Cyfarfod y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth: 19 Mehefin 2025
Crynodeb o gyfarfod y Grŵp Cynghori ar Arloesi Democratiaeth ar 19 Mehefin 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Yn bresennol
- Anwen Elias (Cadeirydd)
- Mo Alamgir
- Sarah Allan
- Jess Blair
- Michael Corcoran
- Tomos Dafydd Davies
- Sally Holland
- Julie Sangani
- Diana Stirbu
- Daisy Thomson
- Leanne Wood
Ymddiheuriadau
- Yvonne Murphy
Eitem 1: nodyn o'r cyfarfod blaenorol
Cytunwyd ar y nodyn o'r cyfarfod blaenorol.
Cam gweithredu
Nodyn o'r cyfarfod blaenorol i'w rannu gyda'r Dirprwy Brif Weinidog.
Bydd crynodeb o gyfarfod mis Mai yn cael ei gyhoeddi ar llyw.cymru
Eitem 2: gwrthdaro buddiannau
2.1 Mae Aelodau'r Grŵp hwn wedi'u dewis am eu harbenigedd yn eu priod feysydd. Ar adegau, efallai y bydd y Grŵp yn ceisio gwybodaeth am brosiectau neu bynciau sy'n gorgyffwrdd ag ymlyniadau/cysylltiadau aelod, gan arwain o bosibl at wrthdaro buddiannau.
2.2 Rhaid i'r Aelodau ddatgan pob sefyllfa lle mae gwrthdaro buddiannau sy'n hysbys neu a amheuir. Bydd pob sefyllfa yn cael ei hasesu yn unigol.
2.3 Pan fo gwrthdaro buddiannau yn codi yng nghyd-destun gwaith y Grŵp, rhaid i'r aelod ymesgusodi o'r trafodaethau a'r penderfyniadau sy'n ymwneud â'r mater dan sylw.
2.4 Dylai Aelodau ofyn am arweiniad gan swyddogion Llywodraeth Cymru os ydynt yn ansicr a yw sefyllfa benodol yn golygu bod gwrthdaro buddiannau. Bydd yr holl sefyllfaoedd o wrthdaro datganedig yn cael eu cofnodi'n ffurfiol a'u cadw ar ffeil.
Eitem 3: rhaglen waith ddrafft
3.1 Bydd angen i'r Dirprwy Brif Weinidog gymeradwyo unrhyw raglen waith arfaethedig cyn i'r Grŵp allu dechrau ar ei waith.
3.2 Bydd y rhaglen waith ddrafft yn cael ei diwygio yn dilyn y cyfarfod hwn, a bydd fersiwn sydd wedi'i diweddaru yn cael ei chyflwyno i'r Grŵp yn y cyfarfod ar 3 Gorffennaf 2025. Wedyn bydd y Cadeirydd yn ceisio cymeradwyaeth gan y Dirprwy Brif Weinidog er mwyn bwrw ymlaen â'r rhaglen.
3.3 Cyflwynodd y Cadeirydd y rhaglen waith ddrafft a oedd wedi'i rhannu ag Aelodau'r Grŵp cyn y cyfarfod, gan wahodd sylwadau pellach arni.
3.4 Trafododd y Grŵp y llwybr ymlaen, gan gydnabod y bydd ei ddulliau gweithredu ar gyfer cyflawni'r gwaith, ei bartneriaethau, a'i ffyrdd o weithio, yn pennu'r cyfeiriad.
3.5 Roedd Aelodau'r Grŵp o'r farn y dylid ystyried gweithgareddau a fyddai'n rhoi mwy o gyfle i ddinasyddion ddefnyddio eu dylanwad yn hytrach na mabwysiadu dull gweithredu o'r brig i lawr. Dylai'r Grŵp sicrhau ei fod yn modelu egwyddorion arloesi democrataidd, a'i fod yn ymgysylltu mewn modd sy'n adlewyrchu ei fwriad, yn ogystal â gwasanaethu pob cymuned yng Nghymru mewn modd sy'n seiliedig ar gydraddoldeb.
3.6 Trafododd y Grŵp bwysigrwydd sicrhau y bydd angen adlewyrchu'r cyd-destun y mae'r Grŵp yn gweithredu ynddo yn yr iaith a ddefnyddir i ddisgrifio'i waith.
3.7 Bydd gweithgareddau a gynhelir yn ystyried yr angen i ymgysylltu â grwpiau sydd wedi'u tangynrychioli. Trafododd y Grŵp echel frys ar gyfer llywio’r gwaith o gynllunio’i weithgarwch.
3.8 Trafododd y Grŵp y llwybr ymlaen, gan gydnabod y bydd ei ddulliau gweithredu ar gyfer cyflawni'r gwaith, ei bartneriaethau, a'i ffyrdd o weithio, yn pennu'r cyfeiriad.
3.9 Trafododd y Grŵp gyfleoedd cwmpasu ym maes addysg, sef addysg ffurfiol a thu hwnt i addysg ffurfiol.
3.10 Trafododd y Grŵp sut y gellid ymgysylltu ag addysgwyr i ganfod pa rwystrau a chyfleoedd sy'n bodoli, a pha gymorth yr hoffent ei gael. Dylai'r Grŵp sicrhau bod hon yn broses gydweithredol. Byddai angen cefnogaeth gan amrywiaeth o randdeiliaid ym maes addysg ar gyfer y gweithgarwch mewn lleoliadau addysg ffurfiol.
3.11 Dylai'r Grŵp ystyried cyfleoedd i gyflawni ei waith mewn partneriaeth â llywodraeth leol.
3.12 Gellid comisiynu ymchwil a fyddai'n caniatáu i'r Grŵp awgrymu materion y gallai Llywodraeth Cymru ddymuno eu hystyried wrth ddatblygu Argymhelliad 2.
3.13 Gallai'r Grŵp gomisiynu ymchwil i sut mae gwledydd eraill wedi datblygu egwyddorion cyfansoddiadol tebyg.
Eitem 4: y camau nesaf
4.1 Bydd y rhaglen waith ddrafft yn cael ei diweddaru cyn cyfarfod nesaf y Grŵp.
4.2 Bydd y Grŵp yn parhau i ddatblygu'r rhaglen waith yn y cyfarfod nesaf, yn barod i'w chyflwyno i'r Dirprwy Brif Weinidog yn fuan wedyn.
4.3 Mae'r Grŵp wedi cael golwg ar gyfarfodydd a gweithgareddau eraill a fydd yn berthnasol i'w waith. Anogir Aelodau'r Grŵp i rannu unrhyw ymrwymiadau arfaethedig a fyddai’n addas i'w cynnwys yn y dyfodol.
Eitem 5: Unrhyw fater arall
Dim.
