Eluned Morgan AS, Prif Weinidog
Heddiw, rwy’n cyhoeddi pedwerydd Adroddiad Blynyddol y Rhaglen Lywodraethu, a’r olaf, ar gyfer tymor y Senedd hon. Mae’r adroddiad yn nodi’r cynnydd rydym wedi’i wneud tuag at gyflawni ein hamcanion llesiant. Er gwaetha’r heriau economaidd sydd wedi’u hachosi gan yr ansefydlogrwydd gwleidyddol a welwyd yn fyd-eang yn ystod tymor y Senedd hon, rydym wedi parhau i gyflawni dros bobl Cymru.
Mae rhai o’n prif gyflawniadau o dan y Rhaglen Lywodraethu ac yn ehangach y flwyddyn hon yn cynnwys:
- Sefydlu ysgol feddygol newydd yn y Gogledd i helpu i fynd i’r afael â’r heriau sy’n gysylltiedig ag hyfforddi ac ailhyfforddi meddygon.
- Ym mis Chwefror 2025, lansiwyd y Porth Mynediad Deintyddol newydd, a oedd yn nodi cam mawr ymlaen i wneud gofal deintyddol y GIG yn decach ac i sicrhau ei bod yn haws i gael gafael arno.
- Lleihau amseroedd aros o dros 104 wythnos. Erbyn mis Mawrth 2025, roeddent 88% yn is na’r brig a brofwyd ar ôl y pandemig.
- Cyflawni Cynllun Iechyd Menywod sy’n nodi sut bydd ein GIG yn gwella profiad menywod o ofal iechyd, eu canlyniadau iechyd ac yn sicrhau bod eu lleisiau’n cael eu clywed.
- Dod yn wlad gyntaf yn y DU i ddeddfu i ddileu elw preifat o ofal preswyl a maeth i blant, gan roi lles plant o flaen elw.
- Cefnogi dros 11,000 o swyddi ledled Cymru, gan ddangos ein hymrwymiad i adeiladu economi gryfach, decach a gwyrddach.
- Helpu pobl ifanc i ddod o hyd i swydd neu i ddechrau busnes, drwy’r Warant i Bobl Ifanc. Ers ei lansio yn 2021, mae dros 57,000 o bobl ifanc wedi cymryd rhan mewn rhaglenni cyflogadwyedd a sgiliau gan osod y sylfeini ar gyfer diogelu economi Cymru at y dyfodol.
- Cynyddu nifer y swyddi newydd sy’n cael eu creu gan fewnfuddsoddiad drwy fuddsoddiadau uniongyrchol o dramor o 30% o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, drwy 65 o brosiectau a arweiniodd at 2,470 o swyddi newydd. Hwn oedd yr ail gynnydd uchaf mewn unrhyw wlad neu ranbarth o’r DU.
- Buddsoddi dros £800m mewn rheilffyrdd, gan olygu bod y mwyafrif o deithiau Trafnidiaeth Cymru yn digwydd ar drenau newydd.
- Trawsnewid gwasanaethau bysiau lleol drwy’r Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) – sy’n garreg filltir nodedig – gan ddod â bysiau yn ôl o dan reolaeth gyhoeddus a rhoi inni’r modd o allu cynllunio rhwydwaith sy’n rhoi anghenion cymunedau yn gyntaf.
- Buddsoddi yn ein Rhwydwaith Ffyrdd Strategol – i gyflawni o leiaf 100km o arwynebau gwell, gan drwsio neu atal dros 30,000 o dyllau mewn ffyrdd – ac yn ein hawdurdodau lleol – gan eu galluogi i gyflawni 600km pellach o arwynebau gwell drwy drwsio neu atal dros 180,000 o dyllau mewn ffyrdd.
- Gweithredu i ddiogelu cymunedau rhag perygl yn y dyfodol drwy gyflwyno’r Bil Tomenni Mwyngloddiau a Chwareli Nas Defnyddir (Cymru) ym mis Rhagfyr 2024, sy’n braenaru’r tir ar gyfer rheoleiddio cryfach a chliriach.
- Sefydlu Coedwig Genedlaethol Cymru, sydd erbyn hyn yn rhychwantu dros 130 o safleoedd. Mae coridorau gwyrdd a chynefinoedd wedi’u creu ar hyd a lled y wlad ac rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol i adfer ein mawndiroedd – mae ardal sy’n gyfwerth â 3,000 o gaeau rygbi wedi’i hadfer.
- Darparu £75m, sy’n fwy o gyllid na ddarparwyd erioed o’r blaen, yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf i hybu amddiffynfeydd rhag llifogydd ar gyfer 17,400 o dai yn ôl yr amcangyfrif.
- Helpu dysgwyr i gyrraedd eu potensial llawn drwy barhau i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a chwblhau’r broses o gyflwyno’r cynnig cyffredinol o brydau ysgol am ddim gyda dros 44 miliwn o giniawau ychwanegol wedi’u gweini.
- Cyhoeddi ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol ar ei newydd wedd ym mis Tachwedd 2024. Mae hwn yn ailddatgan ein hymrwymiad i fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030.
- Nod Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru), a gafodd ei basio gan y Senedd ym mis Mai 2025, yw sicrhau bod dysgwyr yn gadael addysg orfodol yn siaradwyr Cymraeg hyderus ac annibynnol.
- Lansio’r ‘Blaenoriaethau ar gyfer Diwylliant’ newydd i gefnogi ein huchelgeisiau diwylliannol a gwella cyfleoedd i bawb, gan adeiladu ar lwyddiannau sy’n cynnwys cyflawni Celf, yr oriel celf gyfoes genedlaethol i Gymru, cwblhau’r gwaith o ailddatblygu Theatr Clwyd a symud y gwaith ar ein hamgueddfa bêl-droed newydd yn Wrecsam yn ei flaen.
- Darparu bron i 9000 o dai cymdeithasol newydd, gan ddefnyddio dros 580 o dai unwaith eto a fyddai fel arall wedi cael eu colli a buddsoddi £90 miliwn mewn benthyciadau i helpu cymdeithasau tai i adeiladu a gwella tai ledled Cymru.
- Gan fraenaru’r tir ar gyfer y newid mwyaf i ddemocratiaeth yng Nghymru ers datganoli, cafodd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 y Cydsyniad Brenhinol ym mis Mehefin 2024.
Adolygu’r Amcanion Llesiant
Rydym wedi adolygu’r amcanion llesiant, gan gyflawni’r gofynion a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, ac wedi dod i’r casgliad bod y fframwaith cryfaf ar gyfer cyflawni yn erbyn y nodau llesiant cenedlaethol yn parhau i gael ei ddarparu gan yr amcanion presennol.
Y flwyddyn hon, am yr eildro, ymgynghorwyd â’r Cyngor Partneriaeth Gymdeithasol ar y cynnydd rydym wedi’i wneud yn erbyn yr amcanion a hoffem ddiolch i’r Cyngor am eu mewnbwn adeiladol. Byddwn yn sicrhau bod swyddogion yn cynnwys y safbwyntiau hyn yn yr adolygiad o’r amcanion llesiant y mae’n rhaid ei gynnal ddechrau tymor y Senedd nesaf.
