Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Comisiynwyd y cyngor fel rhan o adolygiadau thematig Estyn o Raglen Twf Swyddi Cymru+ Llywodraeth Cymru. Dyma'r ail mewn rhaglen dreigl o adroddiadau a ddarparwyd gan Estyn ar Twf Swyddi Cymru+. Cyhoeddwyd yr adroddiad cychwynnol ym mis Hydref 2023.

Crynodeb o'r prif ganfyddiadau

Mae'r adolygiad hwn yn argymell gwelliannau yn y meysydd canlynol: 

Llywodraeth Cymru

Mae'r adroddiad yn argymell adolygu strwythur yr elfennau ac ystyried mesurau amgen heblaw cyrchfannau rhaglenni fel deilliant cadarnhaol. Yn ogystal, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod gan Gymru gyfan ddewis o gontractwr a dylai ystyried sut y gall methodolegau a dyraniadau cyllid fodloni’r galw cynyddol am y rhaglen orau.

Contractwyr

Yn ôl yr adroddiad, dylai contractwyr sicrhau gwahaniaeth clir rhwng yr elfen ymgysylltu a datblygu, dylent annog pob cyfranogwr i gyflawni hyd eithaf eu gallu a pharhau i ddatblygu strategaethau ymgysylltu â chyflogwyr.

Holl Bartneriaid y Rhaglen

Mae Estyn yn argymell bod yr holl randdeiliaid yn gwerthuso prosesau ar gyfer rhannu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod contractwyr yn cael gwybodaeth amserol am gyfranogwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a Chynllun Datblygu Unigol (CDU).

Argymhellion 1 i 3

Dylai contractwyr:

Argymhellion 1

Sicrhau gwahaniaeth clir rhwng y cwricwlwm ymgysylltu a datblygu, a bod pob cyfranogwr yn deall eu cyfleoedd am ddilyniant.

Ymateb Llywodraeth Cymru: derbyn

Bydd swyddogion yn cyhoeddi cyfarwyddiadau clir i gontractwyr ar eu strategaethau marchnata ac ymgysylltu fel bod cyfranogwyr yn gwbl ymwybodol o'r gwahaniaethau rhwng elfennau Ymgysylltu a Datblygu Twf Swyddi Cymru+ a dilyniant rhwng y ddwy elfen.

Argymhellion 2

Ymestyn a chymell pob cyfranogwr i gyflawni hyd eithaf eu gallu, yn enwedig wrth symud ymlaen o weithgarwch mewn canolfan i leoliad gwaith, addysg a hyfforddiant pellach neu gyflogaeth pan fyddant yn barod.

Ymateb Llywodraeth Cymru: derbyn

Byddwn yn monitro contractwyr yn erbyn targedau cyflawni i sicrhau bod gan bob person ifanc Gynlluniau Dysgu Unigol (CDUau) sydd â gweithgareddau hyfforddi a datblygu priodol i sicrhau cyflogaeth. 

Byddwn hefyd yn sicrhau bod prosesau rheoli contractau Llywodraeth Cymru yn adolygu’r gweithgarwch mewn canolfannau a'r lleoliadau gwaith dilynol yn rheolaidd i sicrhau bod cyfleoedd ar gael i bob person ifanc ar y rhaglen.

Argymhellion 3

Parhau i ddatblygu strategaethau ymgysylltu â chyflogwyr er mwyn sicrhau y gall cyfranogwyr fanteisio ar leoliadau gwaith penodol i’r sector sy’n cyd-fynd â’u dyheadau gyrfa mewn modd amserol.

Ymateb Llywodraeth Cymru: derbyn

Byddwn yn sicrhau bod pob contractwr yn gweithio'n weithredol gyda chyflogwyr i wneud y mwyaf o brofiad gwaith sector perthnasol. Bydd hyn yn cael ei fonitro trwy brosesau rheoli contractau a bydd dangosyddion perfformiad allweddol yn cael eu cofnodi.

Argymhelliad 4 i 7

Dylai Llywodraeth Cymru:

Argymhellion 4

Adolygu strwythur yr elfennau, yn enwedig effeithiolrwydd yr elfen gyflogaeth, gan ystyried elfen amgen ar gyfer cyfranogwyr sydd â’r rhwystrau mwyaf sylweddol rhag symud ymlaen.

Ymateb Llywodraeth Cymru: derbyn 

Rydym yn y camau cychwynnol o ddatblygu rhaglen i olynu Twf Swyddi Cymru+ a fydd yn dechrau yn 2027. Fel rhan o’r gwaith datblygu rydym yn ystyried effeithiolrwydd pob elfen ac yn dadansoddi pa ddull sy'n gweithio orau i ddiwallu anghenion y bobl sy'n cael cymorth.

Argymhellion 5

Ystyried mesurau amgen heblaw cyrchfannau rhaglenni fel deilliant cadarnhaol, yn enwedig i’r rhai sydd bellaf o symud ymlaen i addysg bellach, hyfforddiant neu gyflogaeth. 

Ymateb Llywodraeth Cymru: derbyn

Fel rhan o'n gwaith i ddatblygu’r rhaglen a fydd yn olynu Twf Swyddi Cymru+, rydym yn ystyried pa fesurau sydd angen eu cofnodi ar gyfer y rhaglen newydd. Mae hyn yn cynnwys ystyried cofnodi canlyniadau 'meddal' fel canfyddiad o barodrwydd ar gyfer gwaith neu ganfyddiad o lesiant.

Argymhellion 6

Sicrhau bod darpariaeth dan gontract ar draws pob rhanbarth yn cynnwys dewis o ddarparwyr a dewis priodol o raglenni sy’n benodol i’r sector. 

Ymateb Llywodraeth Cymru: derbyn yn rhannol

Pan gaffaelwyd Twf Swyddi Cymru+, rhannwyd Cymru yn bedwar 'lot' rhanbarthol: Gogledd Cymru, Canolbarth a Gorllewin Cymru, Canol a De-ddwyrain Cymru. Mae gan bob lot naill ai dau neu dri chontractwr sy'n cynnig darpariaeth Twf Swyddi Cymru+. Mae contractwyr yn cydweithio i sicrhau eu bod yn cwmpasu Cymru gyfan. Ni allwn newid y contractwr a sefydlwyd ar gyfer Twf Swyddi Cymru+ oherwydd cyfyngiadau caffael, ond byddwn yn ystyried hyn wrth ddrafftio'r rhaglen newydd.

Argymhellion 7

Ystyried sut gall methodolegau a dyraniadau cyllid fodloni’r galw cynyddol am y rhaglen orau.

Ymateb Llywodraeth Cymru: derbyn 

Mae’r lefelau ymgysylltu â Twf Swyddi Cymru+ wedi rhagori ar y rhagdybiaethau cynllunio ac rydym yn ymwybodol bod rhai o gontractwyr Twf Swyddi Cymru+ yn gweithredu rhestrau aros mewn rhai ardaloedd o Gymru. Rydym yn adolygu’r cyllid yn barhaus er budd i'r rhaglen ac i gynnig y gwerth gorau am arian ar gyfer arian cyhoeddus.

Argymhellion 8

Dylai pob rhanddeiliad sy’n ymwneud â chyflwyno TSC+: 

Werthuso prosesau ar gyfer rhannu gwybodaeth er mwyn sicrhau bod contractwyr yn cael gwybodaeth amserol am gyfranogwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol (ADY) a Chynllun Datblygu Unigol (CDU), gan ganiatáu i’r cymorth angenrheidiol gael ei gynnig cyn gynted â phosibl.

Ymateb Llywodraeth Cymru: derbyn

Fel rhan o'r gwaith o ddatblygu’r rhaglen a fydd yn olynu Twf Swyddi Cymru+, byddwn yn gwerthuso protocolau rhannu gwybodaeth ar gyfer y rhaglen newydd i sicrhau y gellir cynnig y cymorth gorau posibl i bobl ifanc.

Manylion cyhoeddi

Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan Estyn ac fe'i cyhoeddwyd ar 15 Gorffennaf 2025.