Dawn Bowden, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Mae'r strategaeth uchelgeisiol hon yn cyflwyno gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer dull cynhwysfawr, trawslywodraethol, system gyfan i fynd i'r afael â cham-drin plant yn rhywiol yn ei holl ffurfiau. Mae hon yn foment arwyddocaol i Lywodraeth Cymru ac i ymarferwyr, rhieni a phlant ledled Cymru, gan ei bod yn nodi ymrwymiad hirdymor i atal, amddiffyn a chefnogi.
Cafodd y strategaeth ei chynhyrchu ar y cyd ag oedolion sy'n ddioddefwyr-oroeswyr ac â phartneriaid yn y sector, gan gynnwys yr NSPCC, Barnardo's, y Ganolfan Arbenigedd ar Gam-drin Plant yn Rhywiol, a Sefydliad Lucy Faithfull, gan sicrhau ei bod wedi'i seilio ar brofiad bywyd a dealltwriaeth arbenigol. Mae'n ymateb yn uniongyrchol i adborth gan randdeiliaid, a oedd yn galw am weledigaeth fwy hirdymor i ymdrin â chymhlethdod cam-drin plant yn rhywiol ac i sbarduno newid diwylliannol.
Mae'r strategaeth yn cynnwys pwyslais penodol ar gefnogi oedolion sy'n ddioddefwyr-oroeswyr, ochr yn ochr â chamau gweithredu i atal camdriniaeth, i amddiffyn plant ac i helpu teuluoedd i adfer. Mae pedwar canlyniad strategol yn ganolog i’r strategaeth:
- Atal cam-drin plant yn rhywiol
- Amddiffyn plant sydd wedi'u heffeithio gan gamdriniaeth
- Cefnogi plant a theuluoedd i adfer
- Cefnogi oedolion sy'n dioddefwyr-oroeswyr i adfer
Rydym yn cydnabod y gall cam-drin plant yn rhywiol ddigwydd ar sawl ffurf – gan gynnwys camfanteisio ar-lein ac all-lein, a cham-drin sy'n ymwneud ag unigolion neu grwpiau, er enghraifft camfanteisio'n rhywiol ar blant ar sail grŵp.
Er mwyn sicrhau momentwm a chynnydd y gellir eu mesur, cynigir y bydd y strategaeth yn cael ei chyflawni drwy gyfres o gynlluniau cyflawni tair blynedd. Bydd y cynlluniau hyn yn darparu fframwaith gweithredu clir ac yn cynnal ffocws cyson ar newid effeithiol a gwelliant parhaus.
Rwy'n annog unigolion, sefydliadau a chymunedau ledled Cymru i gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ac i helpu i siapio'r gwaith hanfodol hwn.
Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i'r dioddefwyr a'r goroeswyr sydd wedi rhannu eu profiadau gyda ni. Mae eich dewrder a'ch gonestrwydd wedi bod yn ganolog i lunio'r strategaeth hon. Diolch hefyd i'n partneriaid a'n rhanddeiliaid am eu cefnogaeth a'u hymrwymiad cyson. Gyda'n gilydd, rydym yn adeiladu Cymru fwy diogel a thosturiol.
