Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith ar eu gwrandawiad cyn penodi gyda Vernon Everitt, fy hoff ymgeisydd ar gyfer Cadeirydd newydd Trafnidiaeth Cymru, rwyf wedi penderfynu penodi Mr Everitt yn Gadeirydd.
Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am y gwaith craffu cyn penodi, ac rwy'n falch bod y pwyllgor a minnau o'r un farn, sef bod Mr Everitt mewn sefyllfa dda iawn i ddod yn Gadeirydd newydd Trafnidiaeth Cymru.
Fel y nodwyd yn eu hadroddiad, mae Trafnidiaeth Cymru yn wynebu heriau cylfawni sylweddol gyda gwaith i'w wneud o ran cyflenwi masnachfreinio bysiau, cwblhau'r gwaith o drawsnewid Rheilffordd Craidd y Cymoedd, datblygu rhaglen Rhwydwaith y Gogledd, yn ogystal â gwellaperfformiad rheilffyrdd. Byddaf hefyd yn cyhoeddi fy llythyr ato yn tynnu sylw at fy mlaenoriaethau ar gyfer y rôl a'r disgwyliadau sydd gennym ohono.
Rwy'n rhoi pwyslais mawr ar rôl y Cadeirydd a gwaith Trafnidiaeth Cymru ac edrychaf ymlaen at ei weld yn efelychu llwyddiant ei ragflaenydd Scott Waddington.
