Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Ar 27 Chwefror 2023, codwyd lefel uwchgyfeirio Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC) i fesurau arbennig (lefel 5). Roedd hyn mewn ymateb i bryderon sylweddol am lywodraethiant, arweinyddiaeth a pherfformiad.

Mae saith adroddiad cynnydd wedi'u cyhoeddi ers uwchgyfeirio'r bwrdd i fesurau arbennig, gan fyfyrio ar y cynnydd a wnaed a'r heriau sy'n parhau. Mae'r fframwaith mesurau arbennig ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn nodi'r gwelliannau sydd eu hangen. Mae'r adroddiad hwn yn adolygu'r cynnydd yn erbyn y gofynion hyn.

Mae'r sefydliad wedi gwneud llawer o newidiadau dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Yn y flwyddyn gyntaf, gwelwyd gwelliannau mewn llywodraethiant corfforaethol ac yn arweinyddiaeth y bwrdd. Yn yr ail flwyddyn, rydym wedi gweld ffocws gwirioneddol ar ansawdd a diogelwch – gyda'r bwrdd yn ymateb i lawer o faterion etifeddol mewn ffordd agored a thryloyw.

Mae'r bwrdd iechyd wedi nodi cynlluniau uchelgeisiol ar gyfer y flwyddyn i ddod – mae wedi cyflwyno cynllun tair blynedd sy'n gytbwys am y tro cyntaf erioed, ac yn 2024 i 2025 roedd ei sefyllfa alldro yn ddiffyg o £7.6m, sef gwelliant o'i gymharu â'r cyfanswm rheoli targed y cytunwyd arno. Yn anffodus, ni allai Gweinidogion Cymru gymeradwyo'r cynllun gan nad oedd yn bodloni gofynion ehangach fframwaith cynllunio GIG Cymru 2025 i 2026, yn bennaf y rhai sy'n ymwneud â disgwyliadau o ran perfformiad.

Eleni, mae'r ffocws ar leihau nifer yr amseroedd aros hir a maint cyffredinol y rhestr aros – gan ddychwelyd i'r lefelau cyn y pandemig – a mynd i'r afael ag apwyntiadau cleifion allanol yn yr arbenigeddau mwyaf heriol, yn ogystal â chymryd camau i wella amseroedd aros ar gyfer gwasanaethau gofal brys ac argyfwng. Mae hyn yn flaenoriaeth i'r bwrdd iechyd gan fod ganddo'r amseroedd aros hiraf, a'r gyfran fwyaf o'r rhain, yng Nghymru.

Arloesi mewn gwasanaethau

Mae meysydd lle mae'r bwrdd iechyd yn arwain y ffordd yng Nghymru. Trafodir y rhain isod:

  • mae'r bwrdd iechyd wedi lansio'r gwasanaeth cyntaf i roi mynediad at driniaethau mewnwythiennol yng Nghymru yn Ysbyty Glan Clwyd
  • y fan awdioleg gymunedol yw'r trefniant cyntaf o’i fath yng Nghymru
  • Ysbyty Gwynedd yw lleoliad canolfan hyfforddiant robotig gyntaf y GIG yng Nghymru; yma, maent yn rhoi hyfforddiant mewn llawfeddygaeth drwy gymorth robot ar y pen-glin
  • mae llawfeddygon yn Ysbyty Abergele wedi treialu technoleg realiti estynedig ar gyfer llawdriniaethau i osod pengliniau newydd
  • am yr ail flwyddyn o'r bron, mae meddygon dan hyfforddiant wedi dweud mai adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Gwynedd yw'r lle gorau i hyfforddi yng Nghymru
  • mae 344 o astudiaethau ymchwil gweithredol – cynnydd o 9% flwyddyn ar ôl blwyddyn; yn 2024, lansiwyd y treial cyntaf ar fodau dynol yng Nghyfleuster Ymchwil Glinigol Gogledd Cymru
  • enillodd y Gwasanaeth Byw'n Dda wobr yng Ngwobrau Arloesi mewn Gofal Iechyd y DU 2025; nododd y beirniaid fod y tîm wedi llwyddo i drawsnewid gwasanaeth COVID hir yn fodel cymunedol a arweinir gan anghenion, er mwyn mynd i'r afael â heriau iechyd corfforol a meddyliol cymhleth
  • ym mis Mai 2025, dechreuodd treial ar gyfer trin lewcemia myeloid acíwt yn Ysbyty Glan Clwyd
  • mae'r bwrdd iechyd yn treialu gwasanaeth i bobl gael mynediad at feddyginiaethau brys gan ddefnyddio'r peiriant Pharmaself REMEDY yn Ysbyty Cymunedol Dolgellau a'r Bermo

Arweinyddiaeth a llywodraethiant

Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud penodiadau parhaol i'w uwch dîm gweithredol gan gynnwys Prif Swyddog Gweithredu, Cyfarwyddwr yr Amgylchedd ac Ystadau, Cyfarwyddwr Perfformiad a Chomisiynu, a Chyfarwyddwr Gweithredol Cyllid. Bydd y Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol newydd yn dechrau ym mis Medi 2025.

Mae'r bwrdd iechyd wedi cryfhau ei allu i arwain, gan ymgorffori gwerthoedd ac ymddygiadau craidd ac adeiladu systemau sy'n cefnogi gwelliant parhaus a dysgu sefydliadol. Mae'r ymdrechion hyn wedi'u cysylltu'n agos â'r trawsnewidiad diwylliannol ehangach, sy'n seiliedig ar ymrwymiad clir i wrando ar adborth gan staff, partneriaid a chymunedau ledled y Gogledd, ac i ymateb i'r adborth hwnnw.

Mae rhaglen newid diwylliannol ac arweinyddiaeth yn cael ei gweithredu, gan gynnwys recriwtio a datblygu arweinwyr newid diwylliant a sefydlu fforwm rheolwyr pobl.

Mae'r rhaglen newid sylweddol 'sylfeini ar gyfer y dyfodol' yn symud i'r cam dylunio. Bydd y rhaglen hon yn ail-lunio'r sefydliad drwy sicrhau cysondeb rhwng strwythurau, pobl, systemau, prosesau, diwylliant a strategaeth. Bydd yn mynd i'r afael â'r heriau gweithredol craidd, gan adeiladu sefydliad cydlynol, ystwyth a chynaliadwy.

Mae gwaith wedi parhau eleni i gryfhau llywodraethiant ar draws y sefydliad, a chaiff pryderon o ran perfformiad eu huwchgyfeirio drwy strwythurau llywodraethu'r pwyllgorau. Mae'r pwyllgor perfformiad, cyllid a llywodraethu gwybodaeth yn chwarae rôl allweddol wrth oruchwylio'r fframwaith perfformiad ac atebolrwydd integredig a gymeradwywyd gan y bwrdd.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, mae sgyrsiau cymunedol wedi parhau gyda strategaeth partneriaethau, ymgysylltu a chyfathrebu fwy strwythuredig ar waith fel nodwyd ar wefan BIPBC. Mae themâu allweddol o fetrigau profiad cleifion yn cael eu hadrodd yn rheolaidd i'r bwrdd i lywio'r gwaith o wella gwasanaethau.

Ansawdd gofal

Mae gwaith helaeth wedi'i wneud ar draws y sefydliad i sicrhau bod ansawdd wrth wraidd pob gweithgaredd. Yn ganolog i hyn, mae datblygu'r System Rheoli Ansawdd, a brofwyd gyda gwasanaethau a oedd yn weithredwyr cynnar cyn cyflwyno'r system yn ehangach ar draws y sefydliad. Mae'r system yn seiliedig ar bedwar piler allweddol – cynllunio ansawdd, gwella ansawdd, rheoli ansawdd a sicrhau ansawdd – sy'n cael eu hintegreiddio mewn fframweithiau a phrosesau craidd.

Mae'r bwrdd iechyd wedi canolbwyntio ar wella prosesau a systemau mewn ymateb i gwynion. Cefnogir hyn gan y polisi pryderon integredig ar gyfer digwyddiadau, cwynion ac adolygiadau marwolaethau, a gymeradwywyd ym mis Gorffennaf 2024, a'r hwb pryderon integredig, sy'n weithredol ers mis Medi 2024. Mae mwy na 82% o gwynion yn cael eu cau o fewn 30 diwrnod – y targed yw 75% – a'r amser cyfartalog ar gyfer cwblhau cwyn yw 20 diwrnod (o'i gymharu â 59 diwrnod ym mis Ebrill 2024). Mae'r cwynion sy'n weddill yn gymhleth ac yn aml yn cynnwys sawl agwedd neu asiantaeth sy'n cymryd mwy o amser i ymchwilio iddynt a'u datrys.

Ym mis Ebrill 2025, plediodd y bwrdd iechyd yn euog mewn perthynas ag erlyniad a ddygwyd gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch am fethu ag atal a rheoli cwympiadau cleifion mewnol, yn dilyn marwolaethau tri chlaf oedrannus a gafodd gwympiadau yn 2022 a 2023.

Cyhoeddodd Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru adroddiad er budd y cyhoedd ym mis Ebrill 2025 ar eu gwefan mewn perthynas â gofal a gomisiynwyd gan y bwrdd iechyd gan ddarparwr y GIG yn Lloegr. Mae pum hysbysiad Rheoliad 28 wedi'u cyhoeddi i'r bwrdd iechyd eleni.

Dechreuodd arolwg profiad pobl GIG Cymru ym mis Ebrill 2025. Erbyn diwedd mis Mai, roedd y bwrdd iechyd wedi cael 11,879 o ymatebion. O'r rhain, dywedodd 70% fod eu profiad cyffredinol yn "dda iawn" a dywedodd 87% eu bod bob amser yn cael eu trin gydag urddas a pharch.

Gwasanaethau clinigol

Mae bregusrwydd, ansawdd a chysondeb o ran darparu gwasanaethau yn parhau i fod yn bryder gwirioneddol ar draws nifer o wasanaethau, gan gynnwys gwasanaethau fasgwlaidd, wroleg, oncoleg, offthalmoleg a dermatoleg. Mae rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud mewn rhai meysydd.

Mae cynlluniau gwella yn mynd rhagddynt ar draws pob un o'r meysydd gwasanaeth bregus a nodwyd, a gefnogir gan gylch adolygu rheolaidd i sicrhau bod camau'n cael eu cymryd mewn modd amserol ac effeithiol. Mae pwyllgorau'r bwrdd wedi cynnal goruchwyliaeth a darparu cefnogaeth. Trafodir y diweddaraf isod:

  • fasgwlaidd - gwnaed y penderfyniad i oedi pob llawdriniaeth a gynlluniwyd ac mewn argyfwng i atgyweirio anewrysm aortig yn yr abdomen ym mis Tachwedd 2024, yn dilyn sawl digwyddiad andwyol, a arweiniodd at gyfradd marwolaethau uchel i'r gwasanaeth; cytunodd y bwrdd i gomisiynu'n ffurfiol bob llawdriniaeth o'r fath o Ysbyty Athrofaol Gogledd Canolbarth Lloegr (UHNM) o 12 Tachwedd 2024 ymlaen; mae UHNM wedi cynnig contractau anrhydeddus i lawfeddygon fasgwlaidd sy'n dymuno mynd i lawdriniaethau o'r fath a chymryd rhan ynddynt
  • iechyd meddwl – mae angen ailddatblygu safle Ablett ar frys; mae'r bwrdd iechyd yn ymwybodol o hyn ac yn gweithio i ddatblygu cynlluniau i sicrhau bod y safle yn addas ar gyfer anghenion y boblogaeth leol; i gefnogi hyn, mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno ar gwmpas costau diwygiedig ar gyfer y prosiect; mae'r bwrdd yn gwneud cynnydd da yn erbyn yr argymhellion yn yr adolygiad o wasanaethau iechyd meddwl a gynhaliwyd gan Goleg Brenhinol y Seiciatryddion; mae arweinyddiaeth well ym maes gwasanaethau iechyd meddwl yn dilyn penodi cyfarwyddwr parhaol i'r adran.
  • mae mwy o ffocws ar wasanaethau gofal cymunedol a sylfaenol, fel gwasanaethau niwroddatblygiad a gwasanaethau deintyddol
  • mae arweinydd clinigol dermatoleg wedi'i benodi ac mae gwasanaeth teledermosgopi wedi'i lansio; mae protocolau 'profi'n syth' wedi'u gweithredu ar gyfer atgyfeiriadau lle'r amheuir canser y croen
  • mae'r fenter 'hyfforddi a thrin' wedi dechrau ar gyfer offthalmoleg i leihau amseroedd aros mewn ysbytai i gleifion sydd angen gofal llygaid, wrth ddarparu cyfleoedd hyfforddi a datblygu i optometryddion i ddarparu nifer uwch o lawdriniaethau mewn lleoliadau optometreg yn y gymuned neu ar y stryd fawr
  • mae arweinydd clinigol oncoleg wedi'i benodi; gwneir y mwyaf o gapasiti gofal cartref ac mae oriau unedau dydd wedi'u hymestyn
  • mae oncolegwyr locwm ychwanegol wedi'u sicrhau i gefnogi bylchau meddygol yn yr adran wroleg yn y tymor byr

Perfformiad a chanlyniadau

Mae perfformiad gweithredol yn parhau i fod yn faes heriol iawn i'r bwrdd iechyd. Gwnaed cynnydd mewn rhai meysydd, ond mae angen mwy o ffocws a chamau gweithredu i sicrhau mynediad amserol i ofal ar gyfer pobl ledled y Gogledd.

Rhoddwyd £40.3m yn ychwanegol i'r bwrdd iechyd yn 2024 i 2025 i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hiraf ar gyfer gofal a gynlluniwyd a gwasanaethau diagnosteg. Galluogodd hyn y bwrdd iechyd i sicrhau gostyngiad o 44% yn ei lwybrau rhwng atgyfeirio a thriniaeth a oedd yn aros mwy na 104 wythnos ar ddiwedd mis Mawrth o'i gymharu â mis Rhagfyr 2024. Dyma'r nifer isaf a adroddwyd ers mis Gorffennaf 2021.

Bu gostyngiad o 65.7% hefyd yn nifer y llwybrau rhwng atgyfeirio a thriniaeth a oedd yn aros dros dair blynedd; a gostyngiad o 67.9% yn nifer y llwybrau a oedd yn aros dros 14 wythnos am therapi penodol.

Yn chwarter cyntaf 2025 i 2026, cafodd y bwrdd iechyd £5m yn ychwanegol i leihau ei restrau aros ymhellach.

Fodd bynnag, ar hyn o bryd mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ddwy ran o dair o'r amseroedd aros hiraf yng Nghymru, a rhaid iddo wella ei berfformiad ym maes gofal a gynlluniwyd ar frys. Mae wedi ymrwymo i ddileu'r holl achosion o bobl sy'n aros 104 wythnos erbyn diwedd mis Rhagfyr 2025.

Yn hanesyddol, mae'r bwrdd iechyd wedi nodi perfformiad cryf ym maes canser. Fodd bynnag, dros y 18 mis diwethaf nid yw hyn wedi'i gynnal, ac ym mis Ionawr 2025 roedd perfformiad wedi gostwng i 51% yn erbyn y targed o 75% ar gyfer y llwybr lle'r amheuir canser. Bu adferiad bach dros y misoedd diwethaf, ac ym mis Ebrill adroddwyd perfformiad o 53.5%. Fodd bynnag, dyma'r lefel isaf yng Nghymru o hyd a rhaid gwella hyn ar frys.

Mae'r bwrdd iechyd yn cymryd ystod o gamau i wella perfformiad ym maes canser, gan gynnwys capasiti ychwanegol ar gyfer endosgopi, contract mewnoli ar gyfer dermatoleg, mentrau rhestrau aros a recriwtio i rolau allweddol i wella gallu a gwydnwch safleoedd tiwmor heriol.

Mae perfformiad ar gyfer gofal brys ac argyfwng yn parhau i fod yn sylweddol is na'r lefelau disgwyliedig ac nid yw wedi cyrraedd y lefel ofynnol o welliant. Gostyngodd perfformiad y bwrdd iechyd yn erbyn y targed amser aros o bedair awr mewn adrannau achosion brys i 57.2% ym mis Mawrth 2025 – ei ail isaf ar gofnod. Mae hyn wedi gwella i 59.8% ym mis Mai 2025, ond Betsi Cadwaladr yw'r bwrdd iechyd sy'n perfformio waethaf yng Nghymru o hyd. Bu cynnydd sylweddol hefyd yn nifer y bobl a dreuliodd fwy na 12 awr yn ei adrannau achosion brys.

Bu rhai arwyddion bach o welliant ym mherfformiad gofal brys ac argyfwng, a hynny cyn datblygu'r tasglu trosglwyddo-45 cenedlaethol. Mae'r bwrdd iechyd wedi gweld gostyngiad o 14.4% yn nifer yr achosion lle mae oedi o dros awr wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys ar draws ei safleoedd dros y 12 mis diwethaf. Ym mis Ebrill 2025, ailagorodd yr uned mân anafiadau yn Nolgellau yn dilyn ymgyrch i recriwtio a hyfforddi staff.

Mae perfformiad yn erbyn y gwahanol fesurau ar gyfer iechyd meddwl oedolion yn parhau i fod yn gymharol sefydlog. Ym mis Mawrth 2025, cwblhawyd 72.7% o asesiadau o fewn 28 diwrnod, yn erbyn y targed o 80%. Mewn naw o'r 12 mis diwethaf, mae'r bwrdd iechyd wedi cyflawni'r targed cenedlaethol ar gyfer canran yr oedolion sy'n cael ymyrraeth iechyd meddwl o fewn 28 diwrnod ar ôl eu hasesu, gan gyflawni 84.1% yn erbyn y targed o 80% ym mis Mawrth 2025.

Mae perfformiad yn erbyn y mesurau iechyd meddwl amrywiol ar gyfer pobl dan 18 oed wedi gwella, ac ym mis Mawrth 2025 cwblhawyd 96% o'r asesiadau o fewn 28 diwrnod. Roedd canran yr ymyriadau a ddechreuwyd o fewn 28 diwrnod wedi cynyddu i 43.4% ym mis Mawrth 2025. Fodd bynnag, mae perfformiad yn parhau i fod yn is na'r targed o 80% a rhaid gwella hyn.

Mae gan y bwrdd iechyd gynllun gwella gwasanaethau iechyd meddwl plant a phobl ifanc (CAMHS) tair blynedd ar waith, sy'n canolbwyntio ar fodelau cymorth cynnar ac ymateb i argyfwng.

Iechyd y boblogaeth ac atal

Cafodd rhaglen Iach Gogledd Cymru gydnabyddiaeth genedlaethol yn rhifyn mis Mehefin 2025 o'r Journal of Public Health, am ei gwaith yn cydgynhyrchu gwasanaethau iechyd a llesiant gyda chymunedau mewn ardaloedd â llawer o anghenion. Fe'i nodwyd hefyd yn enghraifft o arfer gorau wrth ddefnyddio dulliau sy'n seiliedig ar le ac ar systemau cyfan i ymdrin ag iechyd y cyhoedd.

Mae'r bwrdd iechyd wedi gweld y nifer mwyaf o gontractau deintyddol y GIG yn dod i ben nag unrhyw fwrdd iechyd yng Nghymru. Ers mis Ebrill, mae 16 o gontractau wedi dod i ben. Ym mis Hydref 2024, cynhaliodd adolygiad manwl o wasanaethau deintyddol gofal sylfaenol, a edrychodd ar feysydd allweddol, gan gynnwys perfformiad, darpariaeth gwasanaethau a strwythur y gwasanaeth. Bydd yr adroddiad a'r argymhellion yn sail i strategaethau a chynlluniau gwella yn y dyfodol.

Daeth y broses gaffael ar gyfer gwasanaethau deintyddol i ben ar 24 Mawrth 2025. Dyfarnwyd gwerth oddeutu £6m o gontractau, a fydd yn helpu i sefydlogi mynediad at ddeintyddiaeth y GIG a gwasanaethau deintyddol arbenigol ledled y Gogledd. Mae hyn yn cynnwys practis deintyddol newydd yng Nghei Connah, y mae disgwyl iddo agor ym mis Medi 2025.

Mae mynediad at ofal sylfaenol yn parhau i fod yn faes heriol arall. Ar hyn o bryd, mae'r bwrdd iechyd yn rheoli 12 practis cyffredinol ac mae ganddo nifer mawr o bractisau lle ceir un meddyg teulu. Blaenoriaeth ar gyfer eleni yw datblygu'r cynnig gofal sylfaenol yr un diwrnod i ddarparu mynediad mwy teg i ofal sylfaenol fel dewis arall yn lle mynd i adran achosion brys; datblygu model cymysg o ofal sylfaenol mewn ffordd strategol; gweithredu'r fframwaith sicrwydd newydd ar gyfer contract y Gwasanaethau Meddygol Cyffredinol; a gwella gwelededd data perfformiad gofal sylfaenol ar lefel bwrdd.

Cyllid, strategaeth a chynllunio

Cyflwynodd y bwrdd iechyd ei gyfrifon blynyddol ar gyfer 2024 i 2025 fel nodwyd ar wefan BIPBC mewn cyfarfod eithriadol o'r bwrdd ar 26 Mehefin 2025, ynghyd ag adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol am y cyfrifon fel nodwyd ar wefan BIPBC, a oedd yn cydnabod gwelliannau nodedig yn y trefniadau llywodraethu yn ystod y flwyddyn. Rhoddwyd y farn amodol ar reoleidd-dra i'r cyfrifon gan nad oedd y bwrdd iechyd wedi cyflawni ei ddyletswydd ariannol gyntaf i fantoli'r cyfrifon dros y cyfnod 2022 rhwng 2023 i 2024 rhwng 2025.

Yn 2024 i 2025, roedd sefyllfa alldro'r bwrdd iechyd yn ddiffyg o £7.6m, sef gwelliant o'i gymharu â'r cyfanswm rheoli targed o £8.6 miliwn. Roedd hyn hefyd yn ostyngiad o £16.8m o'i gymharu â'r sefyllfa alldro o ddiffyg o £24.3m yn 2023 i 2024 ac yn welliant o £12.2m o'i gymharu â'i sefyllfa diffyg arfaethedig.

Penodwyd y Cyfarwyddwr Gweithredol Cyllid ym mis Chwefror 2025 a chymerwyd camau i gryfhau a sefydlogi'r tîm cyllid ymhellach, gan gynnwys nodi ac ailgyfeirio adnoddau ychwanegol i gefnogi meysydd allweddol i fynd i'r afael â nhw drwy'r fframwaith mesurau arbennig a chryfhau gallu ar gyfer canlyniadau allweddol, gwaith cyfrifyddu technegol, gwaith monitro parhaus ac adroddiadau ar berfformiad.

Ym mis Mawrth 2025, cymeradwyodd y bwrdd gynllun tymor canolig integredig ar gyfer 2025 i 2028 sy'n gytbwys yn ariannol ac sy'n ar wefan BIPBC, gan osod y cyfeiriad a'r uchelgeisiau sefydliadol ar gyfer y flwyddyn i ddod gan gynnwys sefyllfa ariannol arfaethedig o fantoli'r cyfrifon ar gyfer 2025 i 2026. Mae hwn yn gam sylweddol ymlaen a dyma'r tro cyntaf i'r bwrdd iechyd allu cyflwyno cynllun tymor canolig integredig sy'n gytbwys yn ariannol.

Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud gwelliannau i'w strategaeth integredig a'i ddull cynllunio, gan gynnwys datblygu ei strategaeth 10 mlynedd a'i gynllun gwasanaethau clinigol a chreu fframwaith cynllunio gwasanaethau clinigol.

Ym mis Mai 2025, cymeradwyodd y bwrdd y broses a'r amserlen ar gyfer adolygiad ffurfiol o'r gwasanaeth ac arfarniad opsiynau i ddatblygu modelau gwasanaeth cynaliadwy hirdymor ar gyfer ysbytai cymunedol Llannerch Banna a Thywyn sydd ar wefan BIPBC. Dros y misoedd nesaf, bydd y bwrdd iechyd yn cynnal trafodaethau eang â rhanddeiliaid, a bydd yr argymhellion o'r trafodaethau hynny yn cael eu cyflwyno yng nghyfarfod y bwrdd ym mis Rhagfyr.

Casgliad

Mae gwelliant cyson a mesuradwy wedi bod ar draws meysydd allweddol gan gynnwys arweinyddiaeth, llywodraethiant, ansawdd clinigol a rheolaeth ariannol dros y ddwy flynedd ddiwethaf.

Mae heriau sylweddol o hyd – yn enwedig ym meysydd gofal a gynlluniwyd a gofal brys ac argyfwng, a fydd yn galw am ffocws ychwanegol dros y misoedd nesaf. Y flaenoriaeth yw gwella gafael a rheolaeth weithredol, cytuno ar fodel gweithredu newydd a'i roi ar waith, gwella perfformiad ac adeiladu'r sylfeini angenrheidiol ar gyfer gwelliant cynaliadwy ar draws y system gyfan.