Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae mis Medi eleni yn garreg filltir arwyddocaol wrth i’r garfan gyntaf o ddisgyblion y Cwricwlwm i Gymru ddechrau Blwyddyn 10, gan ddechrau gweithio tuag at gymwysterau newydd.

Wrth i ni gyrraedd y garreg filltir hon, rwy'n falch o gael sôn am gynnydd sylweddol ar draws ysgolion Cymru. Mae'r cwricwlwm trawsnewidiol hwn, sydd bellach yn cael ei ddefnyddio ym mhob ysgol gynradd ac uwchradd, yn ogystal â mewn lleoliadau addysgol eraill, yn cefnogi ein plant i fod yn barod i ddysgu, yn barod am waith, ac yn barod i fyw bywydau cyflawn.

Rydym wedi buddsoddi'n gynhwysfawr yn y weledigaeth hon, gyda phecyn cymorth gwerth £44 miliwn sy'n cynnwys £20 miliwn wedi'i anelu'n benodol at lythrennedd a rhifedd y sylfeini hanfodol ar gyfer dysgu - dros y 3 blynedd nesaf . Mae hyn yn ychwanegol at £2.5 miliwn ychwanegol eleni i gynorthwyo awdurdodau lleol i gefnogi'r sgiliau mynediad hanfodol hyn.

Trwy siarad ag ysgolion yn ystod y flwyddyn hon, maen nhw wedi bod yn glir mai'r hyn y mae'r proffesiwn ei eisiau fwyaf yw cymorth ymarferol a dysgu proffesiynol. Mae'r gefnogaeth gyson, yr ydym yn ei ddarparu drwy drefniant canolog i Gymru gyfan ar gyfer llythrennedd a rhifedd, yn cynnwys gwybodaeth manwl i gefnogi ysgolion i ddatblygu ac ymgorffori'r sgiliau hanfodol hyn, a bydd ar gael yn ystod y misoedd nesaf. Er mwyn rhoi amser a lle i ysgolion ddefnyddio'r cymorth hwnnw, rwy'n ymestyn cyfnod adolygu'r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd. Mae hyn hefyd yn sicrhau y gall newidiadau i'r Fframwaith adeiladu ar y dysgu hwnnw.

Wrth i'r corff Dysgu Proffesiynol ac Arweinyddiaeth newydd gael ei sefydlu'n ffurfiol, rwy'n disgwyl iddo ddod yn gyfrifol am oruchwylio'r cymorth cenedlaethol hwn ar gyfer llythrennedd a rhifedd a ariennir gan grant.

Mae ein data ar lefel genedlaethol o asesiadau personol, yn dangos cynnydd calonogol o ran cyrhaeddiad darllen a rhifedd, gyda Darllen Saesneg yn arbennig yn dangos lefelau cyrhaeddiad uwch o'i gymharu â 2022/23 ar draws pob grŵp blwyddyn, gyda gwelliannau hefyd yn amlwg ym maes Darllen Cymraeg a Rhifedd Gweithdrefnol.

Mae ein Cytundeb Partneriaeth Strategol gydag awdurdodau lleol yn ailddatgan ein hymrwymiad ar y cyd i lythrennedd, rhifedd, presenoldeb a lles dysgwyr. Mae ein Tîm Gwella Addysg newydd yn gweithio'n uniongyrchol gyda phob awdurdod lleol gan sicrhau bod llythrennedd yn benodol yn flaenoriaeth ledled y system. 

Mae'r ysgolion hynny sy'n defnyddio’r cwricwlwm yn effeithiol yn codi'r bar i ddysgwyr. Ymunodd dros 200 o ysgolion â'n Rhaglen Cynllunio Cwricwlwm eleni, gan nodi bod mwy o eglurder a mwy o hyder ganddynt yn eu dulliau o ganlyniad. Bydd hyn yn ehangu y flwyddyn nesaf ac mae'r dysgu o'r rhaglen hon bellach ar gael i bawb ar Hwb yn yr offer  hanfodol ar gyfer cynllunio.

Mae ein monitro o ddysgu a'r cwricwlwm hefyd yn sicrhau bod gennym eglurder ynglŷn â'r hyn sy'n gweithio trwy sawl dull:

  • Gwerthusiad ffurfiannol cynhwysfawr sy'n casglu adborth gan athrawon, arweinwyr, disgyblion a’u teuluoedd.
  • Asesiadau personol sy'n dangos gwelliannau mewn sgiliau darllen a rhifedd
  • Asesu rhyngwladol trwy PISA, a chyflwyno TIMSS a PIRLS i fesur ein cynnydd yn fyd-eang
  • Ein gwaith parhaus gyda'r system gan gynnwys y Tîm Gwella Addysg sy'n gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol, a Grŵp Polisi Cwricwlwm i Gymru sy'n rhoi llais pwysig i weithwyr proffesiynol addysg wrth pennu cyfeiriad.

Nid yw'r dull hwn yn ymwneud â phrofi ysgolion, yn hytrach mae’n gwerthuso ein diwygiadau ar lefel system.

Mae'r sylfaen hon o dystiolaeth gynhwysfawr hefyd yn ein rhoi mewn sefyllfa gref i adolygu a mireinio'r cwricwlwm dros amser.

Gyda'n gilydd, rydym yn creu dyfodol lle mae pob dysgwr yn llwyddo – lle mae Cymru yn sefyll fel enghraifft o ragoriaeth addysgol.