Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Ers dechrau yn y swydd hon, rwyf wedi dweud yn glir bod sicrhau bod pob dysgwr yn cael y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt yn brif flaenoriaeth i mi. Mae hynny'n cynnwys gwrando'n ofalus ar y pryderon a godwyd ynglŷn â gweithredu'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Ym mis Hydref 2024, lansiais adolygiad o'r fframwaith deddfwriaethol ADY. Dyma'r cam cyntaf i ddeall y materion sy'n codi i'r rhai sy'n cyflwyno ac yn defnyddio'r system, ac i nodi sut y gallwn eu datrys. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith hwn. Mae'r sylwadau wedi bod yn amhrisiadwy.
Roedd yr adolygiad hwn yn ychwanegol at y gwerthusiad cynhwysfawr o'r system sydd wedi casglu sylwadau gan y gweithlu, rhieni a gofalwyr ochr yn ochr ag adroddiadau thematig a thystiolaeth barhaus gan Estyn.
Mae'r dadansoddiad hwn wedi cadarnhau bod rhai egwyddorion sy'n sail i'r diwygiadau ADY — yn enwedig y ffocws ar gynhwysiant a chynllunio o amgylch y person — yn parhau i gael cefnogaeth gref. Fodd bynnag, mae hefyd wedi tynnu sylw at nifer o heriau yr wyf am fynd i'r afael â nhw er mwyn gwella cysondeb y ddarpariaeth ledled Cymru.
Fy mwriad oedd cyhoeddi'r adolygiad cyn toriad yr haf. Ond cyn gwneud hynny rwyf am edrych ar y materion a godwyd a chyd-gynhyrchu atebion ymarferol gyda phartneriaid i roi sylw i’m pum blaenoriaeth:
- Darparu eglurder i'r sector addysg ar sut i gefnogi plant a phobl ifanc ag ADY.
- Gwella cysondeb cenedlaethol wrth ddarparu'r system ADY.
- Sicrhau bod gan blant, pobl ifanc a'u teuluoedd yr wybodaeth a'r gefnogaeth gywir.
- Gwella integreiddio a chydweithredu aml-asiantaeth i ddiwallu anghenion iechyd, gofal cymdeithasol ac addysg plant a phobl ifanc ag ADY
- Edrych ar weledigaeth tymor hwy ar gyfer system addysg gynhwysol.
Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i'r Senedd yn yr hydref, gan nodi'r camau nesaf yn y gwaith pwysig hwn.
