Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Mae'r datganiad hwn yn rhoi diweddariad i'r Aelodau am ail gam yr adolygiad o fframwaith perfformiad y gwasanaeth ambiwlans brys.
Yn dilyn yr adolygiad o'r targed ymateb coch wyth munud, a gynhaliwyd mewn ymateb i argymhellion gan Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, gofynnais i'r tasglu edrych ar linellau amser ac ansawdd gofal i bobl nad ydynt yn y categorïau argyfwng porffor newydd: ataliad neu goch.
Bu’r tasglu’n edrych ar y categori oren, sy'n cynnwys sut mae Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn ymateb i boen yn y frest, strôc, a thorri esgyrn mewn achosion sy'n cael eu categoreiddio fel achosion difrifol ond lle nad oes perygl uniongyrchol i fywyd. Galwadau categori oren yw tua 70% o'r galwadau 999, ac mae rhai cyflyrau yn golygu bod angen cludo'r claf i'r ysbyty ar gyfer diagnosis a thriniaeth.
Roedd yr adolygiad hefyd yn edrych ar alwadau categori gwyrdd, sef achosion nad ydynt yn ddifrifol a lle nad oes perygl uniongyrchol i fywyd. Dyma achosion y gellir eu rheoli yn y gymuned, neu os bydd angen i'r claf fynd i'r ysbyty gall wneud hynny drwy ddefnyddio gwasanaeth cludiant nad yw’n wasanaeth argyfwng.
Canfuwyd nad yw'r system gategoreiddio bresennol yn ddigon soffistigedig i ddarparu ymateb sydd bob amser yn adlewyrchu gwir naws y galwad unigol sy'n wirioneddol sensitif i amser, a gall y system nodi unigolion iach fel rhai sâl, gan anfon ambiwlans ar eu cyfer. Er enghraifft, gall symptomau diffyg traul arwain at anfon ambiwlans brys sydd wedi'i staffio gan ddau barafeddyg medrus, a'r unigolyn a oedd yn destun yr alwad yn cael ei gludo i'r ysbyty, pan fyddai hunanofal neu ei gyfeirio at wasanaeth cymunedol wedi bod yn opsiwn mwy priodol.
Hefyd, tynnodd y tasglu sylw at y manteision pe bai parafeddyg neu nyrs yn sgrinio galwadau’n glinigol er mwyn nodi'r bobl hynny sy'n dangos symptomau clir strôc, STEMI (math o drawiad ar y galon), a chyflyrau eraill sy'n sensitif i amser. Byddai’r system hon yn sicrhau bod y galwadau hyn yn cael yr ymateb 999 cywir, gyda'r claf yn cael ei gludo'n syth i ganolfan arbenigol sy'n cynnig y triniaethau cywir ar gyfer strôc a STEMI, gan wella ei ganlyniadau.
Er mwyn nodi galwadau'n fwy cywir a mynd i'r afael ag ymatebion 999 ar gyfer y sawl sy'n galw yn sgil digwyddiad iechyd sy'n sensitif i amser, rwy'n ychwanegu tri chategori newydd arall at fframwaith perfformiad y gwasanaeth ambiwlans brys, a fydd yn disodli'r categorïau oren a gwyrdd presennol:
- Oren – categori sensitif i amser. Bydd y categori hwn yn cwmpasu galwadau sy'n gofyn am ymateb prydlon ac am weithredu protocolau gofal clinigol sy'n seiliedig ar dystiolaeth gan glinigwyr ambiwlans, ynghyd â chludiant cyflym i'r ysbyty neu ganolfan arbenigol ar gyfer triniaeth bellach.
- Melyn – asesu ac ymateb. Bydd hyn yn berthnasol i alwadau sy'n gofyn am asesiad clinigol, a allai olygu bod angen cludo'r claf i un o wasanaethau'r GIG, neu ei atgyfeirio at wasanaeth cymunedol, neu gellir ei ryddhau yn y fan a'r lle.
- Gwyrdd - ymateb wedi'i gynllunio. Mae hyn ar gyfer galwadau ar gyfer unigolion y gellir eu gweld a'u rhyddhau yn y fan a'r lle, neu ddefnyddio gwasanaeth wedi'i drefnu i ddarparu mynediad at y cymorth cywir a fydd yn bodloni eu hanghenion clinigol.
Bydd y newidiadau hyn yn cael eu cyflwyno cyn y gaeaf hwn.
Bydd mesuriadau ar gyfer y categori oren sensitif i amser newydd yn cynnwys darparu bwndeli gofal clinigol gan glinigwyr ambiwlans a'r amseroedd ‘galwad i ddrws’ canolrifol ar gyfer pobl sy'n dioddef strôc a STEMI. Bydd dangosyddion clinigol ychwanegol yn cael eu datblygu yn ôl yr angen.
Byddwn hefyd yn mesur amseroedd ymateb canolrifol a 90 canradd (amser aros hiraf) yr adnodd mwyaf priodol ym mhob categori. Er enghraifft, mewn achosion strôc acíwt, bydd system monitro perfformiad yn canolbwyntio ar ba mor gyflym y mae clinigydd ambiwlans yn cyrraedd mewn cerbyd sy'n gallu cludo'r unigolyn i'r ysbyty, gan fod cludiant at y clinigydd cywir ar gyfer yr ymyrraeth gywir yn hanfodol er mwyn sicrhau canlyniadau cadarnhaol.
Ar gyfer categorïau melyn a gwyrdd, bydd yr amseroedd ymateb canolrifol a'r 90 canradd yn ôl yr adnodd mwyaf priodol, ynghyd â data am ganlyniadau unigolion, ar ôl asesiad neu ymateb y gwasanaeth ambiwlans, yn cael eu mesur.
Bydd y mesuriadau hyn yn cael eu hasesu fel rhan o fframwaith perfformiad y gwasanaeth ambiwlans brys ehangach yn ystod y 12 i 18 mis nesaf.
Er mwyn cefnogi pobl sy'n wynebu argyfyngau iechyd sy'n sensitif i amser, megis strôc, rydym yn treialu defnyddio fideos brysbennu cyn cyrraedd yr ysbyty (PHVT) mewn pum ysbyty ar draws Cymru. Mae hon yn system sy'n helpu timau clinigol i asesu a darparu diagnosis o strôc, fel bod cleifion yn derbyn y gofal mwyaf priodol yn gyflym. Mae'n galluogi clinigwyr sy'n darparu gofal cyn cyrraedd yr ysbyty, megis criwiau ambiwlans, ac arbenigwyr strôc yn yr ysbyty ei hun i gyfathrebu mewn amser real, er mwyn gwella asesiadau a diagnosis o strôc.
Mae'r adborth cynnar o'r peilot yn dangos bod PHVT yn gwella gwybodaeth cyn cyrraedd i’r timau yn yr ysbyty. Bydd y gwasanaeth yn destun gwerthusiad trylwyr, a fydd yn helpu i lunio'r opsiynau ar gyfer cyflwyno'r system ledled Cymru os yw'r canlyniadau'n gadarnhaol.
Mae byrddau iechyd, gyda chefnogaeth Perfformiad a Gwella GIG Cymru, hefyd wrthi'n datblygu model newydd ar gyfer gofal strôc. O 1 Gorffennaf ymlaen, mae Ysbyty Athrofaol Cymru wedi bod yn darparu gwasanaeth thrombectomi yn ystod y dydd ar gyfer De Cymru – mae thrombectomi yn driniaeth i dynnu clot gwaed o bibell waed.
Ynghyd â PHVT a chyflwyno AI ledled Cymru i gefnogi'r diagnosis o strôc, dyma gamau hanfodol i wella gofal strôc, cyfraddau goroesi, a chanlyniadau.
Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am effaith y newidiadau hyn a gwaith y tasglu cenedlaethol i leihau oedi wrth drosglwyddo cleifion o ambiwlansys mewn adrannau brys.
