Neidio i'r prif gynnwy

Yn bresennol

Aelodau’r Grŵp Cynghori ar Drethi

  • Y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt AS (Cadeirydd)
  • Andrew Evans - Geldards
  • Frank Haskew - Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig Cymru a Lloegr (ICAEW)
  • David Phillips - Y Sefydliad Astudiaethau Cyllid (IFS)
  • Victoria Winckler – Sefydliad Bevan
  • Leighton Jenkins ar ran Emma Watkins – Cydffederasiwn Diwydiant Prydain (CBI) Cymru
  • Janet Jones – Ffederasiwn Busnesau Bach
  • Robert Lloyd Griffiths – Sefydliad y Cyfarwyddwyr (IoD) Cymru
  • Kay Powell – Cymdeithas y Cyfreithwyr
  • Martin Mansfield – Cyngres yr Undebau Llafur (TUC) Cymru
  • Phil Jarrold – Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA)

Yn bresennol hefyd

  • Andrew Jeffreys – Cyfarwyddwr, Trysorlys
  • Gareth Morgan – Dirprwy Gyfarwyddwr, Diwygio Ariannol
  • Georgina Haarhoff - Pennaeth Polisi a Deddfwriaeth Trethi
  • John Howells – Cyfarwyddwr Tai ac Adfywio, Dyfodol Cynaliadwy
  • Tracey Burke – Cyfarwyddwr, Strategaeth, Adran yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth
  • Jeff Andrews - Cynghorydd Arbenigol i’r Gweinidog Cyllid
  • Sarah Woodall – Sylwedydd
  • Tom Nicholls – Cynghorydd Economaidd
  • Ben Crudge – Dadansoddwr Diwygio Ariannol
  • Ruth Leggett – Rheolwr Cyfathrebu ac Ymgysylltu Strategol, Rhaglen Weithredu Trysorlys Cymru
  • Lucy Robinson – Ysgrifenyddiaeth

Croeso gan y Gweinidog Cyllid

1. Croesawodd y Gweinidog Cyllid y grŵp i ail gyfarfod Grŵp Cynghori ar Drethi (TAG) Cymru. Cydnabu’r Gweinidog yr ymddiheuriad a gafwyd gan Emma Watkins o CBI Cymru a’r ffaith bod Leighton Jenkins yn bresennol ar ei rhan.

2. Roedd y Gweinidog wedi gwahodd Sarah Woodall i ddod i’r cyfarfod fel sylwedydd. Mae Sarah yn gyn Uwch Was Sifil yng Nghyllid a Thollau Ei Mawrhydi ac mae ganddi doreth o brofiad ym maes gweinyddu treth.

Materion sy’n codi

3. Dywedodd y Gweinidog fod nodyn cyfarfod blaenorol TAG wedi cael ei ddosbarthu i’r aelodau cyn y cyfarfod. Cadarnhaodd y grŵp fod y nodyn yn grynodeb cywir o’r drafodaeth.

4. Roedd papur yn rhoi gwybodaeth am sefydlu Cyllid yr Alban wedi cael ei ddosbarthu i’r sawl oedd yn bresennol o ganlyniad i drafodaeth yn y cyfarfod diwethaf.

5. Dywedodd y Gweinidog, er y gellid anfon dirprwyon os rhoddwyd digon o rybudd, y byddai cynnal cysondeb a dilyniant o ran presenoldeb yn hanfodol i lwyddiant y grŵp.

Diweddariad ar Fil Cymru

6. Rhoddodd Gareth Morgan ddiweddariad byr ar y datblygiadau diweddaraf o ran Bil Cymru.

7. Codwyd y pwyntiau canlynol mewn trafodaeth:

  • Mae rhagor o waith dadansoddi’n hanfodol er mwyn canfod cost datganoli trethi ac er mwyn deall ei effaith gyffredinol ar yr adnoddau fyddai ar gael ar gyfer gwariant cyhoeddus yng Nghymru.
  • Dylid cadw costau gweithredu datganoli trethi cyn ised â phosibl ac ar yr un pryd sicrhau y caiff buddion eu cyflenwi.
  • Cydnabu'r aelodau ba mor bwysig fyddai’r Cyd-bwyllgor Trysorlysoedd newydd, a dywedasant y dylid gwneud defnydd llawn o’r Cyd-bwyllgor wrth greu effaith ar gyfer pobl Cymru.

Ardrethi Annomestig (AA)

8. Rhoddodd Ben Crudge gyflwyniad byr ar y gwaith i ddatganoli AA yn llawn a’r amserlen ddisgwyliedig.

9. Codwyd y pwyntiau canlynol mewn trafodaeth.

  • Byddai rhagolygon cywir yn hanfodol er mwyn i Lywodraeth Cymru liniaru’r ffaith bod incwm o drethi yn anrhagweladwy o ran ei natur gynhenid.

Trethi Cymru ar Drafodiadau sy'n Ymwneud â Buddiannaumewn Tir (WTTiiL)

10.Rhoddodd Tom Nicholls drosolwg o’r gwaith i ddatblygu WTTiiL.

11. Codwyd y pwyntiau canlynol mewn trafodaeth.

  • Dylai Cymru edrych yn ofalus ar amrywiaeth fawr o opsiynau i newid ffurf trethi gan gynnwys – ond nid yn unig – y dulliau sydd wedi cael eu mabwysiadu yn Iwerddon a’r Alban. Dylai cysylltiadau â’r Dreth Gyngor ac AA fod yn rhan o’r ystyriaeth.
  • Pwysigrwydd hanfodol rhagolygon o gofio natur gylchol y math hwn o dreth, a’r angen i gyfrifo’n gywir lefel briodol ar gyfer y gwrthbwysiad i’r grant bloc.
  • Yr angen i sicrhau bod y gwaith ymgynghori ac ymgysylltu ar dreth newydd yng Nghymru yn y maes hwn yn helaeth ac yn fanwl er mwyn sicrhau y mabwysiadir y dull polisi cywir.

Unrhyw fusnes arall

13. Rhoddodd Georgina Haarhoff ddiweddariad ar Gasglu a Rheoli Trethi. Bydd trafodaeth sylweddol ar yr ymgynghoriad, y bwriedir ei gynnal yn yr hydref, yn y cyfarfod nesaf.

14. Ni chodwyd unrhyw eitemau eraill o dan unrhyw fusnes arall.