Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy'n croesawu cyhoeddi adroddiad y Comisiwn Dŵr Annibynnol(Saesneg yn Unig) i Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar ddyfodol y diwydiant dŵr. Hoffwn ddiolch yn ddiffuant i Syr Jon Cunliffe a'r Comisiwn am ymgysylltu mor helaeth a gweithio mewn ffordd mor gydweithredol dros y naw mis diwethaf. Mae Syr Jon wedi arwain y Comisiwn a dangos sut y gall ein dwy lywodraeth weithio gyda'i gilydd i ddiwallu anghenion y cyhoedd, defnyddwyr, buddsoddwyr a byd natur.

Rwy'n cydnabod y trafod manwl a fu am gyd-destun unigryw Cymru a'r sylw gofalus sydd wedi'i roi iddo, yn enwedig arwyddocâd diwylliannol dŵr, ein tirwedd amgylcheddol neilltuol a fframwaith deddfwriaethol Cymru, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r adroddiad yn dangos dealltwriaeth glir o'r gwerthoedd a'r blaenoriaethau sy'n bwysig i bobl Cymru ac yn adlewyrchu barn y sector yng Nghymru. 

Rwy'n croesawu'r sylw y mae'r Comisiwn wedi'i roi i reoleiddio economaidd a sut i wneud iddo weithio'n well i gwsmeriaid, buddsoddwyr a'r amgylchedd. Rwy'n croesawu'n arbennig bod y Comisiwn wedi nodi ffyrdd unigryw ymlaen i Gymru ac i Loegr, gan nodi'r cyfleoedd a'r heriau gwahanol yn y ddwy wlad. 

Gan weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, rwy'n bwriadu rhoi ar waith argymhelliad y Comisiwn ynghylch rheoleiddiwr economaidd annibynnol ar wahân i Gymru. Byddaf am ymgynghori'n eang ar y cynnig hwn a chydweithio ag arbenigwyr i lunio trefniadau ar gyfer creu amodau rheoleiddio clir a sicr fydd yn ateb gofynion y cyhoedd, rhoi hyder i fuddsoddwyr ac yn gweld ein hamgylchedd yn ffynnu. Edrychaf ymlaen at wneud y gwaith hwn law yn llaw â Llywodraeth y DU fydd yn rhoi'r argymhelliad i Loegr ar waith ar gyfer sefydlu rheoleiddiwr newydd, integredig. 

Mae hwn yn gyfle unwaith mewn cenhedlaeth i newid y trefniadau a grëwyd cyn datganoli ac mae'n ymwneud â mwy na newid sefydliadol. Y thema sy'n rhedeg fel edefyn aur trwy'r argymhellion yw'r angen am eglurder a chyfeiriad. Gyda Strategaeth Dŵr Genedlaethol newydd i Gymru yn fynegiant clir o flaenoriaethau ein polisi, yn cynnig cynllunio mwy effeithiol ar lefel system, rheoleiddio amgylcheddol cryfach a mwy o ffocws ar ddarparu atebion cytbwys ar lefel dalgylch. 

Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn cymryd amser i ystyried adroddiad y Comisiwn yn llawn, gan weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau'r cydweithrediad trawsffiniol sydd ei hangen arnom i wir ddiwygio ein diwydiant dŵr ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol. Rydym wedi ymrwymo i ystyried pob argymhelliad yn ofalus, gan sicrhau bod unrhyw weithredu yn y dyfodol yn cyd-fynd â'n hegwyddorion o reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, gan gofio mai dŵr yw un o'n hasedau mwyaf gwerthfawr.

Mae Llywodraeth y DU wedi nodi heddiw y byddan nhw'n cyhoeddi Papur Gwyn yn yr hydref. Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl ymlaen at gydweithio'n adeiladol gyda Llywodraeth y DU wrth i'r Papur Gwyn fynd rhagddo, gan adeiladu ar yr ysbryd o gydweithredu sydd wedi nodweddu'r broses hon hyd yn hyn.

Unwaith eto, hoffem ddiolch i'r Comisiwn am ei waith ac am y ddeialog flaengar fanwl ac adeiladol am ddyfodol dŵr yng Nghymru.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.