Neidio i'r prif gynnwy

Yr hyn mae angen ei wneud

Mae'r ddogfen hon at ddibenion gwybodaeth yn unig.

Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig

Gellir gwneud cais am fersiynau o’r ddogfen hon mewn print bras, mewn Braille neu mewn ieithoedd eraill.

Manylion cyswllt

Am ragor o wybodaeth:

Cangen y Gwasanaethau Tân 
Llywodraeth Cymru 
Rhyd-y-car 
Merthyr Tudful 
CF48 1UZ

E-bost: tân@llyw.cymru 

Cyflwyniad

Cyhoeddwyd "Ymgynghoriad ar ddiwygiadau arfaethedig i strwythur cyfradd cyfraniadau gweithwyr o fewn Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân yng Nghymru" Llywodraeth Cymru ar 12 Tachwedd 2024. 

Mae Trysorlys EF yn ei gwneud yn ofynnol i bob cynllun pensiwn sector cyhoeddus gyflawni "cynnyrch" penodol o ran cyfraniadau aelodau, sy'n golygu cyfran gyffredinol y cyflog pensiynadwy blynyddol y mae gweithwyr yn ei thalu fel cyfraniadau i'r cynllun.  Mae hyn i gynnwys cost buddion pensiwn i'r pwrs cyhoeddus.  Y cynnyrch targed ar gyfer cyfraniadau gweithwyr i bob cynllun diffoddwyr tân yn y DU yw 13.2%.

Mae angen newidiadau i'r strwythur presennol ar gyfer cyfraddau cyfraniadau'r gweithwyr gan fod Adran Actiwari'r Llywodraeth ("GAD") wedi nodi yn yr ymarfer prisio diwethaf bod y cynnyrch a gyflawnwyd gan y cynllun ychydig yn is na'r hyn sy'n ofynnol, sef ychydig yn llai na 13.0%. Felly, mae angen i strwythur y cyfraddau cyfraniadau newid er mwyn sicrhau bod y cyfraniadau'n darparu cynnyrch o 13.2% yn yr ymarfer prisio nesaf.  Mae cyfraddau cyfraniadau gweithwyr yn elfen warchodedig o dan Ddeddf Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus 2013, a rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r personau (neu gynrychiolwyr y personau) sy'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol y bydd y rheoliadau'n debygol o effeithio arnynt pe baent yn cael eu gwneud. Bwriad hyn yw dod i gytundeb â nhw. Roedd yr ymgynghoriad yn ymdrin ag ystod o newidiadau posibl i strwythur cyfradd cyfraniadau gweithwyr presennol i gyflawni'r cynnyrch cyfraniadau targed, gan anelu ar yr un pryd at ddarparu'r opsiwn gorau a thecaf i'r aelodaeth yn ei chyfanrwydd.

Nododd yr ymgynghoriad y dylai strwythur cyfradd newydd y cyfraniadau ddilyn yr egwyddorion sylfaenol a amlinellir isod:-

  • dylai cyfraniadau fod yn fforddiadwy, ac ni ddylai’r newidiadau beri i aelodau ddewis peidio â bod yn rhan o’r cynllun
  • dylid strwythuro’r cyfraddau i ffafrio aelodau’r cynllun sydd ar gyflog is
  • ni ddylai cyfraddau wneud i unigolion deimlo’n amharod i gamu ymlaen yn eu gyrfa
  • dylai strwythur y gyfradd gyfraniadau fod yn addas ar gyfer y dyfodol
  • dylai’r system fod yn syml i’w gweinyddu

Amlinellwyd sawl opsiwn a allai newid y strwythur cyfraniadau i gyflawni'r cynnyrch angenrheidiol:-

  • Opsiwn 1 addasu'r bandiau cyfraddau presennol ar gyfer cyfraniadau: addasu cyfraddau'r cyfraniadau ar gyfer pob band fel y maent ar hyn o bryd i gyrraedd y targed cynnyrch o 13.2%.
  • Opsiwn 2 cyfraniadau yn seiliedig ar gyfraddau ymylol: byddai cymhwyso'r gyfradd cyfraniadau ar sail ymylol yn debyg mewn egwyddor i'r ffordd y cyfrifir treth incwm. O dan y system hon, byddai’r holl aelodau yn talu cyfradd cyfraniadau band 1 ar gyfran eu cyflog hyd at frig band 1, cyfradd cyfraniadau band 2 ar gyfran eu cyflog rhwng brig band 1 a brig band 2, ac yn y blaen.
  • Opsiwn 3 cysylltu cyfraniadau â strwythur graddau fel y nodir yn Telerau ac Amodau Gwasanaeth y Diffoddwyr Tân ("y Llyfr Llwyd"): byddai'r opsiwn hwn yn cysylltu cyfraniadau â'r strwythur graddau a nodir o dan Adran 3 Telerau ac Amodau Gwasanaeth y Diffoddwyr Tân ("y Llyfr Llwyd") yn hytrach na thrwy fandio ariannol.  Byddai’r model yn cael ei rannu’n 4 band, Diffoddwr Tân; Rheolwr Criw / Rheolwr Gwylfa; Rheolwr Gorsaf / Rheolwr Grŵp; a Rheolwr Ardal ac uwch. Fel sy’n digwydd ar hyn o bryd, byddai cyfraddau cyfrannu gweithwyr yn cynyddu yn unol â’u datblygiad drwy'r graddau. Felly, byddai Diffoddwyr Tân yn talu’r gyfradd isaf a byddai Rheolwyr Ardal ac uwch yn talu’r gyfradd uchaf.  Yn ogystal, fe wnaethom gynnig y dylid rhoi diffoddwyr tân ar Ddyletswydd yn ôl y Galw (waeth beth fo'u gradd) ym mand 1 gyda diffoddwyr tân amser llawn.
  • Opsiwn 4 newid o gyfwerth ag amser llawn i'r cyflog gwirioneddol: ar hyn o bryd, mae aelodau o Gynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân yn talu cyfraniadau yn seiliedig ar y band y mae eu tâl pensiynadwy neu eu tâl pensiynadwy tybiedig yn perthyn iddo. Mae hyn yn cynnwys eu cyflog sylfaenol a’r lwfansau sy’n bensiynadwy at ddibenion y Cynllun. Fel rheol gyffredinol, mae lwfansau sy'n cael eu talu'n barhaol neu am gyfnod amhenodol yn bensiynadwy; ond nid yw lwfansau dros dro neu lwfansau tymor penodol fel taliadau goramser neu daliadau dyrchafiad dros dro yn bensiynadwy. Rydym wedi ystyried a ddylem newid y dull hwn a defnyddio cyfraddau blynyddol gwirioneddol cyflog pensiynadwy'r gweithwyr yn hytrach na chyflog cyfwerth ag amser llawn. 

Y broses ymgynghori

Dechreuodd ymgynghoriad deuddeg wythnos ar 12 Tachwedd 2024 ac roedd yn agored ar gyfer ymatebion tan 04 Chwefror 2025.  Roedd yr ymgynghoriad yn cynnwys 9 o gwestiynau, gydag opsiynau i ymateb i’r cwestiynau hynny drwy lenwi ffurflen ar-lein neu drwy e-bost. Roedd y ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.

Cafodd Llywodraeth Cymru 18 ymateb i’r ymgynghoriad. Daeth y 18 ymateb hynny o’r canlynol: 

  • tri o’r Awdurdodau Tân ac Achub yng Nghymru (ATA)
  • un o undeb llafur sy'n cynrychioli diffoddwyr tân
  • un gan Fwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn y Diffoddwyr Tân yng Nghymru (SABW)
  • 13 gan unigolion 

Ceir rhestr lawn o'r ymatebwyr yn atodiad a.

Mae Llywodraeth Cymru yn croesawu’r ymatebion i’r ymgynghoriad a hoffai ddiolch i bawb a ymatebodd.   

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Hasesiad Effaith Integredig ochr yn ochr â’r ddogfen ymgynghori. Mae’r safbwynt polisi cyffredinol a nodir yn y ddogfen ymgynghori yn aros yr un fath a bydd yn sail i'r rheoliadau terfynol. Felly, nid oes unrhyw newidiadau wedi cael eu gwneud i’r Asesiad Effaith Integredig fel y cafodd ei gyhoeddi’n wreiddiol. 

Crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad

Mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried yr ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae’r ddogfen hon yn rhoi crynodeb o’r ymatebion a gafwyd i bob un o’r cwestiynau penodol ac ymateb Llywodraeth Cymru iddynt. 

Cwestiwn 1

I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylai’r strwythur newydd gael ei seilio ar yr egwyddorion a amlinellir uchod? Ydych chi’n meddwl bod rhai egwyddorion yn bwysicach nag eraill?

Cytunodd 12 o'r 18 ymatebydd y dylai'r strwythur newydd gael ei seilio ar yr egwyddorion a amlinellir ym mharagraffau 9 i 14 o'r ddogfen ymgynghori.

Roedd 2 ymatebydd yn anghytuno â'r egwyddorion a amlinellwyd. Ni ddarparodd 4 ymatebydd farn bendant

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gefnogaeth gyffredinol i’r cynnig. Byddwn felly yn bwrw ymlaen â gweithredu strwythur diwygiedig wedi'i seilio ar yr egwyddorion a nodir yn y ddogfen ymgynghori.   

Cwestiwn 2

I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylid cyfrifo cyfraniadau pensiwn gweithwyr ar sail ymylol, yn hytrach nag ar sail haenog?

Roedd 6 o'r 18 a ymatebodd i'r cwestiwn hwn yn teimlo y dylid cyfrifo cyfraniadau gweithwyr ar sail ymylol. Roedd ymatebwyr yn teimlo y byddai'r strwythur hwn yn ddull tecach gan y byddai'r rhai ar gyflogau uwch ddim ond yn talu cyfraniadau ychwanegol yn raddol yn unol â chynnydd yn eu cyflogau. 

Roedd yn well gan ddeg ymatebydd gyfrifo cyfraniadau ar sail haenog am fod y strwythur yn haws i'w ddeall, ei reoli a'i weinyddu. Nododd dau ymatebydd, pe bai dull ymylol yn cael ei fabwysiadu, ni fyddai'n bosibl taro'r dyddiad gweithredu arfaethedig gan y byddai angen gweithredu a phrofi newidiadau sylweddol i'r ffordd y mae systemau cyflogres presennol yn gweithio. 

Ni roddwyd barn gan ddau o'r ymatebwyr.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi pryder y mwyafrif o'r ymatebwyr y byddai cyfrifiadau a wnaed ar sail ymylol yn gymhleth ac yn anodd i aelodau'r cynllun eu deall ac i'r Gwasanaethau Tân ac Achub eu gweinyddu. Byddai cyfrifo cyfraddau cyfraniadau ar sail ymylol hefyd yn arwain at newidiadau sylweddol i systemau cyflogres a allai achosi mwy o faich gweinyddol i'r Gwasanaethau Tân ac Achub. Ar sail y sylwadau a ddaeth i law, byddwn yn parhau i wneud cyfrifiadau ar sail haenog. 

Cwestiwn 3

I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylai cyfraniadau pensiwn gweithwyr fod yn seiliedig ar strwythur graddau’r Gwasanaeth Tân yn hytrach nag ar fandio ariannol?

Croesawodd mwyafrif yr ymatebwyr, gan gynnwys holl aelodau SABW sy'n cynrychioli pob cyflogwr a'r holl undebau llafur cydnabyddedig, y cynnig i seilio cyfraddau cyfraniadau ar strwythur graddau fel y'i nodir yn y Llyfr Llwyd. Dywedodd yr ymatebwyr eu bod yn ffafrio'r opsiwn hwn gan y byddai'n hawdd i ddiffoddwyr tân ei ddeall gan eu bod eisoes yn gyfarwydd â'r telerau a nodir yn y Llyfr Llwyd a byddai'n haws i'r Gwasanaethau Tân ac Achub eu gweinyddu, gan y byddai pennu cyfradd briodol y cyfraniadau yn dibynnu ar radd aelod y cynllun. Yn ogystal, byddai'r opsiwn hwn yn diogelu'r drefn at y dyfodol gan y byddai bandiau cyflog yn codi'n awtomatig bob blwyddyn yn unol â dyfarniadau cyflog y Cydgyngor Cenedlaethol. Yn y ddogfen ymgynghori ac yn yr ymateb hwn, rydym yn cyfeirio at hyn fel "strwythur seiliedig ar raddau" er bod system ddyletswydd aelod (amser llawn neu yn ôl y Galw) hefyd yn berthnasol iddo. Bydd y rheoliadau yr ydym yn bwriadu eu gwneud hefyd yn defnyddio'r term "rôl" yn hytrach na "gradd".

Nododd pump o'r ymatebwyr a oedd o blaid yr opsiwn hwn eu bod yn cefnogi mabwysiadu strwythur yn seiliedig ar radd. Fodd bynnag, roeddent yn pryderu bod yr enghraifft ddarluniadol yn dangos camau mawr yng nghyfraddau'r cyfraniadau, yn enwedig ar gyfer uwch reolwyr (Rheolwyr Grŵp/ Ardal ac uwch), a thrwy hynny'n creu amgylchiadau a allai fod yn annheg i aelodau'r cynllun ar gyflogau uwch ac atal unigolion rhag ymgeisio am ddyrchafiad.  O ran hyn o beth, awgrymodd ymatebwyr unigol ac aelodau SABW y dylid rhoi ystyriaeth bellach i'r cyfraddau a gymhwysir i bob band oherwydd gallai hynny ddarparu cynnydd mwy graddol yng nghyfraddau'r cyfraniadau, a thrwy hynny gael gwared ar y camau / erchwynni clogwyn rhwng graddau. 

Ychwanegodd yr ymatebwyr hefyd y dylid dosrannu'r cynnydd mewn cyfraniadau sydd ei angen i gwrdd â chynnyrch y cynllun yn deg ar draws holl aelodau'r cynllun a phob band.

Cododd dau ymatebydd bryderon hefyd y gallai'r dull hwn gyflwyno diwylliant o ddyrchafiadau dros dro estynedig, a fyddai'n galluogi'r aelod o'r cynllun i aros yn eu band blaenorol, gan nad yw lwfansau dyrchafiad dros dro yn bensiynadwy fel arfer o dan Gynllun 2015.   

Ni wnaeth yr ymatebwr oedd yn anghytuno â'r dull gweithredu hwn unrhyw sylwadau pellach. Roedd tri ymatebydd yn teimlo bod yn well seilio cyfraniadau ar fandio ariannol gan eu bod yn credu y gallai seilio cyfraniadau ar raddau fod yn gymhleth i'w gyfrifo pan fo unigolyn yn cael dyrchafiad dros dro neu lwfansau eraill. Yn ogystal, roedd dau ymatebydd yn teimlo na ddylai Diffoddwyr Tân ar Ddyletswydd yn ôl y Galw ("RDS") gael eu cynnwys ym Mand 1 a thalu llai o gyfraniadau na'u cymheiriaid amser llawn, gan fod diffoddwyr tân RDS yn debygol o gael mynediad at bensiynau gweithle eraill fel rhan o'u prif gyflogaeth / contract.

Ni ddarparwyd barn gan un o'r ymatebwyr.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae'r mwyafrif o'r ymatebwyr yn cytuno y dylai cyfraddau cyfraniadau gael eu seilio ar radd yn hytrach na thrwy fandio ariannol. Roedd ymatebwyr yn teimlo y byddai cyfrifiadau wedi'u seilio ar raddau'n haws eu deall gan ddiffoddwyr tân ac mae ganddynt y fantais ychwanegol o allu dygymod â gofynion y dyfodol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod pryderon bod y cyfraddau cyfraniadau a nodir yn yr enghraifft ddarluniadol yn dangos y byddai cynnydd sylweddol mewn cyfraddau cyfraniadau rhwng y bandiau, yn enwedig ar gyfer aelodau'r cynllun sydd ar gyflogau uwch, a gallai hyn gael ei ystyried yn annheg. Yn ei dro, gallai hyn o bosibl greu "erchwynni clogwyn" a fyddai'n cymell gweithwyr i beidio ag ymgeisio am ddyrchafiad yn eu gyrfa.

Ers hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi cwrdd ag aelodau SABW er mwyn trafod sut i gyflawni cyfraddau cyfraniadau sy'n cael eu cymhwyso'n fwy cyfartal ar draws pob band, gan  hefyd sicrhau bod y targed cynnyrch yn cael ei gyrraedd. Wedi hynny, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu Adran Actiwari'r Llywodraeth ("GAD") i lunio cyfres o gyfrifiadau diwygiedig sy'n darparu cynnydd mwy graddol yng nghyfraddau'r cyfraniadau ar draws y bandiau er mwyn lliniaru unrhyw erchwynni clogwyn.  Rydym hefyd yn nodi pryderon bod yr enghraifft wreiddiol yn dangos y byddai Band 1 (diffoddwyr tân a phob diffoddwr tân RDS) yn cael gostyngiad mewn cyfraniadau tra bod cyfraniadau uwch reolwyr yn cynyddu'n sylweddol. Nid dyna oedd bwriad yr ymgynghoriad hwn, fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru a SABW yn dal o'r farn y dylid arbed yr aelodau ar y cyflogau isaf rhag talu cyfraddau cyfraniadau anghymesur uchel, er mwyn cadw cysondeb â'r egwyddorion sylfaenol ar gyfer newid. Credwn y dylai hyn hefyd ymestyn i ddiffoddwyr tân RDS gan ei fod yn annheg disgwyl i ddiffoddwyr tân ar ddyletswydd yn ôl y galw dalu'r un gyfradd o gyfraniadau gweithwyr â'u cymheiriaid amser llawn gan y gallai hyn arwain at staff ar alw ar raddau Rheolwr Criw neu Reolwr Gwylfa yn talu lefel uwch o gyfraniadau am bensiwn llai na staff amser llawn yn y radd Diffoddwr Tân. 

Ers hynny mae GAD wedi llunio cyfraddau cyfraniadau diwygiedig (ynghlwm yn Atodiad B) sy'n darparu cynnydd mwy graddol mewn cyfraniadau ym mhob gradd. Er mwyn parhau i fod yn gyson â'r egwyddorion sylfaenol, bydd aelodau'r cynllun ar y cyflog isaf yn gweld cynnydd bach mewn cyfraddau cyfraniadau gyda chyfraddau yn cynyddu'n raddol ar gyfer graddau uwch.

Fel y nodwyd uchod, os yw Gweinidogion Cymru yn dymuno gwneud neu ddiwygio rheoliadau'r cynllun sy'n cynnwys newidiadau sy'n effeithio ar "elfennau gwarchodedig", mae adran 22 o Ddeddf Pensiynau Gwasanaeth Cyhoeddus 2013 yn gosod gofynion ymgynghori penodol arnynt. Er mwyn bodloni'r gofyniad a nodir o dan adran 22, rhaid i Lywodraeth Cymru ymgysylltu'n llawn â phersonau (neu gynrychiolwyr y personau) sy'n ymddangos i'r awdurdod cyfrifol yn debygol o gael eu heffeithio  gan y rheoliadau, gyda'r nod o gytuno ar y diwygiadau arfaethedig. Yn ogystal â chynnal ymgynghoriad cyhoeddus llawn, rydym wedi ymgysylltu'n benodol ag aelodau SABW er mwyn cael eu barn a'u cytundeb ffurfiol o ran cynigion. Rydym wedi’i wneud yn glir gydol y trafodaethau hynny nad yw Llywodraeth Cymru yn ffafrio unrhyw ffordd yn benodol y dylai cyfraddau cyfraniadau newid, ond i'r canlyniad gyrraedd y targed cynnyrch. Yn hytrach, rydym wedi cael ein harwain gan yr hyn y mae'r cyflogwyr a'r cyrff cynrychioliadol yn credu sy'n deg ac yn hawdd i'w weinyddu ac rydym wedi comisiynu gwaith pellach gan GAD o ystyried hynny.

Yn dilyn nifer o drafodaethau gydag aelodau o'r SABW, mae cynrychiolwyr cyflogwyr ac undebau llafur wedi cytuno ar y cyfraddau cyfraniadau a gynhwysir yn yr atodiad b. Mae'r aelodau'n fodlon mai'r strwythur sy'n seiliedig ar raddau yw'r mwyaf priodol ar gyfer cynllun pensiwn y diffoddwyr tân yng Nghymru, gan gadw hefyd at yr egwyddorion sylfaenol. Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen i weithredu'r cynnig i seilio cyfraddau cyfraniadau cyflogeion ar raddau, yn amodol ar y cyfrifiadau diwygiedig sydd ynghlwm yn atodiad b. 

Cwestiwn 4

I ba raddau ydych chi’n cytuno y dylid parhau i gyfrifo cyfraniadau drwy gyfeirio at gyflog cyfwerth ag amser llawn yn hytrach na chyflog pensiynadwy gwirioneddol?

Cytunodd 10 allan o 18 ymatebydd y dylid parhau i gyfrifo cyfrifiadau drwy gyfeirio at gyflog cyfwerth ag amser llawn. Ni fynegwyd barn gan un ymatebydd.

Nododd sawl ymatebydd, oherwydd y nifer fawr o ddiffoddwyr tân RDS yng Nghymru, y byddai cyfrifo cyflog gan ddefnyddio cyflog gwirioneddol yn arwain at nifer sylweddol o ddiffoddwyr tân ar ddyletswydd yn ôl y galw / rhan-amser yn symud i lawr i'r band isaf o ran cyfradd cyfraniadau. Byddai hyn wedyn yn gyrru'r cynnyrch yn is eto ac arwain at gynnydd sylweddol mewn cyfraddau cyfraniadau ar gyfer pob diffoddwr tân, gan gynnwys y rhai a gyflogir ar delerau dyletswydd yn ôl y galw. Felly, byddai hyn yn methu â chyflawni'r egwyddorion sylfaenol a nodwyd yn yr ymgynghoriad. 

Yn ogystal, roedd pedwar ymatebydd yn teimlo y gallai aelodau'r cynllun ystyried y dull hwn fel un a fyddai'n achosi rhaniadau gan y byddai seilio'r cyfrifiad ar gyflog gwirioneddol yn ddi-os o fudd i ddiffoddwyr tân ar ddyletswydd yn ôl y galw ond byddai'n cael effaith niweidiol ar eu cymheiriaid amser llawn. Dywedodd un ymatebydd hefyd y gallai cynnydd sylweddol mewn cyfraddau cyfraniadau i holl aelodau'r cynllun arwain at fwy o unigolion yn dewis peidio â bod yn aelodau o gynllun pensiwn y diffoddwyr tân. 

Tynnodd un ymatebydd sylw at y ffaith bod y cyfrifiad pensiwn yn y cynlluniau gwaddol wedi'i seilio ar gyflog terfynol yr aelod ac felly dylai aelodau'r cynllun dalu'n llawn ac yn briodol am y buddion y maent yn eu derbyn pan fyddant yn ymddeol.

Ymateb Llywodraeth Cymru 

Mae'r mwyafrif o'r ymatebwyr yn credu y dylai cyfrifiadau barhau i fod yn seiliedig ar gyflog cyfwerth ag amser llawn. Rydym yn nodi pryderon ymatebwyr y byddai seilio'r cyfrifiad ar gyflog gwirioneddol yn arwain at lawer o ddiffoddwyr tân ar ddyletswydd yn ôl y galw yn symud i lawr i'r band cyfradd cyfraniadau isaf waeth beth fo'r radd neu gyflog cyfwerth ag amser llawn. Fodd bynnag, mae'r cwestiwn hwn yn berthnasol i system lle mae cyfraniadau'n cael eu pennu yn ôl bandiau cyflog. Mae'r cwestiwn hwn yn mynd yn amherthnasol, beth bynnag, wrth inni symud i ddull seiliedig ar raddau nad yw'n defnyddio unrhyw fesur o gyflog (gwirioneddol neu gyfwerth ag amser llawn). 

Cwestiwn 5

I ba raddau ydych chi’n cytuno â’r cynnig manwl sydd wedi’i nodi ym mharagraffau 37 i 40 uchod?

Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y cymysgedd o ymatebion i’r cynnig hwn, a oedd yn cynnwys elfennau cadarnhaol, yn ogystal â rhywfaint o anghytuno â nifer o’i agweddau.

Cadarnhaodd y mwyafrif o'r ymatebwyr eu bod yn fodlon â seilio cyfraddau cyfraniadau gweithwyr ar raddau yn hytrach na bandio ariannol fel yr amlinellir yng nghwestiwn 3. Fodd bynnag, roedd ymatebwyr yn pryderu bod yr enghraifft ddarluniadol yn dangos camau mawr rhwng y cyfraddau cyfraniadau, yn enwedig ar gyfer uwch reolwyr (Rheolwr Grŵp a Rheolwr Ardal ac uwch), a thrwy hynny'n creu erchwyn clogwyn a allai o bosibl atal unigolion rhag ceisio dyrchafiad. Yn ogystal, roedd aelodau'n teimlo ei bod yn annheg i Fand 1 gael cynnydd cymedrol mewn cyflog net pan fyddai uwch reolwyr o bosibl yn talu lefel sylweddol uwch o gyfraniadau. Dywedodd rhai ymatebwyr hefyd y gallai gosod yr holl ddiffoddwyr tân ar ddyletswydd yn ôl y galw ym Mand 1 gael ei ystyried yn annheg gan eu bod yn cyfrannu llai i'r cynllun pensiwn mewn termau real ac mae ganddynt fynediad at bensiynau gweithle eraill fel rhan o'u prif gyflogaeth. Dywedodd yr ymatebwyr, er mwyn sicrhau tegwch ac i gael gwared ar "erchwynni clogwyn" posibl, y dylid cymhwyso'r cynnydd mewn cyfraddau cyfraniadau gweithwyr yn gyfartal ar draws pob band a holl aelodau'r cynllun. 

Nododd un ymatebydd y byddai rhoi holl staff RDS ym Mand 1 yn gofyn am rai newidiadau gweinyddol i'r feddalwedd gyflogres ac felly ni fyddai'n bosibl cyrraedd y dyddiad gweithredu arfaethedig sef 1 Ebrill 2025.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Fel y nodir yn ein hymateb i gwestiwn 3, rydym yn nodi pryderon ymatebwyr nad oedd y cyfraddau cyfraniadau enghreifftiol a oedd yn rhan o'r ymgynghoriad yn darparu cynnydd teg mewn cyfraddau ar gyfer pob band. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi cwrdd ag aelodau o'r SABW ers hynny er mwyn trafod sut i gyflawni cyfraddau cyfraniadau sy'n cael eu cymhwyso'n fwy cyfartal ar draws pob band, gan sicrhau hefyd bod y targed cynnyrch yn cael ei gyflawni. Yn dilyn hynny, comisiynodd Llywodraeth Cymru GAD i lunio cyfres o gyfrifiadau diwygiedig a gymhwysodd gynnydd mwy graddol mewn cyfraddau cyfraniadau ar draws y bandiau er mwyn lliniaru unrhyw erchwynni clogwyn.  Er ein bod yn nodi pryderon rhai ymatebwyr y byddai'n annheg gosod holl staff RDS ym Mand 1, credwn yn gryf y dylid eu diogelu rhag talu cyfraddau cyfraniadau anghymesur o uchel, fel aelodau cynllun ar y cyflog isaf, gan y gellir dadlau ei bod yn annheg disgwyl i ddiffoddwyr tân ar ddyletswydd yn ôl y galw, ar unrhyw raddau uwch na Diffoddwyr Tân, dalu'r un gyfradd o gyfraniadau gweithwyr â'u cymheiriaid amser llawn.  Mae hyn oherwydd y byddant o reidrwydd yn ennill llawer llai na nhw ac yn cronni pensiwn llai. Er enghraifft, mae gan Rheolwr Gwylfa RDS sy'n ennill £20,000 y flwyddyn gyflog sylweddol is na diffoddwr tân amser llawn a bydd yn cronni pensiwn sylweddol llai, felly ni ellir disgwyl yn rhesymol iddo dalu cyfradd uwch o gyfraniadau amdano. 

Mae'r cyfraddau cyfraniadau diwygiedig (ynghlwm yn atodiad b) yn darparu cynnydd mwy graddol mewn cyfraniadau ym mhob gradd, a thrwy hynny'n lleihau'r camau mawr rhwng graddau. Er mwyn parhau i fod yn gyson â'r egwyddorion sylfaenol, bydd aelodau'r cynllun ar y cyflog isaf yn gweld cynnydd bach mewn cyfraddau cyfraniadau gyda chyfraddau yn cynyddu'n raddol yn unol â dilyniant eu gyrfa. Yn unol â'r gofynion ymgynghori cynyddol o dan adran 22 o Ddeddf Pensiynau'r Gwasanaeth Cyhoeddus 2013, mae aelodau'r SABW, sy'n cynnwys cynrychiolwyr cyflogwyr ac undebau llafur, wedi trafod yn fanwl y cyfraddau cyfraniadau diwygiedig a ddarperir gan GAD. Ers hynny, mae SABW wedi cytuno ar y cyfraddau cyfraniadau a gynhwysir yn Atodiad B. 

Felly, bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithredu'r cynnig a nodir yn y ddogfen ymgynghori (h.y. cyfraddau cyfraniadau wedi'u seilio ar strwythur sy'n seiliedig ar raddau gyda phob diffoddwr tân RDS wedi'u gosod ym Mand 1) ar sail ddiwygiedig, gan weithredu cyfraddau cyfraniadau gweithwyr fel y nodir yn atodiad b. Felly, bydd rheoliadau diwygio yn cael eu cyflwyno o 1 Medi 2025 i roi digon o amser i reolwyr y cynllun wneud newidiadau gweinyddol a rhoi gwybod i aelodau'r cynllun am y newid i strwythur cyfraddau cyfraniadau'r gweithwyr.

Cwestiwn 6

Os nad ydych yn cytuno â’r cynnig sydd wedi’i amlinellu uchod, a oes gennych chi awgrym arall ynghylch sut y dylid strwythuro cyfraddau cyfraniadau?

Ymatebodd 11 allan o 18 ymatebydd i'r cwestiwn hwn. I raddau helaeth, cododd eu sylwadau faterion a oedd yn ymwneud â chwestiynau eraill uchod, ac sydd wedi'u trafod yno. Dadleuodd un unigolyn na ddylai cyfraddau cyfraniadau newid o gwbl; fodd bynnag, am y rhesymau a nodir yn y ddogfen ymgynghori, ni allai hynny byth â bod yn opsiwn.

Cwestiwn 7

Hoffem glywed eich barn am yr effeithiau y byddai’n cynigion yn eu cael ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio’r Gymraeg ac o ran peidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg. Pa effeithiau rydych chi’n credu y byddai cael eu gweld? Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol a lliniaru effeithiau negyddol?

Ni wnaed unrhyw sylwadau penodol ar wahân i gydnabod y bydd dogfennau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn unol â Safonau’r Gymraeg. 

Ni roddodd chwe ymatebydd eu barn. 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae Llywodraeth Cymru yn nodi y bydd Awdurdodau Tân ac Achub yn parhau i gyfathrebu â’u haelodau yn Gymraeg ac yn Saesneg, yn unol â Safonau’r Gymraeg. Bydd ein rheoliadau terfynol hefyd ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg. 

Cwestiwn 8

Eglurwch hefyd os gwelwch yn dda sut rydych chi’n credu y gall y polisi arfaethedig gael ei lunio neu ei addasu er mwyn cael effeithiau positif ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg; a pheidio â chael effeithiau andwyol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.

Ni wnaethpwyd sylwadau penodol ynghylch yr effaith y gallai’r polisi ei chael ar y Gymraeg, ac eithrio’r rhai a godwyd eisoes yng Nghwestiwn 7.

Ni roddodd wyth ymatebydd eu barn. 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Nid oes unrhyw faterion i fynd i’r afael â hwy. Felly, byddwn yn bwrw ymlaen i weithredu’r cynigion yn y ddogfen ymgynghori.   

Cwestiwn 9

Rydym wedi gofyn nifer o gwestiynau penodol. Oes gennych chi unrhyw sylwadau eraill am ein cynigion neu unrhyw faterion cysylltiedig nad ydym wedi rhoi sylw penodol iddynt?

Ni ddarparodd 12 allan o 18 ymatebydd sylw.

Cododd dau ymatebydd, gan gynnwys y SABW, bryderon efallai na fydd dyddiad gweithredu o 1 Ebrill 2025 yn rhoi digon o amser i Reolwyr y Cynllun wneud y newidiadau gweinyddol angenrheidiol gan gynnwys diweddariadau i feddalwedd ar gyfer systemau cyflogres. Ar ben hynny, byddai cyflwyno'r newidiadau yn ôl-weithredol yn creu baich gweinyddol ac yn creu pryder i weithwyr.  Yn ogystal, roedd ymatebwyr yn teimlo y dylid hysbysu aelodau'r cynllun am y newid i gyfraddau cyfraniadau a'r rheswm dros y cynnydd. Gallai methu â chyfathrebu'n effeithiol ag aelodau'r cynllun arwain at fwy yn dewis peidio â bod yn aelod o'r cynllun yn y dyfodol. Felly, awgrymwyd y dylai Llywodraeth Cymru ystyried gweithredu'r strwythur newydd o 1 Medi 2025 er mwyn caniatáu cyfathrebu digonol ag aelodau'r cynllun ynglŷn â'r newidiadau arfaethedig.

Holodd un ymatebydd beth fyddai barn Llywodraeth Cymru pe bai dyfarniad cyflog y Cyd-Gyngor Cenedlaethol yn cael ei gysylltu â rôl a math cyflogaeth yn hytrach na chynnydd ar draws y graddau cyflog gan y byddai hyn yn effeithio'n negyddol ar ddiffoddwyr tân ar ddyletswydd yn ôl y galw.

Dywedodd un ymatebydd mai dim ond mân newidiadau i'r strwythur presennol oedd eu hangen er mwyn cyrraedd y targed cynnyrch ac nid oeddent yn croesawu unrhyw ddiwygiadau pellach. 

Cwestiynodd un ymatebydd a oedd Llywodraeth Cymru wedi ystyried alinio'r dull yng Nghymru â chynlluniau pensiwn y diffoddwyr tân yn Lloegr a gwledydd datganoledig eraill. Roedd yr ymatebydd yn teimlo y gallai unrhyw wahaniaeth effeithio ar drosglwyddiadau trawsffiniol oherwydd cyfraddau cyfraniadau gwahanol, gan arwain at bensiynau uwch neu is yng Nghymru. Yn ogystal, ychwanegodd yr ymatebydd y gallai newidiadau sylweddol i brosesau gweinyddol ac arferion presennol gynyddu costau i'r Gwasanaethau Tân ac Achub ledled Cymru.

Roedd un unigolyn yn teimlo eu bod yn fodlon i'r trethdalwr ysgwyddo'r cynnydd mewn costau i gynllun pensiwn y diffoddwyr tân; tra bod unigolyn arall yn holi faint o gynnydd y byddai ei angen yng nghyfraniadau'r gweithwyr pe bai diffoddwr tân ar ddyletswydd yn ôl y galw yn ennill llai na £15,000 y flwyddyn ar gyfartaledd. 

Ymateb Llywodraeth Cymru

Rydym yn nodi pryderon efallai na fydd y dyddiad gweithredu arfaethedig, sef 1 Ebrill 2025, yn caniatáu digon o amser i reolwyr y cynllun wneud yr addasiadau angenrheidiol i'r broses weinyddol ac i roi gwybod i aelodau'r cynllun am y newidiadau arfaethedig a'r rhesymau dros gyflwyno strwythur newydd.  Rydym hefyd yn nodi'r sylwadau am gysondeb â chynlluniau diffoddwyr tân eraill yn y DU ac yn cytuno bod hyn yn ddymunol.  Fodd bynnag, mae'n debygol y bydd gwahaniaethau ar draws y DU yn lefelau'r cynnydd mewn cyfraniadau sydd eu hangen i gyflawni'r targed cynnyrch. Felly, byddai mabwysiadu'r un newidiadau yn golygu naill ai na fyddai un neu fwy o gynlluniau yn cyrraedd y targed cynnyrch, a/neu fod diffoddwyr tân mewn rhai rhannau o'r DU yn talu cyfraniadau uwch nag sydd eu hangen. Mae angen i ni hefyd adlewyrchu gwahaniaethau yn y gweithlu, yn bennaf y gyfran uwch o ddiffoddwyr tân ar ddyletswydd yn ôl y galw yng Nghymru (tua 55% o'r gweithlu, o'i gymharu â 30% yn Lloegr). Ar y cyfan, ein prif nod yw darparu cynllun sy'n deg, yn rhesymol ac yn fforddiadwy i ddiffoddwyr tân yng Nghymru, yn hytrach na hwyluso trosglwyddiadau trawsffiniol yn y DU.

O ganlyniad i sylwadau'r ymatebwyr, bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu'r strwythur newydd ar gyfer cyfraddau cyfraniadau gweithwyr o 1 Medi 2025 ymlaen.  Rhagwelir y bydd hyn yn caniatáu i reolwyr y cynllun weithredu'r newidiadau gweinyddol angenrheidiol a chyfathrebu'r newid yng nghyfraddau'r cyfraniadau i aelodau'r cynllun.

Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad.  Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn bwrw ymlaen â gwneud a gosod rheoliadau diwygiedig a fydd yn dod i rym ar 1 Medi 2025.  

Y camau nesaf

Hoffai Llywodraeth Cymru ddiolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad. Bydd Llywodraeth Cymru nawr yn bwrw ymlaen â gwneud a gosod rheoliadau diwygiedig a fydd yn dod i rym ar 1 Medi 2025.  

Atodiad a: rhestr o'r ymatebwyr

  • Bwrdd Cynghori Cynllun Pensiwn Diffoddwyr Tân Cymru
  • Cyngor Cenedlaethol y Penaethiaid Tân
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru
  • Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru
  • 13 ymateb gan Unigolion