Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Drafnidiaeth a Gogledd Cymru
Mae rhwydwaith ffyrdd Cymru yn rhan hollbwysig o seilwaith economaidd-gymdeithasol Cymru ac yn hanfodol ar gyfer mynediad diogel a chynhwysol at drafnidiaeth gyhoeddus, cerdded, olwyno a beicio, teithio mewn car a chludo llwythi. Y rhwydwaith ffyrdd strategol, sy’n werth £20bn, yw ased seilwaith mwyaf gwerthfawr Llywodraeth Cymru. Heb os, mae buddsoddiad parhaus yn y rhwydwaith ffyrdd yn rhan allweddol o gyflawni system drafnidiaeth hygyrch, gynaliadwy, effeithlon a gwydn.
Mae Llwybr Newydd yn cydnabod rôl rhwydwaith ffyrdd Cymru ac yn rhoi blaenoriaeth glir i wneud y defnydd gorau o seilwaith presennol drwy ei gynnal a'i reoli'n dda. Dyna pam mae trwsio ffyrdd yn un o flaenoriaethau'r Prif Weinidog. Rydym yn buddsoddi £25m arall eleni i drwsio ac atal 30,000 o dyllau a diffygion ar ein Rhwydwaith Ffyrdd Strategol. Trwy'r Fenter Benthyca Llywodraeth Leol, rydym wedi datgloi £120m ar gyfer awdurdodau lleol i wneud yr un fath dros y ddwy flwyddyn ariannol nesaf, gan drwsio ac atal dros 200,000 o dyllau.
Mae cynnal ein seilwaith presennol hefyd yn golygu gweithio i ddisodli seilwaith mawr, i sicrhau gwydnwch prif lwybrau nawr ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol wrth i effaith newid yn yr hinsawdd ddod yn amlwg. Enghraifft wych o hyn yw ar yr A494, llwybr pwysig yn cysylltu'r Gogledd-ddwyrain â gogledd-orllewin Lloegr. Rydym bellach wedi dewis yr opsiwn a ffefrir ar gyfer disodli pont afon Dyfrdwy. Dros y 18 mis nesaf byddwn yn bwrw ymlaen â'r prosiect drwy’r prosesau cynllunio a chaffael ac yna'n dechrau ar y gwaith adeiladu.
Ochr yn ochr â hyn, rydym hefyd yn buddsoddi mewn gwaith ar ein rhwydwaith ffyrdd, gan wella mynediad i bobl a cherbydau cludo llwythi. Dan yr amgylchiadau cywir, gall hyn hefyd leihau tagfeydd a helpu i fynd i'r afael ag effeithiau negyddol cerbydau'n segura. Mae agor Ffordd Osgoi Llanddewi yr A40, sy'n cysylltu â'r porthladdoedd yn y Gorllewin, a chwblhau'r A465, gwaith cwbl drawiadol, yn dangos bod Llywodraeth Cymru yn parhau i fuddsoddi mewn ffyrdd. Bydd yr A465 newydd yn datgloi twf economaidd yn y Cymoedd a'r ardaloedd cyfagos drwy wella hygyrchedd o ran busnesau, logisteg a thwristiaeth. Rydym bellach yn dechrau gwaith hanfodol i adnewyddu ein hastudiaethau gwydnwch ar gyfer ein traffordd a'n cefnffyrdd. Bydd hyn yn sicrhau bod gennym y sylfaen dystiolaeth i lywio penderfyniadau ynghylch buddsoddi yn y dyfodol, i sicrhau bod ein ffyrdd yn parhau i chwarae eu rôl mewn perthynas â chyflawni polisïau sero net ac economaidd-gymdeithasol Cymru. Byddwn yn dechrau gydag astudiaethau o'n cefnffyrdd prysuraf: yr A55 a'r A494 yn y Gogledd a'r M4 yn y De.
Ym mis Chwefror 2023, cyhoeddwyd profion adeiladu ffyrdd yn y dyfodol i nodi'r amgylchiadau pan fyddai Llywodraeth Cymru yn ystyried buddsoddi mewn ffyrdd. O fod wedi cael y fantais o asesu sut mae'r profion wedi’u defnyddio yn ymarferol ers eu cyhoeddi gyntaf, rydym heddiw yn cyhoeddi canllawiau wedi’u diweddaru. Nod y rhain yw darparu mwy o eglurder a hyder i awdurdodau lleol a gweithwyr proffesiynol ym maes trafnidiaeth ynghylch pa bryd y bydd buddsoddiad yn y rhwydwaith ffyrdd yn cael ei ystyried a sut y dylid defnyddio'r canllawiau yn ymarferol.
Mae'r canllawiau diwygiedig yn parhau i fod yn gyson â bwriad y profion gwreiddiol i sicrhau ein bod yn gwella safonau ac adeiladu ffyrdd gwell, gan gynnwys drwy annog dulliau gweithredu newydd arloesol. Byddant yn cael eu hymgorffori yn ein harweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru (WelTAG), sy'n nodi'r dull cyffredinol ar gyfer datblygu ac asesu cynigion trafnidiaeth ledled Cymru.
Yn y dyfodol byddwn yn cryfhau rôl arweinwyr lleol o ran llywio sut mae buddsoddiad mewn trafnidiaeth yn cael ei flaenoriaethu. Mae'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig wrthi'n cwblhau eu Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol. Bydd y rhain yn darparu un cynllun 5 mlynedd strategol ar gyfer trafnidiaeth ym mhob rhanbarth o Gymru, gan alluogi'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig i ystyried rôl y rhwydwaith ffyrdd yng nghyd-destun cynllun ar gyfer pob dull trafnidiaeth. O fis Ebrill 2026 ymlaen, byddwn yn rhoi mwy o rôl i'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig o ran gwneud penderfyniadau am grantiau trafnidiaeth Llywodraeth Cymru i awdurdodau lleol, i'w galluogi nhw i ganolbwyntio ar gyflawni'r Cynlluniau Trafnidiaeth Rhanbarthol. Ar lefel genedlaethol, byddwn yn rhoi mwy o lais i'r Cyd-bwyllgorau Corfforedig o ran dylanwadu ar fuddsoddi yn y Rhwydwaith Ffyrdd Strategol, fel bod hynny'n gyson ag amcanion y Cynlluniau.
Mae'r canllawiau WelTAG diwygiedig i'w gweld yma: Arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru (WelTAG) | LLYW.CYMRU
