Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd ar gyfer cam mis Mehefin 2025.

Casgliadau arweiniol

Blwyddyn gymysg hyd yma

Mae oddeutu chwarter (23%) o fusnesau twristiaeth wedi cael mwy o gwsmeriaid hyd yma eleni o’i gymharu â’r llynedd, ac mae 41% arall wedi cael yr un lefel. Fodd bynnag, mae 36% wedi adrodd lleihad.

Mae sectorau nad ydynt yn sectorau llety yn agos at gyfateb i berfformiad y llynedd, ond mae sectorau llety wedi cael blwyddyn heriol hyd yn hyn, yn enwedig y sector hunan-ddarpar, lle mae 17% wedi cael mwy o gwsmeriaid eleni ond 47% wedi cael llai.

Mae De-ddwyrain Cymru yn gwneud yn debyg i'r llynedd, gyda 27% o fusnesau'n gweld cynnydd mewn cwsmeriaid o gymharu â 25% yn gweld gostyngiad. Mae'r tri rhanbarth arall yng Nghymru i gyd i lawr at ei gilydd.

Bu tywydd heulog y gwanwyn o gymorth i lawer o fusnesau

Gwanwyn 2025 (Mawrth i Fai) oedd y gwanwyn mwyaf heulog a chynhesaf a gofnodwyd erioed yng Nghymru a’r DU yn ôl y Swyddfa Dywydd. Mae dau o bob pump (40%) o fusnesau sydd â chynnydd mewn cwsmeriaid y flwyddyn hyd yma yn priodoli eu cynnydd mewn busnes yn ddigymell i dywydd heulog y gwanwyn.

Mae diffyg incwm gwario yn amharu ar y galw

Ar yr ochr arall, mae dau o bob pump (40%) o fusnesau sydd â llai o gwsmeriaid yn priodoli eu dirywiad yn ddigymell i ‘bobl heb incwm gwario’.

Mae perfformiad yr haf yn dibynnu i raddau helaeth ar archebion munud olaf

Cyfraddau deiliadaeth presennol ar gyfer mis Awst yw 76% yn y sector carafanau a gwersylla, 72% mewn llety hunan-ddarpar a 65% mewn llety â gwasanaeth. Dywed llawer o weithredwyr eu bod angen mwy o archebion na hyn yn ystod y tymor brig ond bod tuedd gref tuag at archebu munud olaf. Mae’r duedd yn cael ei gyrru gan aros i weld beth mae rhagolygon y tywydd yn ei ddangos ac incwm gwario, felly bydd y ddau ffactor yn dylanwadu ar berfformiad busnesau twristiaeth Cymru yr haf hwn.

Hyder mewn rhedeg y busnes yn broffidiol

Mae tua un o bob chwech (16%) o weithredwyr yn teimlo’n ‘hyderus iawn’ i weithredu’n broffidiol eleni a dywed 41% arall eu bod yn teimlo’n ‘weddol hyderus’. Mae hyn er gwaethaf pwysau cost sylweddol.

Adroddiadau

Baromedr Twristiaeth: cam mis Mehefin 2025 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 968 KB

PDF
968 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Phil Nelson

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.