Huw Irranca-Davies, AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Ddoe, cyhoeddodd Awdurdod Cynllun Masnachu Allyriadau'r DU (UK ETS) – a ffurfiwyd gan Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU, Llywodraeth yr Alban, a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon – ddau Ymateb Awdurdod Interim ar ehangu ETS y DU i gynnwys llosgi gwastraff a morwrol domestig ac ymateb y prif awdurdod ar gael gwared ar nwyon tŷ gwydr (GGRs).
Ym mis Mai 2024, cyhoeddodd yr Awdurdod ymgynghoriad a oedd yn gofyn am farn ar fanylion Troi Gwastraff yn Ynni (EfW) a llosgi gwastraff i gwmpas ETS y DU. Mae Ymateb dros dro yr Awdurdod ddoe yn nodi cyflwyno a chwmpas cyfnod Monitro, Adrodd a Gwirio (MRV) gwirfoddol sy'n dechrau ar 1 Ionawr 2026. Bydd y cyfnod gwirfoddol hwn yn casglu data hanfodol ar gyfer Awdurdod ETS y DU ac yn galluogi'r diwydiant i baratoi ar gyfer costau cyn symud i gael eu cynnwys yn llawn yn y cynllun. Bydd ymateb pellach i elfennau sy'n weddill o'r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi pan fydd yr Awdurdod wedi asesu'r data o'r cyfnod MRV gwirfoddol i ddatblygu polisi sy'n sicrhau bod Awdurdodau Lleol yn cael eu diogelu rhag talu'r costau llawn ac sy'n sicrhau bod y pris carbon yn cael ei ddosrannu ar bob llygrydd yn y gadwyn wastraff. Byddai'r dull hwn yn ceisio cymell datgarboneiddio yn hytrach na throsglwyddo costau trwy'r gadwyn wastraff ac ymlaen i Awdurdodau Lleol.
Mae'r ail Ymateb Awdurdod interim a gyhoeddwyd ddoe yn dilyn ymgynghoriad a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2024 a oedd yn ceisio barn ar fanylion cynnwys y sector morwrol domestig yn y cynllun. Mae'r ymateb ddoe yn cadarnhau y bydd ETS y DU yn berthnasol i bob allyriad o bob mordaith ddomestig (o fewn porthladdoedd y DU) ar gyfer llongau dros 5000 Tunnell Gros. Mae hefyd yn hysbysu rhanddeiliaid y bydd morwrol yn rhan o ETS y DU o'r 1 Gorffennaf 2026, gan roi blwyddyn i randdeiliaid baratoi ar gyfer cynhwysiant. Bydd ymateb pellach i elfennau pendant o'r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi maes o law, unwaith y bydd yr Awdurdod wedi datblygu safbwyntiau polisi terfynol ar gyfer cwmpas y cynllun.
Mae'r ymateb terfynol ar integreiddio Cael Gwared ar Nwyon Tŷ Gwydr (GGRs) i'r cynllun yn dilyn ymgynghoriad a gyhoeddwyd ym mis Mai 2024. Ceisiodd yr ymgynghoriad farn ar gynigion lefel uchel gan gynnwys: egwyddorion ar gyfer dylunio polisi wrth integreiddio GGRs i ETS y DU (gan gynnwys tynnu peirianyddol a thynnu coetiroedd); opsiynau polisi capio; dyluniad lwfans ar gyfer GGRs; sefydlogrwydd storio carbon; a llwybrau i integreiddio. Mae'r ymateb yn cadarnhau'r rhan fwyaf o elfennau'r ymgynghoriad, gan ddarparu sicrwydd pwysig i randdeiliaid ar ein dull o ymdrin â chapio ETS y DU, dyluniad lwfansau ac amserlenni. Fodd bynnag, nid yw'n cynnwys penderfyniad ar gynnwys tynnu coetiroedd. Mae'r penderfyniad hwn wedi'i ohirio er mwyn caniatáu mwy o amser i ystyried rhyngweithiadau polisi ehangach ac i gasglu barn rhanddeiliaid ar y dystiolaeth newydd a gyhoeddwyd ddoe, sy'n asesu effaith bosibl cynnwys coetiroedd. Byddaf yn rhoi diweddariad i'r Senedd ar hyn wrth iddo ddod ar gael.
Mae'r ymatebion ar losgi gwastraff a Throi Gwastraff yn Ynni ochr yn ochr â morwrol domestig yn ymatebion interim, gyda'r bwriad o roi eglurder i randdeiliaid am y camau nesaf wrth gynnwys y sectorau hyn yn ETS y DU. Dilynir y rhain gan Ymatebion llawn yr Awdurdod, a fydd yn cael eu cyhoeddi cyn gosod deddfwriaeth a fydd yn deddfu ar gyfer y newidiadau hyn. Bydd y Senedd, ynghyd â Seneddau eraill y DU, yn cael cyfle i graffu ar gynlluniau unwaith y byddant wedi'u cwblhau. Ymateb yr Awdurdod ar GGRs yw'r cam cyntaf tuag at integreiddio GGRs peirianyddol i ETS y DU. O ystyried cymhlethdod y cynigion, cynllunir ymgynghoriad technegol pellach i gasglu tystiolaeth amhrisiadwy ar fanylion mecaneg integreiddio. Byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Pwyllgor wrth i’r gwaith hwn fynd rhagddo.
Mae cyhoeddi'r ymatebion hyn yn gam nesaf hanfodol wrth ddatblygu cynigion effeithiol ar gyfer ehangu ETS y DU, cynyddu lefel yr allyriadau a fydd yn dod o dan y cynllun a helpu i lunio dyfodol ETS y DU mewn ffordd sy'n cefnogi uchelgeisiau sero net hirdymor Cymru a strategaeth ddatgarboneiddio ehangach.
Rwyf wedi ysgrifennu at Gadeiryddion y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith a'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad i'w hysbysu o'r ymgyngoriadau hyn.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
