Eluned Morgan AS, Y Prif Weinidog
Ymunais â chyfarfod rhif 43 y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar 12 ac 13 Mehefin, a gynhaliwyd gan Weithrediaeth Gogledd Iwerddon yn Newcastle, County Down. Thema'r uwchgynhadledd hon oedd 'Rôl Deallusrwydd Artiffisial mewn Diwygio a Thrawsnewid'. Cafodd y cyfarfod ei gyd-gadeirio gan y Prif Weinidog Michelle O'Neill MLA a'r Dirprwy Brif Weinidog Emma Little-Pengelly MLA. Ar ôl y cyfarfod, cyhoeddwyd datganiad ar y cyd sydd ar gael yma: British-Irish Council Summit meets in Newcastle, County Down | The British Irish Council (Saesneg yn Unig).
Bu'r Cyngor yn trafod y strategaethau a fabwysiadwyd gan bob un o Aelod-weinyddiaethau'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ar gyfer defnyddio technolegau deallusrwydd artiffisial (AI) i gyflymu'r gwaith o ddiwygio'r sector cyhoeddus a gwella'r broses o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar draws yr ynysoedd hyn. Roedd y drafodaeth yn edrych ar y manteision a'r heriau posibl sy'n gysylltiedig ag integreiddio AI yn ehangach mewn gweinyddiaeth gyhoeddus.
Amlinellais gynnydd Llywodraeth Cymru o ran mabwysiadu ac integreiddio AI ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys y defnydd o dechnoleg AI yn ein Gwyddor Data. Tynnais sylw hefyd at effaith gadarnhaol AI ar ein gwasanaeth iechyd, yn enwedig ym maes diagnosteg, lle mae AI ac awtomeiddio wedi cyfrannu at gynnydd o 13% yn yr achosion o ganser y prostad a ganfyddir.
Pwysleisiais y cyfrifoldebau moesegol y mae llywodraethau ar draws yr ynysoedd hyn yn eu rhannu wrth ddefnyddio AI, gan gynnwys yr angen i gynnal safonau gwaith teg a diogelu swyddi yn wyneb awtomeiddio cynyddol. Fe wnes ail-gadarnhau bod ymagwedd Llywodraeth Cymru at AI wedi'i seilio'n gadarn yn ein hymrwymiad i Bartneriaeth Gymdeithasol, gan sicrhau bod cynnydd technolegol yn cefnogi llesiant gweithwyr a chymunedau. Yn y cyd-destun hwn, tynnais sylw at y canllawiau a ddatblygwyd gan Gyngor Partneriaeth y Gweithlu Cymru ar gyfer defnyddio AI mewn modd moesegol a chyfrifol ar draws gweithleoedd y sector Cyhoeddus.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
