Ymgynghoriad ar osod isafbris am alcohol y tu hwnt i 2026
Rydym yn gofyn am eich barn ynghylch a ddylai’r drefn o bennu isafbris am alcohol barhau y tu hwnt i 1 Mawrth 2026. Hefyd, beth ddylai’r isafbris fod os bydd yn parhau.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae'r ymgynghoriad hwn yn nodi cynigion ynghylch 2 agwedd ar isafbris uned am alcohol:
- a ddylai barhau y tu hwnt i fis Mawrth 2026
- beth ddylai'r isafbris uned am alcohol fod os bydd yn parhau
Crynodeb
Pasiwyd Bil Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mehefin 2018. Fe gafodd y Cydsyniad Brenhinol a dod yn ddeddf ar 9 Awst 2018.
Roedd y ddeddf yn darparu'r fframwaith cyfreithiol ar gyfer cyflwyno isafbris am alcohol yng Nghymru. Sefydlwyd yr isafbris uned (MUP), sef 50c fesul uned o alcohol, yn ddiweddarach drwy Reoliadau Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Isafbris Uned) (Cymru) 2019, a ddaeth i rym ar 2 Mawrth 2020.
Gyda'i gilydd, mae'r ddeddf a'r rheoliadau yn pennu’r isafbris ar gyfer cyflenwi alcohol i berson yng Nghymru ac maent yn sefydlu cyfundrefn orfodi o dan arweiniad yr awdurdodau lleol. Roedd hyn yn cynnwys pwerau i erlyn, cynnal ymchwiliadau, a mynd i mewn i fangreoedd. Gwnaeth y ddeddfwriaeth hi'n drosedd i berson sy'n fanwerthwr alcohol gyflenwi alcohol o fangre gymhwysol yng Nghymru, neu awdurdodi cyflenwi alcohol o fangre gymhwysol yng Nghymru, am bris sy'n is na'r isafbris cymwys am yr alcohol, a’r gosb am hyn yw dirwy.
Mae adran 21 o'r ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru gyflwyno adroddiad ar weithrediad ac effaith y ddeddf cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl diwedd 5 mlynedd gyntaf ei gweithredu (ar ôl 1 Mawrth 2025). Wrth baratoi'r adroddiad hwn, rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Senedd, ac eraill, fel y ystyrir yn briodol.
Mae'r ddeddf yn cynnwys cymal machlud hefyd sy'n nodi y bydd darpariaethau'r isafbris uned yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod 6 blynedd (1 Mawrth 2026), oni bai bod Gweinidogion Cymru’n cyflwyno deddfwriaeth newydd i barhau â'u heffaith cyn hynny. Mae'r ymgynghoriad hwn yn cynnig ymestyn isafbris uned am alcohol y tu hwnt i 1 Mawrth 2026.
Nod pennaf y bil yw mynd i’r afael â niwed sy’n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys derbyniadau i ysbytai y gellir eu priodoli i alcohol a marwolaethau sy’n gysylltiedig ag alcohol yng Nghymru, drwy leihau faint o alcohol a gaiff ei yfed gan yfwyr peryglus a niweidiol. Yn benodol, mae wedi'i dargedu at ddiogelu iechyd yfwyr peryglus a niweidiol (gan gynnwys pobl ifanc) sy'n tueddu i yfed mwy o gynhyrchion cost isel sy'n cynnwys llawer o alcohol.
Parhau â isafbris uned
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ynghylch a ddylid parhau ag isafbris uned am alcohol fel rhan o'r ystod o fesurau polisi sydd ar waith i fynd i'r afael â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol. Hefyd, os bydd yn parhau, ar ba lefel y dylid gosod yr isafbris uned yn y dyfodol.
Gwerthusiadau annibynnol o'r isafbris uned am alcohol
Comisiynodd Llywodraeth Cymru werthusiad annibynnol o'r ddeddf. Dyfarnwyd 4 contract, yn edrych ar agweddau gwahanol ar ei rhoi ar waith.
Astudiaeth 1: adolygiad o gyflwyno isafbris am alcohol yng Nghymru
Gan ddefnyddio dull dadansoddi cyfraniad, y nod oedd asesu'r cyfraniad (os o gwbl) y mae cyflwyno isafbris am alcohol yng Nghymru wedi'i wneud at unrhyw ganlyniadau (mesuradwy a gweladwy) ymddygiadol, yfed a manwerthu sy'n gysylltiedig ag alcohol.
Astudiaeth 2: ymchwil gyda manwerthwyr a dadansoddi meintiol
Gan ddefnyddio dulliau cymysg, ymchwiliodd y gwerthusiad i brofiadau manwerthwyr ac effeithiau isafbris am alcohol yng Nghymru. Mae'r ymchwil yn ymchwilio hefyd i'r effaith ar brynu alcohol gan ddefnyddio dadansoddiad data eilaidd.
Astudiaeth 3: gwaith ansoddol gyda gwasanaethau a defnyddwyr gwasanaethau i asesu profiadau ac effaith isafbris am alcohol ar ddefnyddwyr gwasanaethau a darparwyr gwasanaethau
Roedd hyn yn cynnwys archwilio i ba raddau y gallai newid rhwng sylweddau fod wedi deillio o'r ddeddfwriaeth ac effeithiau isafbris ar gyllidebau aelwydydd.
Astudiaeth 4: asesiad o effaith cyflwyno isafbris am alcohol ar y boblogaeth ehangach o yfwyr
Astudiaeth hydredol sy'n asesu effaith isafbris am alcohol ar y boblogaeth ehangach o yfwyr yng Nghymru gan ddefnyddio arolwg holiadur ar-lein, trawstoriadol a dienw o yfwyr sy'n oedolion ac sy'n byw yng Nghymru, a chyfweliadau ansoddol gydag yfwyr sy'n oedolion sy'n byw yng Nghymru.
Mae'r adroddiadau gwerthuso terfynol o bob un o'r astudiaethau hyn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae'r canfyddiadau'n cydnabod bod asesu effaith y ddeddfwriaeth yn erbyn cefndir y pandemig - cyflwynwyd isafbris uned ychydig cyn dechrau'r pandemig yn y DU - lefelau uchel o chwyddiant a'r argyfwng costau byw wedi bod yn heriol. Er hynny, canfu'r astudiaethau fod pennu isafbris uned am alcohol wedi cael ei groesawu'n eang a'i weithredu mewn modd effeithiol.
Canfu'r astudiaeth dadansoddiad o gyfraniad fod gweithredu polisi isafbris uned am alcohol wedi cael ei ystyried yn llwyddiannus yn eang. Mae wedi dangos manteision clir, gan gynnwys:
- cael gwared ar gynhyrchion alcohol rhad iawn
- bu cydymffurfiad uchel ymhlith manwerthwyr
- newidiadau mewn ymddygiadau manwerthu a phrynu
Mae'r effeithiau a welwyd yn cynnwys:
- gostyngiad mewn gwerthiannau alcohol cryf a rhad
- prisiau cynyddol
- newidiadau mewn dewisiadau defnyddwyr tuag at ddiodydd alcoholaidd eraill
Mae'r gwerthusiadau annibynnol o'r polisi yn tynnu sylw at gefnogaeth eang, gan bwysleisio ei botensial i leihau niwed i iechyd a gwella canlyniadau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Drwy weithredu isafbris uned am alcohol, bu gan Lywodraeth Cymru berthynas waith ardderchog gyda Safonau Masnach Cymru wrth orfodi'r ddeddfwriaeth, a adroddodd 6 dirwy yn unig yn dilyn mwy na 3,000 o arolygiadau.
Mae'r adroddiad dadansoddiad o gyfraniad, sy'n tynnu ar gyfres o astudiaethau a thystiolaeth o bob cwr o'r byd, yn dod i'r casgliad y dylai Llywodraeth Cymru:
adnewyddu yn hytrach na cholli’r opsiwn o'r ddeddfwriaeth fel mesur polisi alcohol yng Nghymru.
Mae'n argymell hefyd gynyddu'r isafbris uned i o leiaf 65c yr uned er mwyn cynnal gwerth y polisi a'r effeithiau cadarnhaol sydd wedi dod i'r amlwg hyd yn hyn.
Mae'r gwerthusiad yn awgrymu bod bron pob un darparwr gwasanaeth a gweithiwr proffesiynol yn cytuno na ddylid diddymu'r polisi ynghylch pennu isafbris, gyda rhai yn awgrymu cynnydd graddol yn y pris fesul uned i sicrhau ei fod yn parhau i gyd-fynd â chwyddiant.
Mae'r dystiolaeth yn dangos bod y ddeddfwriaeth wedi cael effaith ar werthu cynhyrchion alcohol rhad, cryfder uchel, a bod eu prisiau'n codi. Mae hyn wedi golygu bod cwsmeriaid yn prynu llai o'r math hwn o gynnyrch a llai o fanwerthwyr yn ei stocio. Mae hwn yn gam cadarnhaol tuag at leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol a helpu pobl yng Nghymru i yfed yn gyfrifol.
Yn ystod hynt y ddeddfwriaeth yn y Cynulliad Cenedlaethol, codwyd pryderon ynglŷn â phobl yn defnyddio sylweddau anghyfreithlon eraill yn lle alcohol yn ogystal â siopa ar draws y ffin. Canfu'r gwerthusiadau nad oedd fawr o dystiolaeth i awgrymu bod yfwyr alcohol nad oeddent eisoes yn defnyddio cyffuriau yn dechrau defnyddio cyffuriau o ganlyniad i brisiau alcohol uwch. Roedd rhywfaint o dystiolaeth o siopa trawsffiniol mewn cymunedau sy'n byw yn agos at y ffin.
Mae cymariaethau â phrofiad yr Alban o gyflwyno isafbris uned am alcohol yn awgrymu tueddiadau a chanlyniadau tebyg, gan nodi bod y polisi yn cyd-fynd â strategaethau ehangach i leihau niwed alcohol.
Adroddiad ar weithrediad ac effaith
O dan delerau'r ddeddf, rhaid i Lywodraeth Cymru ddarparu adroddiad ar weithrediad ac effaith y ddeddfwriaeth a'i heffeithiau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl 1 Mawrth 2025. Wrth baratoi'r adroddiad hwn, bu rhaid i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Senedd, ac eraill, fel y bo'n briodol. Roedd canfyddiadau'r gwerthusiadau annibynnol yn llywio'r adroddiad ond cynhaliodd Llywodraeth Cymru ymarfer ymgynghori hefyd ac ymgymerodd â gwaith ychwanegol, fel a ganlyn:
- Cynhaliodd ymgynghori e-bost â rhanddeiliaid. Daeth 27 o ymatebion i law ac mae crynodeb o'r prif bwyntiau a godwyd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad o weithrediad ac effaith.
- Cyfarfu â rhai sefydliadau o'r sector iechyd a manwerthu a'r rhai sy'n cefnogi pobl sy'n camddefnyddio alcohol.
- Bu'n gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru i gynnwys cwestiynau ar agweddau'r cyhoedd ac ymwybyddiaeth o isafbris uned am alcohol yn astudiaeth panel Amser i Siarad Iechyd Cyhoeddus ym mis Chwefror 2025. Rhoddodd casgliad data Chwefror 2025 sampl sy'n gynrychioliadol yn genedlaethol ledled Cymru, gan ofyn a oeddent o blaid neu yn erbyn isafbris uned, a'r prif resymau y tu i'w dewis o blaid neu yn erbyn. Mae canfyddiadau'r arolwg ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
- Ymgysylltodd â Phwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol y Senedd, a gynhaliodd alwad am dystiolaeth. Mae'r ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru ymgynghori â'r Senedd a phobl eraill sy'n briodol yn eu barn hwy wrth baratoi'r adroddiad hwn. Mae copi o adroddiad y pwyllgor am isafbris uned am alcohol ar gael ar wefan y Senedd.
Amcanion a chamau gweithredu polisi alcohol ehangach Llywodraeth Cymru
Dylai prisio alcohol, gan gynnwys isafbris uned, fod yn rhan o set ehangach o strategaethau a pholisïau sy'n anelu at leihau'r defnydd o alcohol a'i niwed cysylltiedig. Mae fframwaith polisi clir a chynhwysfawr ar gyfer alcohol yn hanfodol i sicrhau effeithiolrwydd mesurau o'r fath. Dylai'r dull polisi ehangach hwn fynd i'r afael hefyd ag argaeledd a marchnata alcohol.
Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw rhai agweddau ar argaeledd a pholisïau marchnata, caiff Llywodraeth Cymru ymchwilio i gyfleoedd i ddylanwadu ar y meysydd hyn o fewn ei hawdurdodaeth. Dylai'r gwaith o bennu isafbris uned am alcohol a strategaethau prisio gyd-fynd â'r nodau polisi alcohol ehangach sydd eisoes ar waith a'u cydategu.
Mae alcohol yn un o brif achosion marwolaeth a salwch yng Nghymru, gan gynnwys:
- canser
- clefyd cronig yr afu
- clefyd cardiofasgwlaidd
Er bod cynnydd wedi'i wneud i leihau'r defnydd o alcohol niweidiol, mae lefelau clefydau sy'n gysylltiedig ag alcohol yn dal yn uchel.
Ar hyn o bryd mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi bron £67 milwn yn ein hagenda camddefnyddio sylweddau (cyllid refeniw a chyfalaf), ac mae ychydig dros £41 o'r swm hwnnw yn mynd i'n byrddau cynllunio ardal (APBs) drwy ein cronfa weithredu ar gamddefnyddio sylweddau. Mae'r 7 APB yn gyfrifol am gynnal asesiadau anghenion, comisiynu a monitro gwasanaethau. Mae gweithio mewn partneriaeth rhwng awdurdodau cyfrifol yr APBs yn allweddol wrth ddarparu comisiynu strategol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, ac mae gan bartneriaid megis y byrddau iechyd rôl bwysig wrth weithio gydag APBs i gomisiynu a darparu'r gwasanaethau hyn.
Rydym yn parhau i weithio gyda'n byrddau cynllunio ardal i sicrhau bod amrywiaeth o wasanaethau a chymorth ar waith i gefnogi pobl sydd â phroblemau alcohol. Alcohol yw'r sylwedd mwyaf problematig y mae pobl yn ceisio cymorth ar ei gyfer o hyd. Roedd 562 o farwolaethau alcohol-benodol wedi'u cofrestru yng Nghymru yn 2023, cynnydd o 76 o farwolaethau ers 2022 (17.6%) a 194 ers y cyfnod cyn y pandemig yn 2019 (52%).
Mae atal y niwed a achosir gan gamddefnyddio alcohol wedi bod yn rhan allweddol o'n gweithrediadau camddefnyddio sylweddau a bydd hynny'n parhau drwy unrhyw waith yn y dyfodol ar yr agenda ehangach ar gyfer camddefnyddio sylweddau. Ein nod cyffredinol o hyd yw sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o'r peryglon a'r effaith sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio alcohol, ac yn gwybod ble y gallant gael gwybodaeth, cymorth a chefnogaeth os oes angen.
Ar y cyd â’n llinell gymorth genedlaethol, DAN 24/7, mae Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi gwaith penodol ledled Cymru i dargedu ardaloedd anodd eu cyrraedd ac ymateb i faterion lleol. Mae'r fenter hon yn defnyddio fan ag arddangosfa ddigidol sy'n galluogi negeseuon clir i gael eu cyflwyno'n glir mewn cymunedau lleol. Mae hyn yn caniatáu inni ymateb yn gyflym i unrhyw dueddiadau cyfredol, nid yn unig alcohol ond hefyd rybuddion mewn perthynas â defnyddio cyffuriau a darparu gwybodaeth addysgol a lleihau niwed. Ymhellach, mae’r ymgyrch yn hyrwyddo llinell gymorth genedlaethol DAN 24/7.
Casgliad
Ar ôl ystyried effaith isafbris uned am alcohol, y dystiolaeth a barn a phrofiadau rhanddeiliaid, unigolion a grwpiau yn ofalus, mae Llywodraeth Cymru yn fodlon bod achos cryf o blaid parhau â'r polisi a'r ddeddfwriaeth y tu hwnt i'r dyddiad machlud ym mis Mawrth 2026 yn neddf 2018. Rydym yn ymgynghori felly ar barhau i gael isafbris uned am alcohol yng Nghymru.
Yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, mae Llywodraeth Cymru yn ystyried gosod y ddeddfwriaeth angenrheidiol i sicrhau bod effaith isafsbris uned am alcohol yn parhau ar ôl mis Mawrth 2026. Byddai hyn drwy reoliadau a osodid yn y Senedd ar ddechrau 2026.
Diwygio'r isafbris uned
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori hefyd, os bydd yr isafbris uned am alcohol yn parhau, ar y lefel briodol ar gyfer isafbris uned yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar gynnig i ddiwygio'r isafbris uned i 65c yr uned. Credwn fod hyn yn taro cydbwysedd rhesymol rhwng cyflawni buddion iechyd y cyhoedd a lleihau effeithiau posibl ar y farchnad diodydd alcoholaidd a defnyddwyr.
Mae ystyried yr ystod o opsiynau sydd ar gael, gan gynnwys peidio â pharhau gyda MUP wedi'u nodi isod.
Mae'r hafaliad ar gyfer cyfrifo'r isafbris am alcohol wedi'i ragnodi yn neddf 2018 ac mae'n darparu bod yr isafbris uned i'w ragnodi drwy reoliadau. Mae'r fformiwla hon yn seiliedig ar yr isafbris uned (sydd wedi'i bennu yn 50c ar hyn o bryd), canran cryfder yr alcohol a'i gyfaint fel a ganlyn:
- MUP (£0.5) x Cryfder (%) x Cyfaint (litrau) = yr isafbris y gellir ei werthu amdano
Dylid defnyddio'r un cyfrifiad ar gyfer yr opsiynau isod, gan ddisodli 50c â’r isafbris uned perthnasol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi asesu ystod o opsiynau, sydd wedi'u crynhoi isod. Mae'r opsiynau hyn yn ystyried canlyniad yr adroddiad gweithredu ac effaith a'r gwerthusiadau annibynnol cyhoeddedig.
Er mwyn llywio gwneud penderfyniadau, mae Llywodraeth Cymru wedi comisiynu gwaith modelu wedi'i ddiweddaru gan Sheffield addictions research group (SARG), Prifysgol Sheffield, i asesu effeithiau posibl lefelau pris gwahanol gan ddefnyddio'r data diweddaraf. Mae SARG wedi cynhyrchu cyfres o arfarniadau polisi ar gyfer Llywodraeth Cymru yn flaenorol, a gyfrannodd at ddatblygu a gweithredu'r isafbris uned 50c yng Nghymru ym mis Mawrth 2020.
Mae copi o'r adroddiad modelu ar gael ar gael ar ein gwefan a bydd yn cael ei ystyried fel rhan o'r asesiad effaith rheoleiddiol drafft.
Mae'r opsiynau a nodir isod yn cyflwyno ystod o opsiynau prisio. Er hynny, mae Gweinidogion Cymru yn cadw'r disgresiwn i bennu pris gwahanol. Ceir rhagor o wybodaeth fanwl am fanteision ac anfanteision pob pris o fewn yr adroddiad modelu.
Ar gyfer y ddogfen ymgynghori hon, mae Llywodraeth Cymru wedi nodi ei hopsiynau ar gyfer isafbris uned newydd fel a ganlyn:
- gostwng yr isafbris uned i lai na 50c yr uned
- cadw'r isafbris uned presennol o 50c yr uned
- cynyddu'r isafbris uned i 55c neu 60c yr uned
- cynyddu'r isafsbris uned i 65c yr uned
- gosod yr isafbris uned i fwy na 65c yr uned
Mae'r adroddiad modelu sy'n cyd-fynd â'r ddogfen ymgynghori hon yn rhoi rhagor o fanylion am effaith pob opsiwn.
Gostwng yr isafbris uned i lai na 50c yr uned
Amcangyfrifir y bydd gostwng y trothwy isafbris uned yn arwain at gynnydd yn y defnydd o alcohol, o'i gymharu â chynnal y lefel o 50c yr uned (ym mhrisiau 2022). Cynnydd sy'n gysylltiedig â mwy o niwed i iechyd sy'n gysylltiedig ag alcohol, gyda'r cynnydd mwyaf ymhlith y grwpiau mwyaf difreintiedig.
Er bod isafbris uned am alcohol yn gosod trothwy isafbris, mewn theori, ni fyddai angen addasu cynhyrchion sydd wedi'u prisio yn 50c neu ychydig yn uwch. Er hynny, mae'n debygol y byddai rhai cynhyrchion, sydd wedi'u cyfyngu ar hyn o bryd gan y lefel bresennol o 50c yr uned yn gostwng i drothwy is, gan fynd i mewn i'r farchnad eto ar eu lefelau cryfder uchel cost isel blaenorol.
Canfuwyd bod lleihau'r trothwy isafbris uned o 50c yr uned i naill ai 40c yr uned neu 45c yr uned, yn cyfrannu at newid mewn patrymau yfed sy'n groes i'r rhai y bwriedir i isafbris uned am alcohol eu sicrhau. Mae rhai unigolion yn symud o yfed cymedrol i yfed peryglus, tra bo eraill yn symud ymlaen o lefelau peryglus i lefelau niweidiol. Pe bai'r isafbris uned yn cael ei leihau yn sylweddol neu pe caniateid i'r ddeddfwriaeth ddod i ben, drwy alluogi'r cymal machlud i gael effaith, mae'r modelu yn awgrymu y byddai effaith ar unwaith yn 2026, gydag amcangyfrif o gynnydd o 461 o yfwyr peryglus a 959 o yfwyr niweidiol a gostyngiad o 1,420 o yfwyr cymedrol (adroddiad Sheffield, paragraffau yn dilyn tabl 10 a 11, tudalen 44).
Byddai gostwng y trothwy isafbris uned hefyd yn arwain at gynnydd mewn lefelau yfed alcohol, yn enwedig ymhlith y grwpiau yr effeithir arnynt fwyaf. Er hynny, ymddengys mai bach iawn yw effaith amcangyfrifedig newidiadau o'r fath, sy'n awgrymu nad yw'r swm presennol o 50c yr uned bellach yn dylanwadu'n sylweddol ar bris yr alcohol rhataf.
Amcangyfrifir bod 94.4% o alcohol bellach yn cael ei werthu am 60c yr uned neu fwy gydag yfwyr trwm yn prynu 93.1% am 60c yr uned neu fwy. Mae hyn yn awgrymu, hyd yn oed ymhlith y rhai sy'n yfed yr alcohol cost isaf, y bydd yr isafbris uned 50c yr uned yn cael dylanwad cyfyngedig ar y farchnad erbyn 2026 (adroddiad Sheffield, tudalen 74).
Byddai lleihau'r isafbris uned i lai na 50c yn groes i amcan y polisi sef lleihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol a mynd i'r afael ag anghydraddoldebau iechyd. Byddai cam o'r fath yn groes i ymrwymiad Llywodraeth Cymru i leihau effeithiau negyddol yfed alcohol ar iechyd. Am y rhesymau hyn, nid yw'r opsiwn hwn yn cael ei gynnig ar hyn o bryd.
Cadw'r isafbris uned presennol o 50c yr uned
Mae tystiolaeth yn y gwerthusiadau annibynnol a'r adroddiad gweithrediad ac effaith yn dangos bod y lefel o 50c fesul uned wedi bod yn effeithiol o ran cefnogi nodau cyffredinol y polisi isafbris uned am alcohol. Er hynny, mae ei effeithiolrwydd cyffredinol wedi cael ei erydu gan chwyddiant a'r costau byw cynyddol. Mae gan gyfradd o 50c fesul uned bellach lai o werth mewn termau real na phan gafodd ei gweithredu gyntaf yng Nghymru yn 2020.
Fel y nodwyd yn y gwerthusiadau annibynnol, mae'r cyfnod o chwyddiant uchel parhaus ar ôl y pandemig yn benodol wedi cyfrannu at erydiad gwerth y isafbris uned mewn termau real. Gan ddefnyddio'r mynegai CPIH, mae effaith chwyddiant rhwng 2020 a 2026 yn cyfateb i ostyngiad yn yr isafbris uned o 50c i 39c ym mhrisiau 2020.
Mae hyn yn golygu nad yw'r isafbris uned 50c presennol bellach yn dylanwadu'n sylweddol ar bris yr alcohol rhataf. Er hynny, y prif gasgliad o'r gwerthusiadau annibynnol yw bod y dystiolaeth yn darparu cyfrif cadarnhaol ar y cyfan o'r ddeddfwriaeth fel mesur polisi, ac yn fwy penodol, ei gweithredu yng Nghymru.
Prif argymhelliad ystyriaeth y gwerthuswyr annibynnol oedd y dylai Llywodraeth Cymru gadw isafbris uned am alcohol fel offeryn polisi, yn hytrach na chaniatáu iddo ddod i ben, ac y dylid ystyried adolygu lefel y pris isafbris uned presennol.
Cynyddu'r isafbris uned i 55c neu 60c yr uned
Mae codi'r isafbris uned i 55c yr uned yn gynnydd o'r gyfradd bresennol. Er hynny, mae'n annhebygol o gynnal gwerth y polisi mewn termau real pan gaiff ei addasu ar gyfer chwyddiant.
Dros amser, fel y dangosir gyda'r gyfradd bresennol o 50c yr uned, mae gwerth yr isafbris uned wedi erydu, gan leihau manteision disgwyliedig yr ymyrraeth i iechyd y cyhoedd. Er bod rhaid ystyried ffactorau amrywiol wrth bennu lefel pris newydd, mae sicrhau ei fod yn symud gam yn gam â chwyddiant yn agwedd allweddol ar gadw effeithiolrwydd isafbris uned am alcohol.
Yn yr un modd, disgwylir i gynyddu'r isafbris uned i 60c yr uned, er y bydd yn helpu i gynnal manteision y polisi, sicrhau gwelliant cymedrol yn unig mewn canlyniadau iechyd y cyhoedd.
Cynyddu'r isafbris uned i 65c yr uned
Mae modelu yn awgrymu y gallai codi'r isafbris uned i 65c yr uned (lefel isafbris uned yr Alban ar hyn o bryd) leihau 6,363 ar nifer yr yfwyr peryglus ac 4,906 ar nifer yr yfwyr niweidiol, tra'n cynyddu 11,270 ar nifer yr yfwyr cymedrol. I'r gwrthwyneb, amcangyfrifir y bydd caniatáu i'r cymal machlud gymryd effaith arwain at gynnydd ar unwaith yn nifer yr yfwyr peryglus (+461) a niweidiol (+959), gyda gostyngiad cyfatebol yn nifer yr yfwyr cymedrol o (-1420).
Rhagwelir hefyd y byddai isafbris uned o 65c yn lleihau marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol, gydag amcangyfrif o 902 yn llai o farwolaethau a achosir gan alcohol, gan gynnwys 628 yn llai o farwolaethau alcohol-benodol, dros gyfnod o 20 mlynedd. Yn y flwyddyn gyntaf yn unig, byddai 22 yn llai o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol (adroddiad Sheffield, tabl 16, tudalen 54).
Fel y nodir yn yr opsiwn i gadw cyfradd o 50c yr uned, mae'r trothwy presennol wedi dod yn gymharol aneffeithiol o ran cynyddu prisiau'r cynhyrchion alcohol rhataf. Erbyn 2026, mae'r data modelu yn dangos mai ar gyfran fach o'r farchnad alcohol yn unig yr effeithir, gan fod mwy na 93% o alcohol eisoes yn cael ei werthu am 60c yr uned neu fwy, gan gynnwys yn achos yfwyr trwm ac yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
Disgwylir i godi'r isafbris uned leihau'r defnydd o alcohol ymhellach, yn enwedig mewn ardaloedd difreintiedig. Disgwylir iddo leihau yfed niweidiol tra'n annog mwy o bobl i yfed ar lefelau cymedrol.
Cynyddodd Llywodraeth yr Alban ei lefel isafbris uned ym mis Medi 2024 i 65c yr uned. Yn ystod ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar effaith yr isafbris uned yn 2025, a oedd yn rhan o baratoi'r adroddiad gweithrediad ac effaith, awgrymodd sawl sefydliad y gallai cynyddu'r pris i 65c yr uned helpu i leihau tarfu ar y farchnad a hyrwyddo cysondeb rhwng Cymru a'r Alban. Nodwyd hefyd y gallai cysoni fod o fudd i fanwerthwyr a chyflenwyr cenedlaethol.
Mynegodd rhai rhanddeiliaid y farn ymhellach y gallai gosod yr isafbris uned yn 65c yr uned wella effeithiolrwydd a chysondeb y polisi ar draws y ddwy wlad. Cyflwynir y safbwyntiau hyn yma i lywio'r ymgynghoriad ac i gefnogi ystyriaeth o oblygiadau posibl trothwy o 65c yr uned.
Rydym yn gwahodd eich barn ynghylch a fyddai lefel o 65c yr uned yn darparu cydbwysedd priodol rhwng cyflawni amcanion iechyd y cyhoedd a lleihau'r effeithiau posibl ar ddefnyddwyr a busnesau. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio adborth ar y dystiolaeth a gyflwynwyd ac a yw'r lefel hon yn briodol yng nghyd-destun Cymru.
Gosod yr isafbris uned yn uwch na 65c yr uned
Er y gallai pris uwch fesul uned leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol ymhellach, mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod y gallai codiadau o'r fath gael effaith fwy sylweddol ar ddefnyddwyr, y sector manwerthu a'r diwydiant alcohol.
Byddai codi'r isafbris uned i 70c, 75c, neu 80c yr uned yn gynnydd sylweddol uwch na chwyddiant ac fe allai effeithio ar hyd at 80% o'r farchnad, gan gynnwys rhai cynhyrchion premiwm. Efallai y bydd canfyddiad y bydd y lefel hon o newid yn tarfu'n fwy ar y farchnad.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn cynnig y trothwyon uwch hyn gan na fydd eu heffeithiau posibl yn darparu cydbwysedd hyfyw rhwng buddion iechyd y cyhoedd ac ystyriaethau economaidd ar hyn o bryd.
Y cynnig
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar 2 gynnig:
- parhau â'r isafbris uned yng Nghymru y tu hwnt i fis Mawrth 2026
- os bydd isafsbris uned yn parhau yng Nghymru y tu hwnt i Match 2026, codir yr isafbris uned o 50c yr uned i 65c yr uned
Drwy gynnig isafbris uned o 65c yr uned, nod y polisi yw cynnal gwerth cymharol alcohol o'i gymharu â nwyddau eraill. Mae modelu yn awgrymu y gallai cynnydd i'r lefel hon wella'r manteision iechyd a welir ar y gyfradd gyfredol o 50c yr uned, gyda'r dystiolaeth yn awgrymu'r potensial ar gyfer gostyngiadau pellach mewn niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol ar draws y boblogaeth.
Disgwylir i godi'r isafbris uned helpu i leihau'r defnydd o alcohol, a allai arwain at ostyngiadau mewn:
- marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol
- derbyniadau i'r ysbyty
- marwolaethau cynamserol
Disgwylir i'r manteision hyn fod amlycaf ymhlith pobl sy'n yfed ar lefelau peryglus ac fe allai fod yn fwy amlwg yn yr ardaloedd mwy difreintiedig, gan gyfrannu o bosibl at ymdrechion i leihau anghydraddoldebau iechyd. I'r gwrthwyneb, mae modelu yn awgrymu y gallai lleihau'r isafbris uned waethygu'r anghydraddoldebau hyn.
Yn ogystal, mae trothwy o 65c yr uned yn cyd-fynd â'r dull a fabwysiadwyd yn yr Alban, ac yn adlewyrchu'r adborth a ddaeth i law oddi wrth gan randdeiliaid yn ystod ymgynghoriad yn gynharach eleni. Mae polisi cyson ar draws y ddwy wlad wedi'i awgrymu fel ffordd o gynnig mwy o eglurder i fanwerthwyr a chyflenwyr tra'n tarfu cyn lleied â phosibl ar y farchnad.
Nod y dull hwn yw cefnogi effeithiolrwydd parhaus isafbris uned wrth leihau niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, gan gymryd i ystyriaeth yr un pryd mewnbwn rhanddeiliaid a'r dystiolaeth ddiweddaraf sydd ar gael. Mae'n adlewyrchu hefyd ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i wella canlyniadau iechyd y cyhoedd.
Mae atal y niwed a achosir gan gamddefnyddio alcohol wedi bod yn rhan allweddol o'n gweithrediadau camddefnyddio sylweddau a'n nod cyffredinol o hyd yw parhau i sicrhau bod pobl yng Nghymru yn ymwybodol o beryglon ac effaith camddefnyddio alcohol ac yn gwybod ble y gallant ofyn am wybodaeth, cymorth a chefnogaeth os oes arnynt eu hangen.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Cwestiwn 1
Ydych chi'n meddwl y dylai'r isafbris uned barhau yng Nghymru?
Cwestiwn 2
Os bydd isafbris uned yn parhau, a ydych yn cytuno â phennu lefel newydd o 65c yr uned?
Cwestiwn 3
Beth yw eich barn am effaith debygol parhad isafbris uned a chynnydd yn y pris fesul uned i 65c ar grwpiau penodol o bobl, yn enwedig y rhai â nodweddion gwarchodedig o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010? Beth fyddai'r effeithiau, yn eich barn chi?
Cwestiwn 4
Beth, yn eich barn chi, fyddai effeithiau tebygol parhad isafbris uned a chynnydd yn y pris fesul uned i 65c ar y Gymraeg? Mae gennym ddiddordeb arbennig mewn unrhyw effeithiau tebygol ar gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Cwestiwn 5
Yn eich barn chi, a ellid geirio neu newid y cynnig er mwyn:
- sicrhau ei fod yn cael effeithiau cadarnhaol neu fwy cadarnhaol ar y defnydd o'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg
- liniaru unrhyw effeithiau negyddol ar ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg?
Sut i ymateb
Cyflwynwch eich sylwadau erbyn 29 Medi 2025, drwy unrhyw un o'r ffyrdd a ganlyn:
- llenwi ein ffurflen ar-lein
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i hanfon ar e-bost: substance.misuse@llyw.cymru
- lawrlwytho, llenwi ein ffurflen ymateb a’i phostio i:
Y Tîm Polisi Camddefnyddio Sylweddau
Llywodraeth Cymru
Parc Busnes Rhyd-y-car
Merthyr Tudful
CF48 1UZ
Pan fyddwch yn ymateb, byddai o gymorth pe baech yn cadarnhau a ydych yn ymateb fel unigolyn, neu’n cyflwyno ymateb swyddogol ar ran sefydliad. Yn cynnwys:
- eich enw
- eich swydd (os yn gymwys)
- enw'r sefydliad (os yn gymwys)
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan rai amgylchiadau) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data
- i gyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (SCG), ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data
Mae ymatebion i ymgynghoriadau yn debygol o gael eu cyhoeddi’n gyhoeddus, ar y rhyngrwyd neu mewn adroddiad. Os hoffech i’ch ymateb aros yn ddienw, dywedwch wrthym ni.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chadw ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Y Swyddog Diogelu Data
Y Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: data.protectionofficer@llyw.cymru
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer unrhyw ddata personol a roddir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus.
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (er enghraifft, sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Ni fydd unrhyw waith o'r fath yn cael ei wneud oni bai ei fod yn cael ei wneud o dan gontract. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi cael ei gynnal mewn modd priodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Fel arfer, bydd enw a chyfeiriad (neu ran o gyfeiriad) yr unigolyn neu'r sefydliad a anfonodd yr ymateb yn cael eu cyhoeddi gyda’r ymateb. Os nad ydych yn dymuno i’ch enw a’ch cyfeiriad gael eu cyhoeddi, rhowch wybod inni yn ysgrifenedig wrth anfon eich ymateb. Byddwn wedyn yn cuddio eich manylion.
Dylech hefyd wybod am ein dyletswyddau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth. Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o’r ymateb i’r ymgynghoriad, bydd yr adroddiadau hyn yn cael eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na 3 blynedd.
Gwybodaeth bellach a dogfennau cysylltiedig
Rhif: WG52682
Gallwch weld y ddogfen hon mewn ieithoedd amgen. Os ydych am gael y ddogfen mewn fformat gwahanol, cysylltwch â ni.
