Mark Drakeford MS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
Mae CThEF wedi cyhoeddi ystadegau alldro blynyddol ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymru yn 2023-24. Mae’r ystadegau alldro yn dangos bod cyfraddau treth incwm Cymru yn 2023-24 wedi codi £2,968m, sydd £350m neu 13% yn fwy na 2022-23.
Mae dolen i’r ystadegau i’w chael yn:
Ystadegau Alldro Treth Incwm Cymru a'r Alban - GOV.UK (www.gov.uk)
Mae’r ystadegau alldro treth incwm yn darparu cyfraddau refeniw treth incwm Cymru a’r refeniw treth incwm cyfwerth ar gyfer Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd y ffigurau alldro yn cael eu defnyddio i gyfrifo addasiad terfynol i’r grant bloc ar gyfer 2023-24.
Bydd y gwahaniaeth rhwng yr alldro a’r rhagolygon a ddefnyddiwyd yng Nghyllideb 2023-24 yn cael ei gymhwyso i’r grant bloc ar gyfer 2026-27 fel addasiad cysoni. Er y bydd y caiff manylion terfynol y swm cysoni eu pennu ar ôl i'r amcangyfrifon poblogaeth diwygiedig ar gyfer 2023 gael eu cyhoeddi ar ddiwedd mis Gorffennaf, bydd y cysoniad net yn cael effaith gadarnhaol ar gyllid Llywodraeth Cymru ar gyfer 2026-27.
Pan fydd y cysoni wedi'i gwblhau, bydd Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn cyhoeddi datganiad y cytunir arno ar y cyd yn nodi'r manylion. Y bwriad yw sicrhau tryloywder llawn yn y Fframwaith Cyllidol, a helpu i wella’r ddealltwriaeth ehangach o’r Fframwaith.
