fydd awdurdodau lleol Lloegr yn trefnu unrhyw leoliadau newydd ar gyfer plant gyda darparwyr er elw presennol sy’n darparu gwasanaethau cartrefi gofal i bant, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau maethu, ac eithrio dan amgylchiadau eithriadol a bennir mewn rheoliadau, neu gan awdurdodau lleol Cymru, oni bai bod cymeradwyaeth y Gweinidog wedi’i sicrhau drwy’r broses lleoliadau atodol a nodir yn Neddf 2025.

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad yn cwmpasu tair prif elfen sy’n ymwneud â chyflwyno Deddf 2025 o 1 Ebrill 2026 ymlaen:

  • Y dull arfaethedig o gofrestru ar gyfer gwasanaethau plant o dan gyfyngiad o 1 Ebrill 2026 ymlaen a newidiadau posibl i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 i ddarparu ar gyfer hyn.
  • Cynigion ar gyfer sut y dylai’r broses datganiadau blynyddol newid er mwyn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad ddangos eu bod yn parhau i fodloni’r diffiniad o endid nid-er-elw a newidiadau posibl i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 i ddarparu ar gyfer hyn.
  • Y dull o fonitro a gorfodi’r prawf person addas a phriodol diwygiedig, gan ddarparu bod trefniadau ariannol afresymol neu anghymesur a wnaed gan ddarparwyr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad yn dystiolaeth y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddi wrth benderfynu a yw’r darparwr yn berson addas a phriodol.

Mae'r gefndir a disgrifiad o'r dull a gynhelir ar gyfer pob un o'r meysydd hyn wedi'i osod allan yn y paragraffau isod.

Y dull arfaethedig o gofrestru ar gyfer gwasanaethau plant o dan gyfyngiad o 1 Ebrill 2026 ymlaen a newidiadau posibl i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017

Mae’r adran hon yn ymwneud â chwestiynau 1 i 4 yr ymgynghoriad.

Y cefndir

Mae adran 3(3) o ddeddf 2025 yn mewnosod adran 6A newydd yn Neddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 ("deddf 2016"). Mae adran 6A(1) yn datgan:

Er mwyn cael ei gofrestru mewn cysylltiad â gwasanaeth plant o dan gyfyngiad, rhaid i berson nad yw’n awdurdod lleol fod yn endid nid-er-elw

Yn ystod y gwaith o ddatblygu deddf 2025, nododd y gweinidogion eu bwriad i gyflwyno’r adran hon er mwyn pennu na fydd unrhyw ddarparwyr er elw newydd sy’n darparu gwasanaethau plant o dan gyfyngiad (gwasanaethau cartrefi gofal i blant, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau maethu) yn gallu cofrestru yng Nghymru o 1 Ebrill 2026 ymlaen.

Newidiadau arfaethedig cofrestru darparwyr newydd

Er mwyn galluogi gweithredu’r gofynion yn adran 6A, bydd angen gwneud newidiadau i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017 ("y rheoliadau cofrestru”). Y rheswm am hyn yw y bydd angen i’r broses gofrestru newid fel bod AGC yn derbyn yr wybodaeth angenrheidiol er mwyn penderfynu a yw darparwyr newydd sy’n gwneud cais i gofrestru o 1 Ebrill 2026 ymlaen yn bodloni’r diffiniad o endid nid-er-elw.

I fod yn endid nid-er-elw, mae adran 6A yn ei gwneud yn ofynnol bodloni 2 amod. amod 1 yw bod yn rhaid i amcanion neu ddibenion yr endid ymwneud yn anad dim â lles plant, neu unrhyw fudd cyhoeddus arall a ragnodir gan Weinidogion Cymru.

Amod 2 yw bod yn rhaid i’r endid nid-er-elw fod yn un o’r mathau canlynol o ymgymeriad:

  • cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau
  • sefydliad corfforedig elusennol
  • cymdeithas gofrestredig elusennol
  • gwmni buddiant cymunedol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfrannau

Rydym yn bwriadu diwygio’r rheoliadau cofrestru er mwyn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd sy’n gwneud cais i gofrestru ddarparu tystiolaeth ei fod yn bodloni’r ddau amod hyn. Bydd hyn yn cynnwys:

  • Tystiolaeth ei fod yn fath o endid nid-er-elw a ganiateir gan adran 6A.
  • Manylion cofrestriad y sefydliad gyda Swyddfa’r Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiant Cymunedol lle mae’r sefydliad yn Gwmni Buddiant Cymunedol cyfyngedig trwy warant heb gyfalaf cyfrannau ("CIC”).
  • Manylion cofrestriad y sefydliad gyda’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn y Gofrestr Gyhoeddus o Gymdeithasau Cydfuddiannol lle mae’r sefydliad yn gymdeithas gofrestredig elusennol, yn ogystal â thystiolaeth bod CThEF wedi cydnabod ei statws elusennol.
  • Tystiolaeth o amcanion neu ddibenion yr endid nid-er-elw. Rhagwelir y byddai sefydliad yn gwneud hyn trwy gyflwyno ei ddogfennau cyfansoddiadol fel erthyglau cymdeithasu a memorandwm cymdeithasu.

O ran cwmni elusennol cyfyngedig trwy warant heb gyfalaf cyfrannau a sefydliad corfforedig elusennol, mae’r Rheoliadau Cofrestru eisoes yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparu rhif elusen os yw’r ymgeisydd sy’n gwneud cais i gofrestru yn elusen.

Dull gweithredu arfaethedig darparwyr er elw presennol sy’n ceisio ailsefydlu fel endid nid-er-elw

O ganlyniad i gyflwyno deddf 2025, mae’n bosibl y bydd rhai darparwyr er elw presennol sy’n darparu gwasanaethau cartrefi gofal i blant, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau maethu yn ceisio ailsefydlu eu busnesau o dan un o’r modelau nid-er-elw a ganiateir sydd wedi’u nodi yn yr adran 6A newydd (ac a restrir uchod). Dan yr amgylchiadau hyn, byddai angen i ddarparwr wneud cais i AGC i gofrestru’r endid newydd fel darparwr gwasanaethau. 

Mae adran 3(2) o ddeddf 2025 yn nodi bod yn rhaid i gais o’r fath i gofrestru’r endid newydd gynnwys gwybodaeth i fodloni Gweinidogion Cymru bod y darparwr gwasanaethau yn bodloni’r amodau nid-er-elw yn adran 6A. Ni chaiff Gweinidogion Cymru ond caniatáu cais os ydynt wedi eu bodloni bod y darparwr gwasanaethau yn bodloni’r amodau hyn.

Yn yr un modd â’r drefn ar gyfer cofrestru darparwyr newydd, bwriedir diwygio’r Rheoliadau Cofrestru er mwyn ei gwneud yn ofynnol i ymgeisydd sy’n gwneud cais i gofrestru ddarparu tystiolaeth ei fod yn bodloni’r amodau yn adran 6A. Bydd hyn yn cynnwys yr un gofynion gwybodaeth ag a restrwyd yn gynharach yn y bennod hon. Fel yn achos darparwyr newydd, mae’r Rheoliadau Cofrestru eisoes yn ei gwneud yn ofynnol bod rhif elusen yn cael ei ddarparu os yw ymgeisydd sy’n gwneud cais i gofrestru fel elusen.

Os yw darparwr presennol er elw gwasanaeth cartref gofal i blant, gwasanaeth llety diogel neu wasanaeth maethu eisoes wedi’i gofrestru gyda AGC ac yn dymuno ailsefydlu ei fusnes a chofrestru fel endid nid-er-elw, rydym yn cydnabod y posibilrwydd na fydd angen rhai o’r gofynion gwybodaeth eraill a fyddai’n berthnasol fel arfer i ddarparwr gwasanaethau sy’n cofrestru am y tro cyntaf, oherwydd ei bod yn bosibl bod AGC eisoes yn meddu ar yr wybodaeth sydd ei hangen arni.

Felly, yn ymarferol, bydd AGC ddim ond yn gofyn i’r darparwyr hyn am yr wybodaeth a’r dogfennau sydd eu hangen arni i fodloni ei hun bod yr endid yn bodloni’r amodau nid-er-elw newydd a nodir yn adran 6A. Yn ogystal â’r gofynion ar gyfer darparwyr newydd a restrir yn gynharach yn y bennod hon, mae hyn hefyd yn debygol o ganolbwyntio ar benderfynu a yw unrhyw Unigolyn Cyfrifol newydd yn gymwys ac yn addas, a bod holl ddogfennau, polisïau a gweithdrefnau’r darparwr yn cyd-fynd â’r endid cyfreithiol newydd sydd wedi’i sefydlu.

Dull gweithredu arfaethedig darparwyr nid-er-elw presennol

O ganlyniad i gyflwyno deddf 2025, bydd angen i holl ddarparwyr nid-er-elw presennol gwasanaethau cartrefi gofal i blant, gwasanaethau llety diogel a gwasanaethau maethu wneud cais i AGC i amrywio eu cofrestriad er mwyn dangos eu bod yn bodloni’r amodau nid-er-elw a nodir yn adran 6A. Wrth wneud hyn, byddant yn osgoi dod yn ddarostyngedig i unrhyw amodau a osodir ar ddarparwyr gwasanaethau presennol gan reoliadau y bwriedir iddynt ddod i rym erbyn Ebrill 2027 er mwyn eu gwahardd rhag ychwanegu unrhyw welyau neu ofalwyr maeth newydd (gweler "Cefndir" uchod).

Fel y nodir yn yr adrannau blaenorol, byddai angen i unrhyw gais i amrywio cofrestriad gynnwys yr un wybodaeth ag a restrwyd ar gyfer darparwyr newydd yn gynharach yn y bennod hon er mwyn bodloni Gweinidogion Cymru bod y darparwr gwasanaethau yn bodloni’r amodau yn adran 6A i fod yn endid nid-er-elw. Ni chaiff Gweinidogion Cymru ganiatáu cais i amrywio oni bai eu bod wedi’u bodloni bod y darparwr gwasanaethau yn bodloni’r amodau hyn.

Byddai’r dull o gasglu gwybodaeth a nodir uchod yn cael ei gymhwyso hefyd i ddarparwyr nid-er-elw presennol.

Amseru arfaethedig a dull trosiannol cofrestriadau

Fel y nodir uchod, bwriedir i’r newidiadau arfaethedig sicrhau bod yn rhaid i unrhyw ddarparwyr newydd ar gyfer gwasanaethau plant o dan gyfyngiad sy’n gwneud cais i gofrestru i weithredu yng Nghymru fod yn endid nid-er-elw (oni bai eu bod yn awdurdod lleol) o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Fodd bynnag, rydym yn bwriadu cyflwyno darpariaethau (a elwir yn ddarpariaethau trosiannol neu arbedion) er mwyn caniatáu i ddarparwyr gael eu trin fel pe bai’r ddeddfwriaeth flaenorol yn berthnasol iddynt os ydynt yn cyflwyno eu cais i AGC erbyn dyddiad penodol cyn i adran 6A ddod i rym ar 1 Ebrill 2026. Mae perygl y gall ymgeiswyr sy’n cyflwyno eu cais ar ôl y dyddiad a nodir yn y darpariaethau weld eu cais yn cael ei wrthod oherwydd bod y gofynion adran 6A newydd a’r darpariaethau cysylltiedig yn dod i rym tra bod eu cais wrthi’n cael ei ystyried.

Byddai cyflwyno darpariaeth o’r fath yn rhoi mwy o sicrwydd i ddarparwyr sy’n ceisio cofrestru cyn i adran 6A ddod i rym ar 1 Ebrill 2026, ynghylch y dyddiad terfyn ar gyfer pryd y gallai AGC ystyried eu cais o dan y ddeddfwriaeth flaenorol. Nid oes dyddiad pendant wedi’i bennu eto; fodd bynnag, rydym yn rhagweld mai yn gynnar ym mis Ionawr 2026 y bydd hyn.

Newidiadau arfaethedig i’r broses datganiadau blynyddol er mwyn galluogi darparwyr i ddangos statws nid-er-elw parhaus gan gynnwys newidiadau i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017

Mae’r adran hon yn ymwneud â chwestiynau 5 a 6 yr ymgynghoriad.

Y cefndir

Mae adran 10 o ddeddf 2016 yn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau gyflwyno Datganiad Blynyddol i Weinidogion Cymru (yn ymarferol, i AGC) ar ôl diwedd pob blwyddyn ariannol y maent wedi’u cofrestru ar ei chyfer. Bydd y drefn hon yn parhau ar gyfer gwasanaethau plant o dan gyfyngiad.

Newid arfaethedig cadarnhau statws nid-er-elw 

Bwriedir newid y broses datganiadau blynyddol mewn perthynas â gwasanaethau plant o dan gyfyngiad, drwy gyflwyno diwygiad i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017 ("y rheoliadau datganiadau blynyddol").

Yn benodol, bwriedir diwygio’r Rheoliadau Datganiadau Blynyddol er mwyn ei gwneud yn ofynnol i ddarparwyr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad gadarnhau bod eu sefydliad yn parhau i fodloni’r diffiniad o endid nid-er-elw, fel y nodir yn adran 6A.

Er mai prif fwriad datganiadau blynyddol yw darparu modd syml i aelodau’r cyhoedd weld gwybodaeth am ddarparwyr sy’n gywir, yn berthnasol, yn gymaradwy ac yn seiliedig ar dystiolaeth, byddai ein diwygiad arfaethedig hefyd yn galluogi AGC i dderbyn sicrwydd gan ddarparwyr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad a gofrestrwyd ar neu ar ôl 1 Ebrill 2026 eu bod yn parhau i fodloni’r diffiniad o endid nid-er-elw.

Mae adran 47 o Ddeddf 2016 yn nodi ei bod yn drosedd i berson wneud datganiad y mae’r person yn gwybod ei fod yn anwir neu’n gamarweiniol mewn ffordd berthnasol mewn datganiad blynyddol. Gall y drosedd hon arwain at hysbysiad cosb neu orfodi troseddol. Felly, pe bai darparwr yn datgan ei fod yn parhau i fodloni amodau adran 6A, a bod AGC yn cael neu’n canfod gwybodaeth sy’n dangos nad yw hyn yn wir, byddai AGC yn gallu cymryd camau gorfodi yn erbyn y darparwr.

Dull monitro a gorfodi arfaethedig ar gyfer yr adran ‘trefniadau ariannol afresymol neu anghymesur’ newydd a ychwanegwyd at Ddeddf 2016

Mae’r adran hon yn ymwneud â chwestiynau 7 i 9 yr ymgynghoriad.

Y cefndir

Mae adran 6(3) o ddeddf 2025 yn mewnosod adran 9A newydd yn Neddf 2016 er mwyn darparu bod trefniadau ariannol afresymol neu anghymesur a wnaed gan ddarparwr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad yn dystiolaeth y mae’n rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw iddi wrth benderfynu a yw’r darparwr yn berson addas a phriodol. Dim ond ar ôl i’r darparwr gael ei gofrestru y mae’r gofynion ‘person addas a phriodol’ penodol hyn yn berthnasol, ac nid ar yr adeg cofrestru.

Rheoleiddwyr presennol

Mae gan bob un o’r 4 math o endid nid-er-elw a nodir yn adran 6A (a restrir yn adran "cofrestru ar gyfer gwasanaethau plant o dan gyfyngiad" uchod) reoleiddiwr presennol, ochr yn ochr ag AGC, fel a ganlyn:

  • Cwmni elusennol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfranddaliadau. Mae'r math hwn o sefydliad yn cael ei reoleiddio gan Gomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr yn ogystal â CIW.
  • Sefydliad elusennol corfforedig. Mae'r math hwn o sefydliad yn cael ei reoleiddio gan Gomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr yn ogystal â CIW.
  • Cymdeithas gofrestredig elusennol. Mae'r math hwn o sefydliad yn cael ei reoleiddio gan Gomisiwn Elusennau Cymru a Lloegr ac Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) yn ogystal â CIW.
  • Cwmni buddiannau cymunedol cyfyngedig drwy warant heb gyfalaf cyfranddaliadau. Mae'r math hwn o sefydliad yn cael ei reoleiddio gan Swyddfa Rheoleiddiwr Cwmnïau Buddiannau Cymunedol (Rheoleiddiwr CIC) yn ogystal â CIW.

Ystyrir ymgymeriad cymdeithas gofrestredig elusennol yn "elusen wedi’i hesemptio" o dan gyfraith y DU. Mae hyn yn golygu nad oes angen iddo gofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau ond bod cyfraith elusennau yn berthnasol iddo a bod yn rhaid iddo gydymffurfio â’i gofynion.  Rhaid i bob cymdeithas gofrestredig elusennol fod wedi’i chofrestru yn y Gofrestr Gyhoeddus o Gymdeithasau Cydfuddiannol  a gynhelir gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol.

Dull monitro a gorfodi arfaethedig

Mae gan y rheoleiddwyr presennol a restrir uchod ystod o bwerau i fonitro a gorfodi gweithgareddau’r endidau nid-er-elw perthnasol. Mae’r rhain yn cynnwys pwerau i gychwyn ymchwiliadau ac ymholiadau ar gyfer gweithgareddau a allai ddod o dan ddiffiniad adran 9A o drefniadau ariannol afresymol neu anghymesur. Yn y pen draw, mae gan y rheoleiddwyr hyn bwerau i gyhoeddi rhybuddion swyddogol ac anghymhwyso ymddiriedolwyr (yn achos y Comisiwn Elusennau), i ganslo cofrestriad (yn achos yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol) neu i symud cyfarwyddwyr neu ddwyn achos sifil (yn achos y rheoleiddiwr CIC).

O ystyried yr uchod, mae AGC yn bwriadu rhoi cytundebau ar waith gyda’r rheoleiddwyr priodol er mwyn sicrhau bod AGC yn cael ei hysbysu pan fydd y rheoleiddwyr hyn wedi cymryd camau yn erbyn endid nid-er-elw sydd hefyd wedi’i gofrestru gyda AGC fel darparwr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad. Ar sail hyn (neu ar sail pryderon y mae AGC yn eu derbyn yn uniongyrchol h.y. trwy chwythwyr chwiban) gall AGC benderfynu a oes angen ymchwilio ymhellach i’r mater. Yn y pen draw, os daw AGC i’r casgliad bod trefniadau ariannol afresymol neu anghymesur wedi digwydd, byddai’n gallu defnyddio ei hystod bresennol o bwerau gorfodi, gan gynnwys canslo cofrestriad darparwr os yw’n credu bod angen gwneud hynny.

Ar hyn o bryd, nid yw’n hysbys faint yn union o ddarparwyr gwasanaethau plant o dan gyfyngiad nid-er-elw nad ydynt yn awdurdodau lleol a fydd yn cofrestru gydag AGC o 1 Ebrill 2026 ymlaen. Os oes nifer sylweddol o ddarparwyr nid-er-elw newydd yn ymuno â’r sector, rydym yn cydnabod y gallai hyn gyfiawnhau camau ychwanegol gan AGC er mwyn cynnal dull monitro a gorfodi cadarn. Hefyd, mae’n bosibl y bydd angen mesurau ychwanegol ar AGC os yw’r rheoleiddwyr eraill yn codi pryderon, er enghraifft os oes cynnydd sylweddol mewn darparwyr nid-er-elw newydd sy’n effeithio ar eu gallu i wneud gwaith monitro a gorfodi cadarn. Yn y pen draw, bydd trefniadau’n cael eu hadolygu yn ystod blynyddoedd cyntaf gweithredu’r system, a bydd camau monitro a gorfodi ychwanegol yn cael eu hystyried os bydd pryderon ychwanegol yn codi.

Cwestiynau ymgynghoriad

Y dull arfaethedig o gofrestru ar gyfer gwasanaethau plant o dan gyfyngiad o 1 Ebrill 2026 ymlaen a newidiadau posibl i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Cofrestru) (Cymru) 2017

Cwestiwn 1

Beth yw eich barn ar y newidiadau arfaethedig i’r rheoliadau cofrestru?  Rhannwch unrhyw awgrymiadau ar gyfer unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau yr hoffech eu gweld.

Cwestiwn 2

Pa effaith (gan gynnwys unrhyw gostau neu fuddion) y credwch y gallai’r newidiadau arfaethedig i’r rheoliadau cofrestru ei chael ar sefydliadau neu sectorau gwahanol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol? 

Cwestiwn 3

Byddwn yn gweithio i sicrhau bod y newidiadau arfaethedig i’r rheoliadau cofrestru yn cael eu cefnogi gan ganllawiau cadarn er mwyn helpu darparwyr, plant sy’n derbyn gofal, eu teuluoedd a’u gofalwyr i ddeall sut y dylai’r system weithredu. Pa bynciau neu faterion penodol y dylai’r canllawiau ymdrin â nhw er mwyn helpu pobl i ddeall y newidiadau i reoliadau?

Cwestiwn 4

Beth yw eich barn chi am yr amseriadau arfaethedig a’r dull trosiannol o gofrestru? Nodwch unrhyw oblygiadau neu risgiau sy’n gysylltiedig â’r trefniadau hyn, gan gynnwys y cynnig i gyflwyno dyddiad cau ar gyfer ymdrin â cheisiadau fel pe bai’r ddeddfwriaeth flaenorol yn berthnasol.

Newidiadau arfaethedig i’r broses datganiadau blynyddol er mwyn galluogi darparwyr i ddangos statws nid-er-elw parhaus gan gynnwys newidiadau i Reoliadau Gwasanaethau Rheoleiddiedig (Datganiadau Blynyddol) (Cymru) 2017

Cwestiwn 5

Beth yw eich barn ar y newidiadau arfaethedig i’r rheoliadau datganiadau blynyddol? Rhannwch unrhyw awgrymiadau ar gyfer unrhyw newidiadau neu ychwanegiadau yr hoffech eu gweld.

Cwestiwn 6

Pa effaith (gan gynnwys unrhyw gostau a/neu fuddion) y credwch y gallai’r newidiadau arfaethedig i’r rheoliadau datganiadau blynyddol ei chael ar sefydliadau neu sectorau gwahanol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol?

Dull monitro a gorfodi arfaethedig ar gyfer yr adran ‘trefniadau ariannol afresymol neu anghymesur’ newydd a ychwanegwyd at Ddeddf 2016

Cwestiwn 7

Beth yw eich barn ar y dull arfaethedig o fonitro a gorfodi ar gyfer trefniadau ariannol afresymol neu anghymesur?

Cwestiwn 8

Pa effaith (gan gynnwys unrhyw gostau neu fuddion) y credwch y gallai’r dull arfaethedig o fonitro a gorfodi ar gyfer trefniadau ariannol afresymol neu anghymesur ei chael ar sefydliadau neu sectorau gwahanol yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol?

Cwestiwn 9

Byddwn yn gweithio i sicrhau bod y dull arfaethedig o fonitro a gorfodi ar gyfer trefniadau ariannol afresymol neu anghymesur yn cael ei gefnogi gan ganllawiau cadarn er mwyn helpu darparwyr, plant sy’n derbyn gofal, eu teuluoedd a’u gofalwyr i ddeall sut y bydd y system yn gweithredu. Pa bynciau neu faterion penodol y dylai’r canllawiau eu cwmpasu er mwyn disgrifio’r dull arfaethedig ymhellach?

Cwestiynau eraill

Cwestiwn 10

Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol y cynigion ar y Gymraeg?  Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

  • Ydych chi’n meddwl bod cyfleoedd i hyrwyddo unrhyw effeithiau cadarnhaol?
  • Ydych chi’n credu bod cyfleoedd i liniaru unrhyw effeithiau andwyol?   

Cwestiwn 11

Yn eich barn chi, a ellid geirio neu newid y cynigion er mwyn:

  • cael effeithiau cadarnhaol neu effeithiau mwy cadarnhaol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg
  • liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg?

Cwestiwn 12

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Os oes gennych unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi mynd i’r afael â nhw’n benodol, defnyddiwch y lle hwn i roi gwybod amdanynt.

Sut i ymateb

Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 8 Hydref 2025, yn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:

  • cwblhewch ein ffurflen ar-lein
  • llwythwch i lawr, cwblhewch ein ffurflen ymateb ac e-bostiwch at: removingprofit@gov.wales (cofiwch gynnwys y cyfeirnod WG52314 ym mhwnc eich e-bost)
  • llwythwch i lawr, cwblhewch ein ffurflen ymateb a'i phostio at:

Rhif: WG52314
Tîm Polisi Dileu Elw  
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Eich hawliau

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:

  • i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
  • i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
  • (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
  • (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
  • (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
  • i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.

Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni

I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:

Y Swyddog Diogelu Data

Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF

Ffôn : 01625 545 745 neu 0303 123 1113

Gwefan Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth.

Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data

Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad. Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel. Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.

Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.

Manylion cyswllt

I gyfer gwybodaeth bellach am y ymgynghoriad hwn cysylltwch â:

Tîm Polisi Dileu Elw  
Cyfarwyddiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol ac Integreiddio
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: removingprofit@gov.wales

Mwy o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Rhif: WG52314

Mae fersiynau print mawr, Braille a iaith amgen o'r ddogfen hon ar gael ar gais.