Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y Cynllun Gweithredu Iechyd Digidol ar gyfer y sector cynghorau tref a chymuned. Mae hon wedi bod yn fenter allweddol i gryfhau parodrwydd digidol ein sector cynghorau tref a chymuned.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae'r Bwrdd Prosiect Iechyd Digidol, dan gadeiryddiaeth Un Llais Cymru, wedi bod yn gweithio gyda phartneriaid i adeiladu seilwaith digidol, sgiliau a chefnogaeth i gynghorau tref a chymuned ledled Cymru. Rhoddodd Llywodraeth Cymru hyd at £300,000 i gefnogi'r bwrdd. Hoffwn ddiolch i gadeirydd y bwrdd, Lyn Cadwallader (Prif Weithredwr Un Llais Cymru) am ei arweinyddiaeth. Mae ei adroddiad ynghlwm. Mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith bod adeiladu parodrwydd digidol y sector yn waith sydd ar y gweill a bod y cynllun gweithredu dwy flynedd wedi chwarae rhan bwysig o ran ychwanegu cyflymder a phroffil at weithio digidol.

Rwy'n croesawu'r gweithgarwch hyd yn hyn a oedd yn cynnwys arweiniad, cefnogaeth a hyfforddiant wedi'i deilwra. Mae'r adroddiad yn adlewyrchu’r amrywiaeth eang o anghenion sy’n bodoli ar draws y sector. Mewn rhai cynghorau, mae lefel o barodrwydd digidol sy'n golygu bod arweiniad a hyfforddiant yn ddigonol. Mewn eraill, mae angen mwy o gefnogaeth wedi'i deilwra i adeiladu dealltwriaeth, gallu, capasiti a seilwaith. Mae cefnogi'r ystod hon o anghenion ar draws dros 700 o gynghorau yn dasg sylweddol. Mae'r adroddiad hefyd yn ystyried bod dod yn fwy parod yn ddigidol yn anodd, yn enwedig pa fo defnyddwyr ymhell o fod yn arbenigwyr. Rwy'n ddiolchgar i'r bwrdd prosiect am fod yn ddigon pragmatig a hyblyg i ymateb i’r cyd-destun parodrwydd digidol yn y sector. 

Yr hyn sy’n bwysig yw parodrwydd cynghorau i ddysgu oddi wrth y teulu llywodraeth leol ehangach a gweithio gyda nhw. Mae'r Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth a lofnodwyd gan Un Llais Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn darparu'r llwyfan cywir i barhau i gefnogi datblygiad digidol cynghorau tref a chymuned. 

Hoffwn ddiolch i Un Llais Cymru am arwain y gwaith pwysig hwn, ac i bawb a fu'n rhan o'r cynnydd a wnaed hyd yn hyn. Byddaf yn gweithio gydag Un Llais Cymru i gefnogi a monitro parodrwydd digidol y sector er budd eu cymunedau.