Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae'r adolygiad annibynnol o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi'i gyhoeddi heddiw.

Comisiynwyd yr adolygiad annibynnol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe ym mis Rhagfyr 2023 i roi sicrwydd am y gwasanaethau a ddarperir ac i nodi cyfleoedd i wella gwasanaethau. Cafodd yr adolygiad ei oruchwylio gan banel annibynnol sydd wedi chwarae rhan allweddol wrth roi sicrwydd am bob agwedd ar yr adolygiad a sicrhau bod yr adolygiad yn cael ei gyflawni yn unol â'r cylch gorchwyl.

Ddoe cyhoeddodd grŵp cefnogi mamolaeth Bae Abertawe ei adolygiad, a arweiniwyd gan deuluoedd, i wasanaethau mamolaeth Bae Abertawe. Roedd mwy na 50 o deuluoedd wedi cyfrannu at yr adroddiad, sy’n tynnu sylw at eu profiadau yn ogystal at fethiannau canfyddedig ym mhroses uwchgyfeirio a goruchwylio nifer o gyrff statudol gan gynnwys Llywodraeth Cymru.

Cafodd yr adolygiad dan arweiniad teuluoedd ei lunio gan grŵp o rieni sydd wedi dioddef niwed yng ngwasanaeth mamolaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Hoffwn gynnig ymddiheuriad llawn a diamwys ar ran Llywodraeth Cymru i'r holl fenywod a theuluoedd nad ydynt wedi derbyn y gwasanaeth neu'r gofal yr oeddent yn ei haeddu a'i ddisgwyl gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Wrth ymateb i'r adolygiad, hoffwn gydnabod dewrder y teuluoedd a rannodd eu profiadau am y gofal a gawsant.

Rwy'n sylweddoli ei bod yn wythnos ymwybyddiaeth Trawma Genedigaeth yr wythnos hon – digwyddiad sydd â’r nod o dynnu sylw at bwnc genedigaeth drawmatig a'r effaith y mae'n ei chael ar fenywod a'u teuluoedd.

Mae themâu cyffredin yn amlwg yn y ddau adroddiad, yn ymwneud â chyfathrebu a chyngor gwael; trawma ac ofn; menywod a theuluoedd yn teimlo eu bod yn cael eu hanwybyddu; diffyg tosturi a gofal; gwneud penderfyniadau ar sail gwybodaeth; mynediad at ofal; a chael eu gwahanu oddi wrth bartner geni. Mae'r ddau adroddiad yn cyfeirio at brofiadau annerbyniol a gafodd cleifion a theuluoedd, materion diwylliannol, staffio, materion hyfforddi ac adnoddau, pryderon amgylcheddol a phryderon diogelwch. Mae'r rhain yn adlewyrchu'r profiadau a fynegwyd gan fenywod yn adroddiad diweddar Llais ac maent yn adleisio'r profiadau a rannodd teuluoedd gyda mi pan wnaethom gwrdd fis diwethaf.

Ni ddylai hyn byth ddigwydd eto. 

O ganlyniad i'r materion a amlygwyd yn yr adroddiad dan arweiniad teuluoedd a'r adroddiad adolygu annibynnol, ynghyd â’r pryderon parhaus a godwyd, rwy'n codi lefel uwchgyfeirio gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i lefel pedwar. 

Mae'r adroddiad annibynnol yn gwneud 10 o argymhellion â blaenoriaeth, a ategir gan argymhellion mwy manwl ar gyfer y bwrdd iechyd. Mae 11 o argymhellion eraill wedi'u cyfeirio at Lywodraeth Cymru ac rwy'n derbyn pob un. Mewn nifer o feysydd, mae gwaith ar y gweill yn barod.

Mae’r argymhelliad cyntaf yn ymwneud â'r broses Gweithio i Wella. Rydym wrthi’n diwygio ac yn diweddaru'r system hon. Mae rheoliadau diwygiedig, sy'n adlewyrchu'r adborth a gawsom yn ystod y cyfnod ymgynghori cyhoeddus, wedi'u gosod yn y Senedd, ac rydym yn datblygu'r canllawiau cysylltiedig. Bydd y broses ddiwygiedig yn dod i rym o fis Ebrill 2026.

Mae’r ail argymhelliad yn ymwneud â chyflwyno llwybr cleifion sydd wedi'u niweidio – a hynny ar gyfer pob disgyblaeth, gan gynnwys gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, er mwyn sicrhau bod yr ymateb yn gyflym a phendant, heb fod yn amddiffynnol. Bydd hyn yn cael ei ystyried a'i ystyried wrth ddatblygu'r canllawiau ar gyfer y rheoliadau Gweithio i Wella diwygiedig.

Mae’r trydydd argymhelliad yn ymwneud â chymorth seicolegol sydd ar gael yn gyflym i fenywod a theuluoedd. Bydd y gwasanaeth newydd yng Nghaerdydd, a lansiwyd gan y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant y llynedd, yn cael ei werthuso a bydd yr hyn a ddysgwyd ohono yn cynorthwyo’r broses o gyflwyno gwasanaethau ledled Cymru.  

Er mwyn ymateb i’r pedwerydd argymhelliad, bydd Cronfa Risg Cymru a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'i gilydd i ystyried y posibilrwydd o fabwysiadu egwyddorion thematig y Fframwaith Ymateb i Ddigwyddiadau Diogelwch Cleifion (PSIRF) sydd wedi'i gyflwyno ledled Lloegr.

Mae’r pumed argymhelliad ymwneud â swyddogaeth y Rhwydwaith Mamolaeth a Newyddenedigol Strategol. Bydd adolygiad o'r swyddogaeth weithredu a goruchwylio yn cael roi ar waith gan Perfformiad a Gwella’r GIG ar y cyd â Llywodraeth Cymru.

Mae'r ddau argymhelliad nesaf yn ymwneud â darparu gwasanaethau newyddenedigol. Mae argymhelliad chwech yn galw am adolygiad o gapasiti gofal critigol newyddenedigol yng Nghymru ac mae argymhelliad saith yn galw am wasanaethau canolog i fabanod sy'n cael eu geni’n eithriadol o gynamserol yng nghyfnod y beichiogrwydd. Mae Cyd-bwyllgor Comisiynu GIG Cymru wedi ymgymryd â gwaith ar gapasiti gofal critigol newyddenedigol, gan gynnwys cynnal gwerthusiadau o’r galw a’r capasiti ar gyfer pob un o'r tair lefel o ofal newyddenedigol. Bydd cam nesaf y prosiect arfaethedig i ailffurfweddu cotiau babanod yn  dechrau eleni a bydd yn ystyried y cyfluniad gorau o wasanaethau i ddarparu model effeithlon a chynaliadwy a fydd yn rhoi’r canlyniadau gorau i famau a babanod.

Mae’r wythfed argymhelliad yn tynnu sylw at yr angen i edrych ar wasanaethau clinigol risg uchel a cheisio sicrwydd bod canlyniadau'n unol â safonau cenedlaethol. Bydd y Cyd-bwyllgor Comisiynu yn bwrw ymlaen â hyn ar gyfer gofal newyddenedigol fel rhan o'i brosiect ailffurfweddu cotiau babanod. Mae Perfformiad a Gwella’r GIG hefyd yn edrych ar y maes hwn fel rhan o'i waith ehangach i asesu bregusrwydd gwasanaethau.

Mae’r nawfed argymhelliad yn ymwneud â phrinder ym maes cymorth radioleg pediatrig. Mae hyn wedi'i nodi gan y Rhaglen Ddelweddu Genedlaethol a'r Cyd-bwyllgor Comisiynu ac mae rhywfaint o waith ymchwil cychwynnol wedi'i wneud. Felly, bydd camau i fynd i'r afael â hyn yn cael eu datblygu gan y Rhaglen Ddelweddu Genedlaethol ar y cyd â'r Cyd-bwyllgor Comisiynu a’r byrddau iechyd. 

Mae’r degfed argymhelliad yn ymwneud ag adrodd yn brydlon ar ganlyniadau archwiliadau post-mortem. Unwaith eto, mae'r Cyd-bwyllgor Comisiynu wedi ymgymryd â gwaith sylweddol i wella mynediad at batholeg pediatrig ac amenedigol ac mae'n gweithio i sicrhau adrodd amserol.

Mae'r argymhelliad terfynol yn cyfeirio at berthnasedd yr argymhellion yn yr adroddiad hwn i wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol eraill yng Nghymru. Bydd fy swyddogion yn gweithio gyda'r rhaglen cymorth diogelwch mamolaeth a newyddenedigol i sicrhau bod dysgu yn cael ei rannu ar draws y GIG.

Mae nifer o argymhellion yn yr adolygiad a arweiniwyd gan deuluoedd sy'n ymwneud â Llywodraeth Cymru a chyrff statudol gan gynnwys Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Archwilio Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Byddaf yn trafod y rhain gyda'r cyrff priodol cyn ymateb yn llawn i grŵp cefnogi mamolaeth Bae Abertawe. Gall yr Aelodau fod yn sicr y bydd yr holl gamau priodol yn cael eu cymryd wrth ymateb i'r gwaith hwn.

Fel y cyhoeddais ym mis Mai, rwyf wedi comisiynu Perfformiad a Gwella’r GIG i gynnal asesiad o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ar lefel Cymru gyfan. Bydd hwn yn dechrau y mis yma a bydd yn cael ei gadeirio'n annibynnol. Bydd yn ystyried canfyddiadau'r adolygiadau diweddar o wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol ledled y DU, gan gynnwys ym Mae Abertawe.

Heddiw, mae Perfformiad a Gwella’r GIG hefyd wedi cyhoeddi adroddiad cynnydd cyntaf y rhaglen diogelwch gwasanaethau mamolaeth a newyddenedigol, sy'n tynnu sylw at y cynnydd a wnaed yn erbyn camau diogelwch cenedlaethol. 

Rwy'n datgan yn glir bod rhaid i holl wasanaethau mamolaeth a newyddenedigol y GIG ddysgu o'r adolygiad o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe. Gyda'n gilydd, rhaid inni ymrwymo i ddarparu'r profiadau a'r canlyniadau gorau posibl i bob menyw yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth.

Rhaid i bob menyw a babi gael gofal o ansawdd da sy’n ddiogel a thosturiol. Rhaid i’w lleisiau gael eu clywed yn ystod beichiogrwydd a genedigaeth a rhaid iddynt gael eu cynnwys mewn cynlluniau i wella gwasanaethau. 

Byddaf yn gwneud datganiad llafar y prynhawn yma.