Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwyf wedi ymgysylltu’n helaeth â rhanddeiliaid ar y camau nesaf at gyflwyno Cynllun Dychwelyd Ernes (CDE) i Gymru. Ynghlwm wrth y gwaith yma y mae’r diwydiant diodydd, y sectorau manwerthu a deunyddiau, sefydliadau amgylcheddol, y Sefydliad Rheoli Ernes a benodwyd gan Lywodraeth y DU, a chydweithwyr yn Llywodraethau y DU, Gogledd Iwerddon a’r Alban. Mae’r trafodaethau hyn wedi amlygu o’r newydd bwysigrwydd CDE sy’n cyflawni manteision gweladwy i Gymru wrth elwa i’r eithaf ar ryngweithredu ledled y DU.

Mae gan Gymru hanes balch o fod ar flaen y gad o ran ailgylchu ac mae ein CDE yn cael ei ddatblygu i adeiladu ar y llwyddiant yma, yn hytrach na’i lesteirio. Wrth gynllunio'r camau nesaf, rydym yn canolbwyntio ar sicrhau y bydd yn ategu ymdrechion aelwydydd, busnesau, awdurdodau lleol a phartneriaid o fewn y diwydiant ledled Cymru. Wrth wneud hynny, rydym yn efelychu arferion gorau cynlluniau rhyngwladol lle mae ailddefnyddio eisoes yn sicrhau manteision go iawn i gynhyrchwyr a defnyddwyr.

Rwy’n ddiolchgar am y cydweithredu adeiladol sydd gennym â diwydiant, sy’n helpu i lywio’r cynllun mewn modd uchelgeisiol ac ymarferol. Er bod Cymru wedi parhau i ddilyn y dull gweithredu y cytunwyd arno ar lefel y DU gyfan, rwyf hefyd wedi gwrando’n ofalus ar y pryderon a fynegwyd gan y diwydiant ynghylch ffaith nad oes un dull gweithredu sy’n gweithio i’r DU gyfan bellach. Mae’r sefyllfa hon y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru, gan ei bod yn deillio yn uniongyrchol o benderfyniadau Llywodraeth flaenorol y DU i wyro oddi wrth y dull y cytunwyd arno o ran CDE oedd yn cynnwys gwydr. Rwy’n cydnabod pwysigrwydd cymryd camau i osgoi canlyniadau anfwriadol ac rwy’n ymwybodol iawn o bwysigrwydd y materion hyn. 

Mae’r diwydiant wedi pwysleisio’n gwbl glir y gallai cyflwyno CDE yn y DU heb gynnwys Cymru greu’r risg fwyaf o gymhlethdod gweithredol a chostau cysylltiedig. Rwyf felly wedi pwysleisio i’r diwydiant ein bod ni’n barod i gyflymu ein hamserlen weithredu i gyd-fynd â gweddill y DU er mwyn sicrhau rhyngweithredu rhwng deunyddiau cyffredin.

Mae gwydr o fewn cwmpas ein cynllun o hyd, sy’n golygu y byddwn ni yng Nghymru yn gallu dechrau cyflwyno ailddefnyddio fel rhan graidd o'r cynllun. Mae hefyd yn golygu y gallwn barhau i wella cyfraddau ailgylchu gwydr yn erbyn ein perfformiad sylfaenol - trwy wella ailgylchu tra bo pobl ar grwydr - gan fynd i'r afael â sbwriel sy’n deillio o bob math o gynhwysyddion diodydd. Canfu arolygon gan Gadwch Gymru'n Daclus yn 2023- 24, fod sbwriel sy'n gysylltiedig â diodydd wedi'i ganfod ar 43.6% o strydoedd Cymru. Mae nifer y poteli gwydr sy’n cael eu taflu fel sbwriel wedi mwy na dyblu mewn pedair blynedd, ac mae gwydr wedi torri yn peri perygl cynyddol yn enwedig mewn parciau, ardaloedd chwarae a lleoliadau arfordirol. Felly mae mynd i'r afael â'r mater hwn yn agwedd ganolog ar ein hymrwymiad i'n cymunedau ac yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru), gan sicrhau bod ein cynllun yn cyflawni dros ein cymunedau a’n hamgylchedd

Rwy’n cydnabod yr angen am drefniadau clir er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn deillio o’r gwahaniaeth o ran cwmpas. Yn benodol, mae'r diwydiant wedi amlygu’r angen i gyflwyno’n raddol lle nad oes gofyn cael labelu gwahanol a lle na fydd risg o dwyll, gan y byddai hyn hefyd yn atal unrhyw effeithiau ar drefniadau cynhyrchu a dosbarthu presennol. Dyma ateb ymarferol a phragmatig y byddwn felly'n gweithio i'w ymgorffori yn y cynllun. 

Wrth i ni symud ymlaen, byddwn yn parhau cydweithio’n agos gyda'r diwydiant ac awdurdodau lleol i gyflwyno cynllun teg a syml, a gall ehangu'n gyflym ac un sy'n cefnogi busnesau i fanteisio ar y cyfleoedd leihau costau deunyddiau gan sicrhau nad oes neb yn cael eu gadael ar eu hôl. Wrth wneud hynny, rydw i’n ymwybodol o'r materion ehangach sydd yn effeithio ar y sector, yn enwedig busnesau bach a chanolig, ac felly rydym yn gweithio gyda nhw i sicrhau bod trefniadau synhwyrol fel eithriadau ar gyfer cynhyrchion cyfaint isel.

Mae dadansoddiadau annibynnol yn awgrymu y gall economi gylchol gyflawni arbedion gwerth hyd at £3.8 biliwn i economi Cymru, gan greu swyddi gwyrdd o ansawdd uchel a sbarduno arloesedd ar draws sectorau – dyma gyfle economaidd pwysig. Trwy gyflwyno cynllun sy'n hwyluso’r gwaith o gyflwyno ailddefnyddio, rydym yn sicrhau bod ein CDE wedi'i ddiogelu ar gyfer y dyfodol a hefyd yn sicrhau manteision gweladwy i bobl Cymru — byddwn hefyd yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth helpu i lunio dull mwy cydlynol a chynaliadwy ar gyfer y DU gyfan.

Nid uchelgais yn unig mohono ailddefnyddio - mae'n hanfodol ar gyfer cyflawni cynnydd pellach. Rydw i’n croesawu agwedd gadarnhaol y diwydiant o ran gweithio mewn partneriaeth i gyflawni dyfodol gwell a mwy gwyrdd - nid yn unig i Gymru, ond i bawb.