Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

  • Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol, drwy neges fideo
  • Kate Cubbage, Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru (Cadeirydd)
  • Alistair Davey, Llywodraeth Cymru
  • Denise Moultrie, Llywodraeth Cymru
  • Elinor Jones, Llywodraeth Cymru
  • Edward Silva, Llywodraeth Cymru
  • Valerie Billingham, Swyddfa'r Comisiynydd Pobl Hŷn
  • Daniel Burrows, Prifysgol Caerdydd
  • Tanya Tye, Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Bobbie-Jo Haarhoff, Gofalwr Di-dâl
  • Jayne Newman, Gofalwr Di-dâl
  • Alyson Hoskins, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
  • Myfanwy Moran, Cyngor Dinas Casnewydd
  • Sean O’Neill, Plant yng Nghymru
  • Jake Smith, Gofalwyr Cymru
  • Pennie Muir, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
  • Naomi Harper, Cyngor Sir y Fflint
  • Suzanne Becquer-Moreno, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
  • Amy Hawkins, Cyngor Sir Abertawe
  • Kathy Proudfoot, Rhwydwaith Dysgu a Gwella Swyddogion Gofalwyr
  • Rachel Wright, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
  • Josie Yuen Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ymddiheuriadau

  • Victoria Lloyd – Age Cymru
  • Nick Andrews – Prifysgol Abertawe
  • Rachel Williams – Parkinsons UK
  • Louise Bushell-Bauers – Arolygiaeth Gofal Cymru
  • David Watkins – Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
  • Jon Antoniazzi – Marie Curie
  • Kate Young – Fforwm Cymru Gyfan
  • Naheed Ashraf – Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
  • Anna Bird - Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda (Penny Muir yn bresennol ar ran Anna)

Croeso a chyflwyniadau

Agorodd Kate Cubbage y cyfarfod, gan fynegi ei brwdfrydedd dros ymgymryd â rôl y Cadeirydd. Soniodd am ei thaith bersonol a phroffesiynol sy'n atgyfnerthu ei hymrwymiad i ofalwyr di-dâl a gwaith y Grŵp Cynghori Gweinidogol.

Diolchodd Kate Cubbage i Alwyn Jones, y Cadeirydd sy'n gadael y rôl, am ei arweinyddiaeth, yn enwedig o ran dod â chynrychiolwyr gofalwyr di-dâl unigol i'r Grŵp. Hefyd, croesawodd Kate Cubbage Alistair Davey fel y Dirprwy Gyfarwyddwr newydd sy'n gyfrifol am bolisi gofalwyr di-dâl yn Llywodraeth Cymru.

Camau gweithredu o’r cyfarfod diwethaf

Cadarnhawyd bod pob cam gweithredu wedi'i gwblhau.

Bydd y Gweinidog yn cyhoeddi penodiad i swydd Dirprwy Gadeirydd y Grŵp Cynghori maes o law.

Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol (neges fideo)

Croesawodd y Gweinidog Kate Cubbage fel y Cadeirydd newydd. Amlinellodd y Gweinidog y gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid a wneir gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu strategaeth newydd ar gyfer gofalwyr di-dâl. Tynnodd y Gweinidog sylw at bwysigrwydd yr Is-grŵp Gofalwyr Ifanc sydd newydd ei sefydlu o dan nawdd y Grŵp Cynghori Gweinidogol. Roedd y Gweinidog yn falch o nodi'r gweithdai diweddar a gynhaliwyd gydag uwch reolwyr awdurdodau lleol ynghylch gwella mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth i ofalwyr di-dâl ac asesiadau anghenion gofalwyr. Nododd y Gweinidog mai Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru sydd bellach yn lletya Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc Llywodraeth Cymru. Roedd y Gweinidog yn edrych ymlaen at gyfarfod nesaf y Grŵp Cynghori Gweinidogol ym mis Medi, a fydd yn gyfarfod wyneb yn wyneb.

Diweddariad gan aelodau ymchwil

Rhoddodd Daniel Burrows yr wybodaeth ddiweddaraf am 2 faes ymchwil:

  • Menopos a gofalu: Mae ymchwil gan y Mayo Clinic a'r English Longitudinal Study of Ageing yn dangos cysylltiad posibl rhwng gofalu a chynnydd mewn symptomau menopos, yn ogystal â llai o oriau gwaith ymhlith gofalwyr sy'n fenywod. Mae Prifysgol Caerdydd yn edrych ar ymchwil bellach yn y maes hwn.
  • Gofal gan berthynas a gofal di-dâl: Canfu adroddiad yn 2025 gan Kinship UK fod 36% o ofalwyr sy'n berthynas hefyd yn nodi eu bod yn ofalwyr di-dâl. Er enghraifft, gall y gofalwr sy'n berthynas hefyd gefnogi rhiant y plentyn.

Gofal gan berthynas

Rhoddodd Denise Moultrie adroddiad ar y gwaith o ymgysylltu â'r Association of Fostering and Kinship Care i sicrhau bod canllawiau newydd ar gyfer asesiadau o ofal gan berthynas yn cynnwys ymwybyddiaeth o ofalwyr di-dâl. Mae hyn yn bwysig, oherwydd y cysylltiad rhwng bod yn berthynas a gofal di-dâl, lle mae cyfran o ofalwyr sy'n berthynas hefyd yn ofalwyr di-dâl.

Adborth gan yr is-grŵp gofalwyr ifanc

Rhoddodd Denise Moultrie grynodeb o gyfarfod agoriadol yr is-grŵp gofalwyr ifanc, sy'n cynnwys cynrychiolwyr o'r byd addysg, gwasanaethau cymdeithasol, a'r trydydd sector. Nod y grŵp yw datblygu polisi ar gyfer gofalwyr ifanc a gofalwyr sy'n oedolion ifanc, a chynnal cysylltiadau cryf â'r Bwrdd Cynghori Gofalwyr Ifanc. Roedd y pynciau allweddol yn cynnwys gofalwyr ifanc mewn addysg a hyrwyddo'r defnydd o gardiau adnabod gofalwyr ifanc. Roedd yr ymgyrch cyfryngau cymdeithasol sy'n targedu gofalwyr ifanc trwy TikTok a Snapchat yn parhau. 

Codwyd cwestiwn am ymwybyddiaeth o'r cerdyn adnabod mewn fferyllfeydd a meddygfeydd. Cadarnhawyd bod y deunyddiau diweddaraf i godi ymwybyddiaeth o ofalwyr di-dâl, gan gynnwys cyfeiriad at y cerdyn adnabod ar gyfer gofalwyr ifanc, wedi cael eu cynhyrchu gan Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, gyda'r bwriad y bydd y rhain ar gael i fferyllwyr. 

Mae Llywodraeth Cymru wedi gofyn i awdurdodau lleol am eu cynlluniau ar gyfer darparu'r cardiau adnabod gofalwyr ifanc, ac mae'r ymatebion yn cael eu coladu.

Adborth gan y grŵp gorchwyl a gorffen adolygiad cyflym

Rhannodd Denise Moultrie ac Alyson Hoskins ganlyniadau o weithdai a gynhaliwyd yn ddiweddar gydag uwch arweinwyr awdurdodau lleol. Blaenoriaethau allweddol a nodwyd:

  • gwella mynediad at wybodaeth, cyngor a chymorth
  • darparu eglurder o ran dealltwriaeth gofalwyr o asesiadau
  • gwella cysondeb mewn arferion cofnodi
  • helpu ymarferwyr i ddarparu asesiadau
  • sicrhau bod gofalwyr yn gallu ail-ymgysylltu â gwasanaethau wrth i anghenion newid

Bydd Alyson Hoskins yn arwain gweithgor, sy'n cynnwys cynrychiolwyr rhanbarthol o awdurdodau lleol, i fwrw ymlaen â'r camau gweithredu hyn, ac adrodd yn ôl i'r Grŵp Gorchwyl a Gorffen a'r Grŵp Cynghori Gweinidogol.

Isafswm Cyflog Cenedlaethol a'r Ddeddf Absenoldeb i Ofalwyr

Gohiriwyd yr eitem hon tan y cyfarfod ym mis Medi gan nad oedd yr aelod a gododd y mater yn bresennol.

Strategaeth genedlaethol ar gyfer gofalwyr di-dâl

Amlinellodd Denise Moultrie y llinell amser a'r cynlluniau ymgysylltu ar gyfer datblygu'r strategaeth newydd:

  • ymgysylltu wedi'i dargedu dros yr haf, yn enwedig gyda grwpiau nad ydynt yn cael eu cynrychioli digon
  • strategaeth ddrafft i'w hadolygu yng nghyfarfod mis Medi
  • ymgynghoriad cyhoeddus i ddilyn ddiwedd 2025, a'i chyhoeddi yn y gwanwyn 2026
  • bydd grŵp llywio yn cael ei sefydlu i oruchwylio'r gwaith datblygu

Pwysleisiodd Kate Cubbage ac eraill bwysigrwydd cyd-gynhyrchu, a'r angen i weithredu strategaeth sydd â'r ffocws priodol sy'n amlinellu canlyniadau ymarferol a mesuradwy.

Y cyfarfod nesaf

Mae cyfarfod wyneb yn wyneb wedi'i drefnu ar gyfer 25 Medi yn adeilad Llywodraeth Cymru ym Mharc Cathays. Mae'r awgrymiadau ar gyfer yr agenda yn cynnwys:

  • Arddangos arferion da gan awdurdodau lleol a'r trydydd sector. Anogwyd mynychwyr i awgrymu siaradwyr ac astudiaethau achos.
  • Cyflwyniad gan gynrychiolwyr gofal gan berthynas.
  • Tynnu sylw at enghreifftiau o gyd-gynhyrchu (ee Grŵp Cyd-gynhyrchu Caerdydd a'r Fro).
  • Adolygu'r strategaeth genedlaethol ddrafft.

Unrhyw faterion eraill

  • Diolchodd Kate Cubbage a'r grŵp i Elinor Jones am ei gwasanaeth ysgrifenyddiaeth, gan nodi ei chyfraniadau at drefniadaeth y grŵp a gweithredu rhaglen genedlaethol.