Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi plant i gael y dechrau gorau mewn bywyd. Felly, rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd o ran yr ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i ehangu'r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar i gynnwys pob plentyn 2 oed, gyda phwyslais arbennig ar gryfhau'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg.

Dechreuodd Cam 2 y rhaglen i ehangu gofal plant Dechrau'n Deg, i fynd tu hwnt i’r codau post Dechrau Deg,  yn Ebrill 2023. Roedd yn canolbwyntio ar ddarparu gofal plant o ansawdd uchel i blant 2 oed. Yn ystod 2023-24 a 2024-25 fe wnaethom fuddsoddi £46m i ehangu gofal plant Dechrau'n Deg. 

Rwy'n falch iawn bod y data diweddaraf ar gyfer gofal plant Dechrau'n Deg yn dangos dros ddwy flynedd o gyflwyno Cam 2 (2023-24 a 2024-25), wedi rhagori ar ein targed o gefnogi 9,500 yn rhagor o blant 2 oed i allu manteisio ar ofal plant Dechrau'n Deg safonol. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos ein bod ni, yn y cyfnod hwn, wedi cynnig lleoedd gofal plant i dros 13,400 o blant a theuluoedd ledled Cymru. Mae dros 10,000 o'r plant hyn wedi elwa ar y rhaglen drwy fanteisio ar un o leoedd gofal plant Dechrau'n Deg. Mae'r data diweddaraf yn dangos bod dros 80% o blant wedi manteisio ar eu lle gofal plant Dechrau'n Deg yn 2024-25. 

Mewn lleoliadau blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, mae plant hefyd yn profi'r manteision sy'n aml yn dod o fod yn ddwyieithog. Yn ystod dwy flynedd gyntaf Cam 2, cafodd mwy na 2,000 o'r holl leoedd eu cymryd mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg. 

Mae'r ystadegau hyn yn dangos gwerth y ddarpariaeth gofal plant ychwanegol i deuluoedd ledled Cymru. Rwy'n falch o ymroddiad ein gweithlu gofal plant Dechrau'n Deg ac yn ddiolchgar iddynt am eu rôl wrth gefnogi plant a theuluoedd yng Nghymru. 

Rydym yn parhau i weithio tuag at ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ehangu’r ddarpariaeth ar gyfer y blynyddoedd cynnar er mwyn cynnwys pob plentyn dwy oed, gan roi pwyslais penodol ar gryfhau’r ddarpariaeth Gymraeg. Yn 2025-26 rydym yn buddsoddi £25m ychwanegol i gefnogi'r gwaith ehangu pellach ar gyfer gofal plant Dechrau'n Deg o ansawdd uchel ledled Cymru. Bydd hyn yn dod â Chymru gam yn nes at y ddarpariaeth gyffredinol o ofal plant i bob plentyn dwy oed.

Bydd y cyllid ychwanegol hwn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol i fywyd a chynnydd miloedd o blant ledled Cymru, ym mhob ardal awdurdod lleol, ac yn cynnig cyfleoedd i fwy o blant gael manteisio ar ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. 

Mae pob awdurdod lleol wedi nodi cynlluniau ynghylch sut y byddant yn parhau i ehangu gofal plant Dechrau'n Deg yn eu hardaloedd. Bydd y cyllid ychwanegol yr ydym yn ei fuddsoddi yn ein galluogi ni i ehangu cyrhaeddiad gofal plant Dechrau'n Deg, gan sicrhau bod gofal plant ar gael i'r mwyafrif o blant dwy oed a nodwyd yn y cynlluniau hynny yn 2025-26.Bydd nifer y plant ychwanegol a fydd wedi'u cyrraedd erbyn Cam 3 Dechrau'n Deg yn dibynnu ar gyfraddau'r rhai a fydd yn manteisio ar y ddarpariaeth. Fodd bynnag, byddem yn disgwyl i Gam 3 gyrraedd mwy na 4,000 o blant yn 2025-26.

Edrychaf ymlaen at ddarparu rhagor o wybodaeth am gynnydd y rhaglen maes o law.