Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Ym mis Ionawr, lansiais ymgynghoriad ar ddefnyddio data a gwybodaeth i gefnogi dysgu a gwelliant a fframwaith arfaethedig ar gyfer adrodd ar ddysgu 14 i 16 mewn ysgolion. Heddiw, rwy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwnnw, a'r camau nesaf.
Amlinellodd yr ymgynghoriad gyfres o egwyddorion 'ecosystem wybodaeth' i sicrhau dealltwriaeth gyffredin o'r ffordd y dylid defnyddio data a gwybodaeth ar draws y system addysg, ac i roi sicrwydd ynghylch y ffordd mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio'r data y mae'n eu casglu eisoes. Mae'r egwyddorion hyn yn ein helpu i symud i ffwrdd oddi wrth arferion sy'n cael eu gyrru gan atebolrwydd tuag at ddiwylliant sy'n grymuso'r gweithlu addysg i ganolbwyntio ar gynnydd dysgwyr unigol. Maent hefyd yn cefnogi dull system gyfan o ddefnyddio data yn effeithiol, gan ein galluogi i wneud gwelliannau ystyrlon ar draws y sector mewn ffordd gynhwysol.
Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnig Fframwaith Dangosyddion yr Hawl i Ddysgu 14 i 16 er mwyn cefnogi dysgu 14 i 16 o dan y Cwricwlwm i Gymru. Bydd hyn yn darparu darlun llawnach a mwy cytbwys o ddysgu 14 i 16 mewn ysgolion heb gyflwyno beichiau casglu data ychwanegol. Mae'r Fframwaith wedi'i gynllunio i sicrhau bod yr wybodaeth sydd ar gael i ddysgwyr, rhieni, a'r cyhoedd ehangach yn dryloyw ac yn agored, gan helpu i adeiladu dealltwriaeth gliriach, lawnach o'r ffordd mae ysgolion yn cefnogi cynnydd dysgwyr.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ym mis Mawrth ac mae'r holl ymatebion wedi'u dadansoddi'n annibynnol gan Miller Research a'u dwyn ynghyd mewn adroddiad sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Mae'r ymatebion wedi rhoi adborth gwerthfawr i ni er mwyn ein helpu i barhau i ddatblygu a gweithredu egwyddorion yr ecosystem wybodaeth a'r Fframwaith Dangosyddion Hawl i Ddysgu 14 i 16, gan ein helpu i sicrhau bod y trefniadau newydd yn cael eu deall yn glir a'u teilwra'n well i gefnogi dysgwyr tra'n lleihau effeithiau anfwriadol ar y gweithlu addysg. Byddwn yn dangos sut rydym yn mynd i'r afael â phryderon llwyth gwaith wrth i'r gwaith hwn fynd rhagddo.
Ochr yn ochr â'r ymgynghoriad, cynhaliwyd cyfres o ddigwyddiadau arweinyddiaeth 14 i 16 ledled Cymru, gyda tua 150 o arweinwyr ysgolion uwchradd yn mynd i weithdai ar hunanwerthuso a defnyddio data i gefnogi gwelliant. Casglwyd adborth ychwanegol ar y cynigion trwy'r digwyddiadau hyn ac mae hynny wedi gwella ein dealltwriaeth ymhellach.
Mae Adroddiad ar Benderfyniadau lefel uchel, sy'n darparu gwybodaeth am y penderfyniadau allweddol yr wyf wedi'u gwneud mewn perthynas â'r cynigion, bellach ar gael ar wefan Hwb. Mae'r adroddiad yn dangos sut mae'r dystiolaeth wedi llywio fy mhenderfyniadau a'r camau nesaf rydyn ni'n eu cymryd.
Wrth i ni fwrw ymlaen â'r gwaith hwn, byddaf yn sicrhau bod cyfarwyddyd clir ar ddiben yr egwyddorion ecosystem wybodaeth a'r Fframwaith Dangosyddion 14 i 16, a sut rwy'n disgwyl iddynt gael eu defnyddio i gefnogi ein dyheadau o ran y Cwricwlwm i Gymru. Bydd hyn er mwyn paratoi ar gyfer gweithredu'r Fframwaith i adrodd ar ganlyniadau y garfan blwyddyn 11 gyntaf o dan y Cwricwlwm i Gymru yn haf 2027.
Dros y misoedd nesaf, bydd swyddogion yn trafod â phartneriaid i fireinio manylion y trefniadau newydd hyn ac yn dechrau edrych ar ddatblygu offer digidol a systemau adrodd ategol. Byddwn yn cyhoeddi'r manylion hyn wrth eu cadarnhau a byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth i Aelodau'r Senedd wrth i'r gwaith fynd rhagddo.
