Neidio i'r prif gynnwy

Mae Cronfa Morwrol a Pysgodfeydd Ewropeaidd (EMFF) bellach wedi cau.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Manylion

Mae sefydliadau yn parhau i fod yn atebol am gadw'r eitemau a brynwyd fel rhan o unrhyw ddyfarniad grant.

Parhauster gweithrediadau – gwybodaeth bwysig i ymgeiswyr

Rhaid i ymgeiswyr a fu'n llwyddiannus wrth wneud cais am gyllid EMFF sicrhau bod eu prosiectau'n parhau i fodloni disgwyliadau Parhauster Gweithrediadau a nodir yn Rheoliad CE Rhif 1303/2013 y Rheoliadau Darpariaethau Cyffredin, sef:

Rhaid i chi gadw'r holl ddogfennau gwreiddiol sy'n gysylltiedig â'r prosiect am 5 mlynedd o ddyddiad yr hawliad EMFF diwethaf.  Ar unrhyw adeg hyd at y dyddiad hwnnw efallai y bydd archwilwyr y Comisiwn Ewropeaidd yn dymuno archwilio unrhyw ddogfennaeth wreiddiol neu'r holl ddogfennau gwreiddiol, gan gynnwys, ymhlith pethau eraill, ffurflenni archebu a nodiadau cyflenwi ar gyfer peiriannau ac offer; biliau maint; tendrau, amcangyfrifon a dyfynbrisiau; tystysgrifau penseiri (etc.); datganiadau ac anfonebau; llyfrau cyfrifon perthnasol; lluniadau, cynlluniau a manylebau technegol. Mae methu â chadw dogfennaeth neu ganiatáu i ddogfennaeth gael ei gweld fel yr amlinellir yn drosedd a gall Llywodraeth Cymru gymryd camau.

Rhaid i chi beidio ag addasu eich prosiect o fewn pum mlynedd i gyllid Ewropeaidd gael ei ddyfarnu os byddai'r addasiad hwnnw'n effeithio ar natur eich prosiect neu unrhyw amod a osodir ar ei weithredu neu os byddai'n arwain at fantais annheg yn cael ei roi i unrhyw drydydd parti, gelwir hyn yn barhauster gweithrediadau. O fewn y cyfnod hwnnw, rhaid i chi hefyd beidio â gwaredu unrhyw asedau neu seilwaith na stopio neu adleoli unrhyw weithgaredd os byddai hynny'n arwain at addasiad i'ch prosiect.  

Os ydych chi'n berchen ar long bysgota, neu'n cefnogi un drwy eich prosiect, ni chaniateir trosglwyddo’r llong honno y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd yn ystod o leiaf pum mlynedd ar ôl dyddiad talu'r cyllid hwnnw i chi. Os bydd llong yn cael ei throsglwyddo o fewn y cyfnod hwnnw, bydd y symiau sy'n cael eu talu ar gyfer y prosiect hwnnw yn cael eu hadennill gan Lywodraeth Cymru, mewn swm sy'n gymesur â'r cyfnod na chafodd yr amod a nodir ym mrawddeg gyntaf y paragraff hwn ei fodloni.

Os ydych chi'n berchen ar long bysgota, neu'n cefnogi un drwy eich prosiect, a bod y llong yn cael ei gwerthu neu ei throsglwyddo o fewn yr Undeb Ewropeaidd yn ystod o leiaf y pum mlynedd ar ôl dyddiad talu'r cyllid hwnnw i chi, rhaid i berchennog newydd y llong dderbyn telerau ac amodau'r cynnig cyllid hwn. Os nad yw'r perchennog newydd yn derbyn telerau ac amodau'r cynnig cyllid hwn, yna efallai y bydd yn ofynnol i chi fel ymgeisydd ad-dalu'r cyfan neu rywfaint o'r cyllid a dalwyd i chi.

Rhaid bod yn berchen ar eitemau a brynwyd gan ddefnyddio cyllid cyhoeddus y cynllun EMFF at eu diben gwreiddiol a'u defnyddio at y diben hwnnw am o leiaf bum mlynedd, ac eithrio pan fo rheolau Cymorth Gwladwriaethol yn darparu am gyfnod gwahanol, neu pan fo'r eitemau'n cael eu prydlesu. Yn achos prosiect sy'n cynnwys buddsoddiad mewn seilwaith neu fuddsoddiad cynhyrchiol, a phan nad yw'r ymgeisydd yn fusnes micro, bach neu ganolig (BBaCh), bydd gofyn i chi ad-dalu cyfraniad cyllido'r cynllun EMFF os, o fewn 10 mlynedd i daliad terfynol y prosiect, mae'r prosiect neu'i weithgarwch yn cael ei adleoli y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Bydd rhywfaint neu'r cyfan o'r cyllid ar gyfer prosiectau nad ydynt yn bodloni'r Gwydnwch Gweithrediadau uchod yn cael ei adennill.

Rhaid i chi gydymffurfio â'r darpariaethau ar anghymhwystra a gynhwysir yn Rheoliad (EU) 2015/288 a'r canllawiau anghymhwystra cynllun EMFF y DU. Rhaid i chi hysbysu Llywodraeth Cymru os canfyddir eich bod yn euog o dwyll (fel y'i diffinnir yn y canllawiau) neu dor-cyfraith difrifol cyn gwneud cais am gyllid neu ar unrhyw adeg hyd at bum mlynedd o ddyddiad y taliad terfynol a wnaed o dan y cynnig grant hwn.