Dawn Bowden AS, y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol
Mae'n bleser gennyf lansio heddiw yr Ymgynghoriad ar y Ddyletswydd ar Awdurdodau Lleol i Asesu Digonolrwydd Gofal Plant. Mae hyn yn rhoi cyfle i randdeiliaid o'r holl feysydd polisi hynny sydd naill ai'n effeithio ar gynllunio a rheoli digonolrwydd y ddarpariaeth gofal plant yng Nghymru, neu sy'n ymwneud â'r gwaith hwnnw, gyfrannu eu barn. Byddem hefyd yn croesawu barn gan y cyhoedd yn gyffredinol, gan gynnwys rhieni a gofalwyr sy'n defnyddio neu a hoffai ddefnyddio gofal plant.
O dan Reoliadau Deddf Gofal Plant 2006 (Asesiadau Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2016 (y rheoliadau), mae dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i ddarparu gofal plant digonol, cyn belled ag y bo'n rhesymol ymarferol. Mae'r broses o Asesu Digonolrwydd Gofal Plant yn allweddol i Awdurdodau Lleol ddeall anghenion eu cymunedau.
Mae'r ddogfen ymgynghori hon yn nodi cynnig ar gyfer datblygu Asesiadau Digonolrwydd Gofal Plant yng Nghymru yn y dyfodol ac yn ceisio barn ar sut y gellir gwella proses a chynnwys yr Asesiadau, a'u gwneud yn addas i'r diben fel eu bod yn diwallu anghenion yr holl randdeiliaid.
Dyma rai o'r newidiadau arfaethedig sy'n cael eu hystyried yn yr ymgynghoriad:
Cynnig llai o gyfarwyddiadau mewn perthynas â'n gofynion, sydd ynghyd â chanllawiau cliriach yn anelu at alluogi Awdurdodau Lleol i fod yn fwy ymatebol i'w cymunedau a pharatoi Asesiadau mwy perthnasol ac effeithiol.
- Edrych o'r newydd ar ofynion data i sicrhau eu bod yn fwy ystyrlon a defnyddio data presennol i ddatblygu mesurau procsi fel modd o ddarparu asesiad mwy cadarn.
- Ystyried gwybodaeth o ystod eang o ffynonellau, ymgorffori gwybodaeth ansoddol a meintiol, adeiladu ar systemau data presennol, arolygon a gwybodaeth a deallusrwydd lleol i ddarparu asesiad mwy ystyrlon.
- Darparu Canllawiau Statudol cliriach i sicrhau cysondeb ac eglurder ynghylch diffiniadau a chynnwys Asesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant.
Nod y newidiadau arfaethedig yw arwain at asesiad mwy perthnasol a symlach, a byddant yn golygu diwygio'r rheoliadau presennol.
Mae ein Cynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol yn adlewyrchu ein hymrwymiad i adeiladu cymdeithas gynhwysol i bob unigolyn a chymuned yng Nghymru. Cam gweithredu penodol o fewn y cynllun hwnnw yw i Awdurdodau Lleol ymgysylltu, fel y bo'n briodol, â chymunedau Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol er mwyn cael gwybod sut y gellir casglu barn a phrofiadau bywyd pobl yn y cymunedau hyn yn well fel rhan o'r broses o Asesu Digonolrwydd Gofal Plant. Rwy'n falch ein bod wedi ymgysylltu â phobl o'r cymunedau hyn trwy ein rhaglen Mentoriaid Cymunedol wrth gynnal yr adolygiad hwn.
Ar hyn o bryd mae'n ofynnol i Awdurdodau Lleol ddarparu gofal plant digonol, cyn belled ag y mae'n rhesymol ymarferol, i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Mae hyn yn parhau i fod yn elfen gref o'r Asesiadau o Ddigonolrwydd Gofal Plant yn y dyfodol.
Rydym wedi gweithio'n agos ag ystod eang o randdeiliaid i ddeall sut y gellir gwella'r broses o Asesu Digonolrwydd Gofal Plant, yn ogystal ag ystyried effaith unrhyw newidiadau ar wahanol grwpiau. Mae eu mewnbwn wedi cefnogi a llywio'r ymgynghoriad hwn, ac rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses.
Bydd eich barn yn chwarae rhan hanfodol wrth sicrhau bod gwasanaethau gofal plant digonol ar gael i ddiwallu anghenion ein cymunedau. Bydd yr holl ymatebion yn cael eu dadansoddi, a bydd crynodeb ohonynt yn cael ei gyhoeddi yn ystod gaeaf 2025.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn hysbysu aelodau. Pe bai'r aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
