Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae sbwriel a thipio anghyfreithlon yn bla ar ein cymunedau. Mae'n costio arian i gael gwared ar sbwriel a thipio anghyfreithlon ac mae'n niweidio ein hamgylchedd. Er hynny mae modd ei osgoi yn llwyr, a byddai pawb yn elwa ar amgylchedd glân a diogel.  

Nid mater i'r Llywodraeth yn unig yw mynd i'r afael â'r broblem - mae gan bob un ohonom rôl i'w chwarae wrth roi terfyn ar ddiwylliant taflu i ffwrdd. O'r rhai sy'n gwneud cynhyrchion untro, i sut mae pobl yn eu defnyddio ac yn cael gwared arnynt, rydym yn parhau i roi atal wrth wraidd ein polisïau a'n deddfwriaeth o ran taflu sbwriel a thipio anghyfreithlon.

Rydym yn gweithio gyda chymunedau, busnesau, sefydliadau ac awdurdodau lleol i ddarparu mannau naturiol glanach a gwyrddach i wella llesiant meddyliol a chorfforol pobl. 

Heddiw, rwy’n tynnu sylw at ein cynnydd parhaus wrth gyflawni ein nodau o leihau gwastraff, annog newid ymddygiad cadarnhaol drwy addysg a chodi ymwybyddiaeth, cryfhau camau gorfodi a chefnogi ein partneriaid i ddelio â'r materion hyn.

Eitemau plastig untro yw cyfran sylweddol o’r sbwriel ar ein strydoedd, yn ein parciau ac yn ein moroedd. 

Bydd cyflwynoRheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Fêps Untro) (Cymru) 2024Rheoliadau Diogelu’r Amgylchedd (Cynhyrchion Plastig Untro) (Weips Gwlyb) (Cymru) 2025 yn lleihau'r difrod amgylcheddol sylweddol a achosir gan y cynhyrchion hyn ar unwaith.  Ar 1 Ionawr 2025 gwnaeth rheoliadau i ddiwygio'r cynllun Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchydd (PER) gychwyn a darparais ddiweddariad yn ddiweddar ar ein Cynllun Dychwelyd Ernes (DRS).  

Er y gall deddfwriaeth ddarparu dull atal effeithiol, ni all weithredu ar ei ben ei hun. Rydym yn parhau i ddarparu cyllid grant i bartneriaid fel Cadwch Gymru'n Daclus a Taclo Tipio Cymru sy'n gweithio gyda sefydliadau a chymunedau i helpu i addysgu ac annog newid cadarnhaol o ran ymddygiad.

Mae Taclo Tipio Cymru yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i wella ansawdd a chadernid y data blynyddol a gyhoeddir ar Stats Cymru. Mae hyn rhoi darlun mwy gwybodus i awdurdodau lleol ac yn gwella eu dealltwriaeth o'r mathau o ddigwyddiadau sy'n digwydd fel y gallant weithio gyda chymunedau i dargedu mannau problemus penodol.

Trwy gasglu tystiolaeth ar droseddau amgylcheddol a deall pam eu bod yn cael eu cyflawni, gallwn sicrhau bod yr ymyriadau cywir yn cael eu cyflwyno i'w hatal rhag digwydd. Er mwyn gwella ansawdd y data, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau fel Cadwch Gymru'n Daclus a Taclo Tipio Cymru.

Gall gorfodi fod yn gymhleth ac yn heriol. Mae Taclo Tipio Cymru yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol gyda'u hymchwiliadau, gan gynnwys darparu mynediad at gyngor cyfreithiol am ddim gan gyfreithwyr amgylcheddol arbenigol a chynnig cymorth pwrpasol i swyddogion gorfodi. Yng Ngogledd Cymru, cafwyd canlyniadau gorfodi llwyddiannus ar dir a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru, drwy waith partneriaeth agos gydag awdurdodau lleol y Gogledd a Heddlu Gogledd Cymru. Mae hyn wedi cynnwys ymgyrch ‘stopio a gwirio’ sy'n targedu cerbydau cludo gwastraff a oedd yn gweithredu heb drwydded cludwr gwastraff.

Mewn ardaloedd gwledig, mae Taclo Tipio Cymru wedi gweithio gyda Chydgysylltydd Troseddau Cefn Gwlad a Bywyd Gwyllt Llywodraeth Cymru i rannu gwybodaeth ymhlith asiantaethau gorfodi.. Mae hyn wedi helpu i gefnogi partneriaid i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon ar dir amaethyddol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod angen gwneud rhagor ac eleni mae ein cyllid wedi galluogi Taclo Tipio Cymru i ehangu ei alluoedd gorfodi drwy recriwtio Swyddog Gorfodi newydd ar gyfer De Cymru.

Yn 2024, fe wnaethom ariannu Cadwch Gymru'n Daclus i ddatblygu methodoleg newydd ar gyfer arolygon sbwriel. Mae'r offeryn Dadansoddi Sbwriel Geo-ofodol (GLÂN) yn ehangu ar y data sbwriel a'r system fonitro bresennol i adlewyrchu graddfa a chwmpas sbwriel a materion cysylltiedig yn well.  Mae ardal sy'n fwy nag 1 miliwn metr sgwâr wedi cael ei arolygu hyd yma eleni.

Mae Cadwch Gymru'n Daclus wedi cefnogi 328 o grwpiau cymunedol, drwy eu Hyb Cymorth Gwirfoddolwyr Caru Cymru a sefydliadau'r trydydd sector, gyda 1,334 o hyrwyddwyr sbwriel cofrestredig a 245 o hybiau sbwriel. Mae’r Map Effaith Gymunedol yn tynnu sylw at raddfa gweithgareddau diflino gwirfoddolwyr ledled Cymru i wella eu hamgylchedd lleol ac annog eraill i weithredu. Mae hefyd yn darparu ystod eang o gymorth ymarferol sy'n cynnwys rhaglenni addysg amgylcheddol a gosod safonau ar gyfer parciau a thraethau. Mae mentrau fel Her Hinsawdd Cymru yn helpu i gefnogi pobl ifanc i ymateb i wahanol bryderon amgylcheddol. 

Mae gwastraff yn denu gwastraff. Mae atal ei waredu yn anghyfreithlon yn y lle cyntaf yn hanfodol. Yn 2024-25 gweithiodd Cadwch Gymru'n Daclus gydag awdurdodau lleol ar dros 500 o achlysuron ar welliannau ymarferol i gymdogaethau lleol. Cynhaliwyd grwpiau ffocws ar sbwriel ym mhob awdurdod lleol i ddod â Cadwch Gymru'n Daclus, staff awdurdodau lleol, sefydliadau lleol a gwirfoddolwyr at ei gilydd. Helpodd y fforymau i adnabod mannau problemus o ran sbwriel a thipio anghyfreithlon ac arweiniodd at sesiynau casglu sbwriel ac ymgyrchoedd lleol wedi'u targedu. Mae awdurdodau lleol wedi diweddaru gwasanaethau lleol, megis trefniadau glanhau, fel rhan o'r gwaith parhaus hwn. 

Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i nodi a hyrwyddo enghreifftiau o arferion da a chysondeb wrth fynd i'r afael ag ansawdd amgylcheddol lleol gwael. Rwy'n credu, drwy barhau i weithio gydag awdurdodau lleol, busnesau, perchnogion tir preifat, sefydliadau'r trydydd sector a chymunedau, ein bod yn gosod y sylfeini ar gyfer atal sbwriel a thipio anghyfreithlon yng Nghymru. 

Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Pe bai'r Aelodau yn dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.