Neidio i'r prif gynnwy

Manylion yr adroddiad

Comisiynwyd yr adolygiad hwn i werthuso addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol mewn ysgolion cynradd, uwchradd ac ysgolion pob oed yng Nghymru. Cyhoeddodd Estyn ei adroddiad thematig diwethaf ar ieithoedd rhyngwladol yn 2016, cyn cyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru. Mae’r adroddiad thematig hwn yn amlygu enghreifftiau o arferion effeithiol drwy’r adroddiad. Bydd yn darparu adnodd dysgu proffesiynol i bawb sy'n ymwneud â chynllunio ar gyfer ieithoedd rhyngwladol, a’u haddysgu.

Crynodeb o'r prif ganfyddiadau

Mae'r adroddiad yn nodi, yn gyffredinol, bod cynllunio’r cwricwlwm ac ansawdd yr addysgu ar gyfer ieithoedd rhyngwladol yn anghyson, er bod enghreifftiau o arferion da. Mae’r trefniadau pontio rhwng y sector cynradd a’r sector uwchradd yn wan, a’r nifer sy’n astudio ieithoedd rhyngwladol mewn TGAU a Safon Uwch yn isel, sy'n golygu bod dyfodol addysg ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru yn parhau i fod yn heriol.

Mae rhai ysgolion cynradd wedi gwneud cynnydd da wrth ymgorffori ieithoedd yn gynnar ac ar draws y Cwricwlwm i Gymru. Fodd bynnag, mae llawer yn wynebu heriau fel diffyg hyder staff, amser cwricwlwm cyfyngedig, a dysgu proffesiynol annigonol.

Yn gyffredinol, mae dysgwyr yn mwynhau dysgu iaith o oedran cynnar. Ond mae eu brwdfrydedd yn aml yn lleihau dros amser oherwydd diffyg perthnasedd canfyddedig a diffyg hyder, a rhai dysgwyr yn credu bod dysgu Cymraeg yn ddigonol fel iaith ychwanegol. Ceir cyfleoedd i ddysgu iaith ryngwladol ym mlynyddoedd cynnar 7 i 9 ysgolion uwchradd. Ond wedyn gwelir gostyngiad cyson yn nifer y dysgwyr sy’n astudio ieithoedd rhyngwladol oherwydd anhawster canfyddedig a phwysau'r cwricwlwm. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod angen cyfathrebu’n well â theuluoedd ar berthnasedd ieithoedd yn y gymdeithas a'r cyfleoedd y gallant eu cyflwyno.

Mae arweinyddiaeth effeithiol yn cefnogi darpariaeth well a gwelwyd ymgysylltiad cryfach gan ddisgyblion pan fo’r dulliau addysgu yn greadigol a’r adnoddau’n dda. Fodd bynnag, nid yw llawer o arweinwyr yn blaenoriaethu ieithoedd rhyngwladol, gan arwain at ansawdd anghyson a threfniadau pontio gwael. Mae ysgolion yn gwerthfawrogi cymorth allanol, ac mae mentrau fel Dyfodol Byd-eang wedi helpu, ond mae sicrhau cynaliadwyedd yn bryder ac mae mynediad at ddysgu proffesiynol ac adnoddau yn amrywio. Mae recriwtio athrawon hefyd yn parhau i fod yn broblem, gan fod addysg bellach a llwybrau galwedigaethol yn cynnig opsiynau cyfyngedig ar gyfer astudio ieithoedd rhyngwladol.

Argymhellion 1 i 3

Dylai ysgolion: 

Argymhelliad 1

Gryfhau addysgu i wella gwybodaeth a medrau disgyblion, a’u hyder i ddefnyddio’r iaith darged yn ddigymell ac yn annibynnol.

Argymhelliad 2

Wella cynllunio’r cwricwlwm a threfniadau pontio i sicrhau bod disgyblion yn adeiladu ar ddysgu blaenorol wrth symud o’r sector cynradd i’r sector uwchradd.

Argymhelliad 3

Adolygu cynllunio’r cwricwlwm ac amserlennu i sicrhau bod digon o amser yn cael ei neilltuo ar gyfer ieithoedd rhyngwladol, i gynorthwyo disgyblion i wneud cynnydd effeithiol a chyflawni eu potensial.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Yr awdurdodau lleol sy’n arwain ar drefniadau gwella ysgolion yn lleol. Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid a'n rhwydweithiau ehangach i sicrhau bod negeseuon allweddol yn cael eu cyflwyno i ysgolion ynghylch trefniadau pontio er mwyn iddynt ddeall ein disgwyliadau ar gyfer dewis cwricwlwm ehangach.

Yn 2022 cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ganllawiau ar y broses bontio o dan y Cwricwlwm i Gymru, gan gynnwys ystod o ddeunyddiau ategol ac astudiaethau achos ar sefydlu prosesau pontio effeithiol o fewn ac ar draws ysgolion a lleoliadau. Yn ogystal, yn 2024, cafodd deunydd ategol pellach ei gyhoeddi gennym ar sefydlu prosesau ar gyfer dealltwriaeth gyffredin o gynnydd a gwaith clwstwr effeithiol.

Byddwn yn parhau i ddefnyddio partneriaid, rhwydweithiau a grwpiau rhanddeiliaid Dyfodol Byd-eang i amlinellu ein disgwyliadau. Byddwn hefyd yn parhau i hwyluso cyfleoedd i ymarferwyr ddylanwadu ar ddatblygiad polisi yn y dyfodol trwy gyfleoedd i ddatblygu ar y cyd, fel y Grŵp Polisi i Ymarferwyr a ganolbwyntiodd yn ddiweddar ar ieithoedd rhyngwladol. 

Yn ystod ein digwyddiadau dysgu 14 i 16 diweddar ar gyfer timau arweinyddiaeth ysgolion ledled Cymru, nododd Estyn feysydd i ysgolion eu hystyried. Un o’r meysydd hynny oedd ehangu dewisiadau opsiynau ym mlwyddyn 9, er mwyn osgoi’r opsiynau cyfyng a oedd yn annog dysgwyr i beidio â dewis astudio ieithoedd rhyngwladol. 

Byddwn yn parhau i greu adnoddau dysgu ar blatfform dysgu Hwb, er mwyn cefnogi ysgolion i ddatblygu profiadau sy'n bwrpasol, yn gysylltiedig ac yn ystyrlon i'ch dysgwyr. 

Argymhellion 4 i 5

Dylai awdurdodau lleol a gwasanaethau gwella ysgolion: 

Argymhelliad 4

Gryfhau dysgu proffesiynol i sicrhau bod athrawon a staff cymorth, lle bo’n briodol, yn datblygu hyder ac arbenigedd wrth gyflwyno ieithoedd rhyngwladol, yn enwedig yn y sector cynradd.

Argymhelliad 5

Weithio gydag ysgolion i sicrhau bod pob un o’r disgyblion yn cael cyfle i astudio ar gyfer cymwysterau ieithoedd rhyngwladol, yn enwedig lle mae cyfleoedd mewn ysgolion unigol mewn TGAU a Safon Uwch yn gyfyngedig.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r awdurdodau lleol a phartneriaethau gwella ysgolion i nodi ffyrdd o gefnogi’r gwaith o weithredu'r argymhellion hyn fel rhan o raglen Dyfodol Byd-eang.

Mae’r awdurdodau lleol yn arwain ar drefniadau gwella ysgolion lleol sy'n sicrhau perchnogaeth ac atebolrwydd clir. Byddwn yn gweithio gyda'n partneriaid i sicrhau bod negeseuon allweddol yn cael eu cyflwyno i ysgolion er mwyn iddynt ddeall disgwyliadau’r Cwricwlwm i Gymru ynghylch ieithoedd rhyngwladol.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyhoeddi cyfres o grantiau yn ddiweddar i gefnogi ysgolion, gan gynnwys dyfarniad i e-sgol. sydd wedi'i gynllunio i gefnogi ysgolion cynradd yn benodol i ddatblygu eu darpariaeth a magu hyder athrawon i gyflwyno ieithoedd rhyngwladol. 

O fis Medi 2025 bydd datblygiad proffesiynol yn broses symlach drwy’r corff dysgu proffesiynol newydd a fydd yn darparu cyfleoedd hyfforddi clir a chyson y gall athrawon gael mynediad iddynt waeth ble maen nhw'n addysgu. 

Argymhellion 6 i 8

Dylai Llywodraeth Cymru a Medr, lle bo’n berthnasol: 

Argymhelliad 6

Gryfhau’r arweiniad sydd ar gael i ysgolion a rhanddeiliaid eraill, i gynorthwyo disgyblion a’u teuluoedd i ddeall gwerth dysgu ieithoedd rhyngwladol mewn TGAU a Safon Uwch

Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym yn croesawu'r argymhelliad hwn. Mae Llywodraeth Cymru am i bob ysgol ddeall gwerth ieithoedd rhyngwladol ac i bob dysgwr allu cael mynediad at ystod eang o gyfleoedd yma yng Nghymru ac ar draws y byd.

Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth a strategaeth glir i gefnogi dysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru. Mae’r rhain wedi'u nodi yng nghynllun strategol Dyfodol Byd-eang 2022 i 2025, sydd wedi'i gynllunio i gefnogi amlieithrwydd mewn ysgolion a chynyddu nifer y dysgwyr ifanc sy'n astudio ieithoedd ar bob lefel. Mae gwaith yn mynd rhagddo gan Lywodraeth Cymru a Grŵp Llywio Dyfodol Byd-eang i gyflawni amcanion a chamau gweithredu y cynllun strategol hwnnw. 

Mae aelodau'r grŵp yn cynnwys partneriaid addysg rhanbarthol, Estyn, Cymwysterau Cymru a Gyrfa Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn cynllun Dyfodol Byd-eang 2022 i 2025 am flwyddyn arall ac maent yn adolygu'r cynllun strategol gyda'n partneriaid. Fel rhan o'r adolygiad hwn byddwn yn ystyried sut orau y gallwn fynd i'r afael â'r mater.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y bydd mwy o fuddsoddiad mewn cymorth ar gyfer ieithoedd rhyngwladol, sef cyfanswm o tua £1.6 miliwn dros y 3 blynedd nesaf. Grantiau yw’r rhain i fynd i'r afael â materion penodol sy'n effeithio ar ddarpariaeth ieithoedd rhyngwladol: i ymddiriedolaeth uchel ei barch Steven Spender i gefnogi dysgu proffesiynol ac integreiddio technegau creadigol i ysgolion cynradd ac uwchradd; ac i raglen e-sgol i gefnogi athrawon cynradd i ddarparu ieithoedd rhyngwladol. Mae’r buddsoddiad yn cynnwys sicrhau bod rhaglen fentora Prifysgol Caerdydd yn parhau am dair blynedd arall. 

Mae rhaglen fentora Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda 100 o ysgolion uwchradd ledled Cymru i gynyddu nifer y dysgwyr sy’n dewis astudio ieithoedd. Mae hyn yn cynnig ymyrraeth wedi'i thargedu i grwpiau o ddysgwyr blwyddyn 8 a blwyddyn 9 sy'n ansicr ynghylch dysgu iaith. Ers 2015, mae tua 20,000 o ddysgwyr mewn ysgolion ledled Cymru wedi cymryd rhan yn y prosiect.

Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn ariannu Taith, rhaglen gyfnewid ryngwladol Cymru ar gyfer dysgu, sy'n cynnig cyllid i ysgolion cynradd ac uwchradd gynnal cyfnewidiadau rhyngwladol i'w dysgwyr a'u staff, gan agor eu llygaid i ddiwylliannau eraill.

Argymhelliad 7

Gryfhau cymorth cwricwlwm ar gyfer ieithoedd rhyngwladol i helpu ysgolion i gynllunio’n fwy effeithiol ar gyfer dilyniant a pharhad dysgu, yn enwedig wrth i ddisgyblion symud o’r sector cynradd i’r sector uwchradd 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda phartneriaid addysg a rhannu enghreifftiau o arferion da o ystod o ysgolion a lleoliadau ledled Cymru. Rydym yn croesawu’r enghreifftiau defnyddiol yn yr adroddiad hwn, yn enwedig yr enghreifftiau o arferion ein hysgolion cynradd. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn cydnabod pwysigrwydd datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd a gweithio'n effeithiol rhwng ysgolion.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru ar gyfer Pontio o’r ysgol gynradd i’r ysgol uwchradd yn nodi’r cyfrifoldebau cyfreithiol mewn perthynas â threfniadau pontio ar gyfer pob ysgol a lleoliad, ochr yn ochr â deunyddiau ategol ac astudiaethau achos gan ysgolion a chlystyrau. Byddwn yn parhau i flaenoriaethu cyllid i ysgolion ledled Cymru er mwyn cefnogi gwaith datblygu eu cwricwlwm, gan gynnwys cydweithredu rhwng ysgolion, a datblygu dealltwriaeth gyffredin o gynnydd i gefnogi’r broses o helpu dysgwyr i bontio. Yn 2024 i 2025, cyfanswm y cyllid hwn i ysgolion yw £6 miliwn.

Bydd canllawiau fframwaith y Cwricwlwm i Gymru yn cael eu diweddaru'n flynyddol ym mis Ionawr bob blwyddyn. A byddant yn cynnwys manylion clir am yr hyn sydd wedi'i ddiweddaru ac sy’n ymddangos ar dudalen hafan y Cwricwlwm i Gymru ar Hwb.

Yn ogystal â'r deunyddiau ategol presennol, byddwn yn parhau i ddatblygu canllawiau i ysgolion sy'n glir ac sy’n cefnogi dealltwriaeth gyffredin o gynnydd dysgwyr ar hyd y continwwm 3 i 16 mewn modd ymarferol. Bydd hyn yn cynnwys cymorth sydd ar gael yn genedlaethol ac ystod o offer a thempledi a gyhoeddwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ym mis Gorffennaf 2024, a fydd ar gael trwy gydol y flwyddyn academaidd hon. Gall clystyrau ddefnyddio'r rhain i gynllunio eu cwricwlwm a'u trefniadau asesu ar y cyd. 

Dylai ysgolion weithio ar y cyd yn eu hardal, mewn partneriaeth â'u hawdurdod lleol, i nodi strategaethau hirdymor i oresgyn heriau lleol dysgwyr 3 i 16, gan nodi a mynd i'r afael â rhwystrau i ddysgu cyn gynted ag sy’n bosibl, er mwyn sicrhau proses bontio mor llyfn â phosibl i bob dysgwr.

Byddwn yn parhau i ddefnyddio partneriaid, rhwydweithiau a grwpiau rhanddeiliaid Dyfodol Byd-eang i amlinellu ein disgwyliadau a chefnogi eu gwaith cynllunio. Byddwn hefyd yn parhau i hwyluso cyfleoedd i ymarferwyr ddylanwadu ar ddatblygiad polisi yn y dyfodol drwy gyfleoedd i ddatbygu ar y cyd – er enghraifft drwy’r Grŵp Polisi i Ymarferwyr. Canolbwyntiodd y Grŵp yn ddiweddar ar ieithoedd rhyngwladol a'n digwyddiadau diweddar ar gyfer dysgu 14 i 16 i dimau arweinyddiaeth ysgolion a gynhaliwyd ledled Cymru, lle nododd Estyn feysydd i ysgolion eu hystyried, gan gynnwys ehangu dewisiadau opsiynau ym Mlwyddyn 9. 

Argymhelliad 8

Ddatblygu ymagwedd genedlaethol at gefnogi gwasanaethau gwella ysgolion, ysgolion, colegau a phartneriaethau AGA i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor addysgu a dysgu ieithoedd rhyngwladol yng Nghymru.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae gan Lywodraeth Cymru weledigaeth a strategaeth glir i gefnogi’r gwaith o ddysgu ieithoedd tramor modern yng Nghymru. Mae’r rhain wedi’u nodi yng nghynllun strategol Dyfodol Byd-eang 2022 i 2025. Mae'r cynllun strategol yn darparu fframwaith clir ar gyfer sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â'n partneriaid allweddol, gan dynnu ar eu gwybodaeth, eu harbenigedd a'u profiad o gefnogi athrawon a dysgwyr. Mae gwaith yn mynd rhagddo gan Lywodraeth Cymru a Grŵp Llywio Dyfodol Byd-eang i gyflawni amcanion a chamau gweithredu cysylltiedig y cynllun strategol. 

Mae aelodau'r grŵp yn cynnwys partneriaid addysg rhanbarthol, Estyn, Cymwysterau Cymru a Gyrfa Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymestyn cynllun Dyfodol Byd-eang 2022 i 2025 am flwyddyn arall, ac maent yn adolygu'r cynllun strategol gyda'n partneriaid. Wrth ddatblygu ein cymorth ar gyfer y dyfodol, byddwn yn adolygu'r dystiolaeth sydd ar gael ac yn manteisio ar arbenigedd Grŵp Llywio Dyfodol Byd-eang i ystyried sut orau y gallwn fynd i'r afael â'r materion a amlinellwyd gan Estyn. 

Mae Medr yn croesawu argymhellion yr adroddiad hwn. Er bod y cyfrifoldeb am y rhain yn cael ei ysgwyddo’n bennaf gan Lywodraeth Cymru, mae cysylltiad clir rhwng addysg orfodol ac addysg drydyddol, o ran llif gwaith a’r galw am bynciau. Mae Medr wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru yn y meysydd hyn lle gallwn ychwanegu gwerth, gan gynnwys datblygu dull cenedlaethol. 

Manylion cyhoeddi

Mae'r adroddiad llawn ar gael ar wefan Estyn, sef wefan Estyn, ac fe'i cyhoeddwyd ar 9 Gorffennaf 2025.