Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Yn dilyn fy natganiad ar 24 Mehefin, mae'n bleser gennyf gyhoeddi manylion y grŵp gweithredu i lywio'r trawsnewidiad tuag at waharddiad ar rasio milgwn yng Nghymru.
Mae'r grŵp yn cynnwys unigolion ymroddedig, sy'n cynrychioli sbectrwm eang o'r diwydiant rasio milgwn, iechyd a lles anifeiliaid, a sectorau cymdeithasol a chymunedol.
Bydd Dr Emily Blackwell, Uwch Ddarlithydd mewn Ymddygiad a Lles Anifeiliaid yn Ysgol Filfeddygol Bryste, yn cadeirio'r grŵp. Bydd Dr Blackwell yn cael ei chefnogi yn ei rôl gan ddau filfeddyg a chynrychiolwyr o Stadiwm y Fali, unig drac rasio milgwn Cymru, awdurdodau lleol, Cut the Chase Coalition ac elusennau anifeiliaid.
Cyfarfu'r grŵp am y tro cyntaf heddiw i drafod ei gylch gwaith a'i gynllun gwaith.
Bydd deddfwriaeth yn cael ei chyflwyno yn yr hydref. Fodd bynnag, mae llawer o waith i'w wneud cyn i'r gwaharddiad ddod i rym. Mae angen i ni sicrhau bod y cŵn, eu perchnogion, a'r rhai sy'n ymwneud â'r diwydiant yn gallu symud i ffwrdd o rasio mewn ffordd gynlluniedig a rhesymol. Mae hyn yn cynnwys diogelu lles y cŵn sydd ar hyn o bryd yn y diwydiant, tra'n sicrhau bod yr effaith ar y gymuned a'r economi leol cyn lleied a phosibl.
Rwyf am i Gymru gael ei chydnabod am ei safonau rhagorol o ran iechyd a lles anifeiliaid. Mae'r gwaharddiad yn un ffordd y gallwn weithio tuag at gyflawni'r nod hwnnw, ac mae gan y grŵp gweithredu rôl allweddol i'w chwarae. Bydd ei wybodaeth gyfunol yn ein helpu wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith pwysig hwn.
