Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi'r Crynodeb o'r Ymatebion i'r Papur Gwyn ar Dai Digonol, Rhenti Teg, a Fforddiadwyedd, gan gynnwys ein camau nesaf wrth fwrw ymlaen â'r gwaith hwn

Cyhoeddwyd y Papur Gwyn ar Dai Digonol, Rhenti Teg a Fforddiadwyedd ar 24 Hydref 2024 a daeth yr ymarfer ymgynghori i ben ar 31 Ionawr 2025. Cafwyd 308 o ymatebion i'r Papur Gwyn oddi wrth ystod eang o randdeiliaid ar draws y sector tai. 

Yn ystod y cyfnod ymgynghori, ymgysylltodd swyddogion â rhanddeiliaid drwy gyfres o weithdai, gydag un ar gyfer tenantiaid y Sector Rhentu Preifat yng Nghaerdydd a gweithdai ar gyfer landlordiaid ac asiantau yng Nghaerdydd a Llandudno. Cynhaliodd swyddogion hefyd sesiynau ymgysylltu ar-lein gyda 149 o fynychwyr. 

Hoffwn ddiolch i bawb a gymerodd yr amser i ymateb i’r ymgynghoriad, gan gynnwys aelodau o'n Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid. Hoffwn hefyd ddiolch i bawb a gymerodd ran yn y gweithdai neu'r sesiynau ar-lein.

Mae sicrhau bod gan bawb yng Nghymru le gweddus, fforddiadwy a diogel i'w alw'n gartref yn uchelgais allweddol y Llywodraeth hon. Mae'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi llywio'r camau nesaf ar ein taith tuag at sicrhau digonolrwydd tai i bawb yng Nghymru a byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i fwrw ymlaen â'r cynigion hyn.