Neidio i'r prif gynnwy

Mae mwy o deuluoedd nag erioed yn elwa ar ofal plant o ansawdd uchel, gofal sydd wedi'i ariannu, wrth i raglen Dechrau'n Deg Cymru ragori ar y targedau ehangu.

Cyhoeddwyd gyntaf:
9 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Dechreuodd Cam 2 rhaglen Llywodraeth Cymru i ehangu gofal plant Dechrau'n Deg i bob plentyn 2 oed yng Nghymru ym mis Ebrill 2023.

Ers hynny, mae mwy na 10,000 o blant wedi elwa ar ofal plant Dechrau'n Deg, gan ragori ar y targed gwreiddiol o gyrraedd 9,500 o blant ychwanegol.

Dros y 2 flynedd ddiwethaf, mae mwy na 13,400 o blant a theuluoedd Cymru wedi cael cynnig gofal plant wedi'i ariannu, a manteisiodd 80% ar leoedd yn 2024 i 2025.

Mae rhaglen ehangu Dechrau'n Deg yn darparu 12.5 awr o ofal plant am ddim, o ansawdd uchel bob wythnos i blant 2 oed cymwys.

Dywedodd y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, Dawn Bowden:

Mae'r ehangu sylweddol hwn wedi rhagori ar ein targedau, gan ddod â chymorth blynyddoedd cynnar o safon i filoedd yn fwy o blant.

Mae darpariaeth o ansawdd uchel yn y blynyddoedd cynnar yn helpu i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl o ran datblygiad plant, ac yn cyfrannu at roi'r dechrau gorau iddynt mewn bywyd. Dw i'n teimlo balchder aruthrol yng ngweithlu Dechrau'n Deg am wneud hyn yn bosibl wrth inni weithio tuag at ofal plant i bob plentyn 2 oed.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £25 miliwn ychwanegol eleni i gefnogi'r ehangu er mwyn cyrraedd mwy o deuluoedd yng Nghymru, ac mae disgwyl i gam 3 gyrraedd mwy na 4,000 o blant ychwanegol ledled y wlad.

Mae'r rhaglen hefyd yn cefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, â mwy na 2,000 o leoedd yn cael eu cymryd mewn lleoliadau cyfrwng Cymraeg yng ngham 2.

Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg, Mark Drakeford:

Mae'n galonogol gweld mwy o deuluoedd yn dewis gofal plant cyfrwng Cymraeg. Mae cyflwyno plant i'r iaith o'u blynyddoedd cynnar yn rhoi manteision parhaol iddynt, ac yn ategu ein huchelgais i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.