Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Dyma ddiweddariad i'r Aelodau ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio cyfran Cymru o'r ardoll newydd statudol a weithredir ar y diwydiant gamblo i leihau niwed sy'n gysylltiedig â gamblo.
Cadarnhaodd Llywodraeth y DU ei bwriad y llynedd i gyflwyno ardoll newydd ar gyfer y diwydiant gamblo er mwyn mynd i'r afael â niwed gamblo. Roeddem yn cefnogi’r bwriad hwn yn gryf gan ei fod yn gam pwysig tuag at sicrhau bod y gwaith o fynd i'r afael â niwed gamblo yn cael ei ariannu mewn modd cynaliadwy sy'n annibynnol ar y diwydiant ei hun.
Daeth yr ardoll i rym ar 6 Ebrill, a disgwylir iddi godi tua £100m y flwyddyn. Bydd yn ofynnol i weithredwyr wneud eu taliadau cyntaf erbyn 1 Hydref. Bydd yr arian yn cael ei ddyrannu i brosiectau ymchwil a gwasanaethau atal a thriniaeth. Mae cyfran Cymru yn cyfateb i oddeutu £5m y flwyddyn.
Rwyf wedi cytuno, gyda fy nghydweithwyr yn Llywodraethau'r Alban a'r DU, y bydd elfen ymchwil y cyllid hwn, tua £20m y flwyddyn ar draws Prydain Fawr, yn cael ei goruchwylio gan UKRI fel y prif gomisiynydd ymchwil. Bydd UKRI yn gweithio'n agos gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli mewn modd teg a chadarn.
Cyhoeddodd UKRI gyfleoedd pwysig cyntaf yr elfen ymchwil ar 26 Mehefin: UKRI Gambling Harms Research Coordination Centre (GHRCC) – UKRI/ Gambling harms research and innovation partnerships – UKRI
O ran yr elfen atal a thriniaeth, rwyf wedi penodi Iechyd Cyhoeddus Cymru yn Gydlynydd Atal Arweiniol Cymru, a Pherfformiad a Gwella GIG Cymru yn Gydlynydd Triniaeth Arweiniol Cymru. Mae’r ddau sefydliad yn dod ag arbenigedd ac awdurdod perthnasol wrth iddo arwain y meysydd gwaith hanfodol hyn.
Er mwyn sicrhau tryloywder ac atebolrwydd mewn perthynas â'r ardoll, mae Llywodraeth y DU wedi sefydlu Bwrdd Rhaglen Ardoll Gamblo ar gyfer Llywodraethau Cymru, yr Alban, a'r DU i fonitro iechyd ac effaith y system ardoll, yn ogystal â strwythur grŵp cynghori i ddarparu cyngor anffurfiol i gyrff comisiynu arweiniol ar gyfer pob un o'r tair ffrwd ariannu. Bydd Gweinidogion o Lywodraethau Cymru, yr Alban, a'r DU yn mynychu'r bwrdd yn flynyddol, gyda chynrychiolaeth barhaus mewn cyfarfodydd chwarterol gan uwch swyddogion.
Mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dechrau datblygu llwybrau triniaeth ac ymyriadau, gan gynnwys cyfleoedd atal priodol.
Un o ganlyniadau penderfyniad Llywodraeth y DU i gyflwyno ardoll yw na fydd GambleAware yn cael ei ariannu yn yr un modd bellach. Rwy'n gwybod bod rhai sefydliadau Cymreig, fel Adferiad ac Ara, yn cael peth o’u cyllid drwy GambleAware i ddarparu gwasanaethau i bobl sy'n dioddef niwed sy'n gysylltiedig â gamblo.
Mae Llywodraeth Cymru, Llywodraeth yr Alban, a GIG Lloegr wedi penderfynu darparu uchafswm o £11m o gyllid ardoll o'r dyraniad triniaeth ar draws y tair gwlad i gefnogi GambleAware yn 2025-26 drwy’r trawsnewid.
Bydd y cyllid trawsnewid o’r ardoll ar gyfer GambleAware yn berthnasol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon yn unig i sicrhau sefydlogrwydd y system. Nid yw’n cynrychioli ymrwymiad ariannu parhaus i GambleAware.
Bydd, fodd bynnag, yn helpu i leihau’r tarfu ar weithgarwch y Rhwydwaith Cymorth Gamblo Cenedlaethol (NGSN), gan sicrhau bod mynediad at wasanaethau triniaeth yn parhau wrth i'r arweinwyr comisiynu roi trefniadau newydd ar waith. Bydd hyn yn flaenoriaeth i Berfformiad a Gwella GIG Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Byddaf yn rhoi diweddariad pellach yn yr hydref.
