Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mehefin, cyhoeddais chweched adroddiad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, sy'n cynnwys argymhelliad mewn perthynas â chyflog athrawon o fis Medi 2025 ymlaen. Ar ôl ystyried y goblygiadau ariannol yn ofalus, ymgynghorais â rhanddeiliaid allweddol ar ddyfarniad cyflog 4%. Heddiw, rwy'n nodi fy mhenderfyniad mewn perthynas â chyflog athrawon ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26, yn unol â fy ymrwymiad i wneud hynny erbyn diwedd y flwyddyn academaidd 2024/25.

Rwyf wedi ystyried y sylwadau a gafwyd gan bartneriaid cymdeithasol drwy'r ymgynghoriad ac rwy'n cadarnhau y bydd dyfarniad cyflog 4% yn cael ei weithredu o fis Medi 2025 ymlaen. Rwy'n ymrwymo i ddarparu'r cyllid ychwanegol i gefnogi ysgolion i reoli'r cynnydd hwn, gan gydnabod y pwysau sydd arnynt. Er fy mod yn gwerthfawrogi'r rhwystredigaeth bod y dyfarniad cyflog eleni yn is nag argymhelliad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru, rwy'n ailadrodd pwysigrwydd darparu cyllid llawn a chynaliadwy ar gyfer cyflog athrawon. Bydd y cyllid ychwanegol yr wyf wedi ymrwymo i'w ddarparu yn cefnogi awdurdodau lleol ac ysgolion ag effeithiau cyllidebol y gwahaniaeth rhwng y codiad cyflog arfaethedig a'r dyfarniad cyflog gwirioneddol. 

Mae talu cost cyflog athrawon yn rhan o'r cyllid craidd a ddarperir gan awdurdodau lleol gyda chefnogaeth gan y Setliad Llywodraeth Leol. Bydd disgwyl i awdurdodau lleol fod wedi cynllunio eu cyllidebau i gynnwys codiad cyflog 2025/26 yn nyraniadau eu setliad. Fodd bynnag, gan nad oedd modd cynnwys symiau penodol ac annisgwyl yn y setliad o ganlyniad i gyfyngiadau amser, rwy'n parhau ag arfer Llywodraeth Cymru o ddarparu arian grant ychwanegol yn ystod y flwyddyn. 

Byddwn yn awr yn dechrau'r broses ddeddfwriaethol i roi effaith i'r cyhoeddiad hwn, gyda'r nod o osod Gorchymyn Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) cyn gynted â phosibl yn dilyn toriad yr haf. Rydym yn bwriadu i'r dyfarniad cyflog hwn ddod i rym ar 1 Medi 2025 a chael ei weithredu mewn pryd ar gyfer pecynnau cyflog mis Hydref 2025. Mater i gyflogwyr fydd amseriad penodol gweithredu'r dyfarniad ar ôl i'r Gorchymyn Cyflog gael ei wneud. Byddaf yn pwysleisio i awdurdodau lleol fy nisgwyliad cadarn y bydd y dyfarniad hwn yn cael ei wneud cyn gynted â phosibl.

Dangosodd yr ymatebion i'r ymgynghoriad gefnogaeth eang i'r cynnig i gael gwared ar y broses ymgeisio ar gyfer symud o'r brif raddfa gyflog i'r raddfa gyflog uwch o fis Medi 2025 ymlaen. Fel y nodir yn fy natganiad ysgrifenedig ar 10 Mehefin, rwyf wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i ystyried opsiynau ar gyfer datblygu a strwythuro un raddfa gyflog gyfunol, ac rwy'n gwerthfawrogi parodrwydd partneriaid i weithio gyda ni ar y mater hwn. 

Rwyf hefyd yn cydnabod y rôl bwysig y mae Cydlynwyr ADY yn ei chwarae yn ein system addysg, a dyna pam y bu imi hefyd ymgynghori ar eu symud i'r raddfa gyflog arweinyddiaeth, yn unol ag argymhelliad Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru. Mae nifer o ymatebion defnyddiol wedi dod i law ac mae fy swyddogion yn gweithio'n gyflym gyda phartneriaid cymdeithasol perthnasol drwy'r Fforwm Partneriaeth Cyflog ac Amodau Athrawon ar y mater hwn. Hefyd, rwy'n falch o gadarnhau bod Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru wrthi'n bwrw ymlaen ag ail ran y cylch gwaith ar gyfer eleni sy'n ymwneud ag amodau gwasanaeth arweinwyr. Edrychaf ymlaen at gael ei adroddiad ar y rhan honno o'r cylch gwaith yn ddiweddarach yn yr hydref. Rwy'n croesawu ymgysylltiad undebau llafur ar y materion hyn a byddaf yn rhoi diweddariad maes o law. 

Rydym wedi ymrwymo o hyd i sicrhau cydraddoldeb cyflog rhwng athrawon addysg bellach ac athrawon ysgol. Felly, rwy'n falch o gadarnhau y bydd cydraddoldeb cyflog yn cael ei gynnal eto eleni, gyda'r un cynnig o godiad cyflog o 4%. Rydym wedi cyllidebu i allu rhoi digon o gyllid i Medr ar gyfer dyrannu i ysgolion chweched dosbarth a cholegau er mwyn bodloni'r cynnig hwn, yn amodol ar ganlyniad negodiadau cyflog ar y cyd sefydledig rhwng y sector addysg bellach a'u hundebau llafur cydnabyddedig.

Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cymryd rhan ac sy'n parhau i gymryd rhan yn y broses hon. Mae ein dull gwaith partneriaeth yn amhrisiadwy o ran llunio ein polisi yma yng Nghymru ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn parhau i weithio gyda'n gilydd i wobrwyo a chydnabod gwaith rhagorol ein hathrawon.