Neidio i'r prif gynnwy

Ar y dudalen hon

Eich cyf/Your ref 
Ein cyf/Our ref:  MA/HIDCC/1379/25

Gorffennaf 2025

Annwyl Lynda,

Hoffwn ddiolch am yr adroddiad "Diogelu Gwrychoedd yng Nghymru". Mae'n amlwg bod llawer iawn o waith wedi mynd i mewn i'r ddogfen bwysig hon, ac mae'n mynegi'n glir pa mor hanfodol yw ein gwrychoedd fel nodweddion tirwedd a diwylliannol, fel cynefinoedd sy'n flaenoriaeth ac fel ffactor gwerthfawr wrth liniaru hinsawdd a gwrthdroi colli bioamrywiaeth. Rhowch fy niolchiadau i aelodau tîm Aseswr Diogelu'r Amgylchedd Dros Dro Cymru, y gorffennol a'r presennol, a'r myfyrwyr a fu'n rhan o greu'r adroddiad.  

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn nad yw llawer o'n gwrychoedd yn gwneud yn dda ar hyn o bryd ac rydym wedi ymrwymo o hyd i ddod â newid cadarnhaol gwirioneddol trwy gynnig cymorth i dirfeddianwyr adfywio gwrychoedd presennol a chreu mwy ohonynt.

Mae cyflwyno'r adroddiad yn amserol gan ein bod yn agos at gwblhau'r broses o gyd-ddylunio'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy, a fydd yn cefnogi ffermwyr i gymryd camau i fynd i'r afael â'r argyfwng natur a bioamrywiaeth ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd cynaliadwy. Disgwylir i wella rheoli a chreu gwrychoedd fod yn rhan bwysig o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy i gynnig manteision i fywyd gwyllt a da byw. Rwy'n falch o weld cydnabyddiaeth o hyn yn eich adroddiad.

Ynghyd â'm swyddogion, rwyf wedi ystyried yn ofalus yr argymhellion a gynhwysir yn yr adroddiad ac mae ein hymateb i bob argymhelliad wedi'i ddarparu yn yr atodiad i'r llythyr hwn. Rydym wedi gwneud rhywfaint o gynnydd eisoes wrth wella amddiffyniadau ar gyfer gwrychoedd a byddwn yn adeiladu ar y rhain yn y dyfodol. Yn ystod y cyfnod roedd eich adroddiad yn cael ei ddatblygu, gwnaed newidiadau i Bolisi Cynllunio Cymru sy'n cwmpasu'r argymhellion mewn rhai achosion. Argymhellion eraill, fel yr awgrymoch, yw'r rhai i'w hystyried yn nhymor nesaf y Senedd.

Byddwn yn cyfeirio at eich argymhellion wrth i ni barhau â'n hymdrechion, nawr ac yn y dyfodol, i sicrhau bod gwrychoedd yn cael yr amddiffyniadau sydd eu hangen i sicrhau ein bod yn cynnal y safonau amgylcheddol uchel y mae pobl Cymru yn eu disgwyl.

Yn gywir

Huw Irranca-Davies AS/MS

Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd 
a Materion Gwledig 

Deputy First Minister and Cabinet Secretary for Climate Change and Rural Affairs

Ymateb Llywodraeth Cymru

Argymhelliad 1

Dylai Llywodraeth Cymru godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwarchod gwrychoedd, gan gynnwys drwy ddarparu canllawiau clir i'r cyhoedd ac awdurdodau lleol ar y gofynion ar gyfer amddiffyn gwrychoedd yn gyfreithlon.

Derbyn mewn egwyddor  

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod pwysigrwydd gwarchod gwrychoedd ac rydym eisoes wedi cymryd camau i wneud hyn. Diweddarwyd Polisi Cynllunio Cymru, ein canllawiau cyhoeddedig ar gyfer penderfyniadau cynllunio, ym mis Chwefror 2024 i gryfhau gwarchod gwrychoedd (ochr yn ochr â gwarchod coed ac ardaloedd o goetir yn ehangach).  Mae paragraff 6.4.37 yn nodi, 

"Mae coed, perthi, grwpiau o goed ac ardaloedd o goetir o bwysigrwydd mawr i fioamrywiaeth. Maent yn gynefinoedd cysylltu pwysig ar gyfer rhwydweithiau ecolegol cydnerth ac maent yn gwneud cyfraniad ehangach hanfodol at gymeriad y dirwedd, diwylliant, treftadaeth, naws am le, ansawdd aer, hamdden a chymedroli’r hinsawdd leol. Maent yn gwneud cyfraniad hollbwysig hefyd at fynd i’r afael â newid hinsawdd drwy storio carbon, a gallant ddarparu cysgod, manteision ehangach i’r dirwedd trwy ddal llygredd aer a llygredd gwasgaredig a deunyddiau adeiladu."

Yn ogystal, mae gwrychoedd wedi'u rhestru fel cynefin â blaenoriaeth o dan Adran 7 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Bydd codi ymwybyddiaeth yn gyson ar draws sectorau yn ei gwneud hi'n haws amddiffyn a gwella gwrychoedd. Byddwn yn edrych ar pa gyfleoedd pellach sy'n bodoli o fewn y Cynllun Gweithredu Adfer Natur a'r Cynllun Gweithredu ar gyfer Peillwyr i hyrwyddo'r deunydd hwn, yn enwedig ar gyfer Awdurdodau Lleol, Partneriaethau Natur Lleol, a'r cyhoedd ehangach.  Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn ymrwymedig i barhau i godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd gwrychoedd mewn gweithgareddau eiriolaeth o ddydd i ddydd yn gyffredinol.  

Mae Bil ein Hamgylchedd (Egwyddorion, Llywodraethu a Thargedau Bioamrywiaeth) (Cymru) hefyd yn cynnwys darpariaeth a fydd yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i hyrwyddo ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bioamrywiaeth yng Nghymru.

Argymhelliad 2

Dylai Llywodraeth Cymru, yn nhymor nesaf y Senedd, ddeddfu i ddarparu amddiffyniad cyfreithiol i wrychoedd yng Nghymru sy'n adlewyrchu eu statws fel cynefinoedd blaenoriaeth. Dylai gweinidogion Cymru ymgynghori ar a ellid cyflawni hyn orau drwy adolygu'r Rheoliadau Gwrychoedd yn sylweddol neu drwy ddeddfwriaeth sylfaenol newydd.

Derbyn mewn egwyddor

Rydym yn derbyn nad yw'r rheoliadau bellach yn adlewyrchu statws gwrychoedd fel cynefinoedd blaenoriaeth a bydd angen ymgynghori ar newidiadau yn y dyfodol i adlewyrchu hyn.
  Mae'r adroddiad yn argymell newid sylweddol i'r rheoliadau a fyddai, pe bai'r rhagdybiaeth i amddiffyn pob gwrych domestig yn cael ei ddilyn, yn gofyn am ddeddfwriaeth sylfaenol.  Rydym yn cydnabod y bydd angen penderfyniad ynghylch a ellir darparu deddfwriaeth sylfaenol o'r fath o fewn y rhaglen ddeddfwriaethol ar gyfer tymor nesaf y Senedd.  

Argymhelliad 3

Waeth beth fo ffurf yr amddiffyniad newydd hwn, dylai ddarparu:

  • diffiniad cyfreithiol o 'wrychoedd' i gynnwys unrhyw wrychoedd sy'n hirach nag isafswm rhagnodedig (i'w benderfynu ac yn amodol ar dystiolaeth ynghylch beth ddylai'r isafswm hwn fod) a nodweddion cysylltiedig megis banciau gwrychoedd a chloddiau; 
  • diffiniad o 'nodweddion llinellol coediog eraill'; a
  • amddiffyniad cyfreithiol rhag tynnu pob gwrych a nodweddion llinellol coediog eraill oni bai eu bod wedi'u hawdurdodi.

Derbyn mewn egwyddor

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn mewn egwyddor bod angen diffiniad modern a ddatblygwyd ar y cyd. Byddai angen i hyn fod yn seiliedig ar dystiolaeth a byddai angen cynnal ymgynghoriad.

Argymhelliad 4

Dylai Llywodraeth Cymru, yn nhymor nesaf y Senedd, ddiwygio'r darpariaethau sy'n ymwneud â thynnu gwrychoedd awdurdodedig i:

  • ei gwneud hi'n ofyniad i'r awdurdod lleol ymgynghori â CNC ar y cynnig i gael gwared ar y gwrych; 
  • gosod dyletswydd ar CNC i roi gwybod i'r awdurdod lleol a ddylid cyhoeddi Hysbysiad Cadw Gwrych ai peidio a gofyn i'r awdurdod lleol ystyried y cyngor hwn wrth wneud eu penderfyniad; 
  • estyn yr un hawliau i  CNC fynd i mewn i dir ag sydd ar gael i'r awdurdod lleol i archwilio'r gwrych; a
  • rhoi pŵer i'r awdurdod lleol gyhoeddi hysbysiad estyniad yn y sefyllfaoedd hynny lle nad ydynt yn gallu asesu gwerth gwrych o fewn y cyfnod amser penodedig.

Gwrthod

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn y byddai gofyn am farn Cyfoeth Naturiol Cymru ar bob cais yn ddiangen a byddai dyblygu arbenigedd ecolegol yn gostus ar hyn o bryd. Awdurdodau cynllunio yw'r lefel fwyaf priodol ar gyfer asesu ceisiadau unigol a dylai fod ganddynt arbenigedd ecolegol i gynnal yr asesiadau hyn.  

Argymhelliad 5

Dylai Llywodraeth Cymru yn nhymor nesaf y Senedd dynnu 'rheolaeth briodol o'r gwrychoedd' oddi ar y rhestr o waith a ganiateir.

Derbyn mewn egwyddor

Rydym yn cytuno y byddai tynnu "rheolaeth briodol" o'r rhestr o waith a ganiateir yn cau bwlch sy'n caniatáu cael gwared ar wrychoedd heb gyfiawnhad. Fodd bynnag, dim ond trwy ddiwygio'r Rheoliadau presennol neu drwy ddeddfwriaeth newydd y gellir cyflawni hyn. Yn ogystal â'r gofynion disgwyliedig ar gyfer rheoli gwrychoedd a Chamau Dewisol ychwanegol ar gyfer adfer o dan y Cynllun Ffermio Cynaliadwy (SFS), rydym yn cydnabod y byddai gwaith pellach ynghylch hyfforddiant a chanllawiau ar gyfer arferion derbyniol o ran rheoli gwrychoedd hefyd yn ddefnyddiol. Credwn y dylid caniatáu i weithgareddau eraill sy'n gysylltiedig â rheolaeth briodol, fel gosod a thocio, barhau fel gweithgaredd a ganiateir.

Argymhelliad 6

Dylai Llywodraeth Cymru yn nhymor nesaf y Senedd ddiwygio'r adran ar droseddau yn y Rheoliadau: 

  • fel bod person a geir yn euog o dan Reoliad 7 yn cael Hysbysiad Amnewid Gwrych gorfodol yn ychwanegol at ddirwy;  
  • a'i gwneud yn drosedd i fethu â chydymffurfio â Hysbysiad Amnewid Gwrych.

Derbyn mewn egwyddor

Mae gosod gwrychoedd newydd am rai sydd wedi'u tynnu yn parhau i fod er budd y cyhoedd waeth a oes erlyniad ai peidio.  Felly, cytunwn y dylid ystyried troseddau sy'n gysylltiedig ag amnewid gwrychoedd pan fydd y rheoliadau'n cael eu hadolygu.

Argymhelliad 7

Dylai Llywodraeth Cymru ystyried a allai'r opsiwn o sancsiynau sifil fod yn briodol.

Derbyn

Mae adolygiad cychwynnol o'r dull gorfodi rheoleiddiol presennol o ddiogelu gwrychoedd yng Nghymru wedi'i gynnal. Mae'n cadarnhau y gellid darparu sancsiynau sifil Deddf Gorfodi a Sancsiynau Rheoleiddiol 2008 (RESA 2008) fel opsiwn gorfodi ychwanegol ac yn ddewis arall i erlyniad troseddol, wedi’i atodi i’r troseddau gwrychoedd presennol.

Argymhelliad 8

Dylai Llywodraeth Cymru ar fyrder, yn y tymor hwn o'r Senedd fel rhan o'r newidiadau i bolisi amaethyddol yng Nghymru 

  • ddarparu cymorth ariannol gan gynnwys grantiau cyfalaf i ffermwyr i reoli gwrychoedd mewn modd cynaliadwy er mwyn cynnal a gwella eu gwerth bioamrywiaeth;
  • cynnwys gwrychoedd yn yr SFS fel rhan o'r gofynion ardal gynefin yng Ngweithred Cyffredinol 7 ar gyfer Rheoli Cynefinoedd;
  • cefnogi a hyrwyddo'r Cod Carbon Gwrychoedd;
  • rhoi ystyriaeth briodol i'r posibilrwydd o daliadau ychwanegol fel rhan o lefel ddewisol yr SFS ar gyfer cael cyfran o wrychoedd sy'n ffrwytho a blodeuo bob blwyddyn; a
  • comisiynu digwyddiadau ymchwil a throsglwyddo gwybodaeth i fanteision posibl technegau gosod gwrychoedd bywyd gwyllt

Derbyn

Disgwylir i wrychoedd fod yn rhan sylfaenol o haen Gyffredinol yr SFS sy'n cynnwys gofynion penodol i sicrhau eu bod yn darparu buddion lluosog, gan gynnwys ar gyfer bioamrywiaeth.

Rydym hefyd yn gweithio allan sut y gellid cynnwys gwrychoedd mewn cyflwr da yn y gofyniad SFS i ffermydd gael 10% wedi ei reoli fel cynefin.

Byddwn yn gweithio gyda llywodraethau datganoledig eraill i archwilio sut y gellid datblygu safon gadarn ar gyfer Cod Carbon Gwrychoedd y DU.

Mae'r haen SFS Gyffredinol yn cael ei chynllunio i gynyddu'r cyfleoedd i wrychoedd ffrwytho a blodeuo. Disgwylir i hyn gael ei gefnogi gyda chamau creu ac adfer ychwanegol yn yr haen Dewisol.

Byddwn yn cefnogi ffermwyr gyda chyngor ac arweiniad, gan gynnwys digwyddiadau trosglwyddo gwybodaeth i gefnogi rheoli gwrychoedd yn gadarnhaol.

Argymhelliad 9

Dylai Llywodraeth Cymru yn nhymor nesaf y Senedd ymgynghori ar y ffordd orau o reoli gwrychoedd ar dir nad yw'n amaethyddol.

Derbyn mewn Egwyddor

Er ei bod yn fater i'r llywodraeth nesaf benderfynu sut i ddatblygu, rydym o'r farn nad yw'r system cynllunio gwlad a thref yn addas i amddiffyn gwrychoedd oherwydd nad yw tynnu llystyfiant yn ddatblygiad.  Fodd bynnag, rydym yn cytuno y dylid edrych ymhellach ar fanteision amddiffyniad cyfreithiol gwell ar gyfer gwrychoedd nad ydynt yn amaethyddol, ac eithrio gwrychoedd domestig.

Argymhelliad 10

Dylai Llywodraeth Cymru weithredu ar frys i wahardd y defnydd o rwydo pob gwrych.

Gwrthod

 Ym mis Mehefin 2019, ysgrifennodd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y pryd, Julie James, at yr holl Benaethiaid Cynllunio, Cyrff Cynrychioliadol y Diwydiant Datblygu, a'r sefydliadau hynny ar y Rhestr Ddosbarthu Cymorth i Brynu Adeiladwyr Tai i amlinellu barn Llywodraeth Cymru nad yw'r defnydd o rwydi ar goed a gwrychoedd fel arfer rheolaidd yn cael ei gefnogi.  Yn ei llythyr gwnaeth y Gweinidog ein safbwynt yn glir y dylid ystyried rhwydo fel dewis olaf, ar ôl ystyried dewisiadau amgen yn llawn ac o dan amgylchiadau eithriadol ar ôl rhoi caniatâd cynllunio. Rydym yn cydnabod bod peth amser wedi mynd heibio ers i ni ysgrifennu at yr awdurdodau perthnasol ar y mater hwn. Felly, byddwn yn ysgrifennu atynt eto i ailadrodd safbwynt Llywodraeth Cymru na ddylai'r defnydd o rwydi fod yn arfer arferol ac y dylid ei ystyried fel dewis olaf yn unig, ac i'w hatgoffa o ddeddfwriaeth a pholisi cynllunio perthnasol.

Yn unol â Deddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981, byddai gwaharddiad llwyr yn cyfyngu tynnu gwrychoedd i fisoedd y gaeaf y tu allan i'r tymor nythu adar. Fodd bynnag, byddai cynnal gweithrediadau maes ar dir dwrlawn yn y gaeaf yn gwneud y dasg o dynnu gwrychoedd yn anoddach ac o bosibl achosi difrod ychwanegol i'r pridd a dŵr ffo.

Argymhelliad 11

Yn y cyfamser, a hyd nes y gwaharddir rhwydo gwrychoedd, dylai Llywodraeth Cymru gyhoeddi canllawiau i awdurdodau lleol ar frys yn esbonio: 

  • y rhagdybiaeth yn erbyn rhwydo ar unrhyw adeg;
  • y cyfyngiadau cyfreithiol ar y defnydd o rwydo; ac
  • yr angen i fod yn wyliadwrus i ganfod rhwydo anghyfreithlon.

Ymateb

Derbyn yn rhannol Fel rhan o'r gwaith eiriolaeth ehangach ar ddiogelu gwrychoedd a anfonwyd yn llythyr y Gweinidog y cyfeirir ato yn yr ymateb i argymhelliad 10, gellir ailadrodd ein safbwynt ynghylch bod yn wyliadwrus o rwydo anghyfreithlon. Er mwyn lleihau'r niwed posibl i fywyd gwyllt, bydd arfer da yn cael ei annog h.y. cynnal a chadw a gwirio rhwydi yn rheolaidd a chaniatáu gwaith y tu allan i'r tymor nythu adar, lle bo'n briodol ac ystyried unrhyw effaith ar iechyd y pridd, er mwyn osgoi yr angen.

Argymhelliad 12

Dylai Llywodraeth Cymru: 

  • cyhoeddi canllawiau newydd neu ddiwygiedig ar y Rheoliadau Gwrychoedd;
  • codi ymwybyddiaeth o fodolaeth y canllawiau ar ôl eu cyhoeddi; ac
  • ystyried cynnwys yn y canllawiau gyfeiriad at arfer gorau o ran rheoli gwrychoedd.

Derbyn

Mae Llywodraeth Cymru o'r farn fod y canllawiau presennol wedi dyddio ac nad ydynt yn adlewyrchu'r polisi cyfredol. Byddwn felly yn ystyried cyd-datblygu canllawiau ar y cyd trwy grŵp gorchwyl a gorffen.

Argymhelliad 13

Dylai Llywodraeth Cymru yn y tymor hwn o'r Senedd gyhoeddi canllawiau cynllunio i awdurdodau lleol ar yr angen i ystyried ffactorau hanesyddol, archaeolegol, ecolegol a diwylliannol wrth ystyried cais am ganiatâd cynllunio i gael gwared ar wrychoedd.

Gwrthod 

Rydym wedi gwneud cynnydd yn y maes hwn gyda Pholisi Cynllunio Cymru yn cael ei ddiweddaru ym mis Chwefror 2024 i gynnwys 

"mae gwrychoedd yn gynefinoedd cysylltu pwysig ar gyfer rhwydweithiau ecolegol gwydn ac yn gwneud cyfraniad ehangach hanfodol at gymeriad tirwedd, diwylliant, treftadaeth ac ymdeimlad o le, ansawdd aer, hamdden a chymedroli hinsawdd leol."  

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn nodi ymhellach, 

"rhywogaethau coed a gwrychoedd brodorol yn helpu i ddiffinio ein treftadaeth ddiwylliannol a'n tirwedd, gan greu ymdeimlad cryf o le a chysylltiad â'r gorffennol".

Argymhelliad 14

Mae Llywodraeth Cymru yn cymryd camau i ariannu a darparu rhestr o wrychoedd Cymru, ac rydym yn awgrymu y gallai rhywfaint o'r gwaith o gasglu data gael ei wneud drwy'r SFS.

Gwrthod

Er nad ydym yn bwriadu cynhyrchu rhestr o wrychoedd Cymru ar hyn o bryd, byddwn yn parhau i ddefnyddio tystiolaeth o ansawdd uchel ar ehangder a chyflwr gwrychoedd yn genedlaethol a ddarperir gan ERAMMP, wedi'i atgyfnerthu gan ddata lefel cynllun o'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy.