Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol: adroddiad cynnydd blynyddol 2025
Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd ar eu blaenoriaethau gwaith teg y fforwm yn y sector gofal cymdeithasol yn ystod 2024 a blaenoriaethau datblygol yn 2025 i 2026.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Ein gweledigaeth: gweithio mewn partneriaeth gymdeithasol
Sefydlwyd Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol (“y fforwm”) ym mis Medi 2020. Ei nod oedd dwyn ynghyd llywodraeth, cyflogwyr, a’r undebau llafur i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol ac ystyried sut y dylai elfennau gwahanol gwaith teg gael eu gweithredu a’u hymwreiddio o fewn y sector gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Mae’r fforwm a’r grwpiau gorchwyl a gorffen ategol yn parhau i wneud cynnydd o ran prif elfennau ei raglenni gwaith, sef helpu i wella telerau ac amodau yn y sector, gan gynnwys datblygiad y bartneriaeth gweithlu gofal cymdeithasol, sydd wedi aeddfedu ac wedi cytuno ar ei feysydd gwaith blaenoriaeth ar gyfer ei 12 mis cyntaf. I ddechrau, maes ffocws allweddol y fforwm oedd gweithredu’r Cyflog Byw Gwirioneddol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae’r elfen hon bellach yn ei phedwaredd flwyddyn, a bu’r fforwm yn monitro datblygiadau diweddar ar lefel llywodraeth y DU a allai ddarparu sail gadarnach ar gyfer y Cyflog Byw Gwirioneddol mewn gofal cymdeithasol.
Ers diweddariad diwethaf y fforwm yn 2024, cyhoeddodd Llywodraeth y DU ei Bil Hawliau Cyflogaeth ym mis Hydref y flwyddyn honno. Roedd y bil yn cynnwys cynlluniau i ddatblygu Cytundebau Cyflog Teg o fewn gofal cymdeithasol oedolion yn Lloegr yn unig i ddechrau, drwy ddatblygiad corff negodi gofal cymdeithasol, gyda’r nod o ddarparu sail ddeddfwriaethol ar gyfer gweithredu cyflog teg o fewn gofal cymdeithasol. Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y cymal hwn yn y bil yn cael ei estyn i Gymru ac mae wedi parhau i roi diweddariadau ac adrodd ar gynigion i’r fforwm. Mae gwelliannau i’r bil wedi eu gosod, gan gynnwys rhai sy’n benodol i Gymru, megis cynnwys gweithwyr gofal cymdeithasol plant. Mae’r bil yn parhau ar ei hynt drwy’r broses Seneddol, fodd bynnag, yr hyn sy’n bwysig i’w nodi yw bod y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â’r darpariaethau i Gymru wedi bod yn destun dadl yn y Senedd ar 15 Gorffennaf 2025 a’i fod wedi’i basio. Mae’r fforwm yn monitro’r datblygiadau’n agos a bydd yn rhan o’r trafodaethau a’r cynigion i ddatblygu corff negodi yng Nghymru.
Mae’r adroddiad cynnydd hwn yn rhoi diweddariad ar flaenoriaethau gwaith y fforwm, mae’n tynnu sylw at ei feysydd ffocws datblygol, ac yn arddangos y gwaith mae’n ei wneud i gefnogi’r modd y gweithredir egwyddorion gwaith teg yn y sector gofal cymdeithasol.
Ein cynnydd yn erbyn ein blaenoriaethau gwaith teg
Telerau ac amodau cydradd drwy bartneriaeth gymdeithasol
Yn sgil gwaith gorchwyl a gorffen a gynhaliwyd gan y fforwm, sefydlwyd "partneriaeth gweithlu gofal cymdeithasol" yn 2024 ac fe’i cyhoeddwyd yn ffurfiol gan y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol ar 15 Ionawr 2025. Mae’r bartneriaeth yn fforwm ar gyfer cyn-negodiadau gwirfoddol a’i nod yw ymgorffori nifer o elfennau gwaith teg sy’n cael eu prosesu gan y fforwm ar hyn o bryd. Fel y nodir yn y memorandwm cyd-ddealltwriaeth, mae undebau llafur, cyflogwyr gofal cymdeithasol, llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru wedi llunio partneriaeth i ddatblygu cyfres o fodelau o arferion gorau ar gyfer cyflogaeth yn y sector gofal cymdeithasol annibynnol. Y nod yw cefnogi darparwyr i fabwysiadu’r polisïau hyn a chyflwyno mwy o gysondeb i delerau ac amodau ar draws gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Yn sgil ymgysylltu â’r sector, mae’r bartneriaeth wedi nodi ei 3 phrif flaenoriaeth i ganolbwyntio arnynt yn y flwyddyn gyntaf:
- cytundebau cydnabyddiaeth (law yn llaw â mynediad at undebau llafur)
- disgyblaeth a chwyno
- iechyd a diogelwch, gan gynnwys trais yn y gweithle
I ddatblygu’r blaenoriaethau hyn, sefydlwyd 3 grŵp gorchwyl a gorffen, gyda phob un wedi’i arwain gan wahanol aelodau o’r bartneriaeth.
Mae polisïau adnoddau dynol arfer da yn hanfodol ar gyfer creu amgylchedd cefnogol ac effeithlon ym maes gofal cymdeithasol sydd o fudd i weithwyr, cyflogwyr a defnyddwyr gwasanaethau ac mae’r bartneriaeth yn gobeithio cyflawni ymagwedd gyson yn hyn o beth ar draws y sector. Bydd y bartneriaeth yn mynd ati’n ddiwyd i annog cyflogwyr gofal cymdeithasol i fabwysiadu’r modelau hyn yn wirfoddol drwy amlygu’r buddiannau y byddant yn eu cynnig drwy ddarparu dulliau gweithredu clir a chyson ar draws y sector gofal cymdeithasol.
Fframwaith tâl a dilyniant teg i’r sector cyfan
Yn dilyn ymgynghoriad ar fframwaith tâl a dilyniant drafft ar gyfer y sector gofal cymdeithasol, cafwyd adborth cadarnhaol i raddau helaeth, a sefydlodd y fforwm weithgor i orffen iteriad cyntaf y fframwaith erbyn dechrau 2026.
Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn arwain y prosiect, gan dynnu ar arbenigedd Llywodraeth Cymru, cynrychiolwyr o’r undebau llafur, a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn ogystal â chynrychiolwyr cyflogwyr a darparwyr, a darparwyr gofal yn uniongyrchol.
Hyd yn hyn, mae’r gweithgor wedi cynnal cyfres o sesiynau casglu gwybodaeth gan gwmpasu:
- dysgu gan sectorau eraill
- cyfraddau cyflog presennol
- tasgau a chymwyseddau gweithwyr gofal cymdeithasol
- rolau staff anghofrestredig
- gwerthuso swyddi
- gwersi o ranbarthau eraill
- nyrsys gofal cymdeithasol
Mae’r grŵp wedi adolygu’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn drylwyr a bydd bellach yn gweithio i gryfhau’r fframwaith drafft ar sail yr adborth a ddaeth i law a’r hyn a ddysgwyd. Mae hyn yn cynnwys diffinio’r cwmpas a’r rolau i’w cynnwys a chomisiynu ymchwil ar ddata cyflogau a gwerthusiadau swyddi i ystyried y lefelau cyflog priodol.
Gwobrwyo teg
Mynd i’r afael â thâl isel yn y sector annibynnol a gomisiynwyd
Yn dilyn cyngor ac argymhellion manwl gan y fforwm, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid o fewn Setliad Llywodraeth Leol ers 2022 i gefnogi’r gwaith o weithredu’r cyflog byw gwirioneddol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol. Mae’r cyllid wedi’i gynnwys yn y Grant Cynnal Refeniw a bwriedir iddo gael ei drosglwyddo i ddarparwyr i bontio’r bwlch rhwng yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol a’r Cyflog Byw Gwirioneddol.
Rhoddwyd y fframwaith cenedlaethol ar gyfer comisiynu gofal a chymorth ar waith yng Nghymru ar 1 Medi 2024 ac, yn ogystal â chyflwyno’r saith egwyddor arweiniol ar gyfer gofal cymdeithasol cynaliadwy yn seiliedig ar waith teg a phrisio teg, nod y fframwaith cenedlaethol yw cefnogi ymrwymiad Cyflog Byw Gwirioneddol y fforwm gyda chanllawiau sy’n ymwneud â’i weithredu, gan gynnwys egwyddorion gwaith teg. Mae’r fforwm yn croesawu’r fframwaith cenedlaethol newydd a’r cod sy’n ei gwneud yn ofynnol bod comisiynwyr yn cefnogi cyflogwyr i wella statws, llesiant ac amodau gwaith gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol gyda’r nod o sicrhau parch a thelerau ac amodau cydradd ar draws y sectorau (statudol, preifat a’r trydydd sector). Mae hefyd yn nodi y dylid mesur y gofyniad hwn o fewn prosesau monitro caffael a chontractau, ac y dylai comisiynwyr sicrhau bod darparwyr yn talu’r Cyflog Byw Gwirioneddol o leiaf. Mae’r fforwm yn gweithio gyda’r rhai sy’n arwain ar y fframwaith comisiynu cenedlaethol i’w gryfhau, gan sicrhau bod comisiynwyr yn blaenoriaethu cyflog teg a thriniaeth deg o’r gweithlu – gan gydnabod bod hyn yn hanfodol er mwyn darparu gofal cynaliadwy o ansawdd uchel.
Mae comisiynwyr a darparwyr gofal yn chwarae rôl allweddol i sicrhau bod arian yn cyrraedd y rhai y mae wedi’i fwriadu ar eu cyfer. Rydym yn ymwybodol o adroddiadau sy’n awgrymu nad yw pob gweithiwr gofal cymdeithasol yn derbyn y Cyflog Byw Gwirioneddol. Mae’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn allweddol i arddangos y gwerth a ddarperir mewn gwaith gofal cymdeithasol ac mae’n ffactor pwysig o safbwynt cynnal gweithlu dibynadwy. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol i ddeall eu bwriadau a’r heriau o ran gweithredu’r cyflog hwn drwy’r cyllid a ddyrannwyd o fewn y Grant Cynnal Refeniw. Comisiynodd y fforwm werthusiad annibynnol o sut y gweithredir y Cyflog Byw Gwirioneddol ac mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi cyn hir. Byddwn yn ystyried arsylwadau ac argymhellion yr adroddiad yn ogystal ag adborth awdurdodau lleol er mwyn ystyried y camau nesaf ar gyfer 2026 i 2027.
Tâl salwch
Mae’r fforwm yn parhau i fod â phryderon ynghylch tâl salwch ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol ac mae’n parhau i alw am well darpariaeth o ran tâl salwch ar draws y sector. Mae darpariaeth tâl salwch anghydradd ar draws y sector gofal cymdeithasol yn cael effaith negyddol ar gynaliadwyedd ein gweithlu gofal cymdeithasol ac felly mae hefyd yn cyflwyno risg ddifrifol i’r rheini yn ein cymunedau sy’n derbyn gofal ac yn dibynnu arno.
Mae’r fforwm yn cefnogi’r Bil Hawliau Cyflogaeth sy’n cynnig gwneud tâl salwch statudol yn fwy hygyrch i’r rhai sydd ei angen fwyaf. Nod y bil yw sicrhau bod y tâl salwch statudol ar gael o ddydd cyntaf salwch gan gael gwared ar y trothwy cyflogau is. Mae’r fforwm yn croesawu’r datblygiadau hyn, ond mae angen gwelliannau o hyd i fynd i’r afael â’r anghydraddoldebau amlwg iawn rhwng y gweithwyr gofal cymdeithasol niferus yn y sector annibynnol a’r rhai sy’n cael eu cyflogi’n uniongyrchol gan awdurdodau lleol a’r GIG.
Profiad cynorthwywyr personol yn y sector gofal cymdeithasol
Yn dilyn ymchwil a gomisiynwyd gan Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol i ddeall yn well yr heriau y mae’r rhan hon o’r gweithlu’n eu hwynebu, sefydlwyd grŵp rhanddeiliaid dan arweiniad Llywodraeth Cymru yn 2024 i ddatblygu’r argymhellion ynghylch:
- cyflog
- telerau ac amodau
- hyfforddiant a datblygu
- hyrwyddo’r undebau llafur
- cymorth a’r wybodaeth sydd ar gael i gynorthwywyr personol
Mae’r grŵp hwn yn cynnwys cynrychiolwyr o lywodraeth leol, yr undebau llafur, Gofal Cymdeithasol Cymru a chynrychiolwyr cyflogwyr ar gyfer cynorthwywyr personol a'i nod yw rhannu arfer da, gan sicrhau bod cynorthwywyr personol yn cael eu hystyried ar draws yr holl ddatblygiadau polisi ym maes gofal cymdeithasol.
Bu’r grŵp yn gweithio’n agos gyda gweithgor cynorthwywyr personol Cymru gyfan a sefydlwyd yn ddiweddar, ac sy’n cynnwys cynrychiolwyr o bob awdurdod lleol ledled Cymru gyda’r nod o sbarduno telerau ac amodau gwell ar gyfer cynorthwywyr personol a sicrhau cysondeb ledled yr awdurdodau lleol.
Y nod yw sicrhau bod cynorthwywyr personol yn cael eu cynnwys yn natblygiad y fframwaith tâl a dilyniant fel rhan o’r gweithlu ehangach. Yn ogystal, comisiynodd y grŵp rhanddeiliaid arolwg a gynhaliwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru i asesu’r hyfforddiant i gynorthwywyr personol sydd ar gael ar draws awdurdodau lleol, gyda’r nod o rannu arferion gorau ac ystyried dull gweithredu cenedlaethol.
Cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant
Sefydlwyd y grŵp gorchwyl a gorffen cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant i ystyried sut y gall y fforwm ystyried materion yn y maes hwn orau fel elfen hanfodol o nodweddion gwaith teg. Mae’r grŵp hwn yn gweithio gyda phartneriaid i ddylanwadu ar newid o ran y camau gweithredu ar gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant sy’n berthnasol i’r gweithlu, gan ychwanegu gwerth ac ystyried a rhannu’r gwaith pwysig sy’n cael ei wneud mewn mannau eraill yn y sector. Eleni, rydym wedi estyn yr aelodaeth i’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sydd wedi ymuno â’r grŵp.
Bydd yr aelodau’n ystyried llais a phrofiad y rhai â nodweddion gwarchodedig sy’n gweithio yn y sector gofal cymdeithasol mewn elfennau amrywiol o’r rhaglen waith a byddant yno i gefnogi o safbwynt cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant mewn perthynas ag unrhyw adroddiadau/cynlluniau gweithredu yn y dyfodol. Mae’r grŵp yn cyfarfod i drafod y cynnydd a’r diweddariadau ar eitemau fel y Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol, Cynllun Gweithredu LHDTC+ ac anableddau. Eleni, mae’r aelodau wedi cytuno i ddod yn Is-grŵp ar gyfer yr elfen Gweithlu ar gyfer Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a fydd yn cynnwys nodi bylchau mewn perthynas ag adrodd ynghylch gwahaniaethu a hawliau gweithwyr o safbwynt cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant.
Cymorth menopos
Mae mwy o bobl nag erioed yn parhau i weithio drwy eu menopos a thu hwnt. Yn dilyn dadansoddiad o’r ymatebion i’r arolwg a gomisiynwyd gan y fforwm ac a gynhaliwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru, mae’r ymgysylltu parhaus â’r sector wedi’i deilwra, gyda gweminiarau penodol yn cael eu cynnal i amlygu’r newidiadau i’r Bil Hawliau Cyflogaeth a’i gysylltiadau â’r menopos. Bydd y gweminarau’n archwilio pa lefel o gymorth y bydd angen i sefydliadau ei darparu i gyflawni’r gofynion. Byddant hefyd yn rhannu enghreifftiau o arfer da o ran polisïau menopos effeithiol sy’n cefnogi iechyd corfforol a meddyliol gwell i’r rheini sy’n profi effeithiau’r menopos.
Comisiynu gwaith ymchwil ac ymgysylltu ar ddarpariaeth gwasanaethau micro-ofal
Yn dilyn cyhoeddi adroddiad ym mis Ionawr 2024 a gomisiynwyd gan y fforwm, mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal gwaith ymgysylltu pellach gyda rhanddeiliaid mewn perthynas â micro-ofal i ganfod mwy am sut y mae gwasanaethau’n gweithredu yng Nghymru ac a fu unrhyw newidiadau, eu safle o fewn y sector gofal a sut y mae awdurdodau lleol yn rhyngweithio â nhw. Bydd y gwaith hwn yn hysbysu polisi’r dyfodol yn y maes, gan gefnogi mwy o sicrwydd a chysondeb yn y sector hwn ledled Cymru.
Tynnu sylw at ddiogelwch a hyblygrwydd contractau
Bu’r fforwm yn gweithio i ddeall yn well effaith oriau heb eu gwarantu neu gontractau ‘dim oriau’ ar weithwyr gofal cymdeithasol. Gan dynnu ar ymchwil diweddar ar eu defnydd yng Nghymru, rydym yn paratoi i gyhoeddi adroddiad yn amlinellu ein canfyddiadau.
Buom hefyd yn ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y Bil Hawliau Cyflogaeth drafft. Bydd aelodau’r fforwm yn falch o weld bod y bil yn cydnabod buddiannau gweithio hyblyg i gyflogwyr a gweithwyr ond yn cydnabod hefyd yr heriau a ddaw yn sgil contractau dim oriau—yn enwedig o ran sefydlogrwydd ariannol a chynllunio personol.
Mae’r bil yn cynnig hawliau newydd i weithwyr, gan gynnwys yr hawl i oriau wedi’u gwarantu sy’n adlewyrchu eu patrymau gwaith rheolaidd dros gyfnod cyfeirio, a hysbysiad rhesymol ynghylch shifftiau. Bydd gan weithwyr y dewis o hyd i aros ar gontractau dim oriau os mai dyna yw eu dewis. Yn ogystal, os bydd y shifftiau wedi’u trefnu heb ddigon o rybudd, bydd gan weithwyr yr hawl i gyflwyno hawliad i dribiwnlys cyflogaeth.
Rhoi sylw i hawliau, lleisiau a chynrychiolaeth y gweithwyr
Mae’r fforwm wedi sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen llais y gweithwyr i godi ymwybyddiaeth ymysg staff a chyflogwyr yn y sector annibynnol o fuddiannau bod yn aelod o undeb llafur. Mae’r grŵp hefyd yn ceisio cefnogi cyflogwyr drwy hwyluso mynediad at undebau ac mae’n gweithio i gryfhau lleisiau’r gweithwyr o ran ymdrechion polisi a gwella, gan sicrhau cynrychiolaeth amrywiol a chynhwysol.
Mae’r grŵp hwn yn cyfrannu’n uniongyrchol at un o flaenoriaethau’r bartneriaeth gweithlu gofal cymdeithasol, drwy ddatblygu cytundebau cydnabyddiaeth gydag undebau llafur, gyda Chadeirydd y grŵp cytundeb cydnabyddiaeth hefyd yn aelod o’r grŵp llais y gweithwyr. Nod yr aelodau yw cyfathrebu a hyrwyddo buddiannau cydnabod undebau llafur i gyflogwyr yn ogystal ag i weithwyr.
Hefyd, mae Gofal Cymdeithasol Cymru wedi cytuno bod gan y grŵp hwn rôl a dylanwad yn arolwg gweithlu gofal cymdeithasol 2026 i sicrhau’r cyfranogiad mwyaf posibl, gan gynnwys cynnig dulliau cyfranogi amgen ar-lein lle y gall yr ymddiriedaeth mewn dulliau digidol fod yn isel.
Bydd y grŵp yn parhau i wneud argymhellion i’r fforwm i’w hystyried i gefnogi polisi Llywodraeth Cymru, sydd wedi ymrwymo i hyrwyddo mynediad gweithwyr at undebau llafur ledled Cymru.
Blaenoriaethau’r fforwm yn 2025
Recriwtio rhyngwladol
Mae gan y fforwm bryderon ynghylch y newidiadau diweddar a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU mewn perthynas â gweithwyr tramor fel rhan o’r Papur Gwyn ar Fewnfudo, "restoring control over the immigration system". Bydd y newidiadau’n cael gwared ar allu gweithwyr tramor i wneud cais am rolau fel gweithwyr gofal cymdeithasol a rheolwyr gofal cymdeithasol yn y DU.
Mae’r fforwm wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried ar frys ddull cymorth ar gyfer gweithwyr tramor sy’n byw yng Nghymru, yn enwedig y rhai sydd wedi’u dadleoli yn sgil dirymu trwyddedau cyflogwyr ac sydd felly â chyfyngiadau amser ar ddod o hyd i gyflogaeth newydd.
Yn gynharach eleni, mynychodd nifer o aelodau’r fforwm ddigwyddiad bord gron ar y gweithlu gofal cymdeithasol rhyngwladol yng Nghymru yng nghwmni Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru. Denodd y digwyddiad randdeiliaid o bob cwr o’r wlad sy’n cefnogi gweithwyr tramor yn weithredol. Y canlyniad allweddol oedd y cyd-ymrwymiad i gryfhau cydweithio a datblygu fframwaith cymorth clir ar gyfer gweithwyr tramor yng Nghymru, gan gynnwys dulliau gwell i nodi a mynd i’r afael ag achosion o gam-drin a chamfanteisio, a darparu cymorth uniongyrchol i weithwyr tramor yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru’n gweithio ar frys i ymateb i’r materion sy’n codi ac mae’n parhau i adrodd i’r fforwm i’w ddiweddaru ac i drafod cynigion ar gyfer datblygu’r gwaith hwn.
Rhagor o wybodaeth
Sefydlwyd y Fforwm Gwaith Teg Gofal Cymdeithasol ym mis Medi 2020 yn dilyn argymhelliad Comisiwn Gwaith Teg Cymru, a'r cadeirydd annibynnol yw'r Athro Rachel Ashworth, Athro Rheoli Gwasanaethau Cyhoeddus Ysgol Fusnes Caerdydd.
Mae'r fforwm yn grŵp partneriaeth gymdeithasol sy'n cynnwys cyflogwyr, gweithwyr, rhanddeiliaid a'r Llywodraeth ar sail gyfartal. Yr aelodau yw:
- Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru
- Fforwm Gofal Cymru
- GMB
- Fforwm Cenedlaethol y Darparwyr
- y Coleg Nyrsio Brenhinol
- Gofal Cymdeithasol Cymru
- Cyngres Undebau Llafur Cymru; Unsain
- Llywodraeth Cymru
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru
Mae cylch gwaith y fforwm yn canolbwyntio ar weithwyr gofal cymdeithasol cyflogedig yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector. I ddechrau, mae wedi canolbwyntio'n bennaf ar weithwyr gofal cymdeithasol yn y sector annibynnol, ond bydd ei ystyriaethau hefyd yn ymestyn i'r sector cyhoeddus. Ni fydd y fforwm yn amharu ar y proffesiynau hynny sydd eisoes â chytundebau cydfargeinio ar waith, fel gweithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol, nyrsys cofrestredig ac ati.
Mae mwy o wybodaeth am y fforwm ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
