Neidio i'r prif gynnwy

Sylwch ar gynnwys Cylchlythyr Llywodraeth Cymru Defnyddio amodau cynllunio i reoli datblygu (CLIC 016/2014). Dylid defnyddio’r ddogfen hon ar y cyd â’r Cylchlythyr uchod ac mae’n rhaid rhoi ystyriaeth i’r chwe phrawf: dylai amodau fod: (i) yn angenrheidiol; (ii) yn berthnasol i gynllunio; (iii) yn berthnasol i’r datblygiad sydd i’w ganiatáu; (iv) yn orfodadwy; (v) yn fanwl gywir; ac (vi) yn rhesymol ym mhob ffordd arall.

Bwriedir i’r amodau a restrir yma fod yn bwynt cyfeirio ar gyfer partïon sy’n llunio amodau awgrymedig ar gyfer ceisiadau cynllunio Datblygiadau o Arwyddocâd Cenedlaethol (DNS) sy’n cynnwys cynhyrchu ynni adnewyddadwy. Nid yw’r rhestr yn hollgynhwysfawr, ac mae’n bosibl na fydd rhai amodau’n briodol i bob cynllun. Man cychwyn yw’r amodau, a bydd angen ystyried a ydynt yn briodol neu a oes angen eu diwygio yn seiliedig ar amgylchiadau pob achos. Ni ddylid cymhwyso’r amodau a restrir yma heb ystyriaeth ofalus. 

Lle y cynhwysir cyfnodau, ystyriwyd y rhain yn ofalus yng ngoleuni profiad Penderfyniadau Cynllunio ac Amgylchedd Cymru (PCAC) o archwilio ceisiadau DNS hyd yma a chredir eu bod yn rhesymol yn y rhan fwyaf o achosion, ond caiff partïon awgrymu dewisiadau amgen gyda rhesymau ar sail achosion unigol. 

Dylai sbardunau ar gyfer amodau fod yn benodol i’r achos. Felly, er bod amodau cyn-gychwyn fel arfer yn datgan ‘Ni chaiff unrhyw ddatblygiad na gwaith clirio safle ddigwydd hyd nes..’, ceir amrywio’r amodau hyn yn seiliedig ar fanylion penodol y safle, megis ‘ac eithrio cwympo coed’ (mewn safleoedd coediog) neu ‘ac eithrio ymchwiliadau safle’.

Amseriadau a chynlluniau

1. Terfyn amser ar gyfer cychwyn

Bydd y datblygiad yn dechrau heb fod yn hwyrach na [phum] mlynedd o ddyddiad y penderfyniad hwn.

Rheswm: Atal caniatadau heb eu gweithredu rhag cronni’n ddiangen a chaniatáu i’r awdurdod cynllunio gynnal adolygiad o’r amgylchiadau pan ddaw’r caniatâd i ben.   

2. Cynlluniau cymeradwy

Yn ddarostyngedig i’r amodau sydd ynghlwm wrth y caniatâd hwn, bydd y datblygiad yn cael ei gynnal yn unol â’r cynlluniau a’r dogfennau canlynol: [ ]. 

Rheswm: Sicrhau bod y datblygiad yn cael ei gynnal yn unol â’r dogfennau, y cynlluniau a’r lluniadau cymeradwy a gyflwynwyd gyda’r cais.

3. Terfyn amser ar gyfer gweithredu

Bydd y caniatâd a roddir drwy hyn yn parhau am gyfnod o [ ] mlynedd o’r dyddiad pan gaiff trydan ei allforio gyntaf o [y cyfleuster ynni adnewyddadwy] ar sail fasnachol ac eithrio profi (y “Dyddiad Allforio Cyntaf”). Bydd cadarnhad ysgrifenedig o’r Dyddiad Allforio Cyntaf yn cael ei anfon at yr awdurdod cynllunio lleol o fewn mis o’r Dyddiad Allforio Cyntaf.

Rheswm: Cydymffurfio â thelerau’r cais.

Datgomisiynu’r safle

4. Cynllun datgomisiynu

Heb fod yn hwyrach na 12 mis cyn y dyddiad y daw’r caniatâd cynllunio a roddir drwy hyn i ben [fel y diffinnir yn amod 3], bydd cynllun datgomisiynu ac adfer safle yn cael ei gyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol a’i gymeradwyo ganddo’n ysgrifenedig. Bydd y cynllun yn cynnwys:

  1. Manylion symud yr holl [araeau solar / tyrbinau gwynt] ymaith ac elfennau’r datblygiad ar yr wyneb [yn ogystal ag un metr o sylfeini’r tyrbinau o dan lefel y tir]; a
  2. Chynllun Rheoli Amgylcheddol Datgomisiynu (DEMP) wedi’i lywio gan waith arolygu priodol.

Bydd y safle’n cael ei ddatgomisiynu yn unol â’r cynllun datgomisiynu cymeradwy.

Rheswm: Cydymffurfio â thelerau’r cais a chyd-fynd â [pholisi / pholisïau] [rhifau] [Cynllun].

5. Methiant i gynhyrchu trydan 

Os bydd unrhyw ran o’r [fferm solar / fferm wynt] a ganiateir drwy hyn yn methu  cynhyrchu trydan i’w gyflenwi i’r grid am gyfnod parhaus o [6] mis [heblaw fel sy’n ofynnol yn unol â’r amodau eraill sydd ynghlwm wrth y caniatâd hwn], bydd cynllun yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w gymeradwyo ganddo’n ysgrifenedig o fewn 3 mis o ddiwedd y cyfnod 6 mis hwnnw ar gyfer atgyweirio neu waredu’r [fferm solar / fferm wynt]. Pan fydd angen gwaith atgyweirio neu amnewid, bydd y cynllun yn cynnwys rhaglen arfaethedig ar gyfer gwaith adfer. Pan fydd angen gwaredu’r [fferm solar / fferm wynt], bydd y cynllun yn cynnwys yr un manylion ag sy’n ofynnol o dan amod datgomisiynu [amod rhif 4] y caniatâd hwn. Bydd y cynllun atgyweirio neu waredu’n cael ei weithredu wedi hynny gan gydymffurfio’n llwyr â’r manylion cymeradwy a’r amserlen. 

Rheswm: Sicrhau bod y broses o amnewid cydrannau’n cael ei rheoli’n briodol a sicrhau bod y [fferm solar / fferm wynt] yn cynhyrchu trydan yn fuddiol neu’n cael ei gwaredu fel arall er mwyn cymeriad a golwg yr ardal.

Dylunio a microleoli

6. Manylion tyrbinau 

Bydd y tyrbinau gwynt o [gyfluniad tair llafn] ac ni fydd eu huchder cyffredinol yn fwy na [  ] m. Ni fydd y tyrbinau’n arddangos unrhyw logo, symbol, arwydd na hysbysebion amlwg ar unrhyw arwyneb allanol. Ni fydd y tyrbinau’n cael eu goleuo (heblaw at ddibenion diogelwch hedfan). Bydd holl lafnau’r tyrbinau’n cylchdroi i’r un cyfeiriad. Bydd y tyrbinau’n cael eu codi a’u cadw wedi hynny ar hyd oes y datblygiad yn unol â manylion lliw a gorffeniad a gymeradwyir yn ysgrifenedig yn gyntaf gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol.

Rheswm: Er mwyn [amwynder gweledol ac amwynder preswylwyr cyfagos] yn unol â [pholisi / pholisïau] [rhifau] [cynllun].

7. Microleoli

Ni chaiff unrhyw waith datblygu (heblaw am ymchwiliadau safle cyn-adeiladu) ddechrau hyd nes bod protocol microleoli wedi cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i gymeradwyo ganddo’n ysgrifenedig. Bydd y protocol microleoli’n caniatáu ar gyfer amrywio’r tyrbinau a’r seilwaith cysylltiedig hyd at [50 m] i unrhyw gyfeiriad yn amodol ar leihau effeithiau ar gyfyngiadau amgylcheddol gymaint â phosibl. Bydd y protocol yn cael ei weithredu fel y’i cymeradwywyd. 

Rheswm: Er mwyn bioamrywiaeth yn unol â [pholisi / pholisïau] [rhifau] [cynllun].

8. Microleoli amgen (lle yr ystyriwyd bod y protocol yn dderbyniol ar y cam ymgeisio)

Ceir microleoli’r tyrbinau gwynt a’r seilwaith arall a ganiateir drwy hyn o fewn [50 m] o’r safleoedd a ddangosir ar y [Cynllun Gosodiad Safle] a bydd cynllun sy’n dangos safle terfynol y tyrbinau a’r seilwaith arall sy’n ffurfio rhan o’r datblygiad yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol perthnasol o fewn mis o’r Dyddiad Allforio Cyntaf.

Rheswm: Er mwyn bioamrywiaeth yn unol â [pholisi / pholisïau] [rhifau] [cynllun].

Sylwer: Er bod yr amodau uchod yn datgan lwfans 50 m ar gyfer microleoli, byddai hyn yn benodol i’r safle yn seiliedig ar amgylchiadau’r safle. 

9. Cyflwyno manylion ychwanegol 

Cyn iddynt gael eu gosod, bydd manylion [offer teledu cylch cyfyng (CCTV), goleuadau, ffensys, gorffeniadau allanol adeiladau] yn cael eu cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’u cymeradwyo ganddo’n ysgrifenedig. Bydd y cynllun yn cael ei weithredu yn unol â’r manylion cymeradwy. 

Rheswm: Er mwyn [...] yn unol â [pholisi / pholisïau] [rhifau] [cynllun].

Cynlluniau rheoli

10. Cynllun rheoli 

Ni chaiff unrhyw waith datblygu (ac eithrio ymchwiliadau safle cyn-adeiladu) ddechrau hyd nes bod [Cynllun Rheoli], sy’n cynnwys amserlen ar gyfer gweithredu, wedi cael ei gyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol a’i gymeradwyo ganddo’n ysgrifenedig. Bydd y dulliau gweithio a’r mesurau eraill a gynhwysir yn y [Cynllun Rheoli] cymeradwy yn cael eu dilyn a’u cynnal yn unol â’r amserlen gymeradwy ar gyfer gweithredu. 

Rheswm: Diogelu’r amgylchedd [ac amodau byw preswylwyr] yn unol â [pholisi / pholisïau] [rhifau] [cynllun].

Sylwer: Mae PCAC wedi canolbwyntio ar leihau amodau hir a rhagnodol gymaint â phosibl. Felly, gellir addasu’r amod uchod i fynnu bod unrhyw gynllun rheoli’n cael ei gyflwyno, gan gynnwys:

  • Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu
  • Cynllun Rheoli Tirwedd ac Ecolegol
  • Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu
  • Cynllun Rheoli Pridd
  • Cynllun Rheoli Ansawdd Dŵr
  • Cynllun Rheoli Cludo Llwythi Anghyffredin
  • Cynllun Rheoli Storio Ynni
  • Cynllun Gwarchod Rhywogaethau

Disgwylir i’r cynlluniau rheoli perthnasol fanylu ar fesurau lliniaru. Er enghraifft, dylai’r Cynllun Rheoli Tirwedd ac Ecolegol gynnwys cynllun tirweddu llawn gydag amserlen ar gyfer gweithredu, rheoli a monitro wedi hynny. Dylai’r Cynllun Rheoli Amgylcheddol Adeiladu gynnwys mesurau i warchod coed a gwrychoedd. Fe allai amodau wedi’u teilwra fod yn fwy priodol yn seiliedig ar amgylchiadau’r achos. 

Ecoleg

11. Strategaeth Monitro a Lliniaru Gwrthdaro 

Cyn i unrhyw dyrbin weithredu, bydd Strategaeth Monitro a Lliniaru Gwrthdaro wedi’i diweddaru ar gyfer [ystlumod a / neu adar] yn cael ei chyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i chymeradwyo ganddo’n ysgrifenedig. Bydd y Strategaeth Monitro a Lliniaru Gwrthdaro yn cynnwys protocol i amlygu trothwyon, sbardunau a thargedau y gellir barnu canlyniadau’r arolygon monitro yn eu herbyn, ac yn manylu ar sut y bydd cynlluniau wrth gefn a / neu gamau adferol yn cael eu hamlygu, eu cytuno gyda rhanddeiliaid perthnasol, ac yna eu gweithredu. Bydd y Strategaeth Monitro a Lliniaru Gwrthdaro gymeradwy yn cael ei gweithredu a’i dilyn bob amser. 

Rheswm: Er mwyn bioamrywiaeth yn unol â [pholisi / pholisïau] [rhifau] [cynllun].

12. Cwtogi tyrbinau

Cyn i unrhyw dyrbin weithredu, bydd manylion protocol cwtogi tyrbinau yn cael eu cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’u cymeradwyo ganddo’n ysgrifenedig. Pan fydd y tyrbin yn ailddechrau gweithredu, bydd gweithrediad y tyrbin yn cydymffurfio â’r rhaglen gwtogi wedi’i haddasu fel y’i cymeradwywyd.

Rheswm: Er mwyn bioamrywiaeth yn unol â [pholisi / pholisïau] [rhifau] [cynllun].

Goleuadau

13. Cynllun goleuadau 

Cyn iddynt gael eu gosod ar y safle, bydd manylion unrhyw oleuadau sydd i’w defnyddio yn ystod adeiladu neu weithredu’r datblygiad a gymeradwyir drwy hyn yn cael eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol a’u cymeradwyo ganddo’n ysgrifenedig. Bydd y goleuadau’n cael eu cynnal yn unol â’r manylion cymeradwy.

Rheswm: Diogelu [cymeriad gwledig a buddiannau bioamrywiaeth y safle] yn unol â [pholisi / pholisïau] [rhifau] [cynllun].

14. Cynllun goleuadau hedfan 

Cyn i unrhyw dyrbin gwynt gael ei godi, neu cyn i unrhyw offer adeiladu neu strwythur(au) dros dro sy’n fwy na 15.2 metr o uchder (uwchben lefel y tir) gael eu defnyddio, mae’n rhaid i gynllun goleuadau hedfan, sy’n diffinio sut y bydd y strwythur yn cael ei oleuo ar hyd ei oes i gynnal diogelwch hedfan sifil a milwrol, gael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i gymeradwyo ganddo’n ysgrifenedig. Bydd y cynllun yn cael ei weithredu yn unol â’r manylion cymeradwy.

Rheswm: Cynnal diogelwch hedfan yn unol â [pholisi / pholisïau] [rhifau] [cynllun].

Treftadaeth ddiwylliannol

15. Cynllun archaeolegol

Ni chaiff unrhyw waith datblygu, gan gynnwys gwaith dymchwel, clirio safle, stripio uwchbridd na gwaith tir arall, ddigwydd hyd nes bod gweithredu rhaglen o waith archaeolegol wedi cael ei sicrhau yn unol â chynllun ymchwilio ysgrifenedig a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd ac a gymeradwywyd gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn ysgrifenedig. Wedi hynny, bydd y rhaglen waith yn cael ei chynnal gan gydymffurfio’n llwyr â’r cynllun cymeradwy.

Rheswm: Er mwyn [...] yn unol â [pholisi / pholisïau] [rhifau] [cynllun].

Tir a draenio

16. Halogiad tir

Ni chaiff unrhyw waith datblygu ddigwydd hyd nes bod ymchwiliad safle o natur a hyd a lled halogiad wedi cael ei gynnal yn unol â methodoleg a gyflwynwyd yn gyntaf i’r Awdurdod Cynllunio Lleol ac a gymeradwywyd ganddo’n ysgrifenedig. Bydd y fethodoleg yn cynnwys mesurau ar gyfer halogiad annisgwyl a ganfyddir yn ystod adeiladu. Bydd canlyniadau’r ymchwiliad safle ar gael i’r Awdurdod Cynllunio Lleol cyn i unrhyw waith datblygu ddechrau. Os canfyddir unrhyw halogiad yn ystod yr ymchwiliad safle, bydd adroddiad sy’n nodi’r mesurau sydd i’w cymryd i adfer y safle er mwyn iddo fod yn addas ar gyfer y datblygiad a ganiateir drwy hyn, gan gynnwys amserlenni, yn cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i gymeradwyo ganddo’n ysgrifenedig. Bydd y safle’n cael ei adfer yn unol â’r manylion cymeradwy.

Rheswm: Er mwyn [...] yn unol â [pholisi / pholisïau] [rhifau] [cynllun].

17. Tir ansefydlog 

Ni chaiff unrhyw waith datblygu ddigwydd hyd nes bod ymchwiliad safle wedi cael ei gynnal yn unol â methodoleg a gyflwynwyd yn gyntaf i’r awdurdod cynllunio lleol ac a gymeradwywyd ganddo’n ysgrifenedig. Bydd canlyniadau’r ymchwiliad safle yn cael eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol cyn i unrhyw waith datblygu ddechrau. Os canfyddir unrhyw faterion ansefydlogrwydd tir yn ystod yr ymchwiliad safle, bydd adroddiad sy’n nodi’r mesurau sydd i’w cymryd i adfer y safle er mwyn iddo fod yn addas ar gyfer y datblygiad yn cael ei gyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol a’i gymeradwyo ganddo’n ysgrifenedig. Bydd y mesurau adfer yn cael eu cynnal cyn i’r datblygiad weithredu yn unol â’r manylion cymeradwy ac yn cael eu cadw am byth. Os canfyddir unrhyw faterion ansefydlogrwydd tir annisgwyl yn ystod y gwaith datblygu na amlygwyd yn ystod yr ymchwiliad safle, bydd mesurau ychwanegol ar gyfer eu hadfer ar ffurf cynllun adfer yn cael eu cyflwyno i’r awdurdod cynllunio lleol a’u cymeradwyo ganddo’n ysgrifenedig. Bydd y safle’n cael ei adfer yn unol â’r manylion cymeradwy.

Rheswm: Er mwyn [...] yn unol â [pholisi / pholisïau] [rhifau] [cynllun].

18. Cynllun draenio

Ni chaiff unrhyw waith datblygu ddechrau hyd nes bod trefniadau llawn ar gyfer draenio’r safle, gan gynnwys trefniadau rheoli a chynnal a chadw, wedi cael eu cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’u cymeradwyo ganddo’n ysgrifenedig. Bydd y trefniadau draenio’n cael eu gweithredu yn unol â’r manylion cymeradwy. Bydd y system ddraenio’n cael ei rheoli a'i chynnal wedi hynny yn unol â’r cynllun draenio cytunedig. 

Rheswm: Sicrhau [bod dŵr budr yn cael ei waredu a bod dŵr wyneb yn cael ei ddraenio’n ddigonol] yn unol â [pholisi / pholisïau] [rhifau] [cynllun].

Diogelwch ar y priffyrdd

19. Arolygon o gyflwr y briffordd

Bydd arolygon o gyflwr holl nodweddion y briffordd ar hyd y rhannau hynny o’r rhwydwaith priffyrdd a ddefnyddir yn ystod adeiladu’r datblygiad, fel y nodir yn y Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu, yn cael eu cynnal cyn i’r gwaith datblygu ddechrau, ac ar ôl cwblhau cam adeiladu’r datblygiad. Dylai’r arolygon hefyd ddarparu cynllun ac amserlen ar gyfer adfer unrhyw ddifrod damweiniol i’r rhwydwaith priffyrdd sy’n uniongyrchol briodoladwy i’r datblygiad. Bydd yr adroddiadau arolwg yn cael eu cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w cymeradwyo o fewn 28 niwrnod o gynnal pob arolwg cyfatebol a bydd unrhyw fesurau adfer sy’n ofynnol yn cael eu gweithredu fel y’u cymeradwywyd. 

Rheswm: Er mwyn [diogelwch ar y priffyrdd a llif rhydd traffig] yn unol â [pholisi / pholisïau] [rhifau] [cynllun].

Radar

20. Cynllun lliniaru radar 

Ni cheir codi unrhyw lafnau tyrbinau ar y safle hyd nes bod cynllun ar gyfer lliniaru effaith y tyrbinau gwynt ar weithredu prif radar goruchwylio [  ] (y “cynllun lliniaru radar”) wedi cael ei gyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’i gymeradwyo ganddo’n ysgrifenedig. Bydd y datblygiad yn cael ei weithredu wedi hynny gan gydymffurfio’n llwyr â’r cynllun lliniaru radar cymeradwy ar hyd cyfnod gweithredol y datblygiad am oes y datblygiad. 

Rheswm: Sicrhau nad oes unrhyw effeithiau annerbyniol ar weithrediadau radar yn unol â [pholisi / pholisïau] [rhifau] [cynllun].

Amwynder

21. Cynllun cysgodion symudol 

Cyn i unrhyw dyrbin gael ei godi ar y safle, bydd manylion dull a/neu fodiwl rheoli i leihau cysgodion symudol yn cael eu cyflwyno i’r Awdurdod Cynllunio Lleol a’u cymeradwyo ganddo’n ysgrifenedig. Bydd y datblygiad yn cael ei weithredu yn unol â’r manylion cymeradwy yn unig.

Rheswm: Er mwyn amwynder preswyl, i warchod amwynder preswylwyr lleol, yn unol â Pholisïau [ ].

22. Cwynion ynglŷn â chysgodion symudol 

O fewn [un mis] o gais ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol perthnasol yn dilyn cwyn a ddilyswyd sy’n honni cysgodion symudol gan feddiannydd annedd a oedd yn bodoli’n gyfreithlon neu a oedd â chaniatâd cynllunio ar ddyddiad y caniatâd hwn, bydd gweithredwr y fferm wynt, ar ei draul ei hun, yn comisiynu ac yn cyflwyno adroddiad i’r Awdurdod Cynllunio Lleol sy’n asesu’r digwyddiad(au) cysgodion symudol a adroddwyd. Pan fydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn cadarnhau’n ysgrifenedig bod y digwyddiad cysgodion symudol yn effeithio ar amodau byw’r preswyliwr/preswylwyr, bydd gweithredwr y fferm wynt, o fewn 21 diwrnod, yn cyflwyno cynllun lliniaru i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w gymeradwyo. Bydd y cynllun yn cael ei ddylunio i liniaru’r digwyddiad cysgodion symudol a’i atal rhag ailddigwydd yn y dyfodol a bydd yn nodi graddfeydd amser ar gyfer gweithredu. Bydd y cynllun yn cael ei weithredu yn unol â’r manylion cymeradwy.

Rheswm: Er mwyn amwynder preswyl, i warchod amwynder preswylwyr lleol, yn unol â Pholisïau [ ].

23. Sŵn

Ni chaiff lefel yr allyriadau sŵn o’r tyrbin(au) a ganiateir drwy hyn o’i mesur mewn amodau maes rhydd wrth ffin unrhyw annedd sy’n bodoli’n gyfreithlon neu sydd â chaniatâd cynllunio i’w hadeiladu ar ddyddiad y caniatâd hwn fynd yn fwy na [x dB neu y dB yn uwch na’r lefel sŵn cefndir cyffredinol] hyd at gyflymder gwynt o [x metr] a ddeilliwyd ar uchder o [x metr] uwchben lefel y tir wrth leoliad ger y tyrbinau.

Rheswm: Er mwyn [...] yn unol â [pholisi / pholisïau] [rhifau] [Cynllun].

Sylwer: Dylai amodau sŵn fod yn benodol i’r achos a dylid eu teilwra i gyd-destun y safle, gan gynnwys unrhyw asesiad sŵn. Mae’r amod uchod yn fan cychwyn a bydd angen ei ddiwygio yn seiliedig ar fanylion penodol y safle. 

24. Oriau adeiladu

Bydd gwaith adeiladu’n digwydd rhwng [08.00 o’r gloch a 18.00 o’r gloch] o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn gynwysedig, a rhwng [08.00 o’r gloch a 13.00 o’r gloch] ar ddydd Sadwrn yn unig, ac ni chaiff unrhyw waith adeiladu ddigwydd ar ddydd Sul na Gŵyl Banc. Y tu allan i’r oriau hyn, bydd gwaith datblygu’n gyfyngedig i brofi tyrbinau, gwaith comisiynu, gwaith brys ac atal llwch. 

Rheswm: Er mwyn amwynder preswyl, i warchod amwynder preswylwyr lleol yn unol â Pholisïau [ ].

25. Derbyniad teledu

O fewn [un mis] o gais ysgrifenedig gan yr Awdurdod Cynllunio Lleol perthnasol yn dilyn cwyn a ddilyswyd sy’n honni bod gweithrediad y tyrbinau’n amharu ar dderbyniad teledu gan feddiannydd annedd neu lety ymwelwyr a oedd yn bodoli’n gyfreithlon neu a oedd â chaniatâd cynllunio ar ddyddiad y caniatâd hwn, bydd gweithredwr y fferm wynt, ar ei draul ei hun, yn comisiynu ac yn cyflwyno adroddiad i’r Awdurdod Cynllunio Lleol sy’n asesu’r amhariad a adroddwyd ar dderbyniad teledu a achosir an weithrediad y tyrbinau. Pan fydd yr Awdurdod Cynllunio Lleol yn cadarnhau’n ysgrifenedig fod y digwyddiad amharu ar dderbyniad teledu yn annerbyniol, bydd gweithredwr y fferm wynt, o fewn 21 diwrnod, yn cyflwyno cynllun lliniaru i’r Awdurdod Cynllunio Lleol i’w gymeradwyo. Bydd y cynllun yn cael ei ddylunio i liniaru’r amhariad ar dderbyniad teledu a’i atal rhag ailddigwydd yn y dyfodol a bydd yn nodi graddfeydd amser ar gyfer gweithredu. Bydd y cynllun yn cael ei weithredu yn unol â’r manylion cymeradwy.

Rheswm: Er mwyn amwynder preswyl, i warchod amwynder preswylwyr lleol yn unol â Pholisïau [ ].