Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Yn dilyn y gwrandawiadau cyn penodi gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd ar 3 Gorffennaf, mae'n bleser gennyf gadarnhau y bydd Kirsty Williams yn ymgymryd â rôl cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro o 1 Hydref 2025 ac y bydd Sara Moseley yn ymgymryd â rôl cadeirydd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre o 1 Medi 2025.
Mae Ms Williams a Ms Moseley yn dod â chyfoeth o brofiad, ymrwymiad, sgiliau ac ymroddiad i'r rolau pwysig hyn.
