Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Gall sgrinio ceg y groth atal canser ceg y groth rhag datblygu neu helpu i ddod o hyd iddo'n gynnar trwy ganfod y feirws papiloma dynol (HPV), sef yr hyn sy'n achosi canser ceg y groth ym mron pob achos. 

Mae Llywodraeth Cymru yn dilyn cyngor arbenigol ac annibynnol Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU (UK NSC). Ym mis Mehefin, argymhellodd y Pwyllgor hwnnw y gallai pob rhaglen sgrinio ceg y groth yn y DU gynnig profion hunan-samplu ar gyfer HPV i boblogaethau cymwys lle mae'r lefelau sgrinio'n rhy isel. Mae hyn yn golygu y gellir cynnig y profion i bobl nad ydynt byth yn mynychu apwyntiadau rheolaidd ar gyfer sgrinio ceg y groth, neu ond yn eu mynychu’n anaml. Mae'r argymhelliad yn deillio o astudiaethau a gynhaliwyd yn y DU sy'n dangos y gallai hunan-samplu helpu i gynyddu nifer y rheini sy'n cael eu sgrinio.

Mae hwn yn ddatblygiad addawol a allai annog mwy o bobl, nad ydynt ar hyn o bryd yn cymryd rhan mewn sgrinio ceg y groth, i gwblhau'r prawf eu hunain gartref.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ystyried y ffordd orau o ddarparu'r cyfle hunan-samplu i bawb sy'n gymwys yng Nghymru. Disgwylir i'r gwasanaeth ddechrau yn ystod y flwyddyn nesaf.

Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno profion ar gyfer HPV fel y prif brawf sgrinio ar gyfer sgrinio ceg y groth yn 2018. Mae hwn yn brawf mwy penodol sy'n golygu bod canlyniad negyddol yn fwy cywir, ac yn brawf sy'n golygu nad oes angen darparu apwyntiadau sgrinio mor aml, gan achub mwy o fywydau drwy nodi lefel y risg o ddatblygu canser yn gynt.

Mae GIG Cymru hefyd yn darparu rhaglen frechu HPV i blant oedran ysgol, sef merched a bechgyn rhwng 12 a 13 oed (blwyddyn wyth yn yr ysgol). Mae'r brechlyn yn effeithiol iawn ar gyfer amddiffyn rhag canserau a achosir gan HPV, gan gynnwys canser ceg y groth.

Bydd yr ymyriadau ataliol hyn yn achub bywydau. Byddwn i'n annog pawb sy'n gymwys i fanteisio ar y cynnig i gael eu sgrinio neu eu brechu.