Neidio i'r prif gynnwy

Cylch gorchwyl cyfrifoldeb Fforwm Gwydnwch Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Diben a rôl

Prif bwrpas Fforwm Gwydnwch Cymru yw darparu fforwm i gynnig arweinyddiaeth strategol, sicrwydd a her i Bartneriaeth Gwydnwch Cymru (a'r is-grwpiau sy'n cefnogi) mewn perthynas â pharodrwydd ar gyfer argyfwng a chryfhau gwydnwch Cymru.

Mae pob aelod hefyd yn chwarae rhan yn y gwaith o hyrwyddo cyfathrebu a chydweithio rhwng ac ar draws holl bartneriaid y gymuned ymatebwyr er mwyn gwella’r gwaith o reoli risg a bod yn barod am argyfwng yng Nghymru.

Cyfrifoldebau

Mae gan y Fforwm y cyfrifoldebau allweddol a ganlyn:

  • Goruchwylio'r broses o ddatblygu rhaglen waith, ar gyfer Cymru gyfan, a'i chymeradwyo, sy’n cyd-fynd â’r egwyddorion craidd a’r canlyniadau yn Fframwaith Gwydnwch Cymru.
  • Sicrhau bod blaenoriaethau yn cael eu diffinio’n glir a’u cyfleu i Bartneriaeth Gwydnwch Cymru
  • Ceisio sicrwydd ynghylch cynllunio gwydnwch amlasiantaeth a pharodrwydd ledled Cymru
  • Darparu cytundeb cydlynol ar gynhyrchion Cymru gyfan
  • Ystyried risgiau, materion a rhwystrau rhag cyflawni sydd wedi cael eu huwchgyfeirio i’r Fforwm ac sy’n gofyn am benderfyniad strategol.
  • Mae pob aelod yn gyfrifol am gyfleu negeseuon a phenderfyniadau strategol o fewn y meysydd cyfrifoldeb priodol.

Yn ogystal â'r uchod, mae Atodiad A yn disgrifio cyfrifoldebau ychwanegol ar gyfer aelodau penodol o'r Fforwm, yn enwedig lle maent yn cynrychioli mwy nag un asiantaeth ymateb.

Aelodaeth

  • Cadeirydd: Prif Weinidog Cymru
  • Dirprwy Gadeirydd: Cyfarwyddwr Risg, Gwydnwch a Diogelwch Cymunedol
  • Ysgrifenyddiaeth: Yr Uned Gwydnwch, Llywodraeth Cymru

Aelodau

Cynrychiolwyr lefel weithredol o bob ymatebwr Categori 1 a Chategori 2, a chyrff dethol nad ydynt yn ymateb, yn ôl yr angen. Dylai pob aelod fod ag awdurdod, profiad ac arbenigedd priodol o argyfyngau sifil a gwydnwch o fewn eu sefydliadau priodol, er mwyn galluogi'r Fforwm i gyflawni ei gyfrifoldebau strategol.

Mae rhestr o'r holl aelodau i'w chael yn Atodiad A. Gellir gwahodd cynrychiolwyr, cynghorwyr ac arsylwyr ychwanegol i fynychu cyfarfodydd ar sail ad-hoc i gefnogi busnes y Fforwm.

Pa mor aml y cynhelir y cyfarfodydd

Mae’r Fforwm yn cwrdd dair gwaith y flwyddyn. Bydd hyn yn cynnwys Uwchgynhadledd flynyddol y Fforwm o dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog a dau gyfarfod dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Gadeirydd.

Efallai y bydd angen i fusnes ad hoc gael ei gyflawni y tu allan i'r strwythur cyfarfod y cytunwyd arno. Os felly, gellir cynnull cyfarfod arbennig, neu gellir cyflawni busnes trwy ohebiaeth.

Trefniadau gweinyddol

Bydd agenda'r cyfarfod a'r papurau perthnasol yn cael eu cylchredeg o leiaf bum diwrnod gwaith cyn pob cyfarfod. Bydd papurau'n cael eu dosbarthu i'r holl bartneriaid gwydnwch yng Nghymru.

Bydd negeseuon pwysig a phenderfyniadau strategol yn cael eu rhannu ag aelodau'r Fforwm. Cytunir ar grynodeb o’r cyfarfodydd a gaiff ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. 

Caiff cylch gorchwyl Fforwm Gwydnwch Cymru ei adolygu bob blwyddyn.

Atodiad A: aelodaeth graidd

  • Y Fyddin
  • Y Gwasanaethau Tân ac Achub (Prif Swyddogion o bob un o'r 3 gwasanaeth tân ac achub yng Nghymru)
  • Awdurdodau Lleol (Un cynrychiolydd y cytunwyd arno yn lleol i weithredu ar ran yr awdurdodau lleol o fewn ardal pob fforwm gwydnwch lleol)
    • Gweithredu ar ran yr holl awdurdodau lleol yn ardaloedd eu fforwm gwydnwch lleol
    • Gweithredu ar ran Awdurdodau Iechyd Porthladdoedd yn  ardaloedd eu fforwm gwydnwch lleol (lle bo hynny'n berthnasol)
  • Cadeiryddion Fforymau Gwydnwch Lleol (Cadeiryddion pob un o'r pedwar fforwm gwydnwch lleol yng Nghymru)
  • Asiantaeth y Môr a Gwylwyr y Glannau
  • Cyfoeth Naturiol Cymru
  • Gweithrediaeth y GIG:
    • Cynrychioli Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd o ran y canlynol:
      • Cynllunio gwydnwch systemau ac ymateb
      • Cynllunio o fewn y GIG ar gyfer Argyfyngau
      • Ymgysylltu â sefydliadau'r GIG
      • Parodrwydd y GIG ar gyfer argyfyngau sifil a risgiau diogelwch cenedlaethol, ac ymateb iddynt
    • Gweithredu fel cyswllt rhwng Byrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd a Fforwm Gwydnwch Cymru, gan sicrhau bod negeseuon pwysig a phenderfyniadau strategol yn cael eu cyfleu
    • Nodi meysydd ar gyfer alinio rhaglenni gwaith i sicrhau bod adnoddau yn cael eu dyrannu'n effeithiol
  • Yr Heddlu (Prif Gwnstabliaid o bob un o'r 4 heddlu yng Nghymru, ac uwch swyddog perthnasol o'r Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig)
  • Iechyd Cyhoeddus Cymru
  • Y Llu Awyr Brenhinol
  • Y Llynges Frenhinol
  • Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru:
    • Cynrychioli'r holl sefydliadau gwirfoddol a'r trydydd sector yng Nghymru
    • Gweithredu fel cyswllt rhwng sefydliadau'r sector gwirfoddol a sefydliadau'r trydydd sector yng Nghymru a Fforwm Gwydnwch Cymru, gan sicrhau bod negeseuon pwysig a phenderfyniadau strategol yn cael eu cyfleu
  • Cadeirydd Partneriaeth Gwydnwch Cymru:
    • Adrodd ar gyflawni rhaglen waith Cymru gyfan
    • Uwchgyfeirio risgiau a materion sy'n gofyn am benderfyniadau strategol oddi wrth Bartneriaeth Gwydnwch Cymru
    • Gweithredu fel cyswllt rhwng Fforwm Gwydnwch Cymru a Phartneriaeth Gwydnwch Cymru, gan sicrhau bod negeseuon allweddol a phenderfyniadau strategol yn cael eu cyfleu
  • Ymddiriedolaeth Brifysgol GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
  • Llywodraeth Cymru:
    • Gweithredu fel cyswllt rhwng timau polisi Llywodraeth Cymru a Fforwm Gwydnwch Cymru, gan sicrhau bod negeseuon pwysig a phenderfyniadau strategol yn cael eu cyfleu
  • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
  • Ymatebwyr categori 2:
    • Asiantaethau'r Llywodraeth:
      • Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA)
      • Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch
      • Y Swyddfa Dywydd
      • Yr Awdurdod Adfer Safleoedd Mwyngloddio (yr Awdurdod Glo, gynt)
  • Trafnidiaeth:
    • Meysydd Awyr
    • Harbyrau a Phorthladdoedd
    • Network Rail
    • Cwmnïau trên (sy'n ncludo teithwyr ac yn cludo nwyddau) gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru
  • Cyfleustodau:
    • Dosbarthwyr a throsglwyddwyr trydan
    • Dosbarthwyr nwy
    • Darparwyr gwasanaethau ffôn (sefydlog a symudol)
    • Ymgymerwyr dŵr a charthffosiaeth
  • Arsylwyr:
    • Llywodraeth y Deyrnas Unedig:
      • Darparu mewnwelediad o safbwynt Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod gwaith cynllunio gwydnwch a gwaith paratoi ledled Cymru yn cefnogi gwydnwch y Deyrnas Unedig