Cynllun Dychwelyd Ernes i Gymru
Dogfen holi ac ateb ar y Cynllun Dychwelyd Ernes i Gymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
1. Pam bod Cymru yn cyflymu amserlen weithredu CDE?
Rydym wedi ymgysylltu'n eang ar ddatblygiad ein cynllun ac yn gweithio'n agos gyda diwydiant a'r llywodraethau eraill i sicrhau y bydd y cynlluniau yn y DU yn rhyngweithredol. Fel rhan o'r gwaith hwn, mae'r diwydiant wedi tynnu sylw at y risg o ganlyniadau anfwriadol o ganlyniad i'r gwahaniaeth mewn cwmpas rhwng y cynlluniau yn y DU.
Nid Llywodraeth Cymru sydd wedi creu'r sefyllfa hon ac mae'n deillio o ganlyniad i Lywodraeth flaenorol y DU yn gwyro oddi wrth dull a weithiodd i'r DU gyfan. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth i osgoi'r canlyniadau anfwriadol hynny gan sicrhau y bydd CDE yn dal i ddarparu manteision clir i Gymru.
Drwy gyflymu ein hamserlen weithredu i gyd-fynd â'r cynlluniau eraill sy'n cael eu cyflwyno ledled y DU, mae'n sicrhau rhyngweithredu ar gyfer y deunyddiau cyffredin a gwmpesir gan bob cynllun.
2. A ydyw gwydr dal yn gynwysedig yn CDE Cymru?
Ydy. Mae gwydr yn parhau i fod yng nghwmpas CDE Cymru.
Mae hyn yn hanfodol ar gyfer mynd i'r afael â sbwriel, gwella ailgylchu oddi cartref a chefnogi'r broses o gyflwyno ailddefnyddio sy'n rhan allweddol o'n CDE.
Mae cynnwys gwydr yn caniatáu i Gymru barhau i wneud cynnydd ac adeiladu ar ein hailgylchu sydd o'r radd flaenaf a mynd i'r afael â'r broblem gynyddol o sbwriel gwydr.
3. Sut fydd Cymru yn rheoli’r gwahaniaeth mewn cwmpas o’i gymharu â chynlluniau eraill y DU?
Er bod Cymru wedi parhau i gyd-fynd â'r dull y cytunwyd yn flaenorol, rydym yn cydnabod bod y dirwedd wedi newid yn dilyn penderfyniad Llywodraeth flaenorol y DU i wyro oddi wrtho.
Ar gyfer y deunyddiau hynny o fewn ein cynllun yng Nghymru, ond nid eto yng nghynlluniau eraill y DU, byddwn yn mabwysiadu dull graddol sy'n osgoi canlyniadau anfwriadol i gadwyni cyflenwi neu greu risgiau twyll ychwanegol. Drwy gyflwyno'r gofynion yn raddol, bydd yn osgoi'r risgiau hynny gan sicrhau y bydd y cynllun yn dal i ddarparu budd i Gymru.
4. Sut fydd y dull graddol yn gweithio'n ymarferol?
Bydd yn galluogi cyflwyno dull ailddefnyddio yn raddol, gyda chefnogaeth trefniadau pontio clir i leihau unrhyw darfu.
Ar gyfer cynwysyddion diodydd y gellir eu hailddefnyddio, mae'r diwydiant wedi cynnig cynnal treial ailddefnyddio ar raddfa fawr a fydd yn adeiladu ar y treialon CDE yr ydym eisoes wedi'u cynnal yng Nghymru ac y byddwn wedyn yn symud ohonynt i gyflwyno ailddefnyddio ar draws Cymru gyfan.
Ar gyfer gwydr untro, mae hyn yn cynnwys cyfnod pontio lle bydd gwydr yn cael ei gasglu o ddiwrnod cyntaf y cynllun yng Nghymru, ond heb ernes i ddechrau. Mae'r trefniant hwn yn caniatáu cyfnod gras sy'n osgoi'r angen am newidiadau uniongyrchol i systemau labelu, cynhyrchu neu ddosbarthu, gan helpu i sicrhau pontio llyfn i'r holl gyfranogwyr.
5. Beth yw’r rhesymeg dros cynnwys ailddefnyddio yn CDE Cymru?
Mae Cymru eisoes yr ail orau yn y byd am ailgylchu ac yn unol â'n strategaeth Economi Gylchol, Mwy nag Ailgylchu, rydym eisoes wedi dechrau cyflwyno'r rhaglen ailddefnyddio. Ar gyfer cynwysyddion diodydd, mae ailddefnyddio nid yn unig yn uchelgais i Gymru, ond yn hanfodol os yw'r CDE am yrru cynnydd pellach yn erbyn ein cyfraddau ailgylchu sydd eisoes o'r radd flaenaf. Mae hefyd yn hanfodol i sicrhau bod Cymru yn gallu manteisio ar fanteision economaidd CDE.
Drwy ddylunio ein CDE ar gyfer ailddefnyddio o'r cychwyn cyntaf, bydd nid yn unig yn sicrhau y bydd ein CDE yn effeithiol yng Nghymru, ond bydd hefyd yn lleihau costau deunyddiau ac yn gwella gwytnwch i gynhyrchwyr ac yn darparu llwybr clir at sero net i'r sector.
Mae cynnwys ailddefnyddio hefyd yn cyd-fynd ag arferion gorau byd-eang lle mae gwledydd eraill eisoes yn elwa ar fanteision systemau CDE sy'n ymgorffori ailddefnyddio. Gyda'n cyd-genhedloedd yn y DU hefyd wedi ymrwymo i symud i ailddefnyddio, bydd gweld Cymru'n arloesi yn yr un modd ag y gwnaethom ar gyfer bagiau plastig hefyd yn helpu i lywio'r broses o gyflwyno ledled y DU.
6. Beth yw pwrpas treial ailddefnyddio?
The purpose of the trial is so that industry can test how best to incorporate reuse within their systems and draw from the successful approaches that have already been delivered internationally.
7. Pa cefnogaeth sydd ar gael ar gyfer cwmnïau bach a chanolig a cynhyrchwyr cyfaint isel?
Rydym yn gweithio'n agos gyda busnesau bach a chanolig yng Nghymru i sicrhau bod y cynllun yn syml, yn deg ac yn gallu tyfu yn ôl yr angen. Mae hyn yn cynnwys, er enghraifft, trefniadau synhwyrol ar gyfer eithriadau ar gyfer cynhyrchion mwy anghyffredin.
Ein nod yw sicrhau bod pob busnes - waeth beth fo maint y busnes - nid yn unig yn gallu cymryd rhan yn y cyfleoedd y mae'r cynllun yn eu cyflwyno ond yn elwa arnynt, megis costau llai ar gyfer deunyddiau.
8. Sut mae CDE Cymru yn enghraifft o’r Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru)?
Rydym wedi ymgysylltu â rhanddeiliaid i ddylunio CDE a fydd yn darparu buddion i'n heconomi a'n cymunedau yn ogystal â'n hamgylchedd.
Drwy fynd i'r afael â sbwriel, sicrhau bod deunyddiau'n cael eu dal i fynd yn ôl i'r economi ac osgoi unrhyw wastraff, mae'r cynllun yn darparu manteision uniongyrchol ar draws y nodau o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Wrth ddylunio ar gyfer ailddefnyddio a sicrhau bod y cynllun yn gallu gweithio gyda'r datblygiadau mewn technoleg ddigidol, rydym hefyd yn diogelu'r cynllun i'r dyfodol ac yn sicrhau y bydd yn darparu manteision clir yn y tymor byr a'r tymor hir, i genedlaethau'r presennol a'r dyfodol.
9. Beth yw manteision economaidd y dull gweithredu yng Nghymru?
Mae dadansoddiad annibynnol yn awgrymu y gallai symud i economi gylchol ddatgloi £3.8 biliwn mewn arbedion i economi Cymru.
Mae CDE yn weithred bwysig, ochr yn ochr â'r lleill yn ein strategaeth economi gylchol, i greu swyddi gwyrdd, tyfu'r economi werdd a gyrru arloesedd wrth adeiladu gwytnwch mewn sectorau allweddol a chadwyni cyflenwi, gan gynnwys y diwydiannau diodydd a phecynnu.
Nid yn unig y bydd CDE yn ychwanegu rhwydwaith o fannau ailgylchu, a thrwy hynny helpu i gynyddu ymhellach faint o ddeunydd wedi'i ailgylchu o ansawdd uchel sy'n mynd yn ôl i'n heconomi, ond bydd ymgorffori ailddefnyddio yn cefnogi busnesau a defnyddwyr i elwa ar y defnydd o boteli y gellir eu hailddefnyddio. Gyda chynlluniau rhyngwladol yn gweld poteli yn cylchredeg 8 gwaith neu fwy, mae hyn yn golygu y gall cynhyrchwyr elwa ar ostyngiad yn y deunyddiau sydd eu hangen gan hefyd sicrhau llai o allyriadau sy'n sefyllfa lle mae'r ddwy ochr ar eu hennill.
10. Sut mae Cymru'n gweithio gyda llywodraethau eraill y DU ar CDE?
Rydym wedi parhau i weithio gyda chydweithwyr yn Llywodraethau'r DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon, yn ogystal ag ymgysylltu nawr â'r Sefydliad Rheoli Adnau penodedig ar gyfer eu cynlluniau i sicrhau bod trefniadau clir ar waith ar gyfer cyflwyno'r cynlluniau.
Wrth wneud hynny, ein nod yw sicrhau bod cynllun Cymru yn rhyngweithredol, gan adlewyrchu ar yr un pryd yr angen i sicrhau manteision diriaethol i Gymru.
11. A yw Cymru'n agored i gydweithio pellach?
Yn bendant. Rydym yn croesawu cydweithredu parhaus gyda holl genhedloedd y DU a phartneriaid yn y diwydiant. Ein nod a rennir yw darparu CDE cydlynol, effeithiol sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac sy'n gweithio ar gyfer pob rhan o'r DU — ac rydym yn credu y gall arweinyddiaeth Cymru ar ailddefnyddio helpu i lunio'r dyfodol a rennir hwnnw.
