Rebecca Evans AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a Chynllunio
Mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth India wedi llofnodi Cytundeb Masnach Rydd (FTA) newydd yn ffurfiol heddiw. Mae'r trafodaethau bellach wedi'u cwblhau, ac mae'r cytundeb ar y trywydd iawn i gael ei gadarnhau ac i ddod i rym dros y misoedd nesaf.
Mae India yn bartner pwysig ac yn farchnad bwysig i Gymru. Gwerth y nwyddau a fasnachwyd rhwng India a Chymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025 oedd £795.1m, ac roedd mewnforion ac allforion yn werth £596.8m a £198.3m yn y drefn honno. Mae hyn yn golygu mai India yw ein 13eg marchnad allforio fwyaf a'r 10fed farchnad fewnforio fwyaf. Mae'r data masnach gwasanaethau diweddaraf ar gyfer 2022 yn amcangyfrif bod gwerth masnach gwasanaethau tua £373m. India hefyd yw'r 5ed buddsoddwr mwyaf yng Nghymru ar hyn o bryd gyda 45 o brosiectau buddsoddi ers 2012.
Fel gydag unrhyw Gytundeb Masnach Rydd, bydd y cytundeb hwn yn darparu manteision ymarferol a chyfleoedd masnach i fusnesau Cymru, yn enwedig i'n sector bwyd a diod, a'n sector gweithgynhyrchu uwch. Rwy'n arbennig o falch o weld bod penodau ynghylch masnach gynaliadwy mewn meysydd fel yr amgylchedd a rhywedd wedi'u cynnwys yn y cytundeb terfynol. Dyma'r tro cyntaf i India gytuno i ddarpariaethau mor gynhwysfawr â'r rhain.
Mae'r ymwneud rhwng Llywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig ar y Cytundeb Masnach Rydd hwn wedi bod yn gadarnhaol ac yn ganmoladwy. Mae'n enghraifft o gydweithredu effeithiol a da y dylid ei ailadrodd mewn meysydd polisi masnach a thrafodaethau masnach eraill.
Nawr bod testun llawn y cytundeb a'r asesiad effaith ar gael, bydd fy swyddogion yn cynnal asesiad llawn ac yn cyhoeddi adroddiad yn manylu ar ein safbwynt ar y Cytundeb Masnach Rydd a'i effaith bosibl ar Gymru.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.
