Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn dilyn gwrandawiad cyn penodi’r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar 11 Mehefin a chyn iddo gymeradwyo Mr Nilesh (Neil) Sachdev fel yr ymgeisydd a ffefrir, mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod wedi penodi Mr Sachdev i ymgymryd â'r rôl fel Cadeirydd newydd Bwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru. Rwy'n ddiolchgar i waith craffu'r Pwyllgor ar y broses benodi hon.

Mae'r Cadeirydd yn gyfrifol am arwain y Bwrdd wrth sefydlu gweledigaeth a chyfeiriad strategol Cyfoeth Naturiol Cymru, o fewn cyd-destun nodau strategol Llywodraeth Cymru a'r fframwaith polisi ac adnoddau a bennwyd gan y Gweinidog. Bydd y Cadeirydd, gyda'r Bwrdd, yn sicrhau bod gweithgareddau Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael eu cynnal yn effeithlon ac yn effeithiol a bydd yn hyrwyddo safonau uchel o gyllid cyhoeddus, gan gynnal egwyddorion rheoleidd-dra, priodoldeb a gwerth am arian. 

Mae Mr Sachdev yn dod â chyfoeth o brofiad gydag ef o weithio yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, ac rwy'n hyderus y bydd yn rhoi'r gefnogaeth a'r arweinyddiaeth angenrheidiol i Cyfoeth Naturiol Cymru i helpu i lunio'r sefydliad i gwrdd â'r heriau gwirioneddol sydd i ddod, yn unol â Rhaglen Lywodraethu 2021-26 (a Llywodraethau dilynol). Yn amodol ar y gwiriadau cyn penodi, bydd Mr Sachdev yn ymgymryd â'i rôl ar 1 Tachwedd 2025. Y gydnabyddiaeth ariannol ar gyfer y rôl yw £67,600 y flwyddyn. Ymrwymiad amser y rôl yw lleiafswm o 104 diwrnod y flwyddyn. 

Caiff y penodiad hwn ei wneud yn unol â'r Cod Llywodraethu ar Benodiadau Cyhoeddus, lle caiff pob penodiad ei wneud yn ôl teilyngdod ac nid yw gweithgarwch gwleidyddol yn chwarae unrhyw ran yn y broses ddethol. 

Hoffwn hefyd ddiolch i Syr David Henshaw, Cadeirydd presennol Cyfoeth Naturiol Cymru, am y cyfraniadau sylweddol y mae wedi'u gwneud yn ystod ei wasanaeth ers 2018.