Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a'r Gymraeg

Cyhoeddwyd gyntaf:
23 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw (23 Gorffennaf 2025) cyhoeddir Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer 2024-25. Mae'r ddogfen yn adrodd ar y flwyddyn olaf o gyflawni yn erbyn ei gynllun corfforaethol tair blynedd.  

Yn ystod y flwyddyn, cyrhaeddodd yr ACC garreg filltir bwysig o fod wedi casglu £2 biliwn mewn Treth Trafodiadau Tir (TTT) a Threth Gwarediadau Tirlenwi (TGT) ers iddo ddechrau gweithredu yn 2018. Dros y blynyddoedd mae'r refeniw hwn wedi gwneud cyfraniad sylweddol tuag at ariannu gwasanaethau cyhoeddus Cymru, megis ysgolion a'r GIG.  

Mae ACC yn parhau i gyflawni drwy ei ffordd Gymreig o drethu – sef cefnogi pobl i dalu'r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir. Yn arwydd o lwyddiant hyn, yn ystod 2024 i 25 ffeiliwyd mwyafrif helaeth y ffurflenni treth ar amser, ac yn gywir.  

Mae ACC hefyd wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru wrth iddynt baratoi ar gyfer Cofrestr Genedlaethol ar gyfer llety i ymwelwyr ac Ardoll Ymwelwyr i Gymru; gan wneud yn siŵr bod y ddeddfwriaeth (a ddylai gael Cydsyniad Brenhinol fis Awst eleni) yn cael ei datblygu ochr yn ochr â dealltwriaeth gweithrediadol. Rwy'n croesawu ehangiad disgwyliedig rôl ACC yn hyn a'r defnydd o'i ddull o weithredu, wrth i ni barhau i greu system dreth deg yng Nghymru.   

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.